I Merch Lân
gan Tomos Prys
- Cerais wiwferch, cwrs ufudd,
- a’r dagrau oll ‘rhyd y grudd.
- Os tlws oedd Fenws feinwedd
- a gloyw’n wir â glân wedd,
- tlysach a gloywach mewn gwlad,
- er fy nghur, yw fy nghariad.
- Os glân ydoedd ychwaneg
- Minerfa, Deinna deg,
- dau lanach ydyw ‘leni
- yng nghwr dail fy nghariad i.
- Os hardd oedd Balas hirddoeth
- a Dsuwno neu Ddeido ddoeth,
- harddach, pereiddiach yw pryf
- y fun olau, f’anwylyd.
- Os iriadd fynwes arian
- Medea, Luwcresia Lân,
- ireiddiach, hoywach yw hon,
- gwawr gulael a’m gwir galon.
- Os gwen fu Elen ennyd
- a glân o beth glain y byd,
- dau wynnach ydyw wyneb
- fy nghariad, yn anad neb.
- Diolched gwen feinwen fau
- Ei glaned ar ei gliniau.