Llewelyn Parri (nofel)/Pennod XXII
← Pennod XXI | Llewelyn Parri (nofel) gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
→ |
PENNOD XXII.
Un boreu, pan oedd Llewelyn Parri yn eistedd wrth ei ysgrifgist yn y swyddfa, daeth y nodyn canlynol i'w law:—
"ANWYL LEWELYN PARRI.—Mae'n dda genyf glywed am dy ddiwygiad, a gobeithio y bydd i ti barâu'n sobr o hyn allan. Dymunwn gael dy weled: y mae yma rywbeth ag a wna i ti synu a rhyfeddu. Tyred yma amser ciniaw.
Dy hen warcheidwad ffyddlon, EVAN POWEL."
"Dear me!" ebe Llewelyn, wrtho 'i hun, "wyddwn i ddim bod yr hen fachgen wedi dyfod adref. A pha beth sydd ganddo i'm synu? Pa beth a ddaeth o Gwen, tybed? Nis gallaf aros tan amser ciniaw; gofynaf ganiatâd i fyned yno'r mynyd yma."
Yr oedd meistr Llewelyn yn falch rhoi caniatâd iddo fyned. Ar ei fynediad i dŷ Mr. Powel, gafaelodd yr hen wr yn ei law yn garedig, a gwasgodd hi fel y gwnelai yn yr hen amser gynt; ond neidiodd Mrs. Powel ato gan ei gofleidio fel pe buasai blentyn, a'i gusanu.
"Beth am Gwen?" gofynai Llewelyn, heb feddu amynedd i son am ddim arall.
Torodd yr hen ŵr a'r hen wraig i wylo, ond nid oedd y wylo yr un mor dorcalonus ag y buasai Llewelyn yn dysgwyl.
"A yw hi wedi marw?" gofynai drachefn.
"Rhoddodd y bedd i fyny ei farw!" ebe Mr. Powel. "Bu'n gorwedd yn Mharis ar ddibyn trancedigaeth am ddyddiau lawer ar ol i mi fyned yno, ac ofnwn na chawn byth mo'i gweled yn dangos yr un arwydd fywyd. Ond byw yw hi—mae hi'n gwella—mae hi wedi dychwelyd—mae hi yma!" meddai, gan agor drws ystafell oedd yn ochr y parlwr.
"Oh, fy Ngwen anwyl!" meddai Llewelyn wrth ei gweled. "A ollyngodd angeu ei afael o honot? gwaredwyd di o fedd marwolaeth, a finau o fedd meddwdod! Bydd Morfudd wedi synu clywed hyn!"
"Fy mrawd!" meddai Gwen, mewn llais isel, egwan, "y mae troion Rhagluniaeth yn rhai dyrus. Ni ddysgwyliais, pan ysgrifenais y llythyr hwnw atat, y cawn byth dy weled yr ochr yma i'r bedd; ond nid ein meddyliau ni yw meddyliau Duw. Arbedwyd fy mywyd i'th weled di yn Feddwyn Diwygiedig. Oh, maddeu i mi am ysgrifenu llythyr mor galed atat—gofal a theimlad mawr a wnaeth i mi wneyd!"
"Paid a son, fy chwaer—bu'n foddion i agor fy llygaid i, ac yn gymhorth i fy ngwaredu. Y mae hyny yn ddigon foddlonrwydd i dy feddwl mi wn."
"Ydyw!"
"Ond, fy anwyl chwaer, yr wyt yn rhy wan i mi dy gadw i siarad dim ychwaneg. Deuaf yma heno eto hefo Morfudd. Treia dithau fendio goreu gelli, er mwyn i ni fedru byw'n dawel, dedwydd, a rhinweddol, hefo'n gilydd eto."
Cafodd Mr. Powel hyd i Gwen Parri, ar ol llawer iawn o drafferth, mewn llety gwael, am yr hwn yr oedd wedi talu trwy ymadael â'i dillad a'i gemau. Yr oedd bron marw, mewn canlyniad i iselder ysbryd, tlodi ac anghen, yn ychwanegol at y dwymyn beryglus oedd yn anrheithio ei bywyd. Bu braidd i'r hen ŵr a cholli arno 'i hun, pan welodd hi gyntaf, a churo pawb o'i gwmpas am fod mor ddiofal o honi. Cymerodd hi oddiyno yn ebrwydd i lety arall, mwy tawel a pharchus. Cyflogodd dri o'r meddygon goreu yn y dref i ddyfod ati, a thrwy ofal anghyffredin, cafwyd hi allan o berygl. Wedi aros yno am rai wythnosau, ac i'r meddygon farnu na wnai ymadael am Gymru ddim drwg iddi, ond yn hytrach y byddai'r cyfnewidiad yn y lle a'r awyr yn fanteisiol i gynydd ei hiechyd, cychwynodd Mr. Powel gyda 'i drysor anmhrisiadwy, a chyrhaeddodd cartref yn ddiogel.
Ni chlywyd dim mwy am Walter M'c Intosh, rhagor na 'i fod wedi gadael Ffrainc, ar ol hudo'r dyner Wen yno, fel y dywedasom o'r blaen, ac wedi myned i'r America. Diamheuol yw, iddo arwain bywyd melldigedig yno, os na chafodd Dirwest afael ynddo yntau hefyd. Aeth yno braidd yn yr adeg yr oedd y cyffrawd dirwestol yn cymeryd lle; a gobeithio ddarfod iddo ufuddâu ac ardystio. Ond fedrwn ni ddim dweyd, felly gwell bod yn ddistaw.
****** Y mae Llewelyn Parri wedi bod yn ddirwestwr am dros ddwy flynedd. Yn mis Rhagfyr o'r eilfed flwyddyn o'i fywyd dirwestol, a'i wasanaeth gyda Mr. Pugh (enw ei feistr), gwnaethpwyd i fynu gyfrifon y sefydliad, er mwyn gweled pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Er mawr lawenydd y meistr a'i was, canfyddwyd fod y busnes, yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, wedi troi mwy o arian nag y gwnaeth yn ystod y pum' mlynedd blaenorol, a phriodolai Mr. Pugh y llwyddiant yma i ofal, ymroddiad, a hwylusdod Llewelyn. Er mwyn gwobrwyo 'i ymddygiadau rhagorol, efe â'i hanrhegodd â haner cant o bunnau, yn ychwanegol at ei gyflog wythnosol. Chwyddodd mynwes ein harwr wrth dderbyn yr archeb ar yr ariandy am y swm mawr hwn, a rhuthrodd meddylddrych newydd i'w ben.
Yn lle myned adref rhag ei flaen y prydnawn hwnw, efe a aeth at dy Cadben Morris, oedd yn byw yn ymyl y y dref. Eisteddai Cadben Morris yn ei barlwr cysurus a chynhes, gan ddarllen papyr newydd. Daeth y forwyn i fewn gan ddweyd fod Llewelyn Parri, y dyn oedd yn byw yn Brynhyfryd ychydig flynyddoedd yn ol, wrth y drws yn dymuno ei weled ef.
"Dywed wrtho am ddyfod i fewn," meddai'r meistr. "Mae'n dda genyf eich gweled yn dyfod yma fel dyn, Mr. Parri," meddai'r Cadben pan aeth Llewelyn i'r ystafell.
"Ha!" ebe Llewelyn, "mi boenais ddigon arnoch amser yn ol, am arian ac elusen, ond yr wyf yn hyderu na raid i mi mo'ch poeni byth ar ol heddyw, ond y bydd fy oes rhagllaw yn cael ei dwyn yn mlaen fel ag i fod yn anrhydedd i bob un a wnaeth garedigrwydd i mi — yn anrhydedd i mi fy hun—ac yn wasanaethgar i achos crefydd a moesoldeb."
"Wel, mi all dyn fel y chwi fod o ryw les i'r byd trwy droi i fod yn sobr, Mr. Parri."
"Ond," meddai Llewelyn, "mi ddaethum yma heddyw'r prydnawn ar neges bwysig iawn."
"Pa beth yw?"
"Wel, y mae arnaf braidd ofn ei dweyd; ond waeth hyny nag ychwaneg—dyfod yma a ddarfu i mi i ofyn a fedrech chwi osod y fferm i mi—y Brynhyfryd, fy hen gartrefle!" " Y mae hyna'n gam mawr, Mr. Parri. Ond, pe bawn yn ei gosod, pwy a dâl yr ardreth?"
"Y fi!" meddai Llewelyn yn benderfynol.
"A ydych chwi mewn gwaith da?"
"Ydwyf—ac wedi derbyn cyflog go lew hefyd."
"Wel, oni feddyliech chwi y byddai'n well i chwi fod yn foddlon arno ynte, rhag ofn i rywbeth croes gyfarfod â chwi eto!"
"Rhaid i mi gyfaddef fod yr hyn yr wyf yn ei ofyn i chwi yn beth pwysig dros ben, ond yr wyf wedi penderfynu gwneyd un cynygiad iawn am gael myned i fyw i fy hen gartref. Yn y Brynhyfryd y bu farw fy mam—yno y gwelwyd fi a fy anwyl Forfudd yn dechreu byw yno y treuliais ddyddiau dedwyddaf fy mywyd—colli y Brynhyfryd oedd fy Ngholl Gwynfa fi—a'i gael yn ol yw fy uchelgais."
"Ai nid oes arnoch ofn meddwi eto?"
"Yr wyf yn Ddirwestwr, syr!"
Edrychodd yr hen Gadben yn ngwyneb ei ymwelydd, fel pe buasai'n ceisio darllen dirgelion ei galon.
"Wel, Mr. Parri, gan nad wyf fi fy hun yn byw yn y fferm fy hunan, ac yn llaw go sâl hefo ffarmio, ni fyddai genyf ryw lawer o wrthwynebiad i osod y lle i chwi, pe caech gan rywun fyned yn feichiau drosoch am gan' punt, er mwyn rhoddi cadwyn ychwanegol am danoch, i'ch cadw yn sobr. Mi aethum i gostiau dirfawr hefo'r lle ar ol i chwi orfod ymadael, ac y mae mewn trim campus yn awr. Yn awr, os medrwch gael gan Mr. Powel, neu rywun arall fyn'd yn feichiau am gan' punt, dyna'r lle i chwi am yr un faint o ardreth ag a dalech o'r blaen.
"Dyma haner cant yn barod!" meddai Llewelyn, gan daflu'r papyr a gafodd gan ei feistr ar y bwrdd. "Cefais hwna'n wobr heddyw am fy ymddygiadau at fusnes fy meistr yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Felly, ni raid i mi ond chwilio am feichiau am haner cant!"
"Y mae hyn yn fwy nag y buaswn i yn ei ddysgwyl," ebe'r cadben. "Yr wyf yn synu'r fath gyfnewidiad a wnaeth dirwest arnoch! Yr wyf yn begio 'ch pardwn, Mr. Parri, mi a âf yn feichiau fy hunan am y cant—nid oes arnaf ddim o'ch ofn yn awr. Gellwch fyned i'r fferm ar y dydd cyntaf o'r mis nesaf—Dydd Calan."
Ceisiodd Llewelyn ddiolch i'r hen wr calon dyner, ond ni wnaeth namyn syrthio i'r gadair a wylo fel plentyn; a thra yr oedd yn cuddio 'i ben yn ei ddwylaw, aeth y cadben allan o'r ystafell. Dychwelodd gyda basged yn ei law, a rhoddodd hi i Lewelyn, gan ddywedyd,
"Os byddwch yn myned i'r fferm ar Ddydd Calan, rhoddwch y pethau sydd yn y fasged yma yn g'lenig i'r plant, er mwyn iddynt gofio yn well am yr adeg ddyddorol mewn blynyddau i ddyfod!"
"Duw a'ch bendithio!" meddai Llewelyn; "ac os byth y byddaf yn anffyddlon i'r ymddiried yr ydych yn ei osod ynwyf, boed i Dduw fy melldithio ar y llecyn!"
"Daliwch chwi at eich ardystiad dirwestol, Parri, ac mi gym'raf fi fy siawns am y canlyniad," meddai Cadben Morris. "Os bydd genych amser yfory, galwch yma, a bydd y papyrau anghenrheidiol yn barod."
"O'r goreu," meddai Llewelyn, ac adref âg ef gyda chalon ysgafn. Yr oedd arwydd llawenydd i'w weled yn mhob llinell yn ei wynebpryd teg; ac fel y dynesai at ei dŷ distadl, teimlai rywbeth yn dweyd oddifewn iddo ei fod unwaith eto mewn gwirionedd yn DDYN.
****** Ymdaenodd y cysgodion tywyll sy'n arfer dilyn noson yr unfed-ar-ddeg-ar-ugain o Ragfyr, dros y ddaear, yr hon oedd yn wen gan eira caled. Eisteddai Mrs. Parri a'i phlant tlysion wrth dân braf yn eu bwthyn bychan, glân. Yr oedd Morfudd Parri yn myfyrio am yr hyn a fu, yr hyn sydd, a'r hyn a fyddai, gan ddysgwyl ei gŵr adref o'r swyddfa. Wyth o'r gloch a ddaeth—felly y daeth naw a deg; ond nid oedd yr un gŵr wedi dyfod! Ah! beth oedd yr achos o hyn? Ni chymerodd y fath beth le er's dros ddwy flynedd. Ai tybed fod holl obeithion y ddwy flynedd ddiweddaf i gael eu difa eto?
"Mam," meddai Meredydd bach, pan oedd yr awrlais yn taraw deg, "ai nid heno yw'r noson ddiweddaf o'r hen flwyddyn?"
"Ië, machgen i," atebai'r fam; ond beth wnaeth i ti ofyn?" "Breuddwydio ddarfu i mi y byddai i nhad ddyfod a ch'lenig hardd i ni i gyd yfory. Ond lle mae o mor hir heno, mam?”
"Oh, fe ddaw yma toc,'ngwas i," meddai'r fam gydag ochenaid.
Tarawodd yr awrlais unarddeg! Yr oedd y wraig bryderus mewn tipyn o ofnad erbyn hyn. Pa le yr oedd Llewelyn?
Ust, dyna dwrf ei droed yn dyfod at y tŷ, gan sathru'r eira rhewedig nes oedd yn crinsian. Gwrandawai Morfudd, ond methai a gwneyd allan fod dim diffyg ar ei gerddediad. Daeth Llewelyn i fewn. Gydag edrychiad pryderus, hi a gododd ei llygaid i fyny, ond fe dreiddiodd rhyw deimlad trydanol o lawenydd trwy ei holl enaid wrth syllu ar wynebpryd agored, dynol, llawen, a sobr ei gŵr.
"Fy anwyl Lewelyn!" meddai, " bum mor ynfyd ag ofni yn dy gylch, wrth dy weled mor hwyr heno."
"Mi fum yn hwyr, yr wyf yn cyfaddef; ond busnes a'm daliodd; ac yn awr y mae genyf ffafr i'w gofyn i ti."
"Beth ydyw, fy anwylyd?"
"Wnewch chwi beidio holi dim, os gofynaf?"
"Gwnaf."
"O'r goreu, 'ngeneth i," meddai, gan argraphu cusan gynhes ar ei boch. "Yr wyf am ofyn i chwi wisgo'r plant yn eu dillad cynhesaf, a chwi eich hunan yr un fath, a dyfod allan hefo mi am dro. Y mae'r noson yn hyfryd, er ei bod yn rhewog.
"Ond pa'm
"Ah!—dim holi! Cofiwch eich addewid!"
Deffröwyd y plant; ac yr oeddynt oll yn barod i gychwyn yn mhen ychydig fynydau.
Yr oedd y lleuad wedi codi, ac edrychai y ser yn siriol ar y pererinion dyddorol. Arweiniai Llewelyn y ffordd, a dilynid ef gan Morfudd a'r plant. Bu hi ar fin ei holi ddwywaith neu dair, ond cofiodd yr adduned.
Aethant allan o'r dref, a cherddasant yn mlaen, nes dyfod gyferbyn a'r hen fferm, lle yr oeddynt wedi bod yn byw mor ddedwydd flynyddoedd yn ol. Yr oedd yr eira wedi ei glirio oddi ar y llwybr at y tŷ. Agorodd Llewelyn y drws dilynwyd ef i fewn gan ei wraig grynedig. Yn y gegin, yn eistedd o flaen tân brâf, pwy a welid ond Mr. a Mrs. Powel, a—Gwen. Buasai'n anhawdd i baentiwr o ddarfelydd cryfion allu gwneyd darlun cywir o'r cydgyfarfyddiad hapus. Wylai pawb yn uchel am ychydig fynydau.
Ust! dyna 'r awrlais yn taro deuddeg! Y mae'r hen flwyddyn wedi ehedeg i dragywyddoldeb, i roddi lle i un arall!
Cymerodd Llewelyn Parri afael yn llaw ei wraig, a dywedodd wrthi,—
"Wel, fy Morfudd, os bu i feddwdod ein gyru o'r baradwys ddaearol yma, fe ddygodd Dirwest ni yn ol—yr ydych unwaith eto yn wraig y Brynhyfryd! Edrychwch arnaf, fy anwyl Forfudd, a gwenwch ar eich gŵr; a chwithau hefyd fy mhlant, ymgesglwch o gwmpas eich tad—a thyna galenig a roddodd Cadben Morris i chwithau. A chwithau, fy ngwarcheidwaid a'm chwaer, cydlawenhewch â mi, canys yr hwn a fu farw a ddaeth yn fyw drachefn—bum golledig, ond fe'm cafwyd. O fy ngwraig, os oes dedwyddwch i'w gael ar y ddaear, ni a'i cawn bellach, a'r cyfan mewn canlyniad i effeithiolrwydd Dirwest.
Syrthiodd y cyfan ar eu gliniau,—dyrchafodd Llewelyn weddi a mawl at Dduw, a chyfododd y gynulleidfa fechan i fyny mor ddedwydd ag y gallai bodau marwol fod.
Yn mhen y flwyddyn ar ol hyn, y daeth Ifan Llwyd ar draws Llewelyn. Y mae'r amgylchiad hwnw wedi ei ddesgrifio eisoes.
Mewn perthynas i hen gyfeillion Llewelyn, fe ddaethant i ddiwedd amrywiol a gwahanol i'w gilydd.
FFREDERIC JONES.—Aeth ef yn mlaen yn ei feddwdod nes dwyn ei hun i dlodi mawr. Yn ei dlodi, lladratâodd arian o ariandŷ, ac alltudiwyd ef am ei oes i Bombay.
BILI VAUGHAN.—Pan glywodd ef am fywyd diwygiadol Llewelyn Parri, a phan ddywedwyd wrtho ei fod i areithio ar Ddirwest un noson, aeth Bili i wrandaw arno; a'r canlyniad fu iddo ardystio. Bu farw'n ddirwestwr selog, ar ol gwneyd llawer iawn o les i feddwon yr ardal.
GWR Y BLUE BELL.—Gwrandawodd yntau ar lais Dirwest—tynodd ei arwyddfwrdd—gollyngodd y cwrw—a thrôdd at fusnes arall—gonest.
YR ENETH A HUDODD LLEWELYN PARRI I'R DAFARN TRWY DWYLL.—Cafodd Llewelyn hyd iddi, yn ei hynt genadol trwy 'r dref, mewn tŷ drwg, bron a marw. Dygodd Llewelyn hi i'r yspytty. Ac yno, yn nghlyw yr offeiriad, hi a roddodd hanes ei bywyd. Cafwyd allan mai geneth oedd i'r truan Sion Williams a ddesgrifiwyd yn agos ddechreu ein llyfr. Twyllwyd ac arweiniwyd hi o lwybrau diweirdeb, gan Ffrederig Jones. Efe a Walter a'i llogodd i osod y cynllwyn hwnw i'n harwr. Bu 'n sâl am wythnosau yn yr yspytty; a bu farw'n dra edifeiriol.
Trodd Llewelyn Parri allan i fod yn fath o genadwr i'r meddwon. Argyhoeddwyd lliaws mawr trwyddo. Dygodd ei blant i fyny yn anrhydeddus, ac y mae un o honynt yn fyw yn awr, ac yn Ddirwestwr rhagorol. Bu farw yn llawn o ddyddiau, cyfoeth, dedwyddwch, ac anrhydedd; a phan gladdwyd ef, fe welwyd cannoedd yn gwlychu ei fedd a'u dagrau, ac yn bendithio enw y MEDDWYN DIWYGIEDIG.
MERTHYR ARGRAFFWYD GAN REES LEWIS.