gan Dafydd ab Edmwnd

A gai’i’r ferch a garaf i?
A ga’i lwyn y goleuni,
a’i brig sirig fal seren
awyr, a physt aur o’i phen?
Tân draig yn tywynnu drws,
tair tid fal y Tŵr Tewdws
Enynnu bydd yn un berth
o nen gwalc yn un goelcerth.
Banhadlen neu fedwen fawr,
benfelen bun o Faelawr.
Lleng eiliw llu angylion,
llawer cainc yw llurig hon;
penwn o blu pawn un blaid
perth hir fal y porth euraid;
hyn o wallt hoyw iawn ei wedd,
haul rhin, haul rhianedd.
Pawb a ŵyr, pr bai eurych,
pwy biau’r gwallt pybyr gwych.
Y mae a pheth am ei phen
yr haffal y Rhiw Felen.
Teg o dwf yw twyg y dyn,
tent haul fal tannau telyn;
brig ŷd wedi ‘i beri i gau,
brwyn bilion fal bron belau;
peunes yn dwyn pob unawr
banadl wallt o ben hyd lawr;
gwydn gwefr i gyd yn gwau,
gold ŷd fal gwiail didau;
coed yw ei gwallt cyd a gwŷdd,
coron wiail cŵyr newydd.
Eginodd gwaith y gwenyn
egin tes o gnawd dyn,
saffrwm ar lysiau effros,
sirian aur fal sêr y nos.
Da fu’r rhimp ap dwf yrhawg,
Dyfrwelltir, deiffrwallt eurawg;
lleisw a’i gwlych fal llysiau glân,
llinos iad, llwyn o sidan.
Ysgub fanadl Fair fadlen
yw’r rhimp aur yn rhwymo pen;
ac yn rhudd o gawn rhyddwallt,
yn aur y gwisg own o’r gwallt.
Ei dwy dofl ydyw i gyd
o do aur a dau wryd;
llywethau teg llwyth iad dyn,
llin ymlaen llwyn mwlynyn.
Aur yw’r llwyn o’i roi ar lled:
a fu lwym cyn felyned?
Er mwyn bod o’r maen bedydd
ôl ar ei phen olew’r ffydd,
a rhoi I lwyn yr haul einioes
rhyw lwyn dan yr haul nid oes.