Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Y gwahoddiad i'r wledd

Gwledd Belsassar II—Gorymdaith Belsassar Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—Y nos

Y Gwahoddiad i'r Wledd.

A rhed o'i flaen herodion—yn gwaeddi
A gwedd odidoglon,—
Traidd eu llef hyd hardd a llon,
Boblawg, heolydd Bab'lon,
"Chwi enwog Dywysogion
Heirddion ser y ddinas hon,
Iwch oll y mae annerch wâr
O blas iesin Belsassar.
Rhyngodd bodd iddo roddi
Ei chwyl wahoddiad i chwi,
Heno i ddod yn unwedd,
Wrth ei wŷs, i'w lys a'i wledd."

Fel hyn i derfyn y dydd,
Yn llawn o bob llawenydd,
Y ceir Babel uchel, lon,
Drwy'i hylon dêr heolydd.


Nodiadau

golygu