John Evans, Eglwysbach (Cymru 1897)
← | John Evans, Eglwysbach (Cymru 1897) gan Walter Daniel golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XIII, Rhif 77, 15 Rhagfyr 1897, tudalen 268—271
John Evans Eglwysbach.
BLIN iawn gennyf feddwl y bydd yn rhaid i ni o hyn allan son am John Evans Eglwysbach fel y diweddar. Mae gorfod cysylltu y gair diweddar ag enw un oedd mor anwyl gennyf, ac un oeddwn yn ei edmygu mor fawr, yn beth croes iawn i'm teimlad. Ond rhaid yw gwneyd, er mor groes ydyw. Canys efe nid yw mwy, yn nhir y rhai byw yn ddisymwth efe a ehedodd ymaith. Yr oeddym wedi cymeryd gormod yn ganiataol,—gormod hyfdra ynom ydoedd gwneyd hynny, yr wyf yn addef,—fod llawer o flynyddoedd rhyngddo a phen ei daith, fod y bedd ac yntau gryn bellder oddiwrth eu gilydd.
Y tro diweddaf y gwelais ef, yr ydoedd yn edrych yn gryf fel cawr. Yr oedd hynny wedi ei ddychweliad adref o Ganan, gwlad yr addewid. Wrth ei weld yn edrych mor gryf ac iach, yr oedd pawb o'i garedigion yn llawenychu yn y gobaith y cawsent ei gymdeithas a'i wasanaeth am flynyddoedd wedyn. Ac yr oedd ef ei hun yn llawn gobeithion cael byw llawer blwyddyn i weithio dros ei Feistr. Ond beth da siarad fel hyn, y mae angau yn cwympo y cedyrn; ni ddianc y cadarn mwy na'r eiddil rhag ei ddyrnod ef.
Mae rhyw iasau o chwithdod yn ymdaenu drosof y funud yma wrth feddwl na chaf weled ei wyneb llydan, agored, a siriol; ac na chaf glywed ei lais cryf, peraidd, a threiddgar byth mwy, ie, byth mwy. Mae ei hyawdledd yntau, fel llawer un o gewri pulpud Cymru o'i flacen, wedi ei gloi yn y distaw fedd. Mae ei dafod cyflym a ffraeth wedi tewi yn yr angau. Erbyn hyn y mae wedi myned i ffordd yr holl ddaear; i'r byd mawr sydd y tu hwnt i'r llen. Ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Ei le yn y cymanfaoedd, ei le yn y cyfarfodydd pregethu, ei le yn y pulpud, ei le ar y llwyfan, nid edwyn ddim o hono ef mwy. Bydd yn rhaid ceisio myned ym mlaen heb ei bresenoldeb a'i wasanaeth ef. Ni fydd ef mwy yn y gwahanol gynhulliadau crefyddol, i roddi bywyd ac ysbrydiaeth yn y rhai fydd yn bresennol ynddynt. Na,—nid felly chwaith; yr wyf yn cyfeiliorni wrth ddweyd fel hyn; o blegid mi fydd ef eto yn y cyfarfodydd o ran ei ysbryd, a dylanwad ei esiampl. Y mae efe wedi marw yn llefaru eto."
Fe gafodd nid yn unig cyfundeb y Wesleyaid golled ym marwolaeth John Evans Eglwysbach, ond Cymru yn gyffredinol. Yr oedd ef yn ddyn rhy fawr i gyfyngu ei hunan i sect, yr oedd yn ddyn cenedl, ac y mae cenedl gyfan heddyw yn galaru am ei cholled. Fe syrthiodd gwr mawr yn Israel y diwrnod y bu efe farw.
Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Lle bynnag yr ai i bregethu neu i ddarlithio yr oedd tyrfaoedd yn ei ddilyn. "Y bobl a'i gwrandawent of yn ewyllysgar." Yr oedd yn dywysog o bregethwr. Yr oedd natur wedi ei ddonio yn rhyfeddol yr oedd ynddo gyfuniad o bob peth angenrheidiol i wneyd pregethwr mawr a phoblogaidd. Yr oedd yn meddu ar gorff cadarn, meddwl bywiog a chraff, llais clir a soniarus, parabl rhwydd, yr oedd y geiriau yn dyfod allan o'i enau fel ffrydlif. Yn ychwanegol at y cwbl yna yr oedd yn berchen ar ddarfelydd eryf; yr oedd ei allu i ddesgrifio bron yn ddiderfynau. Yr oedd yn tynnu darluniau mor naturiol, mor agos, ac mor fyw, fel yr oeddech yn barod i gredu fod y pethau yn cymeryd lle o flaen eich llygaid ar y pryd. Yr oedd yn arlunydd. penigamp.
Yr oedd yn siaradwr clir, nerthol, a dylanwadol; taflai y gwres, y trydaniaeth oedd yn ei ysbryd i'w eiriau nes peri iddynt ddisgyn fel peleni o dân i gydwybodau y gwrandawyr. Meistr y gynulleidfa ydoedd. "Yr oedd fel angel yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo."
Yr oedd yn ddyn o feddwl mawr, yn ddyn o galon fawr, ac yn ddyn o argyhoeddiad dwfn. Nid cysgodion ydoedd gwirioneddau mawrion trefn y prynedigaeth iddo ef, ond sylweddau byw, yn cynnwys eu llond of feddwl ac ystyr. Yr oedd yn credu y gwirioneddau â bregethid ganddo i ddyfnder ei enaid; a dyna, mi gredaf, oedd yn cyfrif am yr ynni ofnadwy gyda'r hwn y pregethai yr efengyl bob amser.
Bob tro y clywais ef yn pregethu, yr oedd yn pregethu gyda nerth, ymroddiad, a difrifwch mawr. Yr oedd ei galon fawr yn llosgi yn eirias o'i fewn gan awydd achub pechaduriaid. Clywais ef yn dweyd un tro wrth bregethu ei fod yn byrhau ei einioes yn y llafur a'r pryder o geisio achub ei gydgenedl. Yr oedd yn dioddef yn fawr ar y pryd oddiwrth ddolur y gwddf; trwy ymdrech a phoen yr oedd yn gallu siarad. Yr oedd wedi cael gorchymyn caeth y bore hwnnw gan ei feddyg i beidio myned allan o'i ystafell. Ond nis gallai beidio gan faint oedd ei awydd am bregethu. Fel yr Apostol Paul, yr oedd yn foddlon bod yn bob peth er mwyn ei frodyr, sef ei genedl yn ol y cnawd. Nid gwerthfawr oedd ganddo ei einioes ei hun, os gallai ryw fodd achub rhai o'r Cymry.
Yr oedd achubiaeth ei wrandawyr yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. Os bu dyn erioed ar ei oreu yn pregethu yr efengyl, fe fu John Evans Eglwysbach. Dyn o ddifrif ydoedd. Teimli fod angenrhaid wedi ei osod arno i bregethu, ac mai gwae ef oni phregethai. Nid dyn yn pregethu i fyw ydoedd ef, ond dyn yn byw i bregethu; pregethu ydoedd ei fwyd a'i ddiod. Yr oedd yr wythnos olaf y bu byw yn wythnos lawn o bregethu. Pregethodd deirgwaith ddydd Llun, pregethodd ddydd Mawrth, aeth i angladd Deon Vaughan ddydd Mercher, pregethodd ddydd Iau, yr oedd yn ei wely yn glaf ddydd Gwener, cododd fore Sadwrn mewn anhwylder mawr, cychwynnodd ef a Mrs. Evans gyda'r tren un ar ddeg am Lerpwl, lle y disgwylid ef i bregethu deirgwaith drannoeth. Pwy ond dyn a'i lond o awydd angerddol am bregethu fuasai yn gadael Pontypridd o dan yr amgylchiadau y gadawodd efe ef y bore hwnnw? Mynd i Lerpwl i bregethu oedd ef yn feddwl, ond mynd yno i farw a wnaeth. Ychydig wedi naw o'r gloch nos Sadwrn, Duw a'i cymerodd ef ato ei hun i ogoniant.
Yn awr mi roddaf ychydig o'm hadgofion am dano fel pregethwr.
Y tro cyntaf y gwelais ac y clywais ef yn pregethu ydoedd yn Ferndale, yng Nghwm Rhondda Fach, a hynny ar nos Sadwrn. Mae llawer blwyddyn bellach oddi ar hynny. Aeth rhyw hauner dwsin o honom yn groes i'r mynydd sydd yn gorwedd rhwng Cwmaman a Ferndale, er mwyn cael golwg ar a chlywed y gŵr rhyfedd o Eglwysbach yn pregethu, y gŵr yr oedd cymaint o son am dano.
Yr wyf yn cofio yn dda ei bod yn noson oleu leuad hyfryd; yr oedd brenhines y nos yn edrych yn ogoneddus, ei phrydferthwch yn tynnu eich llygaid i syllu arni heb yn wybod i chwi. Yr oedd trwch o rew yn garped grisialaidd dros wyneb y ddaear; fel yr oedd y nefoedd uwchben a'r ddaear of dan draed yn edrych yn brydferth a swynol. Trwy ofal ac ymdrech galed y gallasom gadw ein hunain yn ddigwymp. Yr oeddem yn y capel ychydig o funudau cyn pryd dechreu,—(nid dyna hanes pawb ddaeth i'r cwrdd y noson honno)—a mawr iawn oedd ein disgwyliad am weld y pregethwr yn gwneyd ei ymddanghosiad. Nid oeddym wedi clywed gair gan neb sut un ydoedd o ran ei ddyn oddi allan; pa un ai glân ai salw, pa un ai goleu ai tywyll, pa un ai tal ai byr, pa un ai tew ai teneu. Ond yr oeddem wedi creu dyn yn ein dychymyg, fel y bydd dynion yn gwneyd mewn amgylchiadau o'r fath. Ond anaml, os byth, y bydd yna un tebygolrwydd rhwng y dyn a greir gennym a'r dyn gwirioneddol ei hun. Pan ddaeth yr awr apwyntiedig i ben,—awr ryfedd yn ein hanes ni ydoedd yr awr honno, awr a'i llond o ddisgwyliad cywreingar, pan ddaeth yr awr apwyntiedig i ben, wele ddyn cydmarol fyr, ond o led a thrwch mwy na'r cyffredin, o ysgogiad ysgafn a bywiog, gwyneb glan, siriol, ac agored, a llygaid a'u llond o graffder a threiddgarwch, yn dod i fewn. A chyda fod ei ben yn dod i'r golwg, y mae llygaid pawb yn syllu arno. Y mae yn esgyn grisiau y pulpud yn araf a gwylaidd, fel un yn teimlo ei fod yn dringo i ymyl Duw; plyga ar ei liniau am funud neu ddwy, yna cwyd ar ei draed, ymeifl yn y llyfr hymnau, a rhydd emyn allan i ganu. Y mae pob ysgogiad o'i eiddo yn eich argyhoeddi ar unwaith ei fod yn rhywun na chwrddech â'i fath bob dydd. Gofynnais i'r hwn oedd yn eistedd yn fy ymyl, Pwy yw hwnna?" Atebodd fi,—Dyna John Evans Eglwysbach."
Yr oeddwn yn meddwl taw efe ydoedd cyn i mi ofyn; ond rhag ofn nad oeddwn yn meddwl yn iawn, gofynnais. Acth trwy rannau dechreuol y gwasanaeth gyda bywiogrwydd a difrifwch. Yr oedd yn gweddio yn ddwys a ffyddiog. Yr oedd yn weddiwr mawr yn ogystal a phregethwr mawr. Y ffaith ei fod yn weddiwr mawr oedd yn cyfrif am ei fod yn bregethwr mawr. Ni fyddai yn gymaint o bregethwr oni bai ei fod y fath weddiwr. Yr oeddech yn teimlo fod yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnnw wedi disgyn yn drwm ar y pregethwr. Yr oedd nefoedd a daear wedi dyfod yn agos at eu gilydd ar ddechreu y cwrdd. Yr oedd pob gair a ddiferai dros wefus y pregethwr yn eich argyhoeddi ei fod yn wr oedd wedi dyfod oddiwrth Dduw, a'i fod yn mynegi geiriau Duw.
Cododd ei destyn mewn llais uchel a chlir, fel y gallai y pellaf yn y capel ei glywed heb wneyd yr ymdrech leiaf i hynny. Nid oedd yn un o'r rhai hynny sydd yn credu taw mawredd yw siarad mewn llais isel fel na fydd hanner y gynulleidfa yn clywed yr hyn a leferir ganddynt. Yr oedd ei destyn yn llyfr y proffwyd Ezeciel, y ddegfed bennod, a'r paragraff olaf, sef gweledigaeth y cerubiaid, a'r olwynion. Prif fater ei bregeth ydoedd taw y byd ysbrydol oedd yn rheoleiddio gweithrediadau y byd naturiol. Yr oedd yn dangos nas gallasech ddeall y byd hwn ond wrth edrych arno yn ei berthynas â'r byd a ddaw. Y peth byw ysbrydol yn yr olwynion oedd yn peri iddynt symud. Fel y byddai y cerubiaid yn gwneyd, felly yr oedd yr olwynion yn gwneyd. Chwalodd y gwahanol ddamcaniaethau o barthed i reoleiddiad y byd yn dipiau man. O leiaf, felly yr oeddem ni yn tybied. Cafodd oedfa dda iawn; yr oedd rhyw ddylanwad distaw, ond dwfn, yn cerdded drwy y cyfarfod. Yr oedd y rhan fwyaf, os nad pawb ar oedd yn bresennol, yn teimlo fel Jacob gynt,—"Nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd."
Y tro nesaf y clywais of ydoedd yn Siloah, Aberdar, capel yr Anibynwyr. Yr oedd y capel mawr hwnnw yn orlawn o bobl, ag oedd yn llawn awydd i weld a chlywed y gŵr o Eglwysbach. Yr oedd cais neillduol wedi ei anfon at y pregethwr, yn dymuno arno bregothu pregeth ddirwestol. Yr oedd tipyn o fynd ar ddirwest yn Aberdar a'r cylchoedd yr adeg honno. Cydsyniodd y pregethwr a'r cais. Cododd ei destyn yn llyfr y Diarhebion, y xxiii., a'r saith adnod olaf, sef y geiriau hynny, "I bwy y mae gwae, i bwy y mae ochain?" Dyna y bregeth ddirwestol fwyaf ofnadwy a wrandewais erioed. Yr oedd yn darlunio drygau y fasnach feddwol, y tlodi, a'r trueni oedd ynglyn â hi mewn iaith mor gref nes yr oeddech yn teimlo adgasedd yn llanw eich holl natur tuag ati wrth wrando arno. Mae rhoddi desgrifiad cywir o'r dylanwad oedd yn cydfyned a'r bregeth yn beth nis gallaf; cam fyddai treio. Nid wyf yn ameu nad oedd hon yn un o oedfaon mwyaf ei oes. Mae adgofion byw am dani yng nghof llawer hyd y dydd hwn.
Yn brawf fod y llanw wedi codi yn uchel, dywedaf un peth ddigwyddodd,—gyda fod y pregethwr wedi gorffen ei bregeth, y mae yr Hybarch W. Edwards, Heol y Felin, gweinidog parchus gyda'r Anibynwyr, ar ei draed ac yn diolch i Dduw am godi dyn fel John Evans Eglwysbach. Yr oedd Mr. Edwards wedi ei lwyr orchfygu gan ei deimladau, llifai y dagrau yn berlau gloewon dros ei ruddiau wrth son am yr oedfa. Dywedai taw dyma un o'r oedfaon mwyaf nerthol a dylanwadol y bu ynddi erioed. Ac yr oedd. efe wedi bod mewn llawer, canys yr oedd efe y pryd hyn mewn gwth o oedran. Golygfa. swynol dros ben ydoedd gweld yr henafgwr o Heol y Felin a'i wallt modrwyog, a hwnnw yn wyn fel yr eira, yn codi ar ei draed o hono ei hun ar ddiwedd y cwrdd i ddatgan ei lawenydd, a'i ddiolchgarwch, am yr hyn a welodd ac a deimlodd y noson honno.
Clywais ef dro arall yn Siloah, Aberdar. Yr oedd yn pregethu y tro hwn ar y geiriau hynny yn y Thessaloniaid, "Diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn." Oedfa a gwlith y nefoedd wedi disgyn yn drwch arni ydoedd yr oedfa hon hefyd. Yr oedd y pregethwr yn sefyll ar un o'i uchelfannau. Yr oedd yn darlunio bore yr adgyfodiad mewn iaith mor dyner a thlos nes yr oeddech yn barod braidd i ddiolch fod yn rhaid i chwi farw er mwyn cael gweld gogoniant bore mawr y codi, er mwyn cael golwg ar y dyrfa fawr fydd yn codi yn eu gynau gwynion, ac ar eu newydd wedd. Yr oedd swn fel swn dyfroedd lawer i'w glywed yn y cwrdd pan ddywedodd y pregethwr, yn ei ddull hyawdl ef, Sychwch eich dagrau. Diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn." Y troion olaf y clywais ef ydoedd yn Barry Dock. Y tro cyntaf y clywais ef yn y lle hwn yr oedd yn pregethu am dri o'r gloch y prydnawn; ac yn darlithio yn yr hwyr ar y Pedwar Enwad yng Nghymru." Yr oedd yn pregethu ar y geiriau hynny yn Efengyl Matthew, xxv. 31—33, "A Mab y dyn pan ddel yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant. A chydgesglir ger ei fron of yr holl genhedloedd, ac efe a'u didola hwynt oddiwrth eu gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddiwrth y geifr. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy." Yr oedd yn dungos y bydd dyfodiad Mab y Dyn yn ei ogoniant yn sicrhau y casgliad mwyaf, a hefyd y gwasgariad mwyaf. Y bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu ger ei fron, fydd yr un genedl ar ol; mwy na hynny, fydd yr un person unigol perthynol i'r un genedl ar ol. Pan fydd y rhol fawr yn cael ei galw, fe fydd pob un yno i ateb ei enw. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r angel yn chwilio gwahanol begynau y ddaear fel na fyddai yr un ar ol, y peth mwyaf byw ac effeithiol a wrandewais erioed; a'i ddesgrifiad o'r gwasgariad mawr yn nydd y farn y peth mwyaf toddedig ac ofnadwy.
Y tro nesaf y clywais ef yr oedd yn pregethu ar y geiriau hynny, "A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar." Ei fater oedd poblogrwydd Iesu Grist fel pregethwr; gan ddangos beth oedd yr elfennau oedd yn cyfansoddi ei boblogrwydd. Danghosai fod yr Iesu yn bregethwr oedd yn cyfateb pob dosbarth o ddynion. Darluniai ef yn pregethu i gynulleidfa gymysg. Dechreua trwy ddweyd, "Wele yr hauwr a aeth allan i hau." Dychmygai y pregethwr fod twr o hen bysgotwyr yn y cwrdd, a bod y rhai hynny yn dod i'r casgliad, os gwyddai y pregethwr am hau, na wyddai ddim am bysgota. Ond gyda eu bod wedi dod i'r casgliad yna, y mae y pregethwr yn dyweyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr." Ac wedi iddo fyned ymlaen ychydig y mae yr hen bysgotwyr yn cael eu hargyhoeddi ei fod yn gwybod lawn cymaint am bysgota ag ydoedd am hau.
Y tro olaf y clywais ef,—ac O mor chwith yw gennyf feddwl fy mod wedi ei wrando am y tro olaf am byth, na chawn gyfle i eistedd o dan ei weinidogaeth yn oes oesoedd mwy, ni chlywir ei gyhoeddi i bregethu byth ond hynny,—y tro olaf y clywais ef yr oedd yn pregethu ar ddameg y mab afradlon, neu fel yr ewyllysiai ef ei galw am y tro,—dameg y mab hynaf. Yn y rhan gyntaf o'i bregeth yr oedd yn amddiffyn cymeriad y mab hynaf. Danghosai fod ganddo lawer o sail dros ddigio fel y gwnaeth. Yr oedd wedi bod yn fachgen mor dda, mor ddiwyd, a gofalus, nid oedd ei dad wedi cael y drafferth na'r gofid lleiaf ganddo. Wrth wrando ar y pregethwr yn amddiffyn y mab hynaf, yr oeddech yn barod i ddod i'r penderfyniad ei fod wedi cael llawer iawn o gam gan esbonwyr, a chan bregethwyr. Ond yn y rhan olaf o'i bregeth yr oedd yn condemnio y mab hynaf yn y modd mwyaf llym a diarbed. Danghosai ei ysbryd cul, hunanol, aniolchgar, a grwgnachlyd, ynghyd a'i deimlad caled, ac anmharchus at ei frawd, ar ei ddychweliad adref yn fyw o'r wlad bell. Yr oedd y tosturi gynyrchwyd ynnoch yn y rhan flaenaf o'r bregeth tuag at y mab hynaf, yn mynd fel us o flaen y gwynt yn y rhan olaf o honi. Yr oedd desgrifiad y pregethwr o'r afradlon yn y wlad bell, ei ddesgrifiad o hono yn codi ac yn mynd adref, a'i ddesgrifiad o'r tad a'r mab yn cofleidio ac yn cusinu eu gilydd, y peth mwyaf naturiol, toddedig, a byw.
Fy unig amcan ydoedd rhoddi ychydig o'm hadgofion am dano fel pregethwr. Nid pregethwr yn unig ydoedd ef; ond fel pregethwr yr oeddwn i am son am dano.
Credaf i John Evans Eglwysbach gael derbyniad tywysogaidd gan deulu'r nefoedd ar ei fynediad i'w plith. Ae yr oedd efe yn haeddu rhoddi o honynt dderbyniad felly iddo. Cafodd ei gyfarch gan ei Arglwydd yn y geiriau hynny, "Da was, da, a ffyddlawn, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ni fu gwas mwy ffyddlawn a diwyd nag efe. Ti was yr Arglwydd, gorffwys yn dawel yn dy fedd; ti weithiaist yn galed yn dy ddydd; ti fuost wrthi a'th holl nerth mewn amser ac allan o amser; yr oeddit yn treulio ac yn ymdreulio gyda gwaith dy Feistr. Gorffwys bellach, hyd y bore mawr y buost yn son mor fendigedig am dano, y bore y cei godi o dy fedd yn debyg i dy Arglwydd.
Barry Dock.WALTER DANIEL.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.