I Bob Un Sy'n Ffyddlon
Emyn gan Henry Lloyd (ap Hefin) (1870-1946) yw I Bob Un Sy'n Ffyddlon
- I bob un sydd ffyddlon
- Dan Ei faner Ef
- Mae gan Iesu goron
- Fry yn nheyrnas nef
- Lluoedd Duw a Satan
- Sydd yn cwrdd yn awr:
- Mae gan blant eu cyfran
- Yn y rhyfel mawr.
- I bob un sydd ffyddlon,
- Dan Ei faner Ef
- Mae gan Iesu goron
- Fry yn nheyrnas nef.
- I bob un sydd ffyddlon,
- Medd-dod fel Goliath
- Heria ddyn a Duw;
- Myrdd a myrdd garchara
- Gan mor feiddgar yw;
- Brodyr a chwiorydd
- Sy'n ei gastell prudd:
- Rhaid yw chwalu'i geyrydd,
- Rhaid cael pawb yn rhydd.
- (Byrdwn)
- Rhaid cael pawb yn rhydd.
- Awn i gwrdd y gelyn,
- Bawb ag arfau glân;
- Uffern sydd i'n herbyn
- A'i phicellau tân.
- Gwasgwn yn y rhengau,
- Ac edrychwn fry;
- Concrwr byd ac angau
- Acw sydd o'n tu!
- (Byrdwn)
- Acw sydd o'n tu!