John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Rhagymadrodd

John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith

gan Isaac Foulkes

Cynwysiad

RHAGYMADRODD.

Yr oedd yn mhlith cyfeillion y Bardd ymadawedig luaws cymhwysach na ni i ysgrifenu y byr-gofiant canlynol; ond yr ydym yn sicr nad oedd yr un ohonynt yn meddu syniadau uwch am ei athrylith na pharch mwy diffuant i'w goffadwriaeth. Daeth y gorchwyl i'n rhan ni yn y modd damweiniol a ganlyn: Yn fuan ar ol marwolaeth CEIRIOG, cawsom lythyr oddiwrth Mr. VINCENT EVANS, ar ran Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, Llundain, yn gofyn a darllenem ni Bapur o flaen y Gymdeithas hono, ar "J. CEIRIOG HUGHES:" yn nghydag Adgofion am dano. Wedi peth petrusder parth ein digonolrwydd i'r gwaith, atebasom yn gadarnhaol. Cymerodd y cyfarfod le, tan lywyddiaeth STEPHEN EVANS, Ysw., yn ystafelloedd y Gymdeithas, ar y 23ain o Fai, bedair wythnos union i'r diwrnod y claddwyd y Bardd. Fe welir fod yr amser yn rhy fyr i wneud dim ond sylwadau brysiog ac arwynebol; ond derbyniwyd hwynt yn groesawgar; a gobeithio ein bod yn ddigon henffel i wybod mai teilyngdod y gwrthddrych, ac nid dim yn y Papur, a barai hyny. Awgrymodd y Parch. J. ELIAS HUGHES, M.A., y dymunoldeb ini ei helaethu a'i argraffu; cymeradwyai amryw y cynygiad a chan roddi mwy o hyder yn marn eraill nag yn yr eiddom ein hunain, darfu ini gydsynio.

Ar ol ymgymeryd fel hyn â'r gwaith, penderfynasom ei gyflawni goreu gallem, trwy ddweyd yr hyn a wyddem eisoes am y Bardd, a chynull at hyny gymaint yn rhagor ag oedd yn ddichonadwy mewn amser byr a phrysur; ond ni fwriadwyd ac ni fwriedir yn awr i'r llyfryn hwn fod y Bywgraffiad o Ceiriog. Gan wybod gymaint ydyw dylanwad golygfeydd ar ffurfiad meddwl dyn, yn enwedig ar feddwl bardd (hen ddamcaniaeth a nodir gyntaf yn Nghymraeg gan Gutyn Padarn yn nghofiant John Blackwell), ymwelsom â Dyffryn Ceiriog, bro enedigol y bardd, Mehefin 4ydd. Gwelsom ei frawd, Mr. DAVID HUGHES, a chawsom ganddo aml i gofnodiad dyddorol, cystal a chan ei berthynasau caredig sydd yn preswylio Penybryn yn bresenol. Pigasom rai awgrymiadau ar fin y ffordd wrth ymgomio gyda hen gymydogion yr hwn y ceisiem hanes ei ieuenctyd yn eu mysg. Gyda llaw, nid ydym yn gwybod i ni gyfarfod erioed yn un man â phobl mwy deallgar a synwyrol a thrigolion y cwm tawelgain hwn. Dywedant eu meddyliau mewn Cymraeg lân loyw, yn ddirodres ond yn gwbl foneddigaidd.

Ail ymwelasom â'r fangre drachefn, Mehefin 21, yn nghwmni ein cyfaill Mr. LLEW WYNNE; gwelsom y brodorion yn mwynhau dydd gwyl Jubili ein Brenhines; a chredem nad oedd gan ei Mawrhydi yn ei holl deyrnas ddeiliaid a dreulient eu gwyl yn fwy gweddus, llawen a rhesymol. Dygodd y Gwyn ei daclau photograffio gydag ef, a thynodd lun Penybryn; a thrwy ddyfais Meisenbach, yr ydym yn rhoddi copi ohono yn y llyfr hwn. Buom yn gohebu cryn lawer hefo Mrs. HUGHES, gweddw alarus y Bardd; a chawsom bob cymhorth a chefnogaeth ganddi gyda'r gwaith. Yn niwedd Awst, ymwelasom â Chaersws, lle y bu CEIRIOG farw; â Llanwnog, lle y mae efe yn "cysgu cwsg y bedd"; ac â Mr. BENNETT, yr ymddiriedolwr, i'r hwn y rhoes efe ofal ei amgylchiadau a'i ysgrifau.

Dyna ein trwydded.

Am y Darlun o'r Bardd, gweler tudal. 85.

Hyderaf y ca fy nghydwladwyr llengarol gymaint o bruddbleser wrth darllen y llyfr, er ei holl ddiffygion, ag y gefais i wrth gasglu ei ddefnyddiau a'u hysgrifenu i lawr.

Medi 14, 1887.

Nodiadau

golygu