Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Reprieve

Y Cap Du Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Morio i'r De

XVI.—"REPRIEVE"

HOLODD Mari Wenllian y Plâs fwy nag unwaith pryd yr oeddynt yn disgwyl y Sgweier yn ol, ond ni wyddai honno na neb arall beth a ddaethai ohono ond yn unig mai yn Llundain yr oedd. Dechreuwyd pryderu yn ei gylch, ond a hi yn hwyr un nos Iau daeth yr absennol yn ol yn sydyn, ac wedi ei ddyfod, cyfarfyddodd o ddamwain â Mari wrth y Lodge.

Ar y foment ni wyddai hi yn iawn beth i'w wneud pa un ai troi i siarad ag ef ai peidio. Ond gosododd yr hen ŵr bonheddig hi allan o'i phenbleth ar unwaith, oblegid cyfeiriodd ei gamrau tuag ati, ac wedi ysgwyd llaw â hi, dywedodd,-"Rwy am i chi wel'd Beti ar y ffordd i'r farchnad 'fory, a dod gyda hi i'r Plâs yn y prynhawn. Mae gen i isha wilia â chi ar fater pwysig."

Dydd Gwener a ddaeth, ac am dri o'r gloch aeth y ddwy gyfeilles i Fodwigiad fel y ceisiwyd ganddynt, ac wedi eistedd yn y parlwr, a chael ychydig o luniaeth fel y tro o'r blaen, edrychodd y Sgweier arnynt am foment neu ddwy, ac yna dywedodd,—"Fe fydd yn dda gyda chi glywed na chaiff Lewis mo'i grogi. Y mae newydd gael reprîf. Bu gwaith caled, caled idd 'i chael, ond dyfal donc a ddaeth a hi o'r diwedd. Ond nid yw'n ddyn rhydd, ferched. Newidiwyd y Sentence of Death yn Dransportation for life!

Rhaid diolch am gymint a hynny, fe fydd yn ddyn byw, ta beth. Y mae'n mynd i Botany Bay bore fory, ond cyn mynd fe wetws wrtho i am ddiolch yn fawr i chi'ch dwy am y'ch teimlada' da tuag ato, ac y base fo'n cofio am danoch chi hyd 'i fedd."

Collodd y merched ddagrau yn ystod adroddiad y Sgweier o'r amgylchiadau hyn, oblegid heb yn wybod iddo rhoddodd iddynt yr argraff, rywfodd, na welent Lewsyn byth mwy, er iddo osgoi y gwarth o'i grogi.

Cymerodd y Sgweier arno na welsai y dagrau ac aeth ymlaen i siarad am bethau llai trist, ac ebe fe,—"Dywedodd Lewis hefyd beth arall—od iawn—'i fod e' ddim wedi gweld un ohonoch yn y Treial, ond y teimlai yn siwr y'ch bod chi yno'ch dwy. Dywedodd hefyd am i chi, Beti, ddiolch i Gruff, ac i weyd mor falch yr oedd fod gan y fath chwaer y fath frawd. Dyna'r cwbl, ferched. Bydd rhaid i fi 'mhen spel i dreio'm llaw eto i gael y sentence yn llai, ac wedyn walla ca' i weld e' unwaith yn rhagor cyn bo i 'n marw. "Never say die" 'nd e fe?"

"Sgweier! Sgweier! peidiwch sôn am farw," ebe Mari, "Mae'n rhaid i Benderyn y'ch nabod chi'n right cyn hynny."

"Ha!" ebe yntau, " bydd yn rhaid iddi nhw wisgo'r glasses right, cyn y gwna nhw hynny, Mari!"

"Nos da, ferched, os bydd gen i newydd i chi rywbryd fe ofala i chi 'i gael e'. Peidiwch torri'ch c'lonna', ferched! Mater diolch sy' gennym i gyd belled a hyn ta beth! Nos Da!"

Ymlwybrodd y cyfeillesau i lawr y Drive yn araf, ac er, yn wir, fod ganddynt lawer mwy o achos llawenhau yn awr nag a oedd ganddynt ar eu hymweliad cyntaf a Bodwigiad, prudd oedd y ddwy. A'r Sgweier ei hun, er ei ymgais ddewr i ymddangos yn galonnog o flaen y merched, a deimlai yn dra gwahanol pan wrtho ei hun. Yr oedd Botany Bay ymhell ac yn greulon, ac yntau, yn ei hen ddyddiau, yn unig a digysur ynghanol ei gyfoeth i gyd.