Lle Mae Pethau (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Lle Mae Pethau yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Mae yn y Bala flawd ar werth,
- Mae'n Mawddwy berth i lechu,
- Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
- Mae'n Llundain go i bedoli;
- Ac yng Nghastell Dinas Bran
- Mae ffynnon lan i ymolchi.