I Anna
gan Gwilym Tew
- I santes y Tad Iesu
- o ffrwyth brenhinllwyth y bru
- penna, gwn o bwy y hanoedd
- ond ini yn dwyn nef oedd.
- Anna fam Fair o nef yw
- o naf r aeth frenin yfryw
- a ffriod Sioseb ydoedd
- gwas i Grist, merch Esacar oedd.
- O mynyr mae ay menig
- ystori Ann, os ta o wraig.
- Pennaeth y gôr penioeth gwiw
- yr deml nid ymliw.
- Gwrthod a gymerth oy waith
- Seimon ag a ffoes ymaith.
- ni wyddiad ar fynyddoedd
- Anna, pa ddifan fyd oedd
- ag y gan mlynedd, meddyn
- y bu Ann deg heb yn dyn.
- Duw Dad fy diwyd hi
- ac awyddiad y gweddi.
- Plant a ddygynant y hon
- A roes Ann eirie Seimon
- Gabriel a fu gwnselwr
- i ddwyn y byd, Ann a’i gôr
- ag ef yr porth ayr hefyd
- a’i dug o arch Duw y gyd.
- Lle teg yr enillwyd hon
- mair wen hael y morynion
- brenhines nef a phresen
- Morwyn yw Mair o Ann wen.
- Merch wen ym mraich Ann fu
- digwswyn y dug Iesu
- duw a aned o heni
- ac er hyn Mair wyry yw hi
- gwyry wedi y ddwyn, gwir ydoedd
- a chyn dwyn Duw yn y chnawd oedd.
- Y hennill hi o Anna
- y nefoedd oll a fu dda.
- Wellwell fu yr enilliad
- a gweledd y drugaredd a gad
- Anna fu yma fameth
- a chael nef yn y choel a wnaeth
- Coel megis y dewisawdd
- clomen nef cael ym y nawdd.
- gwnawn rif y gwenyn o’r allt
- fawl i Anna felynwallt.
- Fe wna Anna i minnau
- drwy y gair i hwyr drugarhau
- fe a gaiff y fam y gu
- Anna geiso ganny Iesu
- wrth hyn, o chawn nerth Anna
- lle yn y nef yn oll a wna.
- Dygwn i Ann fendygedaid
- aur a fflam gwyr er y fflaid
- a fo dan warcheu Anna
- yr wledd y gael diwedd da
- gwledd wen fal gloyw ddiwedd
- yn oes pawb felly y bydd
- a’r wledd hon arlwyawdd hi
- y ddelom y haddoli
- yno y mae’r Tad yn y gadair
- yno y mae Anna a Mair
- i’r treon, dan wart y rheini
- yno lle dêl f’enaid i.