Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Rhyddid

Rhwystro Cynllwyn Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

Edrych tuag Adre

XIX.—RHYDDID

TRANNOETH i'r ymosodiad ar dŷ Mr. Peterson, danfonwyd i Sydney adroddiad swyddogol o'r amgylchiadau, ac yn hwn rhoddwyd lle amlwg i'r oll a wnaeth Lewsyn dros fywyd ac eiddo yn y lle. Fel y gallesid disgwyl aeth y cwlwm rhwng yr alltud Cymreig a'r Petersons yn dynnach nag erioed, ac oddigerth yr enw a'r tâl nid oedd gwahaniaeth rhwng No. 27 a dyn rhydd.

Parhaodd efe yn y "sied," ac wedi cael cefn y pedwar llofrudd daeth pethau yn well o lawer rhyngddo a'r lleill, a gwelid, yn wir, arwyddion amlwg fod swynion bywyd o bechu yn colli eu gafael arnynt.

Un diwrnod ymhen rhai misoedd ar ol yr ymosodiad ar y tŷ, daeth i law Mr. Peterson lythyr mawr swyddogol, wedi ei gylymu a'i selio yn ofalus, yn yr hwn y dywedid, yn yr arddull cyfreithiol arferol,—"That inasmuch as the said convict No. 27, of Wallaby Station, has specially distinguished himself under trying circumstances. His Excellency, the Governor General of New South Wales, on behalf of His Majesty King William the Fourth, doth hereby grant him a free pardon, with a fully paid passage to any specified town within the United Kingdom. And, furthermore, that should the said convict No. 27, Lewis Lewis to wit, desire to return to New South Wales at any time, that a free grant of 320 acres be allotted to him his heirs and assigns for ever"

Pan ddaeth y newydd yr oedd teulu bach y Petersons wrth eu brecwast, ac yn siarad, fel y gwnaethant ganwaith cyn hynny am yr amser euraidd y byddai blwydd-dal y tad yn ddyledus, ac y dychwelent "Home" i'w fwynhau.

Yn wir, dyna'r meddwl cyntaf a ddaeth iddynt o'r llythyr swyddogol y bore hwn, er y byddai hynny rywfaint o flaen yr amser, ond pan y sylweddolwyd ystyr y cynhwysiad neidiasant mewn llawenydd, a Jessie fach gymaint a neb.

Rhedodd Mr. Peterson i lawr i'r "sied," a phwy oedd yn dyfod allan ohoni ar y pryd ond Lewsyn. Pan welodd hwnnw gyffro y swyddog caredig meddyliodd ei fod am unwaith wedi gwallgofi, oblegid daliai y llythyr uwch ei ben ag un llaw, ac estynnai y llall tuag ato pan oedd efe eto ugain llath oddiwrtho. Wedi ei gyrraedd ac ysgwyd llaw, a braich, er na wyddai Lewsyn eto am ba beth yn y byd, ac yna ysgwyd llaw drachefn a thrachefn, cafodd ei lais o'r diwedd, a gostyngodd ef ddigon i ddweyd,—"Mr. Lewis! I congratulate you! You are a free man!"

Yna edrychwyd yn fanwl dros y llythyr, a chyn eu bod wedi ei ddiweddu yn llwyr eisteddodd Lewsyn i lawr ar y llethr yn ymyl yr heol, a chyda gwefus grynedig parablodd—"Diolch i Ti, O Dad! Cadw fi rhag drwg, er mwyn Dy enw mawr. Amen!"

Ni wyddai Mr. Peterson beth a barablai, ond yr oedd yr osgo yn ddigon o fynegiant i galon mewn cydymdeimlad. Dywedodd wrth ei wraig mewn amser wedi hyn, er na ddeallai, wrth gwrs, yr un gair ohoni, na chlywodd gywirach gweddi erioed.

Aeth yr Ysgotyn caredig i'r "sied" gan adael Lewsyn wrtho ei hun am ryw gymaint, a d'wedodd ar ei fynediad i ganol yr alltudion,—"No work to-day, boys! No. 27—I beg your pardon—Mr. Lewis is a free man!" Ac yna esboniodd iddynt ystyr y llythyr.

Pan ddaeth Lewsyn ar ei ol mewn tipyn—pum munud galetaf ei fywyd oedd derbyn llongyfarchiadau y trueiniaid. Daethant i fyny ato yn un ac un—a phaham na addefir y gwir yn llawn—yr oedd dagrau o'r ddwy ochr. Llaesodd y wynebau celyd, erlidiwyd delw y Fall allan o'r llygaid, a daeth rhyw fwynder i'r lleisiau oedd cyn hynny yn yngan dim namyn rhegfeydd a chabledd.

Aeth yr alltudion allan yn gwmnioedd bychain o ddau a thri i fwrw eu cyrff blinedig ar y glaswellt, ac i siarad am yr hen wlad. A phan ddychwelasant i'r "sied" am eu pryd bwyd nesaf yr oedd pleser arall yn eu haros, oblegid, yno ar fwrdd hir a llian gwyn drosto yr oedd y ffrwythau tecaf a melysaf fedrodd heulwen Awstralia eu haddfedu erioed. Mewn gair, o fewn terfynau disgyblaeth ddoeth, cafodd yr holl gymdeithas yn Wallaby Station ddiwrnod o wledd a seibiant ar yr achlysur o ryddhad No. 27 am ei ran yng Nghynnwrf y 31.

Nid oedd gwybodaeth am y cyfleustra nesaf i gyrraedd Sydney, ond tra yn aros am hynny mynnai Lewsyn, er holl anogaethau Mrs. Peterson a Jessie i ddyfod i'w tŷ hwy, aros yn y "sied."

"Na!" meddai, bydd yn ddigon caled iddynt hwy fy ngweled yn myned adref pan yr âf, heb i mi eu hatgofio o'u cyflwr bob dydd cyn hynny."

Yr oedd yn falchach mewn diwrnod neu ddau mai felly y gwnaeth, oblegid dechreuodd rhai o'r trueiniaid ofyn iddo ymweled a'u cydnabod yn yr hen wlad, ac erfyniodd un o leiaf arno ymweled a pherson neilltuol i grefu maddeuant am gam wnaed yn y gorffennol.

"What about the last part of the letter, Mr. Lewis?" ebe Mrs. Peterson rhyw ddiwrnod, "Shall we see you again?" "That depends upon an old friend of mine at home!" ebe yntau gan wrido. "However, we shall see!"

O'r diwedd daeth y cyfleustra i fyned i Sydney, ac aeth Mr. Peterson gyda Lewsyn i'w hebrwng cyn belled a hynny. Galwyd yn y Government Office i gael gwneud popeth mewn trefn, a chyn pen teirawr wedyn yr oedd Lewsyn wedi ysgwyd llaw a'i gyfaill cywir, ac yn dringo i fwrdd llong fawr, gyda'i wyneb ar Gymru,—ac Ystradfellte.