Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Swn y farn
← Gwledd Belsassar II—Dehongliad Daniel | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Afon Conwy → |
Swn y dinistrydd.
Twrf alaeth, hynt rhyfelwyr—a ddeillia
Oddiallan i'r fagwyr.
Trwst arfau, a gwaeddau gwŷr
A dewr wawch yr ymdrechwyr.
Dynesu mae'r llu i'r llys,—hwy luniant
Ryw gelanedd ddyrus:—
Ciliaf draw, mewn braw a brŷs,
Rhag achreth y rhwyg echrys.