I Wragedd Eiddigeddus

gan Gwerful Mechain

Bath ryw fodd, beth rhyfedda',
i ddyn, ni ennill fawr dda,
rhyfedda' dim, rhyw fodd dig,
annawn wyd yn enwedig,
bod gwragedd, rhyw agwedd rhus,
rhwydd wg, yn rhy eiddigus?
Pa ryw natur, lafur lun,
pur addysg, a'i pair uddun?
Meddai i mi Wenllian —
bu anllad gynt benllwyd gân -
nid cariad, anllad curiaw,
yr awr a dry ar aur draw;
cariad gwragedd bonheddig
ar galiau da — argoel dig.


Pe'm credid, edlid adlais —
pob serchog caliog a'm cais —
ni rydd un wraig rinweddawl,
fursen, ei phiden a'i phawl,
o dilid gont ar dalwrn,
nid âi un fodfedd o'i dwrn,
nac yn rhad, nis caniadai,
nac yn serth, er gwerth a gâi;
yn ordain anniweirdeb
ni wnâi ymwared â neb.
Tost yw na bydd, celfydd cain,
rhyw g'wilydd ar y rhain
bod yn fwy y biden fawr
no'i dynion, yn oed unawr,
ac wyth o'i thylwyth, a'i thad,
a'i thrysor hardd a'i thrwsiad,
a'i mam, nid wyf yn amau,
a'i brodyr, glod eglur glau,
a'i chefndyr, ffyrt frodyr ffydd,
a'i cheraint a'i chwiorydd.
Byd caled yw bod celyn
yn llwyr yn dwyn synnwyr dyn.


Peth anniddan fydd anair,
pwnc o genfigen a'i pair.
Y mae i'm gwlad ryw adwyth
ac eiddigedd, lawnedd lwyth,
ymhob marchnad, trefniad drwg,
tros ei chal, trais a chilwg.
Er rhoi o wartheg y rhên,
drichwech, a'r aradr ychen,
a rhoi, er maint fai y rhaid,
rhull ddyfyn, yr holl ddefaid,
gwell fydd gan riain feinir,
meddai rai, roi'r tai a'r tir,
a chynt ddull, rhoi ei chont dda,
ochelyd, no rhoi'i chala;
rhoi'i phadell o'i chell a'i chost
a'i thrybedd na'i noeth rybost;
gwaisg ei ffull, rhoi gwisg ei phen
a'i bydoedd na rhoi'r biden.


Ni chenais fy nychanon,
gwir Dduw, hynt ddim o'r gerdd hon,
i neb, o ffurfeidd-deb y ffydd,
a fyn gal fwy no'i gilydd.