Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gorffwys yn y bedd
← Glan yr Iorddonen | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Galar yr unig → |
GORFFWYS YN Y BEDD.
MOR ddedwydd yw y rhai trwy ffydd,
Sy'n mynd o blith y byw!
Eu henwau'n perarogli sydd,
A'u hun mor dawel yw!
Ar ol eu holl finderau dwys,
Gorffwyso maent mewn hedd,
Ymhell o swn y byd a'i bwys,
Heb boen yn llwch y bedd.
Llais un gorthrymydd byth ni ddaw
I'w deffro i wylo mwy;
Na phrofedigaeth lem, na chroes-
Un loes ni theimlant hwy.