Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XIX

Pennod XVIII Llewelyn Parri (nofel)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod XX

PENNOD XIX.

DYGODD meddwdod parâus Llewelyn Parri annedwyddwch diail i'w deulu. Bygythiai tlodi ymosod ar Brynhyfryd hefyd. Yr oedd y gwr wedi colli rhai cannoedd o bunnau yn ddiweddar mewn rhedegfeydd ceffylau yn yr ardal. Betiodd bum' cant o bunau ar droed un ceffyl, a chant ar un arall—collodd y ddau, er mawr siomedigaeth Llewelyn, yr hwn, felly, oedd dan orfod i fforffetio chwe' chant o bunnau am ei ynfydrwydd.

Heblaw hyny, yr oedd yn ystod y deuddeng mis diweddaf, heb dalu y sylw lleiaf i'w fferm; a chanlyniad naturiol yr esgeulusdod hwnw oedd gwneyd i honno fod yn ddifudd. Nid oedd Morfudd Parri yn alluog i edrych ar ol dim; o herwydd iddi gael ei dwyn yn ddiweddar i'r esgoreddfa, ac yn parâu yn wael iawn. Ond pa mor wael bynag oedd, ychydig, os dim, o gydymdeimlad a ddangosai ei gŵr tuag ati. Nid elai braidd byth i'w hystafell i ofyn pa fodd y byddai, ac anaml iawn y deuai'n agos i'w dŷ. Yn wir, ni fu yn agos i'r fan am yr ychydig fisoedd diweddaf, ond pan ddeuai yno i gymeryd rhywbeth ymaith i'w werthu, er mwyn cael arian i foddio ei drachwant. Yr oedd y ddau geffyl, ac un fuwch wedi eu cymeryd ymaith eisoes, a'u gwerth wedi eu llyncu gan Llewelyn.

Aeth i dynu cheque ar ol cheque ar yr ariandŷ heb ddodi yr un swm yn ol gymaint ag unwaith. Gwarchod pawb! pa beth oedd i ddyfod o hono ef a'i deulu? Cwynai nad oedd y fferm yn troi dim ennill iddo; ac eto nid oedd yn edrych dim ar ei hol, nac yn awdurdodi neb arall i wneyd. Cafodd flas ar chwareu cardiau, ac amryw fathau eraill o chwareuon pechadurus a niweidiol.

Un diwrnod, efe a anfonodd at ei arianwr i ofyn am ddeg punt. Ond yr oedd eisoes wedi codi mwy o bum punt nag oedd yn dygwydd iddo. Felly, anfonwyd ei genadydd yn ol heb arian. Cynhyrfodd hyn dipyn arno. Aeth adref—os teilwng o'r enw "cartref," sef i Frynhyfryd, lle y gorweddai ei wraig rhwng byw a marw. Er nad oedd wedi bod yn holi am ei hiechyd fwy nag unwaith, eto aeth ati yn awr i ofyn pa beth a wnai—fod ei arian yn y bank wedi darfod bob ffyrling.

"Wedi myned i gyd, Llewelyn?" gofynai hithau mewn llais truenus ond mwyn.

"Bob dimai goch Loegr, myn ——— Morfudd!" oedd yr atebiad annynol. Aeth y wraig i grynu'n enbyd, tra y cerddai ei gŵr yn ol ac ymlaen ar hyd yr ystafell, hefo 'i ddwylaw yn ei boced a'i ben i lawr. Beiddiodd Morfudd Parri ofyn iddo pa beth a wnaeth a'r holl arian.

"Nid dyna'r pwnc yrwan!" ebe yntau. Y maent wedi myned, a'r hyn sy'n pwyso ar fy meddwl i yn awr, nid pa beth a fu, ond pa beth a fydd nid yr hyn a wnaethum, ond pa beth a allaf wneud. Ydych chwi ddim yn meddwl, pe y gyrech at eich mam, Morfudd, yr helpai hi ni?"

"Oh, Llewelyn!" ebe'r wraig—" pa fodd y gellwch fod mor galon galed a gofyn hynyna? Ni wn yn iawn a oes gan fy mam bunt i'w hebgor ai peidio; ond os oes, byddai yn dro annynol myned a ffyrling oddiar hen wraig weddw fel y hi. Heblaw hyny, yr wyf fi wedi dyoddef llawer er adeg genedigaeth y babi yma, o eisieu arian i geisio pethau anghenrheidiol; ond ni ofynais am ddimai i chwi na neb arall, rhag eich poeni!"

"Diolch yn fawr i chwi, Mrs. Parri," meddai ynteu. "Ond mi a wn beth a wnaf—gellwch wneyd eich meddwl i fyny i godi cyn gynted ag y galloch o'r gwely yna, o ran mi af i'r dref y mynyd yma, a gwnaf gytundeb hefo rhyw un i brynu'r dodrefn, a chym'ryd ein siawns wedi hyny. Yr wyf mewn dyled fawr, a rhaid i mi ei thalu neu ddyoddef myned i'r carchar!"

Ni fuasai neb ond dyn meddw yn medru siarad felly â dynes sal fel Morfudd Parri. Ac effeithiodd yr olygfa hon i'w thaflu yn is fyth—llewygodd y foment y gadawodd ei gŵr yr ystafell, a bu'r forwyn mewn pryder mawr, gan ofn na ddeuai'r druanes byth ati ei hun.

Ar ei ffordd i'r dref yn ol, daeth llawer cynllun i ymenydd dyryslyd Llewelyn, trwy ba rai y bwriadai allu talu ei ddyledion. Weithiau, bwriadai ymadael â phob peth ag oedd yn ei feddiant y fferm a'r hyn oll oedd ynddi; bryd arall meddyliai am wneyd cais i gael arian o rai o'r cymdeithasau benthyciol oeddynt yn dechreu codi eu penau; phryd arall, bwriadai ofyn am fenthyg arian gan Gwen ei chwaer. Ond fe chwelid y cestyll awyrol hyn; o herwydd gwyddai na roddai neb fenthyg arian i ddyn mor wamal a meddw ag ef; a gwyddai hefyd nad allai Gwen roddi yr un bunt iddo heb yn wybod i Mr. Powel, dan awdurdod pa un yr oedd hi'n dymuno parâu i aros. Ac fel y noddfa ddiweddaf, efe a benderfynodd wneyd cais ar haelioni un ag y bu iddo wneyd gweithred o garedigrwydd âg ef lawer gwaith, a'r hwn oedd yn awr yn meddu digon o arian wrth law—Walter M'c Intosh. Aeth ato, a gofynodd am fenthyg pum' cant o bunnau iddo, yn ngwystl ei stock. Gwrthododd hwnw roddi dim iddo tuag at dalu dyledion ag y bu iddo amdoi ei hun ynddynt mewn canlyniad i fyw mor afradlon.

"Buaswn yn rhoi eu benthyg yn rhwydd," ebe Walter, "pe cawswn y lle lleiaf i gredu nad aech i'r fath gyflwr drachefn. Ond pe y tynwn chwi allan o'r trwbwl yma, ni fyddai hyny yn ddim amgen na gohirio tipyn ar ddydd eich dirywiad yr ydych mor ansafadwy a dwfr!"

"Walter, coeliwch fi," meddai Llewelyn Parri—" os bydd i chwi wneyd y drugaredd hon a mi, chwi gewch weled y trof o hyn allan i arwain bywyd hollol wahanol. Rhoddaf ffarwel tragywyddol i bob math o fetio a chwareu damwain.

"Wel, ar yr amod yna, hidiwn i ddim llawer a rhoi nodyn i chwi dan fy llaw am bum' cant o bunnau, i'w talu yn arian i chwi yn yr ariandŷ yn mhen yr wythnos—ond ni seiniaf fy enw wrtho tan fydd yr wythnos wedi dyfod i ben."

"Pw! seiniwch o rwan, dyna lanc da. Bydd y giwed wedi syrthio arnaf fel haid o locust cyn y daw yr wythnos i ben; ac fe wnai pum' cant fwy o les i mi yn awr—ar law —na mil yn mhen yr wythnos."

"Yr wyf wedi enwi fy nhelerau, ac nid wyf am gyfnewid fy mwriad!" meddai Walter. " Y mae arnaf eisiau gweled a fedrwch chwi gadw eich hun yn glir â'r haid sydd yn barod i'ch lyncu am un wythnos. Ond cofiwch, Llewelyn, mai er mwyn Gwen yr wyf yn addaw gwneyd y drugaredd hon â chwi. Y mae eich bywyd meddw a phenrydd yn gwneyd i'ch chwaer gurio ymaith fel pe bai mewn darfodedigaeth. Yr ydych yn ei lladd. Ond, byddwch sobr am wythnos, ac mi a roddaf fy enw yn gyflawn wrth y nodyn yma," ychwanegai, gan estyn darn o bapur ysgrifenedig i Llewelyn" ac fe delir y pum' cant i chwithau."

"Diolch i chwi, fy anwyl gyfaill!" meddai Llewelyn, gan wasgu llaw Walter yn garedig, a myned ymaith.

Y fynyd gyntaf y cafodd Llewelyn Parri y nodyn i'w law, safodd diafl wrth ei benelin, yr hwn a'i temtiodd i gyflawni trosedd anfad. "Pa'm y rhaid i ti aros am wythnos heb dderbyn yr arian?" dywedai'r ellyll wrtho—hyny yw, yn feddyliol. " Y mae mor hawdd i ti wneyd i'r nodyn yma ateb ei ddiben yn awr ag yr adeg honno. Yr wyt yn ysgrifenwr campus — yn efelychwr da, ac yn berffaith gydnabyddus a llaw-ysgrifen Walter M'c Intosh! Gan hyny, taraw ei enw wrtho dy hunan—dos âg ef i'r bank, a bydd yr arian yn dy boced cyn pen yr awr!"

Gwrandawodd Llewelyn ar y demtasiwn—ufuddhaodd hefyd! Seiniodd enw Walter wrth y nodyn, a chafodd yr arian!

Yn lle myned a thalu ei ddyled gyda hwynt, aeth ar ei sbri drachefn, gyda phum' cant o bunau yn ei boced.

Pan wnaed y ffaith yn wybyddus i Walter, braidd na chnöai ei dafod mewn cynddaredd. Gwisiodd y troseddwr i'w gyfarfod yn mharlwr y P— Arms.

"Yn mha le y mae'r papur a addewais ei seinio?" Gofynai Walter.

"Ho—y mae yn yr ariandŷ er 's dyddiau," atebai Llewelyn. "Eis a fo yno fy hunan, derbyniais yr arian yn gyflawn, a pheth sydd well fyth, y maent wedi eu gwario bron i gyd!"

"Felly! Y mae arnoch awydd gwybod beth ydyw bywyd carcharor eto, yn ychwanegol at brofi bywyd meddwyn."

"Pw!—carchar? Pe buaswn wedi gwneyd mor hyf a hyn ar enw rhywun heblaw fy mrawd, Walter, fuaswn i ddim yn dysgwyl amgen na charchar. Ond gwyddwn beth yr oeddwn yn ei gylch."

"Dichon eich bod wedi methu'r tro yma! Cewch wybod eich bod wedi gwneyd yn rhy hŷf hyd yn oed ar fy enw i. Pa sicrwydd sydd genyf nad aiff fy holl eiddo o fy ngafael, tra bod dyn meddw yn medru helpio 'i hun i bum' cant o bunnau o fy eiddo fy hun, heb gymaint a gofyn, 'gyda'ch cenad?" Na, Llewelyn! yr ydych wedi cyflawni trosedd nad oes dim ond y gyfraith a fedr ei osod yn iawn!"

"Wel, Walter," ebe Llewelyn, pan welodd fod ei gyfaill yn siarad o ddifrif ar y pwnc, —" y mae'n ddrwg genyf fy mod wedi cyflawni'r weithred fyrbwyll. Ond, gan eich bod wedi eich digio gymaint gan y tro, mi a âf y mynyd yma i werthu pob peth sydd ar y fferm—y dodrefn a'r cwbwl—er mwyn medru talu'r pum' cant cyn y nos!"

"Waeth i chwi heb, Llewelyn Parri! Y mae'n rhaid i mi gael iawn mwy na hynyna. Cofiwch eich bod yn fy ngafael i yn awr!"

"Pa beth y mynech i mi ei wneyd?" Gofynai Llewelyn, â'i lygaid yn fflamychu gan gyffro.

"Wel, mi a faddeuaf y weithred, a'r ddyled hefyd, os bydd i chwi gael gan Gwen dderbyn fy nghynygion. Y mae hi, fel y gwyddoch, yn gwrthod gwneyd dim byd â mi, er i mi ei charu mor ddiledryw am flynyddoedd. Ni's gallaf fyw hebddi yn hwy; a rhaid i mi un ai ei chael hi yn wraig, neu ynte rhaid i mi eich cael chwi yn garcharor?"

"Walter!" llefai Llewelyn, "Pa mor bell bynag y mae fy meddwdod wedi fy ngyru oddi ar lwybr dyledswydd, yr wyf eto heb fyned mor bell fel ag i fethu gweled eich bod yn ymddwyn yn debycach i fradwr nag i garwr. Ai dyma yr hyn a elwch chwi yn gariad? A yw ymddygiad fel hyn yn un boneddigaidd, teg, dynol, a gonest?"

"Pwy sy'n son am foneddigeiddrwydd, tegwch, dynoldeb a gonestrwydd?—ai ffugiwr enwau ei gymydogion? Ond yr wyf wedi dweyd fy mwriad, ac yr wyf am sefyll ato! Cymerwch chwithau eich siawns!"

"Cymeryd fy siawns a wnaf!" meddai Llewelyn, a rhuthrai allan o'r ystafell.

Dichon fod y darllenydd yn methu cysoni ymsyniad presennol Llewelyn o dynerwch a thegwch hefo 'i ddull annynol a garw at ei wraig heddyw'r boreu. Ond yr unig eglurâd allwn ni roddi ar y pwnc yw, ddarfod i ddymuniad cythreulig Walter M'c Intosh, o'i orfodi dan boen carchariad, i fynu cael gan Gwen gydsynio i fyw hefo'r dyn a gasai, ddeffro tipyn ar ei hen serchiadau. Ond fe ddaeth syniadau eraill i'w feddwl yn awr. Ymresymodd fel hyn âg ef ei hun gyn gynted ag yr aeth allan o wydd Walter:

"Yr wyf yn ddyn colledig! Y mae'r d——l wedi fy nghael i'w rwyd! Yr wyf yn sefyll rhwng dau ddibyn erchyll—fy ngharchariad fy hun ac annedwyddwch fy chwaer. Ond pa beth a wnaf? A fedraf fi oddef y drychfeddwl am i Llewelyn Parri, gŵr y Brynhyfryd i gael ei euogfarnu o godi arian trwy dwyll?—cael fy nyfarnu i ddeng mlynedd o alltudiaeth—fy ngwisgo mewn dillad carcharor—fy ngwallt wedi ei eillio, a heiyrn am fy nhraed a'm dwylaw! Na fedraf!"

Trôdd ar ei sawdl—aeth yn ol at Walter, a chytunodd âg ef i foddloni ei gais.

Anfonodd Llewelyn lythyr at Gwen, i erfyn arni ei gyfarfod ef mewn man penodol, am chwech o'r gloch y prydnawn hwnw. Daeth yr eneth ddifeddwl-ddrwg yn yno yn ol ei gais. Pwy a all ddychymygu ei thrueni wrth glywed Llewelyn yn myned dros yr hyn a gymerodd le, a'r aberth yr oedd yn rhaid iddi hi ei wneyd o honi ei hun, neu i'w brawd fyned i'r carchar.

"Wel, Llewelyn!" meddai'r eneth anwyl— nid oes yr un gradd o gysur i mi i'w ddysgwyl yn y byd hwn. Yr wyf wedi ymgynefino a thrallodau; ac wedi dyoddef cymaint ar dy ran di, fel nad yw'n pwyso dim ar fy meddwl wneyd unrhyw beth a geisi genyf, drosot. Yr wyf yn casâu Walter fel anghenfil; ond mi a'i prïodaf er mwyn dy waredu di. Addewais wrth erchwyn gwely angeu fy mam bod yn ffyddlon i ti, ac mi fyddaf hefyd. Mi wnawn yr aberth yma yn siriol, pe y gwybyddwn yr effeithiai'r amgylchiad dychrynllyd hwn i ddwyn diwygiad sefydlog a pharâus yn dy fuchedd."

"Caiff fod felly—yn enw pob gallu yn y nefoedd a'r ddaear!" meddai Llewelyn.

"Fy mrawd!" meddai Gwen—"paid ag addaw dim ychwaneg; yr wyt wedi tori dy addewidion mwyaf cysegredig ormod o weithiau i mi allu dy goelio. Yr wyf fi am fyned adref yn awr, a gelli ddweyd wrth Walter fy mod yn barod iddo pan y myn. Y cwbl er dy fwyn di!"

Yr oedd braidd yn annichonadwy i fod dynol deimlo trallod mwy nag a deimlai Gwen Parri yn awr. Ond yr oedd un hefyd yn dyoddef, efallai, gymaint a hithau o herwydd marwolaeth Llewelyn Parri, sef ei wraig! Yr oedd Llewelyn hefyd yn anhapus ofnadwy yn awr. Teimlai yntau, am unwaith, effeithiau difaol ei fywyd afradlon—pwysai ei euogrwydd arno fel craig o frwmstan. "Oh!" meddai wrtho 'i hun—"Oh!" yr wyf yn adyn melldigedig. Y mae drosodd hefo mi yn awr. Y mae fy eiddo wedi myned —fy iechyd, fy enw da—calon fy ngwraig fy chwaer wedi eu tori—fy nedwyddwch teuluaidd wedi ei ddinystrio am byth! Yr wyf yn felldith i mi fy hun ac i bawb o fy nghwmpas. A Walter—yr wyt tithau wedi troi allan yr hyn yr ofnai fy mam a Gwen am danat! Oh! pa beth a wnaf!"

Nodiadau

golygu