Lewsyn yr Heliwr (nofel)/Y Treial

Myned i Gaerdydd Lewsyn yr Heliwr (nofel)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

"Scrog!"

XIII—Y TREIAL.

"GRUFF!" meddai'r Ysgweier ar ddiwedd y pryd bwyd, "Ewch a'r ddwy ferch yma maes i weld y lle dipyn, ond cofiwch beidio mynd a nhw ar goll. Fe fydd 'u hisha nhw ym Mhenderyn a 'Stradfellte eto. Ewch i weld y Castell a'r llongau, 'walla mai rheiny yw'r pethau goreu yn y dre. A dewch yn ol erbyn swper am saith. Rhaid mynd i'r gwely'n gynnar heno, achos fe fydd diwrnod hir o'n blaen 'fory. Fe ddelswn 'm hunan, ond rhaid i fi weld y Barrister o Lunden."

Aeth y tri allan i'r dre, a chawsant yr heolydd yn llawn o bobl. ddangosent ryw ddifrifoldeb mawr ar bob gwedd. Trigolion y mynyddoedd oedd y mwyafrif o'r rhai hyn wedi dyfod i Gaerdydd o herwydd y Treial, a llawer ohonynt yn berthynasau y rhai wynebent y Barnwr drannoeth. Canfu Beti amryw o bobl a adwaenai " o ran eu gweld," ar Hirwaun, a hawdd oedd teimlo oddiwrth pob "min gair" mai y Treial oedd pwnc mawr yr ymddiddan gan bawb. Cymraeg a siaredid bron yn gyfangwbl, a rheswm da am hynny, oblegid hi oedd unig iaith llawer ohonynt.

Daethai y Barnwr i'r dre y Sadwrn blaenorol, a bu yn Eglwys Sant Ioan y Sul. Treuliwyd y Llun a Mawrth gydag achosion na pherthynent i Gynnwrf Mawr Merthyr, ond yn awr yr oedd prif bwnc y " 'Sizes " i ddechreu drannoeth. Disgwylid y byddai tyrfa niferus am fynd i'r Neuadd ar yr achlysur, ac yr oedd Cwnstabliaid yr holl sir yno mewn ffwdan mawr yn paratoi i gadw trefn yn y Llys a'r dre.

Aeth Gruff a'r ddwy ferch i weled y Castell a'r llongau yn ol awgrym y Sgweier, a threuliasant y rhan fwyaf o'r prynhawn yn eu hedmygu.

"Rhaid i fi ddarllen am yr Ifor Bach yna eto ta' beth," ebe Mari. "Os aeth e' i mewn dros y gwelydd yna (a mae'r Sgweier yn gweyd iddo wneud hynny er fod sowldiwrs ar 'u penna' nhw yn treio i stopo fe), wel! rhaid mai dyn bach taer oedd e'! Glywsoch chi'r Sgweier yn wilia am i blwc e'? Bydd y stori 'n werth i darllen."

Yr oedd Mari erbyn hyn wedi dyfod yn edmygydd mawr o'r Sgweier, a'r hyn ddywedai efe osodai y safon i bopeth. Yr oedd "plwc" a "giêm" yn eiriau benthyg oddiwrtho, ac ym myd arwyr a gwroniaid y trigai ei meddwl fyth oddiar ddydd yr ymweliad hwnnw a'r Plâs.

Hyhi oedd yn cynnal yr ymddiddan drwy y prynhawn, a gwrandawai Gruff, oedd yn naturiol yn un o'r rhai di-ddweyd, gyda syndod ar ei harabedd a'i dawn parod.

Gofalwyd bod yn ol yn y tŷ yn gywir am saith pan y cyfranogwyd o bryd bwyd arall. Cyn ymadael dros nos rhoddodd y Sgweier y drefn iddynt am drannoeth. "Brecwast am wyth," ebe fe, "ac wedyn mewn pryd i'r Hall. Chi fyddwch chi, Gruff, yn siwr o'ch lle am y'ch bod yn witness, ac fe ddaw y merched gyda fi. 'Rwy'n credu dim ond i fi weld Cwnstabl neilltuol y bydd lle i ninnau hefyd. A choffwch," ebe fe ymhellach, bydd rhaid inni fynd a thipyn o fwyd gyda ni, achos ddown ni ddim mâ's nes bo popeth ar ben. A pheidiwch synnu at ddim a welwch neu a glywch, a chadwch yn agos i fi."

Chysgodd Beti ddim eiliad y noson honno gan mor ddieithr oedd y cwbl iddi. Ac heblaw y teimlad o ddieithrwch, llethid hi gan gyffro a phryder meddwl.

Cododd a gwisgodd cyn chwech, ac wedi dihuno Mari, oedd yn cysgu fel Mynydd y Glôg, aethant i lawr eill dwy erbyn saith, a chymerasant dro drwy heol neu ddwy cyn dychwelyd i'w llety erbyn amser brecwast.

Yn gywir erbyn wyth daeth yr hen Sgweier i lawr y grisiau, ac er nad oeddent yn ddigon hyf arno i ofyn iddo am y modd y cysgodd, hawdd oedd canfod wrth ei amrantau a'i lygaid cochion mai ychydig o orffwys a gafodd yntau.

Er hynny yr oedd yn llon a serchog iawn wrth ben y bwrdd, ac yn ymddangos fel pe yn mwynhau y ddarpariaeth. Ymhen rhyw ugain munud edrychodd ar ei oriawr fawr, oedd yn rhwym wrth ei seliau o dan ei vest, a dywedodd,—" Mae'n rhaid mynd!" a chyfododd pawb i baratoi.

Wedi cyrraedd clwyd fawr y Neuadd, oedd eisoes a thorf fawr yn gwasgu am agoriad, gwelodd y Sgweier y "cwnstabl neilltuol" y cyfeiriodd ato yn ymgom y llety, ac wedi ychydig o siarad a newid rhywbeth o law i law, arweiniodd y swyddog hwnnw y tri trwy ddrws yn ochr yr adeilad i ystafell eang y Prawf, a chawsant le i eistedd ychydig y naill ochr i'r Witness Box.

Y diweddaf a welsant o Gruff oedd yn cael ei osod, ymhlith rhyw ddwsin eraill, gan swyddog tal a waeddai yn awr ac yn y man,—"Witnesses This Way!"

Da iddynt fyned yn gynnar. oblegid hanner awr cyn cychwyn y gwaith yr oedd y lle yn llawn hyd y drysau, ac awyr yr ystafell yn dechreu trymhau. O'r diwedd dacw'r Barnwr i mewn, y swyddog yn galw "Silence in Court!" a phob un ar ei draed ar y gair. Hawdd oedd i'r merched hefyd sefyll oblegid yr oedd ar wyneb y gŵr mawr ryw ddifrifoldeb a chadernid oedd yn cymell parch.

Treuliwyd peth amser gyda ffurfiau arferol y llys, ac wedi cwblhau y rheiny, dygwyd y carcharorion cyntaf i fyny, ac er syndod i'r ddwy gyfeilles nid oeddynt namyn Shams Harris y Pompren, ac un arall.