I Ti, O Dduw! y gweddai parch

Mae I Ti, O Dduw! y gweddai parch, yn emyn gan Richard Jones o'r Wern (1771-1833)


I Ti, O Dduw! y gweddai parch,
Gwna pob peth arch dy orsedd;
Ti bia'r haul, y glaw, a'r gwlith,
A'r fendith fawr ei rhinwedd.


Ti sy'n aeddfedu cnwd y maes,
Tydi o'th ras sy'n trefnu
Pob dydd o'r tymor oll, a'i rin,
A hyfryd hin i gasglu.


Am haul a lleuad, gwynt a gwres,
Am law yn gynnes canwn;
Am borthi pob creadur byw,
Ti, Arglwydd Dduw, addolwn.