Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—Cwyno am Seion

Gwledd Belsassar I—Afon Euphrades Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar I—Llais y proffwyd

Cwyno am Seion.

Ond ust! ar fy nghlust y daw
Swn alaeth, a sain wylaw.
Er mor bybyr mur Babel,
Nid yw mor fangaw nas del
Fry drosto afar dristyd,
Ail i fwth y sala 'i fyd.
Draw gwelaf ryw diigolion,
A llwyd wedd gerllaw y donn,
Yn eistedd, ac yn astud
Dremiaw ar ei chwyldro mud.
Pryder, mal pry', a edwodd
Y rudd wen, a'i biraidd nodd
A wywodd gan boeth waeau
Hiraethlon yn y fron frau.

Acw hongiant, ar helyg gangau—o'i mewn,
Eu mwynion delynau.
Ton y gwynt arnynt yn gwau,—leinw finion
Euphrades union a phrid seiniau.

Neillduedig, unig ynt,
Odiaeth wahanol ydynt,
Egwyddawr ac agweddion,
I'r bobl oll drwy Babilon.
Yn nhŷ Bel ni ymbiliant,
Yn ei wedd plygu ni wnant.
A duwiau y Caldeaid,
Yn eu gwydd, mal dim a gaid.
Jehofa, Duw eu tadau,
A gaiff o hyd ei goffhau.

Son yn ddiau wnant am farnau
Iôn a'i wyrthiau, a'i law nerthol,
Dros eu tadau ymhob bylchau,
A'i fawr radau pan fu reidiol.
"Ond yn awr gwrthodwyd ni,"
Cwynent mewn eithaf cyni.
"O'n gwlad enedigol lon,
Oll dodwyd ni'n alltudion.
Y traed hyn fu'n troedio ael
Mynydd Caersalem anwael,
Och! ond trwm, ni chant dramwy,
Chwaith ei dol na'i maenol mwy.
Yn iach Seion dirion deg,
Ni chawn ni byth ychwaneg
Droedio'th heolydd drudwych,
Na moli yn dy Deml wych.
Y llygaid hyn, cyn eu cau,
Ni welant Salem olau.
Ond salaidd iawn dyselir
Eu gwawl mewn alltudiawl dir."

Nodiadau

golygu