Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Marwolaeth Ismael Dafydd

Afon Conwy Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Boreu Rhewllyd

MARWOLAETH ISMAEL DAFYDD, TREFRIW,

Mab Dafydd Sion Dafydd, yr enwog henafiaethydd a chasglydd
y Blodeugerdd, a thad "Pyll," sef Mr. John Jones, Llanrwst.

NI welaf Ismael Dafydd—yn rhodio
Ar hyd un o'n bronydd,
I b'le ydd aeth, abl ei ddydd?
Mae hiraeth im o'i herwydd.

Dyfyn ga'dd Ismael Dafydd,—o brysur
I bresen ei Farnydd;
A'i gorffyn tirion llonydd,
Mewn carchar is âr y sydd.


Nodiadau

golygu