Ychydig o Friwfwyd Gweddill I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

PENOD XXIV.

YN OL.

 BELLACH, "teg edrych tuag adre'." Wedi gwel'd llawer o bethe heblaw a ddesgrifir yn y llyfr hwn, a chlywed rhagor nag a ddesgrifir yma, a theimlo mwy nag a ellir ei ddesgrifio ar ddu a gwyn, "daeth yr awr i'm ddïanc adre':" a rhyngoch chwi a mine, ni ddaeth fymryn yn rhy gynar. Yr oedd yn perthyn i'r fordeth yn ol rai helyntion oedd yn absenol o'r fordeth allan. Llonydd ac unffurf oedd hono o'i chymharu â hon. Mi dreiaf sôn am danynt cyn tewi.

Cychwyn i'r nos a wnaethom wrth fyn'd, a chychwyn i'r nos a wnaethom wrth ddychwelyd. Yr oedd un o'r hen griw wedi cael ei adel ar ol yn Alecsandria, i fyw neu farw mewn 'sbyty. Efe oedd yr hwn y tosturiwn wrtho gynt, pan yn troi'r olwyn. Ond caed un arall yn ei le, fel na fu hyny'n golled i'r llong. Fe ddowd hefyd o hyd i hogyn un-ar-bymtheg oed ar ol cychwyn, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw gilfach o'r llestr heb i neb ei wel'd. Stowaways y gelwir y math yma o deithwyr. Nid ydynt oll o'r un cymeriad; ond hwyrach fod y nifer luosoca' o honynt yn cymeryd at y dull yma o adel eu gwlad oherwydd eu bod wedi gosod eu hunen yn llaw'r gyfreth drwy ryw amryfusedd neu gilydd. Nid ydynt yn meddwl am y posiblrwydd iddynt osod eu hunen yn llaw'r gyfreth wrth aros mewn llong heb ganiatad

—————————————

—————————————

wedi iddi gychwyn i'w mordeth. Ond dyna fel y mae. Ceir erill yn anturio hyn oherwyth ffit o anesmwythder, neu ddïogi, neu awydd i wel'd y byd. A cheir ambell i grwt amddifad yn eu plith, yn defnyddio'r cyfle hwn i ddianc rhag gormes a chreulondeb meistr neu berthynas. Ac un felly oedd hwn, os oedd coel ar ei 'stori. Y maent oll yn cyfri' ar gael eu darganfod yn fuan, ac ar natur dda'r cadben. Fe allse hwn ddisgyn i ddwylo gwaeth, a chymerodd y bos'n ofal o hono.

Yr oedd y'noson dawel, gynes, a'r gwynt o'r de. Daliodd goleudy Pharos i d'w'nu arnom wedi ini fyn'd y'mhell i'r môr; ac wedi colli hwnw, es i fy ngwely. Dranoeth, yr oedd y gwres yn llethol, ac yn sibrwd 'storm y'nghlustie'r morwyr. Deue'r gwynt poeth dros yr anialwch; ac er fod mynyddoedd uchel rhwng yr anialwch a'r môr, carie'r gwynt y tywod yn ei gôl nes fod pob modfedd o'r llong yn orchuddiedig ganddo. Yr oedd y gronyne mor fân a melfededd nes galw am y chwyddwydr i'w dadgysylltu. Brodorion o'r Sahara o'ent bob un, ac yr o'ent wedi teithio dros gan' milldir dros dir a dw'r cyn cyredd y llong. Bu adar bach yn ein dilyn y diwrnod cynta' drwy'r dydd; nis gwn pa adar y gelwid hwy, ond yr o'ent yn dlysion a dôf iawn. Aethant i golli'r ail ddiwrnod. Mae'r morwyr yn hoff o grëduried, gwar a gwyllt, ar y llong; ac os lleddir un o honynt drwy ddamwen neu fwriad, ceir hwy i ddarogan pob math o flinfyd i'r llestr. Disgynodd crëadur tebyg i'r locust hefyd o gerbyd y gwynt; daliwyd ef, a buwyd yn dyfalu tipyn am dano. Mi geisies ei gadw'n fyw dros y fordeth, ond bu farw'r trydydd dydd. Erbyn hyn, yr o'em yn rhy bell oddiwrth dir i dderbyn rhagor o hono.

Ce's brofiad o 'storm ar y môr wrth ddychwelyd,—yn wir, mi ge's hyny deirgweth. Daeth y gynta' arnom pan o'em yn tynu at Malta, yn ymyl y fan lle'r aeth yn llongddrylliad ar Paul; a bum yn ofni siwrne y b'ase'n myn'd yn llongddrylliad arnom nine hefyd. Yr oedd rhai pethe'n debyg rhwng ei daith ef a'n taith nine. O Alecsandria y cychwynodd ef—felly nine. Am y ddau ddiwrnod cynta', cawsant hwy'r gwynt o'r de—felly nine. Yna daeth "gwynt gwrthwynebus" a môr cythryblus i'w llesteirio—felly nine. Ond yn y fan yna, derfydd y tebygolieth, a dïolch am hyny. Ni chawsom ni'r "Euroclydon" fel hwy; enw presenol hwnw yw Simoon. Ni chawsom ni ein bwrw ar ynys; aethom heibio i Melita dranoeth yn ddïogel. Ond fe fu'n gryn helynt arnom nine.

Golygfa gyffrous yw 'storm ar y môr, i'w gwel'd o'r tir—ond mwy cyffrous yw bod ynddi. Cynyddodd y "gwynt gwrthwynebus" ar hyd y dydd, a chwyddodd y môr o dan ei guriade. Penod hir o dreigliade a thafliade a fu hon. Golche tunelli o ddyfroedd yn ddibaid dros ben blaen ac ochre'r llong, nes ein gorfodi i gau pob drws a ffenest' o'r fath sicra'. Gwelid llestri'r 'stiward yn ymryddhau oddiar eu bache, ac yn dawnsio'n wyllt o gwmpas y lle, nes creu'r twrw creulona'. Dilyne gwrthddryche erill eu hesiampl, gan ollwng eu gafel ar y dec. Erlidient eu gilydd, tarawent yn erbyn eu gilydd, a neidient dros eu gilydd fel pe baent wedi eu cynysgaeddu'n sydyn â rhyw fath o ddealltwrieth, ac y'methu dygymod â'u sefyllfa newydd. Wrth sefyll yn ymyl drws y caban, cyn iddi fyn'd cynddrwg, gwelwn y môr yn d'od ataf fel mynydd byw—y llong yn plymio i lawr ar ei phen i ganol y dyfnder, a'r mynydd yn hollti'n filoedd o frynie drosti; darne erill, fel eirth gwynion, yn dringo dros ei hochre, tra cwyd y llestr ei phen o'r dyfnder drachefn, gan ysgwyd ei hun yn rhydd o'r trochion, fel yr ysgwyd llew ei fwng yn rhydd o wlith y bore'. Ac yn y blaen eilweth a tbrosodd. Neu, hwyrach y newidia ei symudiade, ac, mewn ufudd-dod i'r llywydd, yr ysgoga bwynt neu ddau ar ei chwrs, fel ag i beri iddi ogwyddo ychydig i un ochr, ac wrth hyny ddwyn ei rhagfurie i ymyl y dw'r, a chodi tòn fydde'n pasio i fyny'n gorfforol i'r dec—gan fyn'd dros yr un gwaith yr ochr arall. Neu, hwyrach y tarewid hi ar ei hysgwydd gan foryn bradwrus, nes peri iddi golli ei chydbwysedd am ychydig, heb wybod yn iawn beth i wneud, ai ymsuddo ai ymrolio—ac yn gwneud pob un o'r ddau. Canlyniad hyny fydde dwyn eich traed odditanoch; a mi ge's brofiad anymunol o beth fel hyn yn y caban, pan oedd y dymestl wedi cyredd ei gwylltineb eitha'. Eisteddwn ar fainc yn un pen i'r ystafell, a dyma haner-ymroliad dirybudd yn fy nhaflu'n ddiseremoni i'r pen arall; a phan o'wn ar fy ffordd i dd'od 'nol, dyma haner-ymsuddiad yn cymeryd lle nes cael o honof fy hun yn cofleidio'r 'stôf oedd ar ganol yr ystafell, a'r fainc yr eisteddaswn arni wedi newid y drefn, ac yn eistedd arnaf fi yn gysurus. Mi f'asa'r cofleidio hwnw'n siwr o fod yn gynesach pe b'ase tân yn y 'stôf; ond 'roedd o'n ddigon sylweddol fel yr oedd—braidd ormod felly, yn ol fy marn ar y pryd. Ofn? Oedd; pa'm y celaf ef? Pe d'wedwn nad oedd, pwy'm crede? Eto, prin y gwydde neb arall hyny; ac yr oedd ambell i anffod ddigri fel hon y'nghanol yr helyntion i gyd yn help imi gadw fy hun rhag cael fy llwyr-berch'nogi ganddo. Wedi ara' dynu at Malta, a chael y tir i dori rhysedd y gwynt, llonyddodd pethe, a chawsom hamdden i gymeryd ein hanadl. Ond och fi! ni chwenychwn ail-argraffiad o'r peder-awr-ar-hugen diwedda'.

Y'mhen tri neu bedwar diwrnod, daeth un arall ar ein traws; ac er na pharodd c'yd a'r llall, yr oedd ffyrniced hob mymryn. O Gulfor Lyons y daeth hon, a'r gwynt a'r gwlaw oeraf a garwaf yn ei chôl. Deue i'n herbyn gyda rhuthr, a chawsom ddwyawr gyffrous dros ben. Berwe'r môr yn ffrochwyllt; tarawe'r gwynt ar ochr y llestr fel cyflegre, a neidie'r dyfroedd i'r dec fel môr-ladron. Yr oedd yr hen long ar ei gogwydd ar hyd yr amser, ac yr oedd hyd y'nod y 'stiward yn gwneud cryn 'stumie wrth geisio cerdded yn gywir. Ond lliniaru wnaeth mor sydyn ag y dechreuodd, fel ambell gyffroad y'Nghymru; a cha'dd Bismarc a mine rwyddineb i gerdded yn fwy parchus, heb ein bod yn cael ein drwgdybio o fod wedi meddwi.

Daeth y trydydd argraffiad allan wedi ini gyredd y Sianel—Sianel Pryden. Dim ond gwlaw a niwl—gwlaw a niwl oedd y drefn o'r amser y daethom i fewn i'r amser yr aethom allan. Gwaith peryg' yw mordwyo'r sianel hon ar dywydd fel yma. Mae mwy o ofn y niwl ar y morwyr na'r dymestl waetha' pan fo'r awyrgylch yn glir. Mae'n anodd gwel'd y goleuade, ar làn nac ar long, nes y byddwch yn eu hymyl. Ychydig all'swn fod ar y dec, ac ychydig welswn oddiyno, pe mentrwn. Pasiem o fewn dim ymron i'r làn heb ei wel'd. Ce's gip ar Ynys Wyth fel drychioleth ar ein haswy. Dim ond un noson ar ei hyd dreuliasom yn y Sianel, a noson ofnadwy oedd. Yr oedd yr elfene fel pe baent wedi eu gollwng yn rhydd gyda'u gilydd i'n llyncu'n fyw ar ddiwedd y daith. Disgyne'r gwlaw creulona' drwy'r nos, gan waethygu at yr ail wyliadwrieth. Ysgreche'r gwynt mewn natur ddrwg, ac ysgytie'r llong megis yr ysgytia ci neu gath lygoden. Ymgynddeirioge'r môr o dan ffrewylle ysgorpionedd y gwynt, a neidie dros y decie ucha' wrth geisio dïanc, dan falu ewyn fel y lloerig gynt. Ac i wneud pethe'n waeth, tewychu wnai'r niwl. Daeth niwl a gwlaw yn lle gwlaw a niwl. Bu agos ini gam-gymeryd Beachy Head am Dungeness, ac ni fu ond trwch blewyn rhyngom a tharo ar draethelle Goodwin. Mae f'asgwrn cefn y'myn'd fel colofn o rew'r funud yma-pan gofiaf hyny. Ond dïolch i Dduw, cyraeddasom Fôr y Gogledd yn ddïangol: a phan ofynes i'r cadben dranoeth y ddrycin, beth oedd ei farn am y noson:

"A very dirty night," ebe fe; a dyna'i gyd. Ond pan dd'wedaf wrthych iddo ef fod ddeuddeg awr ar y bont heb newid ei ddillad na symud o'r fan, cewch syniad gwell am y noson hono nag a gewch oddiwrth ei eirie ef ei hun.

Mi ge's rywfent o wybodaeth hefyd o'r peryglon a'r ofnadwyeth sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y môr. Tua deg o'r gloch y nos ydoedd, ac yr o'em yn tynu at Algiers. Yr oedd y'noson dawel, braf, heb gwmwl uwchben, heb dòneg odditanodd, na digon o chwa'n pasio heibio i symud blewyn o'ch gwallt. 'Ro'wn i yn ystafell y siart hefo'r cadben, a'r prif swyddog ar ei wyliadwrieth ar y bont. Mi ddigwyddes droi fy mhen ar ganol siarad, a gwelwn y drws yn cael ei gil-agor yn araf, a bys yn amneidio ar y cadben. Gwelodd y cadben ef hefyd, ac allan ag e'n union. Wrth iddo agor y drws yn lletach, dyna lle'r oedd gwyneb y prif swyddog fel gwaith sialc ar bared ddu. Ffroenes beryg' yn union. Es ine allan, a beth a weles ond llong anferth yn d'od tuag atom ar ein llwybr, heb ond ryw haner chwarter milldir rhyngom â hi. Hi ddeue i lawr arnom heb newid dim ar ei chwrs, fel pe na bai neb wrth y llyw, nac ar y wyliadwrieth. Arosasom, a swniwyd yr arwydd o beryg'. Wedi i'n peiriane ni sefyll, clywn beiriane'r llong arall yn curo'n uchel, ac yn uwch, a'r sŵn yn disgyn ar fy nghlustie fel sŵn ffust y 'sgubor gynt, wrth ddisgyn ar y llawr-dyrnu. Nid o'wn wedi clywed rheiny er pan o'wn yn grwt gartre'; ond daethant i'm cof ar ganol Môr y Canoldir, dros gyfandir o bymtheg mlynedd ar hugen. Wrth glywed y corn yn crïo allan, daeth y dynion i'r dec yn dyrfa—y rhai oedd wedi myn'd i'w gw'lâu'n d'od yn eu cryse, a'u gwynebe'n wynach na'r pilin oedd am danynt: oblegid dychryn mawr y morwr, pan ar y môr, yw gwrthd'rawiad. Ar ol iddi dd'od mor agos atom ag y medre 'mron, heb daro'n ein herbyn, mae'r fileines, yn lle cymeryd ei llwybr prïodol, yn croesi pen blaen ein llong ni, yn cymeryd yr ochr chwith yn lle'r ochr dde, ac yn diflanu i'r nos. Pe baem ni wedi cyd-symud, a chadw ein hochr ein hun, i'r gwaelod yr aem yn anocheladwy. Wrth basio, taflodd rhywun lenllïan mawr dros ei hymyl i guddio'i henw. Gwaeddodd y cadben allan yn ddigon uchel iddynt glywed:

"You deserve to be shot!" Nid oedd y'mhell o'i le. Y tebygrwydd yw fod yno ddawnsfa'n cymeryd lle, ac iddi brofi'n ormod o demtasiwn i'r swyddog oedd ar y wyliadwrieth. Dyna fel y mae llawer llong y'myn'd i'r gwaelod, heb neb ar ol i fynegi'r hanes. Es i'r gwely'n fuan wed'yn dan ddiolch am y waredigeth; ond am y peryg' y breuddwydiwn.

Chwi gofiwch imi fyn'd heibio Craig Gibraltar yn y nos pan es allan, ac mai'r help a gefes i ymgynal dan y siomedigeth oedd cofio y b'aswn, os arbedid fi, yn d'od y ffordd hono eilweth wrth ddychwelyd. Yr oedd pellder o ddeugen milldir rhyngom â hi pan welsom hi gynta'. Fel y deuem y'nes ati, enille arnom fel y Pyramidie. Pyramid y môr oedd hon, ac o waith natur. O'r diwedd, yr ydym yn ei gwynebu, ac y'morio o fewn haner milldir iddi. Craig anferth ydyw, yn codi'n syth o'r mor i ganoedd o droedfeddi o uchder, ac yn dinystrio pob gobeth i neb fedru ei dringo byth o'r gogledd nac o'r dwyren. Ar yr ochr orllewinol, llithra i lawr yn raddol i'r bau, lle mae tre' Gibraltar yn gwynebu tref Algeciras yr oehr arall. Gysylltir y graig â thir Sbaen gan lain main ac isel o dir a elwir "Gwlad Neb"—tir canolog, yn wleidyddol a daearyddol. Ni pherthyn i Sbaen na Pryden; a d'wedir nad yw'r bobl sy'n byw yma'n talu rhent na threth. Hapus dyrfa! Dan y graig angore llong ryfel, ac yn y bau rhifes ddeuno. Gweles fâd torpedo yn hwylio tuag at y gynta'. Darn hir, cul, bâs, main, a thywyll oedd, yn symud yn ddistaw a chyflym, a'i osgo'n d'we'yd taw crëadur peryg' i ymhel âg ef ydoedd. Gwelir cyflegre 'mhob man ar goryn a gwyneb y graig, ac y mae'r nifer luosoca' o'r golwg. Mae Ceuta'r ochr arall i'r Culfor. Perthyna hono i Sbaen, fel ad-daliad am golli Gibraltar, ac y mae'n dre' dlos dros ben. Nid oes ond tua saith milldir rhyngddynt. Tery'r Graig y meddwl dynol â syniad diapêl am allu Pryden Fawr. Teimlwn yn falch wrth basio fy mod yn Brydeiniwr, yn enwedig pan gofiwn fod holl alluoedd y lle at fy ngwasaneth i i'm hamddiffyn, pe bydde taro. Bu adeg pan oedd Sbaen yn brif allu'r Cyfandir, os nad y byd; ond heddyw, delir ei thrwyn ar y maen llifo gan y Sais. Oni bai hyny, gwae fydde i Ewrop. "England, with all thy faults, I love thee still." Yr wyf yn ddigon o Gymro i gydnabod rhagoriaethe fy nghymydog heb genfigenu wrthynt. Nid oes gyffelyb iddi y'mysg holl wledydd y byd. Y feddyginieth ore' i wrthweithio rhagfarn gwrth-Brydeinig yw myn'd allan i wel'd ei gallu yn y Trefedigaethe. Fynycha', y bobl sy'n rhegi eu gwlad yw'r bobl sy'n byw ar hyd eu hoes o fewn golwg i ffumer y tŷ lle ganed hwy. "Duw Gadwo'r Brenin."

Mi gefnes ar yr Aifft gan deimlo 'mod i'n cefnu ar olion gwareiddiad a ragore mewn rhyw bethe ar wareiddiad yr ugeinfed ganrif. Ond beth yw gwareiddiad heb Gristionogeth? Bedd wedi ei wyngalchu, a'i du fewn yn llawn malldod a melldith—addurniade gwychion ar gorff marw—crochan wedi ei baentio, ac angeu'n byw ynddo. Ni fedr gwareiddiad heb Grist'nogeth waredu na phobl, na chenedl, na gwlad. B'le mae Rhufen a'i gallu heddyw? B'le mae Carthage, ei gwrthymgeisydd mewn awdurdod? B'le mae Assyria a Babilon? B'le mae Groeg a'i cherflunieth, ei hyodledd, a'i philosophi? Y gwledydd mwya' gwâr y t'w'nodd haul Duw arnynt erioed—pa le y maent? Eu gwareiddiad nis achubodd hwynt, a'u hathrylith nis cadwodd hwynt yn fyw. Dïolch i Dduw am wareiddiad, ond dïolch yn fwy am Gristionogeth.

Am y gweddill o f'anturiaethe y'nhir Ham, onid ydynt i'w cael ar gof a chadw erbyn dydd datguddio?




GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.