Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Y Ffoadur
← Y Faner Goch | Lewsyn yr Heliwr (nofel) gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon) |
Ar y Cwpwl → |
VIII.—Y FFOADUR
UN noson ymhen tuag wythnos ar ol y gyflafan fawr o flaen Gwesty'r Castell, gellid gweled dyn yn cerdded yn llechwraidd i fyny heol Nantygwenith, gan dynnu ei gyfeiriad i rywle i'r gorllewin o Ferthyr. Oddiwrth ei gerddediad gellid casglu mai dyn ieuanc oedd efe, ond oddiwrth ei benwisg a'i wddfwisg bernid ef yn henafgwr, oblegid odditan ei het estynnai cadach a guddiai un ochr i'w wyneb ac a rwymid wedyn o amgylch ei wddf. Ymddangosai fel pe am osgoi cyfeillach pawb, a phan y cyferchid ef weithiau â " Nos Da " y brodorion, nid atebai ddim.
Hwn oedd Lewsyn yr Heliwr, a oedd wythnos yn ol yn gapten pum mil o wŷr, ond oedd heno yn ffoadur truenus, a phawb wedi cefnu arno. Yr oedd Dic Penderyn, ei gyfaill pennaf, a'i gyd-wrthryfelwr dewraf, eisoes yn y ddalfa, a gwyddai fod chwilio llwyr gan y cwnstabliaid amdano yntau. Newidiai ei le cysgu bob nos, a theimlai erbyn hyn nad oedd unlle ym Merthyr yn drigfod diogel iddo. Blinai yn fawr oherwydd yr holl helynt, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd gweled y rhai a frysient i wneud ei amnaid lleiaf ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn troi eu cefnau arno, ac yn edrych yn sur ar bopeth a awgrymai. Teimlai yn wir fod amryw o'i gydweithwyr bellach yn barod i'w werthu i'r awdurdodau, ac yn blysio am y gwerth gwaed a roddid am ei gael i'r ddalfa.
Felly, penderfynodd eu gadael am y diogelwch mwy a gaffai yn hen ardal ei febyd, o'r hon y gwyddai bob llecyn, ynghyda'r lliaws " dinasoedd noddfa " a gynhygiai gwigoedd ac ogofeydd gwlad y cerrig calch i ddyn ac anifail mewn perigl am eu hoedl. Y syndod oedd nad carcharor efe eisoes, oblegid heblaw deuglwyf arall ar ei gorff yr oedd ôl brath bidog draws ei foch yn ei gyhuddo yng ngwydd pawb o fod yn un o'r terfysgwyr. Dringodd y ffoadur heol Aberdâr am ryw ddwy filltir, hyd nes y daeth eilwaith at y man yr ildiodd yr Uchgapten Price ei gledd "Waterlw" i'w ddwylaw ef. Er trymder ei galon yn awr, ni allai lai na gwenu gyda boddhad wrth feddwl am yr amgylchiad. Pa beth bynnag ddeuai o hono ef, yr oedd y cledd hwnnw wedi ei guddio mewn man na chai neb afael ynddo byth namyn ei dylwyth ei hun.
A phan goffodd am Wil Jones Fawr yn dal y pladur ar wâr yr Uchgapten, ac yn gorchymyn y "Down Achms" digamsyniol, chwarddodd rhyngddo âg ef ei hun yn iachus. Ond nid amser i chwerthin oedd iddo ychwaith. Gwyddai fod y crocbren yn ei aros oddigerth i ryw wyrth ddigwydd yn ei hanes. Ond penderfynodd ei osgoi i'r pen pellaf, ac nid gorchwyl hawdd a addawai i'r cwnstabliaid pe unwaith y caffai ddaear Penderyn o dan ei draed.
Ar hyn trodd o'r heol fawr i dorri dros weunydd Penmeilart a'r Naint i gyrchu Mynydd Bodwigiad, lle y gwyddai am bob agen yn y creigiau ac am bob lloches y gallai ganddo ymguddio ynddi. Tarawodd ar fynydd y Glôg cyn ei bod yn dyddio, ac yn yr hesg o gylch maen anferth yr ymguddiodd am y diwrnod hwnnw. Cysgodd am rai oriau nas gwyddai pa nifer, a dihunwyd ef gan danbeidrwydd yr haul ar ei wyneb. Ni feiddiai godi ar ei draed, ac anghysurus ddigon oedd gorwedd yno fel creadur mud yn aros am fantell y nos cyn dyfod allan i rodio'n rhydd a chwilio am rywbeth i'w fwyta.
Cerddai oriau yr hirddydd hwnnw mewn esgidiau plwm, a bu ar Lewsyn fwy nag unwaith chwant codi ar ei draed a cherdded yn eon i lawr i'r Plas, lle yr oedd gynt,—O! dro ar fyd!—yn ffefryn pennaf. Ond gwyddai yn eithaf da mai gwallgofrwydd fyddai hynny yn awr, ac felly disgyblodd ei hun i fod yn amyneddgar. A'r hyn fu yn gymorth iddo wneud hynny oedd gweled dau aderyn bychan yn hedeg yn ol a blaen i'r un sypyn brwyn ryw ugain llath oddiwrtho i gyfeiriad y tondir.
"Ha!" meddai Lewsyn, "mi fynnaf weld!" Ac ar hyn dechreuodd ymlusgo ar ei dor tuag at y man i weled a oedd ei ddamcaniaeth yn gywir. "O ie!" ebe fe, "pump o larks! Da iawn, adar bach, porthwch nhw'n dda!" ac yna, ebe fe mewn ochenaid nas gallai ddal yn ol, "Dysgwch nhw i lwybro'n iawn wedyn!"
Ar ei ddychweliad i gysgod y maen drachefn, taflodd rai o friwsion ei gwd i gyfeiriad y nyth, a threuliodd ei amser i wylied prysurdeb y rhieni bychain gyda'u teulu pwysig.
Dygodd hynny i'w gof nyth glâs-y-dorlan ym Mryncul, ac am Beti, a Mari, a Gwern Pawl. Clywai wedyn y llaethferched yn galw'r gwartheg mewn mwy nag un fferm, a theimlai yr ergydion pylor yn cael eu tanio yng ngwar Crawshay cyn peidio'r llafur am y dydd,— popeth yn union fel y sylwodd ac y teimlodd ganwaith yn nhrefn brynhawnol yr ardal pan yn nhymor euraidd ei blentyndod.
Daeth i'w feddwl am y "cyfeillion chware" gynt,— llawer ohonynt yn ddiau ym mhentref y Lamb a Phontbrenllwyd oedd yn ei olwg y foment honno. A'r hen Scwlin! beth am dano yntau? A fyddai efe, rywbryd, 'wys, yn dweyd wrth ddisgyblion y dyfodol am osgoi ffyrdd Lewis Lewis, oedd yn arwain i goll cymeriad— a'r crocbren?
Pan ddaeth yn hir brynhawn teimlai Lewsyn chwant bwyd. Yr oedd wedi bwyta y bara a chaws, oedd yn ei gwd, yn gynnar yn y bore, ac nid oedd dim yn weddill. Rhaid oedd cael rhywbeth yn ychwaneg, ac eto, at ba ddrws y gallai anturio i ofyn am ymborth? Dyfalodd lawer am gynllun i lanw ei gôd eilwaith, ond pan aeth yr haul i lawr yr oedd eto o dan gysgod y maen mawr a'i gylla 'n wâg.
Ond pan aeth y wlad yn fud eto, heb ddim ond aderyn y gwair yn aflonyddu ar y distawrwydd, mentrodd y ffoadur i fyned i lawr drwy gaeau gwair y Garwdyle a'r Glynperfedd tuag at bentref y Lamb, ac yno y gosododd i weithrediad y penderfyniad y daeth iddo.
Llwyddodd i agor un o ffenestri efail gôf y pentref, ac wedi ei chau yn ofalus, gorweddodd yn ei hyd ar y pentan, a rhwng ei deimlad blinedig a gwres y mânlo syrthiodd trwmgwsg arno.
Bore trannoeth cafodd yr hen Feredydd y gôf fraw mwyaf ei oes o weled gwaed yn diferu dros ochr y pentan a gŵr yn gorwedd yn y lle tân fel pe yn gelain. Wedi gweled mai byw oedd efe, ac yn neilltuol wedi gweled mai Lewsyn oedd ciliodd ei ofn i raddau. ac wedi clywed yr holl ystori o enau Lewsyn ei hun, er clywed ohono hi gan Shams yn flaenorol, penderfynodd yr hen ôf wneud ei ran fel Samaritan i'r llanc rhyfygus ddaeth yn y modd adfydus hwn i guro wrth ei ddôr. Aeth yn gyntaf dim i'r tŷ am ymborth a diod iddo, ac wedi aros hyd nes y digonwyd y truan, ebe fe wrtho,- "Yr wyt mewn picil clawd Lewis, ond nid y fi sy'n mynd i droi 'nghefan arnat ti, machan i. Dod y bara a chaws yma yn dy boced, cera lan i goed y Coedcaedu, ac aros yno nes bo'i 'n t'wyllu heno. Yna derc i lawr. fe fydd y ffenast ar agor i ti, a' fe fydd bwyd i ti wrth gefan y pedola' yna. Ond cofia 'dwy' i na neb arall i gael dy weld o gwbl, oblegid 'roedd dau gwnstabl yn y Lamb ddô. Ti gei fwyd bob nos, 'run man, c'yd y mynni di, ond os gwela' i fod y bwyd heb ei fyta, fe fydda' i 'n diall dy fod ti wedi mynd off. 'Nawr, machan i, lan a ti i Gocdcaedu cyn bo neb arall yn dy weld ti. Mae dynion bishi idd 'u cael, coffa!"
Felly y bu. Cysgodd Lewsyn ddwy noswaith yn yr efail ar y pentan, a llechai ym mhrysgwŷdd y Coedcaedu liw dydd. Ond rhag ofn i Feredydd ddyfod i drybini o'i herwydd ef penderfynodd ymadael y drydedd noswaith. Ond i ble? I ble, yn wir, ond i Ystradfellte? Onid oedd y Porth Mawr yno, ac onid allai un gŵr penderfynol ddal ei dir yn y lle hwnnw yn erbyn cant? A phed aethai y "gwaetha'n waetha," onid allai efe—Lewsyn—daflu ei hun i'r gwacter diwaelod yn y tywyllwch tanddaearol yn hytrach na chael ei gymryd yn fyw, i sefyll ei brawf o flaen llwfriaid?
Felly, y Porth Mawr am dani! ac ar y ffordd tuag yno llanwodd ei logellau ag eirin Mair o ardd yr Heol Las er mwyn gwneud i fara a chaws Meredydd " i fynd ymhellach."
Wedi cyrraedd yr ogof chwiliodd am gilfach dywyll, rhyw hanner canllath o'r genau, a gosododd ei gorff blinderus i orffwys ar y graean mân. Ni allai lai na chyferbynnu oeredd y gwely hwn a chynhesrwydd pentan Meredydd, ond ni ellid mo'r help-diogelwch oedd y prif beth ar hynny o bryd, a rhaid oedd anwybyddu pob anghysur i gyrraedd hwnnw.
Hir iawn oedd drannoeth yn nhywyllwch yr ogof, a bwyd lled aflesol oedd eirin Mair i nerthu dyn egwan. Rhywbryd yn y prynhawn syrthiodd Lewsyn i gysgu, ac ni wyddai pa hyd o amser y bu ynghwsg pan y deffrowyd ef gan ryw hunllef. Breuddwydiai ei fod yng ngafael cerrynt mawr o ddwfr oedd yn teithio yn gyflymach, gyflymach bob eiliad. Ceisiai ddal ei afael dro ar ol tro yn y torlannau wrth fyned heibio, ond pan y byddai efe ar fedr ennill y lan gwthid ef yn ol gan law anferth i'r llifeiriant drachefn. Ac wele ef yn awr ar fin dibyn erch, ac yn!--yn!---cwympo drosto! Neidiodd Lewsyn ar ei draed yn ei hunllef, ac ni wyddai'n iawn pa un ai ynghwsg neu ar ddihun yr ydoedd am beth amser ymhellach, canys cafodd ei hun yn wirioneddol mewn dwfr rhedegog a lifai heibio iddo yn ddiatal.
Cynhyrfodd ar hyn, yn eithaf effro bellach, a chynhyrfodd fwy o glywed sŵn llawer o ddyfroedd yn diasbedain drwy y gwagle. Rhedodd dros y meini geirwon at enau yr ogof, ac yno gwelai lifeiriant aruthrol yng ngwely yr afon.
Gorfu iddo gerdded cyn ddyfned a'i ganol drwy y dilyw i ennill diogelwch, a theimlai wedi cyrraedd tir diberigl iddo gael dihangfa ryfeddol rhag boddi yn ei wely graean.
Yr oedd afon Mellte yn un llif mawr yn rhuthro i'r Porth, fel ag y gwnaeth filwaith cyn hynny, ac a wna eto hyd ddiwedd y byd, ac onibae am ei ddihuno mewn pryd nid oedd dim a'i hachubasai rhag angau disyfyd.
Teimlai yn ddigalon iawn ar hyn oblegid yr oedd wedi credu y buasai yn berffaith ddiogel yn yr ogof hon, ond wele, yn awr ymddangosai fel pe bae Duw a dyn yn cydweithio i'w erbyn, ac yr oedd y siom yn un dost. Amhosibl iddo fyddai llechu mwy yn y tywyllwch yn wyneb y perigl amlwg a ddilynai o geisio gwneud hynny, ac felly dringodd i'r allt uwchben, heb hidio i ble yr elai.