Lleidr Serch
gan Gruffudd ab Adda
- Ethum wythwaith glwyfiaith glan,
- i’r wig hwnt, orwag hyntiau;
- bûm fal gwr angall allan
- yn gwlio tŷ heb gael tân.
- Hawdd gennyf, hoywdda gynnydd,
- myn gwir Dduw, cyn no gwawr ddydd,
- er mwyn Gwen yn ddiennig
- encil i wegil y wig.
- Gwawr y wig sy i’m digiaw,
- Gŵr ar draed i garu draw;
- Diobaith wyf, ‘rwyf rewin
- o haul y wig, heilai win.
- O dai o’m gŵyl rhai yn rhedeg
- Yn ardal boen dâl bun deg,
- Wyf yno, rhyfelglo rhwyd,
- Carnlleidr, medd mab aillt cernllwyd.
- Nid wyf leidr ar daflawdrwydd
- yn gochlyd tywyn-bryd dydd:
- lleidr wyf, mae clwyf i’m clymu,
- lleidr merch deg, nid lleidr march du;
- nid lleidr myharen heno,
- lleidr meinwen drwy ddien dro;
- nid lleidr buarth gwartheg,
- lleidr hon, wedd tonm dan wŷdd teg;
- lleidr eres hudoles hy,
- lleidr poendaith, nid lleidr pandy;
- lleidr dirwyn morwyn nid mau,
- lleidr pursech, nid lleidr pyrsau;
- nid wyf leidr un llwdn carnawl,
- arnaf ni b hwyaf hawl:
- lledrad gariad a’m gorwyf;
- lleidryn, boen efyn, bun wyf.