Llewelyn Parri (nofel) (testun cyfansawdd)

Llewelyn Parri (nofel) (testun cyfansawdd)

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llewelyn Parri (nofel)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dirwest
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y nofel Gymraeg
ar Wicipedia



Y FFUGHANES BUDDUGOL,

YN

EISTEDDFOD Y CYMRODORION DIRWESTOL,

NADOLIG, 1854.


LLEWELYN PARRI:

NEU Y

MEDDWYN DIWYGIEDIG:

YN GOSOD ALLAN ECHRYSLONRWYDD BYWYD Y MEDDWYN,
A BENDITHION LLWYRYMWRTHODIAD,

GAN "FEDDWYN DIWYGIEDIG,"

SEF

LEWIS WILLIAM LEWIS, (Llew Llwyfo.)





MERTHYR-TYDFIL:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN REES LEWIS.

1855.




RHAGYMADRODD.

Y MAE Nofel Gymraeg braidd yn beth newydd ar y ddaear; ac wrth gyflwyno yr un ganlynol i sylw 'r cyhoedd, tybiwyf fod yn ddyledswydd arnaf ddweyd gair neu ddau mewn perthynas i'r llyfr, a'r achos i mi ymosod ar y gwaith o'i gyfansoddi.

Y mae'r wlad yn llwyr argyhoeddedig fod Meddwdod yn un o'r melldithion penaf ag sy'n llychwino dynoliaeth gwympiedig. Nid oes yr un dref na phentref, teulu nac aelod o deulu, nad yw 'n gwybod am ffeithiau echrydus mewn perthynas i effeithiau meddwdod. Prin y gellir cyfeirio bys at gynifer ag un teulu cyfan sydd wedi dïanc yn ddi-graith. Nid yw Gwalia gu, yr hon sydd wedi ei bendithio â chymaint o fanteision moesol a chrefyddol, yn rhydd oddi wrth felldithion anghymedroldeb. Y mae ugeiniau a channoedd o Gymry, y fynyd hon, yn ymdrybaeddu yn ffosydd meddwdod, ac yn ymbrysuro'n gyflym tua bedd gwaradwyddedig a thruenus y meddwyn. Cyfarfyddodd rhai o fy nghyfeillion goreu â thynged ofnadwy meddwon; a minau, braidd na lithrodd fy nhroed—braidd na thripiodd fy ngherddediad. Pan chwythodd croeswynt amgylchiadol certh yn fy erbyn, ar fy nghychwyniad cyntaf ar donau siomedig y byd, gwn i galon fy mam dyner, a fy ngwraig addfwyn a gofalus, guro a gwaedu lawer noswaith, wrth sylwi ar fy nhueddiad i chwilio am gysur yn y gyfeddach, Diolch i'r Nefoedd am daflu pelydryn o oleuni ar fy llwybr mewn pryd! A fy mhrif ddymuniad wrth ysgrifenu 'r gyfrol ganlynol, oedd gosod fy nghyd-ieuenctyd, yn enwedig, ar eu gwyliadwriaeth, a cheisio dangos iddynt, yn y dull mwyaf tarawiadol ac argyhoeddiadol ag y gallwn, mai 'r unig sylfaen safadwy, i'w cadw rhag syrthio i ffosydd meddwdod, ydyw llwyrymwrthodiad. Ond nid gwiw i mi geisio celu ychwaith, fod gan y wobr gynygiedig gryn swyn i fy nghymhell i fyned yn mlaen hefo 'r gorchwyl; a dichon hefyd fod gan uchelgais am enwogrwydd ran yn yr argymhelliad. Peth digon hunangar ydyw 'r natur ddynol ar y goreu.

Synwn i ddim na chaiff y ffughanes yma ei gondemnio gan amryw, am mai Nofel yw. Y mae 'r enw 'n ddigon i ddychrynu rhai pobl cul-feddwl. Ond gobeithio gan Dduw y bydd i'r effeithiau a ddilynant y darlleniad o'r llyfr, argyhoeddi y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffughanesion, o'r gwirionedd fod modd i nofel wneyd lles. Yn wir, yr wyf yn credu y gellir gwneyd mwy o gyfiawnder a phwnc tebyg i hwn, trwy ddull ffughanesol, na thrwy unrhyw ddull arall. Ni raid gorlwytho côf, na threthu amynedd, y darllenydd, a chyfres o ymresymiadau sychion ac ystadegau dyrus, i brofi effeithiau drygionus un arferiad, ac effeithiau daionus y llall. Mewn ffugdraith, fe ellir gosod y naill a'r llall, yn eu gwir liw eu hunain, o flaen y darllenydd, yn holl symledd a dyddordeb bywyd beunyddiol dyn. Y mae 'n well dull na'r un arall i bortreadu prydferthwch, rhinwedd, ac anfadrwydd drygioni, yn effeithiol. A dylai 'r wlad fod yn ddiolchgar i Bwyllgor Eisteddfod Cymrodorion Dirwestol Merthyr Tydfil, am dori tir newydd fel hyn yn llenyddiaeth ein gwlad, a dewis testun mor deilwng i ymgystadlu arno.

Nid oes a fynwyf fi a dweyd dim am deilyngdod nac annheilyngdod y Nofel; ond gadawaf hyny i'r Beirniad apwyntiedig, ac i farn y cyhoedd. Ond dymunwyf, yn y fan yma, gydnabod y llyfrau ag y bu i mi gael mwyaf o gymhorth wrth ei chyfansoddi. Er fy mod wedi cadw cystal fyth ag y gallwn at wreiddioldeb, eto nid gwiw gwadu na wnaethum ddefnydd o awduron eraill, ag oeddynt wedi cyrhaedd pinagl enwogrwydd fel Nofelwyr. Ail ddarllenais weithiau Metta Victoria Fuller, awdures Americanaidd, a Samuel Warren, cyn dechreu cyfansoddi; a buont yn gynhorthwy nid bychan i mi i ddwyn y cyfansoddiad yn mlaen yn llwyddiannus.

Os byth y geilw'r wlad am ail argraphiad o'r llyfr, byddaf yn alluog i wneyd gwelliadau ac ychwanegiadau nid bychan yn y cyfansoddiad; ac os cyferfydd y gyfrol hon â llwyddiant a chefnogaeth, bwriadwyf gyhoeddi ail gyfrol, ar yr un testun. Ond y mae 'r pwnc yma i'w benderfynu yn hollol gan amser.

Mewn gobaith y bydd i'r gwaith hwn effeithio'n ddaionus ar chwaeth, yn gystal ag ar foesau llawer o'r Cymry, y gorphwysa ufuddaf wasanaethydd ei genedl,

YR AWDWR.

BEIRNIADAETH EBEN FARDD,

AR Y CHWECH FFUG-CHWEDL—NOFEL GYMREIG—

Y MEDDWYN DIWYGIEDIG YN ARWR.


ANTURIODD chwech o ysgrifenwyr galluog i gylch yr ymrysonfa ar y testun hwn, y cyntaf a ddaw dan ein sylw, yw "Henry James," gan "WILL YR HEN DY;" agorir yr olygfa gychwynol yn swydd Fflint; rhyw ganolig y mae yr awdwr yn gallu cynal i fyny ddyddordeb digonol yn y dechreu; ond os gall gario y darllenydd yn mlaen hyd y drydedd bennod, nid rhaid ofni y gorphwysa wed'yn nes gorphen y darlleniad drwyddo, mae y dyddordeb yn cryfâu yma, a'r dygwyddiadau yn bur amrywiol a tharawiadol; gofidir ni er hyny, wrth fyned yn mlaen, trwy ei anmherffeithrwydd yn yr iaith, nid wyf yn cyfeirio at y colloquial style, neu y tafod-ddull cydlafareddol sathredıg, sydd yn gweddu yn briodol i rai o'r personau a'r nodweddiadau a ddygir ger bron, ond iaith yr hanesydd ei hun, ynghyd â'r nodweddiadau uwchraddol, y rhai a ddysgwylid i arfer iaith goeth a chaboledig. Cyfarfyddir a lliaws o enghreifftiau o gystrawen chwithig, priod-ddull estronol, ac orgraph bur drwsgl ac anmhrydferth. Nid wyf yn gweled anghenrheidrwydd i mi chwyddo y nodiadau hyn â rhestr o'r cyfryw enghreifftiau, ond y maent genyf i'w cael os bydd galw am danynt; a chan y bwriadaf, o anghenrheidrwydd, o herwydd byrdra amser i ysgrifenu yn helaeth, ddilyn y cynllun hwn gyd 'r ysgrifenwyr eraill; caiff yr esgusawd hwn dros adael allan yr enghreifftiau sydd genyf i gynal fy sylwadau, wasanaethu iddynt hwythau yr un modd. Gellid meddwl ei fod braidd yn methu ychydig yn nghadw i fyny gysondeb y cymeriad, unwaith, yn Mrs. James a Jane ei morwyn. Yr ydym yn edrych ar Mrs. James yn wraig onest, gywir, ddianwadal; a Jane yn forwyn ffyddlon, synwyrol, egwyddorol; ond yn yr enghraifft y cyfeirir ati, cawn Jane yn dyfeisio rhyw druth gwan a thwyllodrus i gael ei meistr o'r dafarn, gan apelio at esiampl Michal yn twyllo ei thad i guddio Dafydd, "heb hyny," ebe hi, "beth a wnaethem ni am ei Salmau!" Dangosir Mrs. James hefyd yn ewyllysio y twyll yn ddirgelaidd yn ei meddwl am y gallai gadw y forwyn rhag deall hyny.

Teimlir fod y gweithrediadau a'r naws cymdeithasol a ddengys y traethawd, wedi eu cyfaddasu at ddosbarth uwch na 'r cyffredin ar y cyfan, ac felly heb gyffwrdd yn ddigon tarawiadol ac uniongyrchol â hynt y werin feddwol. Heblaw hyny, y mae yn estronol, i raddau, i Genedloldeb Cymreig, trwy y Saesneg teuluaidd, a welwn ei fod mor gynhenid i'r arwr a'i gymdeithion. Modd bynag, mae yn gyfansoddiad gwych, bywiog, a chelfyddgar, ar y cyfan; yn dangos fod yr awdwr yn meddu athrylith a galluoedd prydferth; a llawer o fedr a deheurwydd at gyfansoddi yn briodol yn y dull neillduol hwn.

2. Teitl y Novel nesaf i sylwi arno, yw "Jeffrey Jarman," gan ei nai "JARMAN JEFFREY JERVIS;" amlygir yn y cyfansoddiad hwn athrylith gref, a digon o dalent awdurol: er hyny, y mae rhyw bethau ynddo yn ddiffygiol at ei wneyd yn gwbl gymeradwy ac effeithiol. Yn un peth, ysgrifena yr awdwr gyda rhyw naws rhy ysmala a chellweirus, hyd yn oed pan gyfeiria at amgylchiadau pwysig; megys yn hanes y meddwdod ar achlysur yr Arwerthiad cyhoeddus yn nghartref yr arwr, desgrifia olygfa o anfoesoldeb a gloddest ffiaidd, mewn rhyw ddull rhy ysgafn a digrif i enyn atgasrwydd yn y darllenydd at y cyfryw ddrwg-arferion; yr un difaterwch ysmala a ddengys gyda yr "Hen Fibl Teuluaidd" a'r "Ynad annuwiol;" a hefyd yn yr olygfa yn y "Lion," ddiwrnod marchnad; ynghyda 'r adnod ddyfynedig o'r Bibl: dadblygir drygedd dirfawr yn yr amgylchiadau, ond mewn dull rhy geilweirus a digrif, i beri i'r darllenydd eu ffieiddio; yr hyn yw gwir ddyben ac amcan ffug-chwedlau fel hyn, debygid.

Peth arall yw, y mae yn cadw ei arwr ormod o'r golwgnid ydym yn cael digon o olwg arno, i wneyd allan ei garitor fel y dymunem. Mewn ffug-chwedl, fel mewn chwareu-farddoniaeth, mae y personau i gael eu dwyn i weithredu, megys ar esgynlawr ger ein bron, ac nid i'w cadw tuhwnt i'r llen, a'r hanesydd yn sefyll i fyny i'w desgrifio ei hun, a dweyd wrthym pa fath rai ydynt, a pha fodd y maent yn ymddwyn. Cedwir ni ormod oddiwrth brif ysgogiadau y pleidiau sy ar y chwareu, gan ryw ddygwyddiadau ail-raddol, megys yr arwerthiad, y dychweliad adref, &c.

Nid yw yr helynt gyda'r llyfr "seinio," a'i ddarluniad o'r areithydd O'Brien, wedi eu tynu yn y fath fodd ag i enill serch at achos Dirwest. Mae priodoldeb rhai pethau yn rhanau blaenaf araeth ddirwestol Dr. Jarman yn ammheus, megys y gyffes gerbron cynulleidfa, y cyfeiriad at feddygon a chwacs, &c., os ydym i edrych am addysg i fod yn gall, ac am gynllun i'w ddilyn, mewn enghreifftiau fel hyn.

Mae dyddordeb y traethawd yn gynwysedig, gan mwyaf, yn yr arddull (style); amlyga yr awdwr fedrusrwydd mawr fel traethodwr ffraeth, syml, a difyrus; hynodir dechreu y traethawd a symlder a hyawdledd, ac ag awgrymiadau cynil a chall; desgrifir ymweliad y meddwyn a'i dy anghyfanedd, yn wych; ac y mae y cydymddyddan rhwng Dr. Jarman a Nathan Edward, yn dra difyrus, cywir, naturiol, ac addysgiadol. Mae y Novel yn meddu teilyngdod helaeth, er y dymunasid ef yn well mewn rhyw bethau.

3. "Samson." Tery i fewn i ganol y chwedl sef dydd priodas "Dafydd Domas" ei arwr, gydag Elen, &c. Cyfyd dyddordeb drwy hyn yn y cychwyniad. Plentyn ordderch neu fasdardd yw "Dafydd," wedi ei gynefino â chaledi a gwaith; yn anllythyrenog, ac yn dueddol at oferedd a meddwdod. Mae Elen yn un o ddosbarth mwy parchus, yn ferch tyddynwr cyfrifol, wedi cael dygiad crefyddol, &c. Ni ellir canmol ei chwaeth yn ffurfio undeb priodasol rhwng pleidiau mor anghymarus.

Prin y mae nodwedd yr arwr yn cael ei gadw i fyny yn gyson; ymddengys ei ymson unigeddol yn ymyl y nant yn y cwm yn rhy goeth a chaboledig, i gyfateb i'w nodwedd anllythyrenog ef; ac nid oes dim dangosiad pwy oedd yn ei glywed, i ail-adrodd ei hunan-ymddyddan.

Mae ei araeth ddirwestol ar y ci a'r gâth, yn fwy cyson â'i erwindeb diaddurn a diddysg; ond cynnrychiolir drwyddi, chwaeth rhy isel mewn torf o ddirwestwyr yn ei derbyn gyda 'r fath gymeradwyaeth—traethiad yr hanesydd yn hytrach na gweithrediadau y pleidiau eu hunain sydd yn gwneyd i fyny lawer o'r cymeriadau yn y Novel hwn. Mae y cyfansoddiad yma eto yn adlewyrchu llawer o dalent a dawn awdurol; yr iaith yn gywir a phoblogaidd, er efallai y dichon fod ychydig o chwithigrwydd mewn ambell i air a brawddeg, o leiaf i Ogleddwyr.

Nid ydys yn boddloni yn dda ar yr arwr; y mae yn rhy isel ei radd yn hytrach, fel dyn anllythyrenog, ofergoelus, ac anwybodus, i fod yn enghraifft deg o'r werin GYMREIG; ond dylid cydnabod fod yr awdwr yn un o alluoedd teilwng ac amcanus.

4. "Ab Neptune." Lleoliaeth y Novel yw Dyffryn Towy, sir Gaerfyrddin; a rhoddir desgrifiad erchyll o arferion meddwol crefyddwyr ac anghrefyddwyr y parthau hyny. Yr arwr yw "William Morgan." Byddai rhieni William yn arfer derbyn pregethwyr i'w tŷ, y rhai a fyddent yn yfed, rai o honynt, hyd feddwdod, a thrwyddynt hwy llithiwyd William yn blentyn at y ddïod gref; un o'r prif ymwelwyr a'r teulu oedd Mr. Evans, gweinidog Eglwys Gilgal, yr hwn oedd ddyn sobr unwaith, ond wrth yfed yn nhai yr aelodau, ac yn y tŷ hwn, yn enwedig, troes yn feddwyn, a chafodd ei ysgymuno. Mewn cwrw bach yn nhŷ diacon Gilgal, nos Sadwrn o flaen Sul cymundeb yr ymollyngodd William bach i feddwi gyntaf: bu llawer treigl ar ein harwr wedi hyny, mewn tafarn ac eglwys; ond troes yn ddirwestwr yn y diwedd, a gorphenodd ei yrfa yn ddefnyddiol a dedwydd.

Mae y traethawd yn un helaeth iawn, ac yn waith awdwr galluog iawn, yn meddu digon o adnoddau meddyliol a llenyddol: o'r braidd na thybid fod yr arwr heb gael ei gadw ddigon yn y golwg; pentyrir ynddo lawer iawn o gyfundraethau o is-ddigwyddiadau, oll yn berthynol, ac fel rhyw fan gylchau yn ffurfio yr un cylch mawr cyffredinol.

Nid wyf yn gwybod yn iawn beth i feddwl o briodoldeb y cynllun o osod yr oruwch-adail ar dir mor grefyddol, mae gosail y ffug-chwedl ar grefyddolder meddwol; a'r golygfeydd, braidd o hyd, yn feddwdod crefyddol. Tuedda y cynllun a'r cyflawniad i warthruddo crefyddolder Cymru yn fawr; a oes achos, nis gallaf benderfynu yn sicr, hyderaf nad oes yn gyffredinol, a phrin y mae ansawdd lleol neu enwadol yn cyfiawnâu y fath ddynoethiad.

Nid yw y cyfansoddiad yn ddyddorol, cymaint ar gyfrif ei nodweddion ffug-chwedlyddol, ag ar gyfrif ei amrywiaeth traethiadol, a lliosogrwydd ei ddygwyddiadau. Cynwysir llawer o synwyr, a rheswm; hysbysrwydd ystadegol, ac addysg ymarferol yn y pregethau a'r areithiau a ddygir i mewn, y rhai a ysbrydolir a chryn ddyddordeb, ffraethineb, a bywiogrwydd.

5. "Meddwyn Diwygiedig." Teitl y ffughanes yw "Llewelyn Parri," yr hwn yw enw yr arwr; cawn olwg arno yn y bennod gyntaf, yn ei gyflwr dedwydd diwygiedig, ac wrth rodio yn y boreu i arolygu ei dyddyn hyfryd, daw hen feddwyn a fuasai yn gydymaith, ac yn fagl iddo gynt, i'w gyfarfod, rhedir yr amgylchiad hwn i dipyn o stori fechan pur gyffrous, yr hon a grea y fath ddyddordeb, ac a enyn y fath chwilfrydedd yn y darllenydd, nes ei hoelio wrth hanes hynt yn arwr o hyny allan. Mae dyddiad dychymygol y ffughanes hwn, yn flaenorol i ddarganfyddiad y moddion dirwestol at sobri meddwon; ac er i fam Llewelyn, a'i chwaer, ac yntau ei hun ddyfalu yn eu meddyliau lawer gwaith, nad oedd dim a wnai y tro ond llwyrymataliad i sefydlu diwygiad parâol, nid oedd dull y byd y pryd hyny yn caniatau i Llewelyn feddwl am y fath beth od a mympwyol. Modd bynag, pan y mae ein harwr, wedi ei guro yn nhrigfa dreigiau, a'i myned yn llongddrylliad arno fil o weithiau, yn awr yn min boddi am byth yn môr y gyfeddach, dyma DDIRWEST fel rhyw life boat rhagluniaethol yn dyfod heibio, ac yntau yn neidio iddo, ac yn cyrhaedd glan adferiad, dedwyddwch, a hawddfyd. Mae yr ysgrifenydd yn ffughanesydd campus, ceidw y dyddordeb i fyny yn rhagorol; gweithia allan ei gymeriadau i berffeithrwydd; a dengys y maglau a'r rhwydau, y brâd, a'r dichellion, y cynllwynion a'r hudoliaethau, a amgylchant ieuenctyd, trwy gymeriadau hollol debygol a naturiol, y rhai y mae pawb yn gynefin a hwynt; ond ychydig yn eu drwgdybio, ac yn eu gochelyd. Wrth ei ddarllen nis gall ieuenctyd lai na dychryn, wrth weled yr hoenynau a osodir i'w dala, a dysgant yn awyddus a llwyddiannus, y moddion o hunan-amddiffyniad, a ddengys yr awdwr iddynt. Ysgrifena yn gryf a bywiog, gan amlygu coethder a dillynder mewn arddull, iaith, a chwaeth. Y mae ganddo feddwl heinif, dychymyg hoyw ac ystwyth; ei gynllun sydd gywrain, a chelfyddgar, y cymeriadau a'r gweithrediadau yn gyson a thebygol; nid yn fynych y dangosir craffach adnabyddiaeth o ddynolryw, a'u tueddiadau, a'u harferion: a dysgwyliwn i y byddai y traethawd hwn, pe cyhoeddid ef, yn debyg o enyn cymaint o eiddigedd dros ryddad y meddwon, ac a enynodd "Uncle Tom" dros ryddad y caethion.

6. "Gwraig y Gweithiwr." Dyma "HARRIET BEECHER STOWE" Gymreig o ffughanes-wraig; cynllunia, a dyfala, a dwg bethau o amgylch yn dra ffodus, moesol, ac addysgiadol, yn ol ansawdd a chyfeiriad y plot. Yr arwr yw "Frank," swyddog ieuanc yn y fyddin, a dechreuir gyda 'i anturiaethau carwriaethol gyda Miss Robertson; darlinellir y cymeriadau yn bur dda. Mae y dygwyddiadau yn ymylu ar y "rhyfeddol" rai o honynt; eto yn ddigon tebygol, ac yn dyfod o amgylch yn hollol naturiol. Cawn ein harwain at arwredd benywaidd; hunanladdiadau bwriadol, eto yn cael eu rhagflaenu; eiddigedd a dialgarwch rhith-gyfeillion; a lliaws o ddygwyddiadau, yn dangos peryglon ieuenctyd oddiwrth eu nwydau a'u ffoleddau eu hunain, yn gystal ag oddiwrth fradwriaeth, eiddigedd a hudoliaeth rhith-gyfeillion, a chymdeithion ofer a diddarbodus. Dangosir galluoedd pert a heinyf, a chelfyddyd a medrusrwydd awdurol mawr gan yr ysgrifen-wraig hon at lunio ffugchwedl, a'i gweithio allan yn bur naturiol, dyddorol, a tharawiadol. Cyfyngodd ei hun at draethawd rhy fyr, yn hytrach, i wneyd chwareu teg â'r cynllun, ac i'w ddadblygu yn ddigonol.

Y peth gwaethaf yw, fod yr iaith yn anghywir iawn; yn llawn o briod-ddulliau (idioms) Seisnig—y Gymraeg yn ymddangos fel estroniaith wedi ei dysgu yn anmherffaith ganddi. Portreiadir golygfeydd a phersonau y ffughanes mewn cylch cymdeithasol uwchraddol i'r werin, yr hyn a'i gwna yn wanach ei dylanwadar syniadau sydd wedi cynefino â dull mwy syml a diaddurn ar gymdeithas; ond gallai gynnyrchu llawer o addysg a bod yn foddion i ddyrchafu llawer ar ein cenedl mewn moesau ac arferion pe diwygid yr iaith i Gymraeg loew lân. Efallai y dylwn ddweyd i'r traethawd yma ddyfod i law ddiwrnod yn rhy ddiweddar yn ol yr ammod gyhoeddus.

Y GOREU ar y testun hwn i'm tyb i, yw "Meddwyn Diwygiedig," awdwr y Novel sydd yn dwyn y teitl "LLEWELYN PARRI."

Efelly y terfyna y sylwadau beirniadol.

Eich ufudd Was, "ar air a chydwybod,"

Clynog Fawr, Rhag. 19, 1854.

EBEN FARDD.

GWELLIANT GWALLAU.[1]

Tudalen 90, llinell 41, yn lle "farw," darllener "fara" (nid yw y gwall hwn yn yr holl gopïau).

136 #18 yn lle "annedwyddwch," darllener "ddedwyddwch."

LLEWELYN PARRI,

NEU

Y MEDDWYN DIWYGIEDIG.


PENNOD I.

Yr oedd yn foregwaith hyfryd. Deuai yr haul allan o'i ystafell aur, gan ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa; ac yr oedd

"Ei wrid yn ymlid y nos,
O'i ddorau yn ddiaros."

Ymagorai y blodau, canai yr adar, ymddolenai y cornant, gwenai y dolydd, a llawenychai y bryniau. Yr oedd natur megys wrth ei bodd. Yr oedd yn foregwaith hyfryd.

Dacw ddau ddyn yn rhodio 'n ara' deg ar draws y waen. Hwy oeddynt y ddau cyntaf o bobl y pentref i fod allan y bore hwnw. Cododd un i fyned i edrych ar ol ei fferm, ac y mae'r llall yn dyfod wedi haner marw, allan o'r dafarn ar ol term am fis cyfan; ac y mae 'n ateb yn union i ddisgrifiad Robyn Owen o'r meddwyn, pan y dywedodd,—

"Heddyw am ffrwyth yr heidden—yfory
Mor farwaidd a malwen;
Casau bwyd, cosi ei ben,
Ymwingo mewn llwm angen."

Y mae'r ddau 'n ymddangos mewn cydymddiddan pwysig yn nghylch rhywbeth; ac y mae gweddnewidiadau y meddwyn yn dangos ei fod yn teimlo i'r byw yr hyn a ddywed ei gymydog wrtho.

Nid ydynt yn ddieithriaid i'w gilydd. Na, ysywaeth, y maent yn gwybod gormod y naill am y llall. Nid dyna'r tro cyntaf iddynt fod yn rhodio'r waen yna ar doriad y dydd. Ond ni's gwelwyd hwy erioed o'r blaen yn cyfarfod dan yr unrhyw amgylchiadau ag yn awr.

Er mwyn deall yn fwy trwyadl sefyllfa'r ddau, rhaid gwrando ar eu cydymddiddan.

"Ha, fy nghyfaill," ebe Llewelyn Parri, "y mae 'n ddrwg genyf dy weled yn edrych mor druenus."

Ifan Llwyd, dan dynu ei ben megys o'i blu, ac felly bradychu pâr o lygaid mor feirwon a dau lwmp o biwtar, gwefusau sychedig, tewion, crogedig, a atebodd,—

"Yn wir Llewelyn, yr wyf nid yn unig yn edrych yn druenus, ond yn teimlo fy hun felly, wel' di. Y mae fy safn ar dân, a fy nghorph fel pe bae y ragsus yn penderfynu ei ddarnio, er gwaethaf tes yr haul. Doro bres peint, yr hen gyfaill, neu mi fyddaf farw!"

"Buasai 'n dda genyf allu gwneyd rhywbeth trosot, yn wir, Ifan; ond, ar fy nghydwybod, nis gallaf roi pres peint i ti."

"Wyt tithau hefyd wedi bod ar dy sbri, ac wedi gwario'r cwbwl?"

"Nac ydwyf, trwy drugaredd, ond yr wyf wedi 'seinio dirwest,' ac yr wyf yn penderfynu dal yn ffyddlon i fy ardystiad, doed a ddelo; ac ni fuasai dim yn well genyf na dy weled dithau wedi gwneyd yr un peth."

"Felly, gwir oedd y stori a glywais i yn nhafarn Efel Fawr, ar fy nychweliad i'r pentref yma ar ol bod i ffwrdd am gyhyd o amser? Ac nid bychan y sbort a gawsom ar dy draul di yr amser y clywais gyntaf. Tyngai un na ddaliet ti yn ditotal am fis; arall a ddywedai y byddit ti farw fel ffwl ar ol rhoi'r gore' i eli'r galon; a finau, ymhysg eraill, a ddywedwn dy fod mor benfeddal a meipen wedi llygru, yn cym'ryd dy hudo gan ffyliaid sy'n myn'd ar hyd a thraws y wlad i siarad lol yn nghylch dirwest y naill wythnos ar ol y llall."

"Felly 'n wir!" meddai Llewelyn Parri, yn ddigon didaro. "Yr oeddych i gyd yn rhy fychain o philosophyddion y tro hwnw, beth bynag. Dyma fi wedi dal am dros dair blynedd yn ddirwestwr; ac yn lle 'marw fel ffwl,' yr wyf yn myn'd yn iachach y naill ddydd ar ol y llall. A phe buaset tithau wedi gwneuthur yr un peth ag a wnaethum i, fuasai raid i ti ddim bod â'r olwg yna arnat ti, Ifan bach."

"Ond waeth hyny na chwaneg," ebe Ifan, "yr wyf yn addaw y munud yma, pe gwelwn i heddyw trosodd, na feddwwn i byth ond hyny. Dyro fynthyg pres peint i mi, neu mi af yn wallgo', gyn wired a'm geni!"

"Mae 'n ddrwg genyf na's gallaf," atebai Llewelyn. "Ond mi ddywedaf i ti beth a wnaf â thi. Dos i Frynhyfryd, a dywed wrth Morfudd mai myfi a'th yrodd; gofyn am ddwfr i ymolchi, a gwely i orwedd ynddo am awr neu ddwy. Mi fyddaf adref erbyn amser boreufwyd, a chawn siarad hefo 'n gilydd beth i'w wneyd. Yn awr, rhaid i mi edrych sut y mae pethau yn myned yn mlaen ar hyd y caeau; dos dithau fel y dywedais."

"O'r gore," cydsyniai Ifan, a ffwrdd a'r ddau, un rhyngddo a Brynhyfryd, a'r llall i lawr y rhos. Yr oedd y ddau yn llawn myfyr yn awr. Cydmharai Ifan Llwyd ei sefyllfa druenus ei hun â golwg iach a hapus Llewelyn Parri, yr hwn oedd, ychydig flynyddoedd yn ol, yn îs ei amgylchiadau nag ef, ond sydd yn awr wedi gadael ffyrdd dinystriol meddwdod, a chofleidio dirwestiaeth; ac felly, sicrhau iddo ei hun lwyddiant, cysur, a dedwyddwch. Tra yr oedd Llewelyn yn myned allan o gwmpas ei feusydd, gan fwynhau ceinion a swynion anian haelionus, yr oedd ef yn analluog braidd i roddi'r naill droed heibio'r llall; ac yr oedd cyneddfau ardderchocaf ei gorph a'i enaid wedi eu dirywio gymaint gan ei feddwdod, fel ag i wneyd hyfrydion y greadigaeth ymddangos iddo ef, druan, fel cynnifer o weinyddion anghysur, dychryn a gwae. Ystyriai ei hunan yn fath o ddiafl mewn cydmariaeth i bethau o'i gylch; a thybiai fod pob creadur yn ysgwyd pen ac yn ysgyrnygu dannedd arno ef. Dychymygai nad oedd cân y fronfraith yn ddim amgen na cherdd ogan am dano ef; a chredai mai adsain gwae o'i herwydd oedd brefiad yr oen bach o'r nant gerllaw. Yr oedd cwrw a gwirod wedi ei ddyrysu; ac yr oedd ei syched a'i awydd am ychwaneg yn awr yn angerddol.

Yr oedd Llewelyn Parri hefyd yn boddi yn awr mewn myfyrion dwys. Rhuthrai i'w gof ei oferedd gynt—yr arian a'r amser gwerthfawr a wariodd yn nghyfeillach Ifan Llwyd ddyddiau a aethant heibio. Llenwid ei feddwl â dychryn wrth adgofio am y llwybrau a gerddodd—y gweithredoedd a gyflawnodd—y calonau a haner-dorodd, os nad mwy na hyny—y gŵg a dynodd ar ei ben ei hun a'i deulu oddiwrth nefoedd a daear, dynion a Duw, ac mor agos a fu i fyned yn ysglyfaeth tragywyddol i Feddwdod. Yr oedd ei gydwybod hefyd yn ei ledgyhuddo o fod ganddo ef law yn nadfeiliad presenol dedwyddwch, eiddo, iechyd, corph ac enaid Ifan Llwyd; o herwydd yr oedd y ddau wedi yfed llawer chwart o ddiod y felldith hefo 'u gilydd; ac, efallai, mai'r chwart diweddaf hwnw a yfasant yn y Castle Inn, a fu y prif achos o gyneu tân yn mynwes Ifan druan, nad allodd y galwyni a yfodd ar ol hyny mo'i ddiffodd, a'r hwn oedd yn ymddangos fel yn myned ar gynydd fwy-fwy, hyd nes yr oedd wedi gwneyd y dyn a ystyrid yn un o flodau'r gymydogaeth o ran harddwch, arabedd, talent, a challineb, yn awr yn ddychryn y diniweid, yn wrthddrych tosturi y rhinweddol, ac yn ellyll i'w berthynasau.

"Mi fum inau llawn gyn waethed ag yntau," ymsoniai Llewelyn Parri. "Bum yn feddwyn. Gwn beth yw teimlad uffernaidd Ifan y mynyd yma; ac os yw ef yn rhywbeth tebyg i fel y byddwn i dan effaith diod, ro 'wn i mo 'ngair na wnai ef y pethau mwyaf echryslon ag y gallai ei ymenydd dyryslyd a chynhyrfiedig eu dyfeisio er mwyn cyrhaedd dafn o'r ddiod ag y mae taflod ei enau fel ffwrnes o'i heisiau. "Minau braidd na lithrodd fy nhroed; braidd na thripiodd fy ngherddediad,' meddai; "ïe'n wir, mi a lithrais filwaith; ond, trwy drugaredd, wele fi eto 'n ddyn. Os bum yn feddwyn, yr wyf yn awr yn feddwyn diwygiedig; ac yn hytrach nag ymddwyn yn galed at y sawl sydd heb fod mor ffodus a mi, trwy adael eu ffyrdd ddrwg, rhaid i mi estyn llaw ymwared iddynt, ac ymdrechu eu gosod ar lwybr, ag a'u harwain hwythau i'r sefyllfa ag y mae digonolrwydd llawenydd i'w chael ynddi."

Erbyn hyn, yr oedd Llewelyn wedi cyrhaedd y cae pellaf. Braidd yr oedd yn clywed cathlau hyfryd y corau adeiniog o'i gylch, na swn y ffrydlif ddisglaer oedd yn treiglo wrth ei droed, gan faint y dyddordeb a achosodd ymddangosiad ei hen gyfaill yn ei feddwl. Ac wedi iddo fod yn cerdded oddi amgylch am ddwy awr, clywodd y corn yn galw arno ef a'r llanciau i gael boreufwyd, a phrysurodd ei gamrau tuag adref drachefn.

Erioed ni thywynodd haul melyn haf ar le hyfrytach nag oedd Brynhyfryd, cartref Llewelyn Parri, y pryd hwn. safai ar lethr dlos, yn cael ei hamgylchu gan ddôl fechan, wrth gefn pa un yr oedd mynyddau cribog Arfon. Ymddangosai'r lle megis rhyw adlewyrchiad o'r hyn a ddychymyga bardd am Baradwys Ddaearol. Mor beraidd oedd sain yr adar ar y gwrych ac yn yr ardd, y rhai oeddynt

"Ag eofndra ysgafndroed
Yn chwarau rhwng cangau'r coed!"

Mor hyfryd, oedd yr alawon a chwareuai'r awel ar organau y goedfron! Mor ddifyr oedd twrf prysurdeb y dref yn cael ei dreiglo gan gerig ateb y bryn!—Mor hyfryd oedd

***llef yr arydd ar y twyn
Yn ateb cân y laethferch wridog, fwyn;
Y gwartheg ar eu lloi a bref di fraw:
*****
Y gwyddau'n clegar ar yr asur lyn;
Yr ysgol-blant yn chwareu dan y bryn;
*****

Y chwarddiad uchel, arwydd ysgafn fryd,
Gan wŷr y llan, na flinai gofal byd!"

Ond nid y tu allan yn unig i dŷ Llewelyn Parri oedd yn hyfryd. Yr oedd dedwyddwch wedi ail osod ei gorsedd oddifewn. Mae 'n wir ddarfod iddi fod yn ddieithres yno 'n hir, pan oedd Llewelyn yn feddwyn. Ond gyn gynted ag y cafwyd cwbl brawf o sobrwydd llwyrymwrthodol ein harwr, a'i fod wedi cwbl adael ei hen lwybrau gynt, fe ail wenodd dedwyddwch yn ei dŷ; ac yr oedd ei anedd yn awr yn arlun teg o'r dylanwad sydd gan Ddirwest ar amgylchiadau teuluaidd dynion.

"Dychymyg hoff i'm bryd y sydd yn dwyn
 Y dodrefn gwych addurnai'r parlawr mwyn,
 Y muriau gwyn, y llawr tywodlyd tlws;
Yr awrlais destl a'i dingc wrth gefn y drws,
*****
Y lluniau ar y pared gwych a glân,
A'r diddan gamp-reolau gylch y tân;
Ac yn yr haf, yr aelwyd oedd mor hardd,
Gan frigau gwyrdd a blodau teg yr ardd."

Yr oedd yn awr yn amser boreufwyd. Golygfa hardd yw gweled tylwyth yn nesâu at bryd bwyd, gyda chyrph iachus, meddyliau ysgeifn, calonau diolchgar, a chariad yn llywodraethu pob bron! Dyna fel yr oedd hi yn Mrynhyfryd y bore hwn.

Ond yr oedd Morfudd Parri yn meddwl fod rhywbeth nad oedd yn iawn ar wynebpryd ac agwedd gyffredinol ei gwr. Yr oedd arwydd cyffro ar ei rudd; ac edrychai fel pe yn ymgolli'n fynych mewn meddyliau dwys. Barnai Morfudd yn gywir hefyd. O ran hyny, beth sydd mewn ymddygiad dyn na's gall merch ei ddarllen? Y mae'r cyfnewidiad lleiaf ar wynebpryd yr hwn a gara hi, yn sicr o gael ei ganfod gan fenyw garuaidd. Nid oes yr un linell nad yw'n gydnabyddus â hi; ac y mae'r arwydd lleiaf o bryder ac anesmwythid yn sicr o dderbyn cydymdeimlad yn ei chalon hi.

Ond cadwodd Morfudd ei darganfyddiad iddi ei hun. Pa fodd bynag, ar ol i'r boreufwyd fyned trosodd, ac i'n harwr dalu diolchgarwch i Roddwr pob daioni drosto'i hun a'r hyn oll oedd eiddo, ac i'r gweinidogion fyned o amgylch eu dyledswyddau, gofynodd Llewelyn pa fodd yr oedd Ifan Llwyd erbyn hyn.

"Ifan Llwyd!" meddai'r wraig, gyd â gradd o syndod.

"Ië. Ai ni ddaeth Ifan Llwyd, y dyn hwnw y byddech yn crefu cymaint arnaf beidio ei ganlyn pan yn ngwallgofrwydd fy meddwdod, yma tua dwy awr yn ol?"

"Naddo'n wir," atebai Morfudd. " A ydyw yntau hefyd wedi troi'n feddwyn diwygiedig? Byddai'n dda genyf ei weled yn awr ynte, os oedd yr olwg arno o'r blaen yn anfon y fath iasau o ddychryn, arswyd, a ffieidd-dod trwy fy mynwes."

"Na, na, Morfudd bach, yr oedd yr olwg ar Ifan yn waeth heddyw nag erioed. Gwelsoch chwi a minau ef yn ngraddau eithaf meddwdod lawer gwaith o'r blaen, ond erioed ni's gwelais ef yn edrych mor ellyllaidd a heddyw!"

"O, Llewelyn! gwyddoch o'r goreu fel y byddwn yn suddo mewn gofid a phryder bob tro y gwelwn chwi yn ei gwmpeini; a pha beth a allai eich cymhell i'w wahodd yma heddyw eto?" gofynai Morfudd yn dyner.

"Tosturi,'ngeneth i—tosturi dros un y bu genyf fi fy hun law yn ei ddwyn i'r cyflwr y mae ef ynddo yn awr. Gwahoddais ef yma heddyw gyda'r bwriad o wneyd rhywbeth ar ei ran, a'i waredu o faglau distryw bythol."

"Wel, wel," ychwanegai Morfudd, "os oes un ddynes ar wyneb y ddaear a ddylai gydymdeimlo â'r cyfryw fwriad, y fi yw hono. Yr wyf fi yn gwybod beth ydyw bendithion tröedigaeth a diwygiad, ac yr wyf yn ceisio diolch i Dduw am ddwyn y fath beth o gwmpas, a'n gwaredu fel teulu o grafanc y gelyn; a'r peth lleiaf a allwn wneyd fyddai ceisio bod yn fath o angel ymwared i ryw greadur anffodus sydd yn awr yn digwydd bod yn yr un pwll ag y bu fy anwyl Lewelyn ynddo cyn gwybod beth oedd rhagoriaethau llwyrymwrthodiad. Ond yn mha le y mae Ifan Llwyd, tybed?"

"Ah! druan o hono," meddai Llewelyn, gyd â theimlad dwys; "digon tebyg fod ei gywilydd wedi myned yn drech na'i benderfyniad, a'i fod, yn hytrach na dyfod yma, i orfod edrych ar y fath wrthgyferbyniad yn sefyllfa meddwyn diwygiedig, a meddwyn dirywiedig, un ai yn loetran o gwmpas y caeau yna, neu wedi myned i dafarn Ty'n-ycoed, i grefu am ychwaneg o'r gwenwyn a'i dygodd i'r cyflwr y mae ynddo."

"Yn wir," meddai Morfudd, drachefn, "oni bai fy mod wedi gwneyd llw na edrychwn i fy hun, ac y ceisiwn eich parswadio chwithau i beidio byth ac edrych, ar y dafarn yna mwyach—tra bo'n dafarn—mi fuaswn yn gofyn i chwi fyned i chwilio am dano, a'i ddwyn yma.'

"Yr wyf finau hefyd, fel y gwyddoch, wedi gwneyd ammod annhoradwy nad awn byth dros orddrws tafarn ond hyny: ac yn wir, pe bawn yn gwybod mai yno y mae Ifan, byddai mor anobeithiol ceisio ei ddenu oddi yno tra bo diferyn i'w gael, ag a fyddai atal dyn mewn anialwch rhag myned ar ei waethaf i gyrhaedd y Boa constructor; pan fo ei llygaid wedi ei sefydlu yn deg ar lygad ei hysglyfaeth."

"Wel, gadewch i ni weddïo drosto, ynte," meddai Morfudd, "a thros bob un sydd mor anffodus ag yntau."

" Amen," atebai Llewelyn. ****** Tua chwech o'r gloch y prydnawn, dychwelai gwas Brynhyfryd o'r dref, wedi bod yno ar neges. Yr oedd ganddo stori bwysig i'w hadrodd; ac ymddangosai fod yr hyn a welodd yn pwyso gryn dipyn ar ei feddwl. Aeth at ei feistr, a dywedodd

"Wel, mistar, 'rydw i'n fwy parod i seinio titotal heiddiw nag yrioed o'r blaen."

"Mae'n dda iawn genyf glywed hyny, Huw," meddai Llewelyn Parri. "Ond, atolwg, pa beth sydd wedi dwyn y fath gyfnewidiad yn dy farn?"

"Gwarchod pawb! welis i rioed ffasiwn beth yn fy mywyd ag a welis i heiddiw!"

"Beth oedd?"

"Wel, fel roeddwn i'n myned i lawr Cae'r Dên, mi welwn dwr o bobol. Eis yno i wel'd beth oedd y mater, ac ar ol stwffio cryn lawer trwy'r dorf, mi welis yr hyn na anghofia i mono fo byth.'Roedd yno ryw griadur ar lun dyn, a'i wyneb gin lased a lliw glas, a fflam fel fflam frwmstan yn dod allan o'i safn. Mi ofynis i ryw ddyn, fel darn o wr bynheddig, beth oedd y mater, a deudodd hwnw fod y dyn a welwn felly wedi dod i'r dref bore heiddiw yn feddw; a'i fod wedi gwneyd i oreu i gael dïod yn mhob tafarn, ond am nad oedd ganddo fo arian i dalu, roe neb ddim dafn iddo fo. O'r diwedd, medrodd fyn'd i iard P——— Arms; torodd dwll yn nhalcen balir o chwisgi, oedd newydd i osod yno, ac yfodd ei wala, nes aeth ar dân o'r tu fewn. Mi gwelis i o, Mistar," ychwanegai'r llanc, gyd â'i ddwylaw i fynu,—"mi gwelis i o'n llosgi; ac mi gwelis i o'n marw! Yfa i byth ddafn o gwrw na licar ond hyny, Mistar. Ac mi seinia ditotal rwan, i chwi."

"Da machgen i," meddai ei feistr. "Dyna'r peth saffa fedri di wneyd. Af i nol y llyfr y munud yma."

Ymaith a'r ddau am y llyfr, ac ardystiodd Huw yn ddibetrus.

Dichon na chawn achlysur i sôn ychwaneg am Huw druan, eto. Gan hyny, goddefer i ni grybwyll yn y fan yma ddarfod iddo, ar ol parhau'n ddirwestwr selog am bum' mlynedd, ymuno a Chrefydd; bu fyw am ddwy flynedd yn deilwng o Gristion; daeth twymyn boeth i'r ardal; ysgubodd Huw i'r byd arall, ond nid cyn iddo roddi tystiolaeth eglur cyn marw, ei fod yn cael ei dderbyn i wlad lle nad oes

"**marw mwy
Ond canu am glwy' Calfaria fryn

***** Eisteddai Llewelyn a Morfudd Parri, un o bob ochr i'r tân.

"Glywsoch chwi ddim o hanes Ifan Llwyd wedyn?" gofynai'r wraig.

"Yr oeddwn am fyned i ddweyd wrthych yr hyn a glywais am dano gan Huw'r gwas," atebai Llewelyn.

"Beth am dano?"

"Ah! Morfudd bach, y mae'r gwirionedd braidd yn rhy erchyll i'w adrodd; ac y mae yn fy nychryn i'n fwy wrth feddwl mor agos fum i fy hun ugeiniau o weithiau, i gyfarfod â'r un dynged ofnadwy. Y mae Ifan Llwyd wedi myned i wlad nad oes yr un dafn o ddïod byth i'w chael ynddi!"

"Wedi marw?"

"Ië! a'r fath farwolaeth! llosgodd ei hun i farwolaeth trwy yfed whiskey! Rhyddhawyd ei enaid i fyned i wyddfod y Duw cyfiawn, trwy i'r corphyn gwael oedd am dano fyned ar dân, dan effaith diod gadarn!—y mae yn ofnadwy meddwl am dano!"

"Ydyw, y mae; ac y mae yn destun newydd i mi i ddiolch am i chwi gael eich cadw rhag yr un dynged. Po mwyaf y daw un yn gydnabyddus â dynion ac a dull y byd, mwyaf o brofion a geir o ddrygedd meddwdod.

"Gwir. A thra bo nerth yn fy ngewynau, llais yn fy ngwddf—tra bo ymenydd yn fy mhen—tra bo anadl yn fy ngenau—mi fynaf rybuddio pobl rhag chwareu â'r fath elyn dinystriol, a'u perswadio i lwyrymwrthod—ymwrthod am byth â'r ddïod sy'n ddinystr i'r corph ac yn ddamnedigaeth i'r enaid!"

PENNOD II.

Yr ydym yn awr wedi cael cipolwg ar Llewelyn Parri a'i deulu yn y mwynhad o dangnefedd sobrwydd; cartref cysurus; gwraig rinweddol, a phlant prydferth, iach a bywiog; amgylchiadau llwyddiannus; a'r cyfan yn cael eu coroni â gwenau rhagluniaeth y nef.

Ond, fel yr awgrymwyd eisoes, y mae ein harwr wedi gweled pethau gwahanol. Gŵyr beth yw bod yn feddwyn; teimlodd ganlyniadau meddwdod yn ei holl amrywiaeth a'i erchylldod; bu'n gaeth yn ei gadwynau uffernol am flynoedd lawer; ac er ceisio lawer gwaith, yn oes cymedroldeb, bod yn well dyn, waeth-waeth yr oedd yn myned yn barhaus, nes o'r braidd y bu iddo syrthio yn ysglyfaeth bythol i grafangau'r gelyn. Ond pan wedi myned i'r i'r eithafion hwnw, fe ddaeth DIRWEST i'r ardal lle yr ydoedd yn byw; ac ar ol llawer o gloffi rhwng dau feddwl, fe ddaeth Llewelyn Parri i weled nad oedd dim tu yma i lwyrymwrthodiad a'i cadwai ef rhag syrthio ei hun, a llusgo ei deulu i'w ganlyn, i warth, gwaradwydd, a thrueni tragwyddol. Felly fe ardystiodd lwyrymwrthodiad oddiwrth bob math o ddïodydd meddwol. Ond rhaid i ni yn awr erfyn ar y darllenydd ddyfod gyda ni i gyfnod o hanner can'mlwydd yn ol, pan oedd Llewelyn Parri yn fachgenyn tlws, gwridog, swynol, a gobeithiol, a'i ddilyn trwy ei yrfa ddyddorol, a thaflu adolygiad ar ei gysylltiadau boreuol.

Ganwyd a magwyd Llewelyn Parri mewn tref flodeuog yn Ngogledd Cymru, ar lan afon brydferth, yn nghanol hyfrydion a rhyfeddodau prydferthaf anian garedig. Yr oedd o deulu parchus a dylanwadol. Dyn oedd ei dad ag a welodd "lawer tro ar fyd;" ond trwy dalent gref, addysg well nag oedd gan y cyffredin o'i gyfoedion, diwydrwydd difefl, ac iechyd da am flynyddoedd, efe a ddaeth o sefyllfa isel gwasanaeth, i afael cyfoeth mawr; a bu yn cael ei ystyried y marsiandwr cyfoethocaf a mwyaf llwyddiannus yn M———, am lawer o flynyddoedd.

Rhaid i'r darllenydd gofio hefyd nad oedd dim gair o son am y fath beth a llwyrymwrthodiad yr adeg hwnw. Y rhinwedd penaf ar ddyn oedd bod yn gymedrol; a dyn cymedrol oedd Mr. Meredydd Parri, tad ein harwr.

Yr oedd ei sefyllfa yn y byd yn ei osod dan anghenrheidrwydd i ffurfio llawer o gyfeillachau, a hyny gyda'r dosbarth uchaf yn gystal a'r canol a'r iselradd. Byddai ei dŷ hardd, yr hwn a safai yn un o brif heolydd B———, yn fynych iawn yn cael ei lenwi â gwahoddedigion, i dreulio prydnawnau mewn llawenydd.

Cwbyn o hogyn pert oedd Llewelyn pan ddaethom ni gyntaf i'w adnabod. Un o'r pethau cyntaf yr ydym yn gofio am dano yw, ddarfod iddo feddwi un noson, pan yn chwech oed, trwy iddo fedru gweithio 'i ffordd i'r ystafell lle yr oedd ei dad ac eraill wedi bod yn cydswpera, ac yn yfed yn dra helaeth. Noson lawen oedd hono yn ystafell Meredydd Parri, ac nid bychan y canmoliaeth a roddai'r gwahoddedigion i'r seigiau a barotowyd ar eu cyfer, yn enwedig y gwin, a'r gwirodydd eraill a huliai'r bwrdd ar ol swper. "Wyddoch chwi beth, Mr. Parri—mae genych win campus," meddai un.

"Oes—y mae'n ddigon a gwneyd i'r hen dduwiau Bacchus a Jupiter fyn'd ar eu sbri, a dawnsio ar eu sodlau, dai ddim ond wrth ei arogli, chwaithach ei yfed," meddai un arall.

"Foneddigion," ebe'r trydydd, "yr wyf yn cynnyg iechyd da ein gwestywr caredig heno—oes hir iddo i ymenwogi yn mysg marsiandwyr penaf y byd, a gwneyd ei hun yn enwog a defnyddiol fel amddiffynwr iawnderau politicaidd y wlad. Boed i'w frodyr marsiandol edrych arno fel ar eu tywysog; boed i'w anturiaethau esgor ar lwyddiant diffael; a phan fo'n tybied yn oreu ymneillduo o dwrf masnach, boed i'r gweddill o'i oes gael ei dreulio mewn mwyniant, llawenydd, a dedwyddwch. Boed i'w blant dyfu yn deilwng o hono ef, a dal i fyny urddas ei enw 'tra môr tra Brython,' iechyd da a hir oes i Mr. Parri!"

Pa mor ragorol bynag oedd teimladau cyffredinol Mr. Parri, a pha mor dreiddgraff bynag oedd ei farn a'i reswm ar bynciau eraill, yr oedd bob amser yn dueddol i ddangos gwendid nid bychan pan yn derbyn canmoliaeth a chlod. Ac yr oedd y brwdfrydedd â pha un y cynnygiwyd, y derbyniwyd, ac yr yfwyd ei iechyd da, yn ddigon i wneyd pob teimlad urddasog, balch, a chwyddedig, gyfodi i'w fynwes. Teimlai ei hun y dyn dedwyddaf yn y byd. Cyfododd i gydnabod y cibli mewn araeth fer, gan gyfeirio'n frysiog at ei fuchedd flaenorol—ei lwyddiant, ei gysylltiadau parchus ac yn benaf, at ei egwyddorion politicaidd, gan mai ar adeg derfysglyd yn y wladwriaeth y cyfarfuasant yn nghyd, ac i gydymgynghori pa fodd i gael rhyw gyfaill i fod yn aelod seneddol dros y sir, yn gystal ag i ddangos eu dymuniadau am lwyddiant i Mr. Parri mewn anturiaeth fasnachol bwysig ag yr oedd ar fedr ei gwneyd.

Yn nerth ei ddïod, galwodd Mr. Parri am Llewelyn bach i'r ystafell, er mwyn dangos i'r cwmpeini'r fath fachgen bywiog a chall oedd ganddo. Ac er mwyn rhoddi prawf ar ei alluoedd ymadroddol a'i ffraethineb, cytunasant i'w osod i gynnyg un llwnc-destun, sef coffadwriaeth yr hen Sant Cymreig—Dewi Sant. Wedi dyfod o'r bachgen i'r ystafell, dywedodd ei dad wrtho:

"Hwda, Llewelyn, dyma i ti lasiad o win; yr ydym yn awr yn myn'd i yfed i goffadwriaeth yr hen Ddewi Sant. Ti gei yr anrhydedd o gynnyg y toast."

Neidiodd y bachgen chwe'mlwydd oed yn mlaen, a chydiodd afael yn y gwydr fel llanc. Daliodd o yn ei law, yn union fel y sylwodd ar ei dad yn gwneyd, a dywedodd mewn llais clir, ' "I goffadwriaeth Dewi Sant—Cymro o waed coch cyfan—dyn a wnaeth gymaint o glod i Gymru a dyn a gaiff glod am byth gan y Cymru!"

"Bravo!" llefai'r holl gwmpeini, tra y pelydrai brwdfrydedd, teilwng o oed addfetach, allan o lygaid dysglaer yr hogyn, yr hwn oedd fel hyn wedi dysgu geiriau ei dad. Cododd yr holl gwmpeini ar eu traed, ac yfasant y cibli mewn dystawrwydd pwysig a chysegredig, fel y tybient y gweddai i goffadwriaeth Sant y Cymry.

Bychan feddyliodd neb o'r cwmni llawen mai y foment y cyfododd yr hogyn y gwydriad gwenwynig at ei wefusau, fod diferyn o felldith wedi disgyn i'r ddïod o gwpan llid cyfiawnder y nef: ac fod Mr. Parri a'i dylwyth, o'r foment hono, wedi ei nodi â nod o anfoddlonrwydd ac anghysur ag y byddai raid iddo ef fyned i'r beddrod dan ei bwysau, ac y byddai i ddegau o flynyddoedd fyned heibio heb i'r felldith gael ei symud oddiwrth ei deulu. Ond fe genfydd y darllenydd mai felly fu.

Pan darawodd yr awrlais unarddeg o'r gloch, fe ymadawodd yr holl gwmpeini o dŷ Mr. Parri, wedi cael eu mawr foddloni yn y croesaw a gawsant, a'r dynion, o leiaf (canys yr oedd yno fenywod hefyd), yn teimlo'u hunain yn dra llawen, os nad yn tybied eu hunain yn rhywbethau uwchlaw bodau dynol, dan effeithiau'r gwirodydd diail a gedwid yn selerydd Mr. Parri, o ba rai yr yfasant yn o helaeth.

Yr oedd gan Mr. a Mrs. Parri ychwaneg nag un dyben mewn golwg wrth roddi parti'r noson hon. Heblaw y rhoddai gyfle iddo ef i gydymgynghori ar faterion gwleidyddol a masnachol o bwys, yr oedd hefyd yn awyddus am gael math o noswaith lawen cyn ei fynediad i New York, i ba fan yr oedd i gychwyn bore dranoeth, ar ryw neges bwysig mewn cysylltiad a'i fasnach helaeth.

Yn awr, yr oedd y y gŵr a'r wraig wedi eu gadael iddynt eu hunain, i siarad am y fordaith faith, ac i arllwys geiriau cariad y naill i enaid y llall.

Dynes gariadus i'r pen oedd Mrs. Parri; a dyn tyner, hoff anghyffredin o'i brïod, oedd yntau. Gwelai hi ef yn fwy felly heno nag erioed braidd. Heblaw ei bod ar fedr ei golli am chwe' mis—ai tybed am fwy?—yr oedd rhywbeth yn fwy bywiog yn ei lygaid—gwrid mwy yn ei fochau—a ffraethineb mwy nag arferol yn dod allan o'i enau. Pa beth oedd yr achos? Ah! druan o Gwen Parri, yr oedd hi yn rhy ddiniwed i feddwl fod y gwin a'r brandi wedi cael cymaint o effaith arno: nid oedd dysgleirdeb swynol ei lygaid—pelydr bywiog ei wên—swyn anarferol ei dymher—bywiogrwydd digyffelyb ei arabedd—nid oedd y cyfan ond effaith fflam benthyg—brydferth, ond llosgadwy—fflam o'r tân yn y cwpan a'r gwirod. Ni aflonyddai drwgdybiaeth am hyny ddim hyd yn hyn ar ddedwyddwch, ac ni thaflai yr un cysgod ar ael dyner y wraig ddifeddwldrwg yr hon a edrychai ar ei gŵr gyda golygon angelaidd.

Pan oedd y ddau'n cofleidio'u gilydd yn ngwres eu cariad, disgynai llef uchel ar eu clustiau, yn cael ei dilyn gan ysgrech oddiwrth un o'i morwynion. Rhedodd Mrs. Parri o'r ystafell i edrych beth oedd y mater, pan, er ei dychryn, y gwelai Llewelyn bach ar ei hyd ar y llawr, wedi syrthio, yn ol pob ymddangosiad, mewn ffit. Ni fu ond ychydig fodfeddi rhyngddo a syrthio ar ei wyneb i'r grât. Cyfodwyd ef i fyny'n ebrwydd gan ei fam ddychrynedig. Rhoddodd honno ysgrech dros y tŷ wrth edrych ar ei wyneb wedi troi mor welw, a'i lygaid fel wedi sefyll yn ei ben. Tybiodd yn sicr ei fod yn myned i farw. Ond yn mhen ychydig funudau, fe gafwyd allan fod yr hogyn wedi ysgubo'n ddirgelaidd i'r ystafell giniaw ar ol i'r cwmpeini ymadael o honi, ac wedi helpu ei hun o'r brandi a adawyd, nes meddwi am y tro cyntaf erioed. Pan ddeallodd ei dad hyny, nis gallai beidio chwerthin, a dywedai gyda gwên foddgar:

"Y mae'r lluman bach wedi bod yn yfed iechyd da i mi ar ei ben ei hun, welwch chwi, Gwen. Y rôg bychan! Ond nis gwyddai'n amgen; ac felly rhaid pasio heibio am y tro."

Ah! gwyn fyd na cheid byth achlysur i "basio heibio" ond hyny!

Pa fodd bynag y teimlai'r tad wrth weled ei blentyn hynaf wedi meddwi, yr oedd yn amlwg fod y fam wedi ei harcholli'n ddwys; a phrysurodd i roddi'r troseddwr ieuanc yn ei wely. Gwyliodd uwch ei ben nes iddo gysgu; a daeth llawer pang i'w chalon wrth ganfod ei wynebpryd hyd y llwyd a'i wefusau gwelwon. Cysgodd yr hogyn yn drwm hyd y bore, ac ni ddeffrôdd i weled ei dad yn myned i ffwrdd. Pan agorodd ei lygaid o'r diwedd, yr oedd ei fam yn eistedd wrth erchwyn ei wely, yn wylo'n ddystaw bach. Yr oedd y plentyn yn bur sal erbyn hyn. Profodd llawenydd y noson gynt yn ormod i'w gyfansoddiad ieuanc ei ddal heb dderbyn niwed nid bychan. Hyn, yn nghyd a'r ymwybyddiaeth fod ei hanwyl wr wedi myned o'i gafael am fisoedd meithion, i wlad bell, ac i wyneb peryglon themtasiynau newyddion, a wnaeth i galon Gwen Parri fod yn drom y boreu hwnw.

Ond i basio'r amser heibio'n ddifyr a defnyddiol, hi a benderfynodd gysegru rhan helaeth o hono i addysgu Llewelyn yn elfenau cyntaf gwybodaeth, fel ag i synu ei dad ar ei ddychweliad gartref; a phenderfynodd hefyd ddefnyddio peth o'i hamser at barotoi dillad man-wnïadwaith a'i llaw ei hun, i'w wisgo mewn anrhydedd i ddychweliad y rhïant hoff.

Oddiwrth y myfyrion hyn, rhedai ei meddwl yn mhellach fyth i'r dyfodiant tywyll ac annhreiddiol. Tynai ddarlun tlws yn ei meddwl o Lewelyn bach wedi tyfu'n llanc glandeg, pan fyddai wedi gadael heibio ei siaced fraith hogynaidd, a'i gap pluog, a dyfod yn ddyn hardd fel ei dad, ac, fel yntau, yn ennill parch pob gradd a sefyllfa.

Oh, mor brydferth y medr mam dynu darlun o'r fath hyn! Pe cai haner ei rhagobeithion hi am ei phlentyn eu sylweddoli, efe a fyddai'n anrhydedd i Dduw a dyn. Ond, Och! mor fynych y mae mamau yn syrthio i'r bedd mewn siomiant! Wedi treulio blynyddoedd yn gwneyd ei goreu i ddwyn ei bachgen i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac arllwys i'w feddwl syniadau rhinweddol, tyner, a charuaidd, dichon y bydd i'r temtiwr mewn un noson ddadwneyd ymdrechion blynyddoedd, a thynu gwrthddrych serch a gofal y fam i sefyllfa ddiraddiol meddwyn.

Pa fodd bynag, yr oedd yn dda i Mrs. Parri gael rhywbeth i loni ei chalon a chadw i fyny ei hysbrydoedd yn yr amgylchiad yma, pan oedd ymadawiad ei gŵr a selni ei bachgen megys yn cytuno i'w thynu i lawr. Ac wrth feddwl am ei gynydd dyfodol, hi a wenai trwy ei dagrau; ac fe ddeffrôdd Llewelyn i dderbyn cusan llawn melusder thynerwch mamaidd.

Gyda gofal nid bychan, a golafur cyson yn yr awyr agored, fe ddaeth Llewelyn dros effeithiau ei sbri toc. Ail ddechreuodd chwareu o gwmpas y tŷ mor chwim ag eilon ieuanc. Ac nid bychan y pleser a gaffai Mrs. Parri wrth ei gymeryd yn y boreuau i ben y bryn o'r tu ol i'r dref, neu hyd lan yr afon i'r ochr arall, a sylwi ar ei wyneb llon, ei wefus goch, ei lygad bywiog, a'i dymher addfwyn, bob dydd yn dyfod i fwy o berffeithrwydd.

Nid ydym hyd yn hyn wedi son gair am Gwen bach, chwaer Llewelyn. Genethig anwyl oedd hi, ieuangach na'i brawd o dair blwydd. Ni welsom erioed ddernyn perffeithiach nag ydoedd, yn mhob dull a modd, os nad oedd braidd yn rhy eiddil. Arferai pawb ddyweyd wrth syllu ar ddwysder ei gwedd, ceinder ei pherson, tynerwch ei hymarweddiad, mwynder ei llais, na fyddai byw'n hir—nad oedd bosibl i un o'i bath drigo llawer o flynyddoedd yn awyrgylch lygredig yr hen ddaear yma.

Ond, fe genfydd y darllenydd, wrth fyned yn mlaen, fod bwriad y nef, gyda golwg ar Gwen bach yn wahanol i ragddaroganau dynion a merched yr ardal. A chan fod rhagluniaeth wedi trefnu ar fod i fywyd Gwen feddu'r fath ddylanwad ar yr eiddo ei brawd, fe'n hesgusodir am gyfeirio at y lodes brydweddol yn y fan yma.

PENNOD III.

DIWRNOD llawen yn mhorthladd B——— oedd y diwrnod y cychwynodd Meredydd Parri am New York. Yr oedd ganddo o driugain i bedwar-ugain o seiri llongau, nifer o lafurwyr cyffredin, ysgrifyddion, &c., yn ei wasanaethu yn y fan hono; ac er mwyn cadw argraph tangnefeddus, garuaidd, a'u symbylu i fod yn ffyddlon iddo yn ystod ei absenoldeb, a'i groesawu'n fwy ar ei ddychweliad drachefn, penderfynodd Mr. Parri roddi diwrnod o ŵyl iddynt oll, a'u cyflenwi â digonedd o fwyd a diod, a phob darpariaeth i'w gwneyd yn llawen a hapus.

Cofied y darllenydd fod cymeryd mordaith i New York yn amgylchiad a greai lawer mwy o ddyddordeb yn y dyddiau hyny nag a wna yn awr. A thyna y rheswm paham yr oedd y fath dwrf yn nghylch ymadawiad Mr. Parri am chwe' mis.

Y canlyniad o roddi y diwrnod gŵyl yma oedd, i amryw o'r gweithwyr dori dros derfynau sobrwydd, a meddwi. Yr oedd y cwrw i'w gael gyda'r fath helaethrwydd, fel ag i drachwant y mwyaf awchus gael ei dori; ac fe yfwyd y fath nifer o lwncdestunau yn y ciniaw, fel ag i wneyd rhai a arferent fod fwyaf sobr bob amser yn "feddw fawr."

Ond aeth hyny drosodd fel pob peth arall, a thybiwyd fod pob adgof o hono wedi ei gladdu cyn pen y pymthegnos. Ond un boregwaith teg, pan oedd Mrs. Parri newydd ddychwelyd o'i rhodianfa ger glan yr afon, a'i hysbryd a'i chorph wedi eu hadnewyddu'n fawr gan swyn y golygfeydd o'i hamgylch; a phan oedd yn myned i dynu ei shawl oddiam ei hysgwyddau, daeth y forwyn ati, a dywedai fod rhyw ddynes yn y gegin yn dymuno siarad â hi. Dywedodd Mrs. Parri y deuai ati cyn bo hir, ac am iddi aros nes y byddai iddi newid ei gwisg.

"Ond, meistres," ebe'r enethig, "y mae hi'n deud na rosiff hi ddim munud hwy, ac y rhaid iddi hi gael eich gweled chi'r munud yma."

"Wel, wel, os felly mae pethau'n bod," atebai'r feistres, "gwell iddi gael ei boddloni, pwy bynag yw hi." Ac i lawr â hi at y ddynes.

Wedi myned i'r gegin, canfyddodd mai gwraig i un o'r seiri llongau oedd yno yn ei dysgwyl, yr hon oedd wedi bod mewn amseroedd a aethant heibio'n dlawd iawn, mewn canlyniad i feddwdod Sion William, ei gŵr; a'r hon a waredwyd lawer gwaith trwy garedigrwydd Mrs. Parri, rhag marw o newyn. Dyn cryf, tyner, a diwyd oedd Sion William pan yn sobr; ond pan oedd yn feddw nid oedd ymhel âg ef. Bu am flynyddoedd yn dywysog ar feddwon yr ardal; ond yr oedd, er's ychydig fisoedd, wedi troi'n ddyn cymedrol; a'r canlyniad fu, i raddau o dawelwch, tangnefedd, a llwyddiant, ail-wenu ar ei dŷ a'i dylwyth.

Pan ddaeth Mrs. Parri at Mari Williams, fe'i brawychwyd wrth weled y fath olwg anynad, gwgus, ac anfoddog ar ei hen gyfeilles, yr hon oedd wedi derbyn cymaint o garedigrwydd oddiar ei llaw.

"Beth ydyw hyn Mari Fach?" gofynai. "Yr ydych yn edrych fel pe baech mewn trwbwl mawr am rywbeth."

Prin y gellid dychymygu fel y tremiai Mari Williams ar ei holyddes, gyda'r fath olygon ffyrnig, nes braidd y gallesid ei chamgymeryd am arthes wedi colli ei chenawon.

"Trwbwl!" meddai; "a da y gellwch ei alw'n drwbwl!" Ydyw Sion wedi troi i yfed eto?"

"Ydyw'n waeth nag erioed!"

"Ow! ow!—gresyn calon!"

"Gresyn! Ië-yr wyf fi a fy mhlant bach yn sicr o gael teimlo hyny i'r byw bellach. Ond fe gaiff rhywun arall deimlo hefyd, marciwch chwi!"

"Yr ydych mewn cyffro mawr; treiwch feddiannu tipyn arnoch eich hun, Mari," meddai Mrs. Parri.

"Cynghor braf i un yn fy sefyllfa fi! Wyddoch chwi mo hanner yr hyn a wni; ond mi gewch wybod yn ddigon buan, mi w'ranta! Bydd yn ddrwg genych glywed pwy a archollodd fy enaid i trwy achosi i Sion fyn'd yn feddwyn yn ei ol!"

"A fu gan rywun law yn ei ddenu i feddwi'r tro yma ?" gofynai Mrs. Parri'n dyner.

"Do! ac y mae Duw'n rhwym o dalu'n ol iddynt yn nydd y farn. Ai tybed y caiff peth fel hyn fyn'd heibio'n ddisylw gan Farnwr yr holl ddaear? Os caiff, y mae yr holl drafferth a gymerwyd i fy nysgu fi yn yr Ysgol Sul yn nghylch cyfiawnder y nef, wedi myn'd yn ofer. Gŵr byneddig, braf, wir! Ah! Mrs. Parri, y mae fy holl annedwyddwch i—holl drallod fy nheulu—holl weithredoedd fy ngwr meddw—yn awr yn gorwedd wrth ddrws eich gŵr chwi. Y fo fu'r achos i Sion golli ei draed y tro yma; ac y fo raid ateb am hyny hefyd.!"

"Hust, Mari Williams!" gorchymynai Mrs. Parri; "raid i chwi beidio siarad fel yna yn fy ngwyneb ac yn fy nhŷ fy hun."

"Ha! ai ê?—ond mi fynaf siarad, ma'm, o ran mi ddaethum i yma i dd'weyd y gwir noeth lymun, pwy bynag a archollir trwy hyny."

"Pa beth a wnaethum i tuag at haeddu cael fy archolli?" "Y chwi, Mrs. Parri! yr ydych chwi'n angyles o wraig, yr oreu yn yr holl ardaloedd; ac wedi bod lawer gwaith cyn hyn yn foddion i achub fy mywyd i a fy mhlant bychain; ïe, yr ydych yn rhy dda iddo fo. Ond am Mr. Parri, y mae———"

"'Rhoswch,'rhoswch, Mari," meddai Mrs. Parri drachefn; "Pa beth bynag yw fy ngŵr, y mae e'n anwyl genyf fi, ae nis gallaf oddef gwrando ar neb yn ei iselhau fel hyn."

"Pa fodd bynag am hyny," atebai Mari, " y mae'n rhaid i chwi wrando'r tro yma. Os yw e'n anwyl genych, nid yw ond yr hyn oedd Sion genyf inau bob amser tra yn sobr. Nid oes dim caredicach dyn nag ef ar ddau droed, pan na fydd dan effaith cwrw a licar; ac ni fu yr un dafn y tufewn i'w enau er's llawer o fisoedd, hyd nes y rhoddwyd gŵyl i'ch holl bobol chwi, pan gychwynodd Mr. Parri i ffordd; a rhag dangos ei hun yn llai awyddus na'r gweithwyr eraill i yfed iechyd da i'w feistr a'i holl deulu, gyda'r cwrw a roddwyd iddynt gan Mr. Parri ei hun, efe a feddwodd; a meddw yw byth er hyny. Gwyddoch o'r goreu ei fod yn arfer ennill ei driswllt y dydd; a galluogodd y cyflog hwnw, trwy gynildeb a sobrwydd, ni i wneyd ein hunain yn o hapus a thaclus. Dechreuad bywyd newydd oedd hyn i mi, a theimlwn fy hun, gyda gŵr sobr, a phlant iach a glanweth o fy nghwmpas, y ddynes ddedwyddaf yn y wlad. Ond 'rwan! O, y mae fy nghalon braidd a thori wrth feddwl! Y mae Sion heb wneyd diwrnod o waith byth er yr adeg felldigedig honno; ac y mae'n feddw bob dydd a nos. Yr ychydig arian oeddym wedi gadw ar gyfer y rhent, y maent wedi eu gwario bob ffyrling—y mae'r plant bron ll'wgu ac y mae yntau yn feddw!"

Canfyddid yn amlwg fod araeth Mari Williams wedi cael effaith dwys ar feddwl Mrs. Parri. Ond nis gallasai ddyweyd yr un gair, er fod ei chalon yn cyd-dystiolaethu â Mari Williams, fod gan Mr. Parri law yn llithriad Sion Williams i'w hen arferion o feddwdod; ac yr oedd y wraig fwyn yn ddigon parod i ollwng dagrau o herwydd hyny. Nis gallai wneyd dim ond cadw 'i llygaid yn sefydlog ar gareg yr aelwyd.

Trôdd gwraig y meddwyn at wraig y marsiandwr unwaith drachefn, gyda gwyneb ag y gallesid tybied iddo fod yn brydferth iawn unwaith, ond yr hwn a edrychai yn awr gyn oered, hagred, a chaleted a chareg gallestr.

"Y mae'r gwaetha' heb ei ddyweyd eto, Mrs. Parri," meddai, mewn llais haner taglyd, "Y mae Ann bach wedi marw!"

"Dear me! Ann bach! beth oedd arni hi?" "Oh, dim byd rhyfedd: bu farw o herwydd i ryw ŵr mawr fod yn achos i'w thad feddwi!"

"Ai rhyw angel drwg wedi ei hanfon yma i fy mhoeni ydyw'r ddynes yma?" murmurai Gwen Parri wrthi ei hun. "Gŵyr pawb mai diafl o ddyn ydyw Sion pan yn feddw," ychwanegai'r ddynes, "er ei fod mor dawel ag oen pan yn sobr. Yr oedd yn rhaid iddo gael ychwaneg a 'chwaneg o ddïod, nes meddwi waeth-waeth—dechreuodd fyn'd yn greulon ataf fi a'r plant; ac am i mi geisio ei rwystro i niweidio'r eneth bach, cipiodd afael ynddi o fy llaw, ysgytiodd hi yn ffyrnig, fel pe buasai tiger yn ysgytio oenig—tarawodd hi yn erbyn y gadair, ac aeth allan dan regi! Wydda fo ddim nad oedd hi'n gorph marw ar y lle; a phan gyfodais hi i fyny, mi dybiais inau ei bod. Ond fe gefais ar ddeall toc nad oedd hi wedi ei lladd, o herwydd hi a ddechreuodd ruddfan yn druenus; a phob tro y gwnawn ei symud, rhoddai'r fath ysgrech ag a waedai fy nghalon—rhaid fod rhai o'i hesgyrn wedi eu tori. Gorweddai yn fy mreichiau'r noson hono, a thrwy'r dydd dranoeth; a neithiwr bu farw!"

Yr oedd yn syn gweled y fam drallodedig yn meddiannu ei hun cystal wrth fyned dros y rhan ddiweddaf o'i hanes. Edrychai mor ddiysgog a delw o farmor. Tybed nad oedd hi yn teimlo dim! Ah! mwy tebyg yw ei bod yn teimlo gormod. Y mae ambell i drallod yn lladd pob ymddangosiad o deimlad; ond bydd, yr amser hono, yr ysbryd yn cael ei gnoi gan boen.

Nid felly yn union yr oedd Mrs. Parri. Hi a daflodd ei hun i'w chadair mewn math o lewyg ysgafn, a'r dagrau mawrion yn treiglo i lawr hyd ei gruddiau prydferth ond gwelwon. Gwelodd Mari Williams hyny, a dywedodd,—

"Raid i chwi ddim gollwng dagrau beth bynag; nid wyf fi wedi gwneyd hyny eto. Wylais i yr un defnyn mwy na chraig. Ond fe fu rhyw feddyliau erchyll yn gwau trwy fy ymenydd. Fel yr eisteddwn am oriau meithion ar yr aelwyd ddidân, gan ddal fy mabi ar fy nglin, ac edrych ar ei gwyneb gwyn, gyda chylchau duon o gwmpas ei llygaid cauedig, a gwrando ar ei gruddfanau, bum yn meddwl am eich mab a'ch merch chwi, a bu braidd i mi eu melldithio a'u rhegu o herwydd bai eu tad!"

Buasai yn annichonadwy iddi daro ar dant mwy annedwydd a dinystriol i heddwch meddwl Mrs. Parri, druan. Cyrhaeddodd yr awgrymiad hyd adref.

"Oh! Mari Williams, peidiwch siarad fel yna!" meddai, gan ddal ei dwylaw i fyny, fel pe mewn gweddi, tra y treiddiai ias oer trwy ei henaid wrth feddwl am ei bachgen a'i geneth hi gyda haner melldith ar eu penau diniwed. "Na, ni fedr neb ddymuno drwg iddynt hwy!" dywedai yn isel.

"Na fedr, neb, er mwyn eu mam!" meddai'r ddynes; " ond y mae arnaf ryw led ofn y daw'r drwg i'w cwpan, yn enwedig y bachgen, heb i neb ei ddymuno. Y mae Duw yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant. Ond os erbyd Duw eich plant chwi, ni wna hyny byth er mwyn eu tad!" Teimlai Mrs. Parri awydd am i'r ymddiddan yma ddarfod, a dywedodd,

"A gaf fi ddyfod gyda chwi adref, i edrych beth fedrwn ni wneyd i Ann bach?"

"Os ydych yn dewis, ma'm; ond ychydig iawn ellir wneyd iddi hi'rwan!"

Tarawodd Mrs. Parri ei mantell drosti, ac aeth gyda Mari Williams yn ddioed.

Aeth ias o arswyd dros ei chorph llednais pan gyrhaeddodd yr anedd ddigysur. Gwelai ddau blentyn llwydaidd geneth oedd un—yn gwargrymu ar yr aelwyd oer; gwyddai fod y cwpbwrdd yn wag; gwelai'r ffenestr yn ddarnau; a gwaeth na'r cyfan, tynid ei sylw at y corphyn bychan a orweddai ar y gwely—y plentyn llofruddiedig! Aeth ati, symudodd y gynfas a'i gorchuddiai, ac edrychodd am fynyd mewn dwysfyfyrdod ar y gwyneb bychan, tawel, yr hwn a welodd y tro o'r blaen mor dlws, rhosynaidd, a theg. Eneiniodd y corph a'i dagrau tyner.

Yr oedd yr olygfa yn ormod i deimladau'r fam. Er iddi arddangos y fath deimlad o ddialedd ychydig amser yn ol. wrth fyned dros yr hanes i Mrs. Parri, dychwelodd y teimlad tyneraf sydd yn perthyn i'r natur ddynol i'w mynwes. Rhuthrodd i'w meddwl y syniadau mwyaf calonrwygol am y tad truenus—yr eneth anwyl a ryddhawyd oddiwrth boenau byd ag oedd yn rhy ddigysur iddi hi i fyw ynddo—yr eisiau a wgai arni hi a'r gweddill o'r plant —a'r anghysur oedd i'w ddysgwyl iddi oddiwrth feddwdod ei gŵr—rhuthrodd yr holl bethau hyn dros ei henaid fel llifeiriant ysgubawl, a chan benlinio i lawr wrth erchwyn y gwely, hi a wylai yn uchel. Da oedd iddi gael gollwng allan ei gofid yn y ffordd hono, rhag ofn y buasai, wrth gael ei gau'n gaeth yn ei bron, yn gwneyd rhyw hafog angeuol iddi. Ymddygai yn awr yn union fel mam; toddodd yr wylo ei gofid iaog i ddull naturiol o ddangos tristwch; taflodd ei hun ar y gwely dan grio; cusanodd ddwylaw oerion ei geneth anwyl, gan gyffhwrdd weithiau a'i gwallt cyrliog, a galw arni mewn acenion torcalonus, gan ddywedyd,

"Ann! Ann! Ann!—fy anwyl Ann!"

Da iawn oedd gan Mrs. Parri ei gweled yn wylo felly; oblegid ofnodd unwaith fod ei synwyrau'n dechreu myned yn ebyrth i'w gofid. A thra'r oedd y fam yn gollwng allan deimladau dyfnaf ei henaid yn y dull hwnw, uwchben ei phlentyn hoff; aeth y wraig foneddig fwyn o gwmpas dyledswyddau anhebgorol anghenrheidiol dan y cyfryw amgylchiadau, megys gorchymyn defnydd tân, bwyd, arch, galarwisgoedd, &c., &c. Wedi dychwelyd o gyflawni'r dyledswyddau hyn, llwyddodd i gael gan y fam drallodedig anghofio cymaint ar ei phoen fel ag i gymeryd cwpanaid o dê da, a sirioli ei hun trwy olchi ei phen a'i gwyneb mewn dwfr oer.

Gosodwyd yr angyles fechan yn ei harch, wedi ei hamdoi yn ddestlus a syml: rhoddwyd pwysi o flodau prydferth yn ei llaw. Dywedwyd wrth y plant eraill am ei chusanu am y tro diweddaf cyn cau cauad yr arch; ac yn ddystaw a diseremoni, aed a'r corphyn i'r fynwent gerllaw.

Yn awr, y mae blodau'n hulio'r beddrod bob gwanwyn; a chaiff gwrlid o eira gwyn, pur o'r nefoedd bob gauaf; tra nad ŵyr Ann bach mwyach am na cham na chur.

Cafwyd gwaith mawr cyfodi'r fam oddiar fedd bychan ei geneth. Yr oedd yn hwyr erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ. Wedi eistedd o honynt am tuag awr ar ol eu dychweliad o'r cynhebrwng, daeth Sion William i'r tŷ. Nid oedd yn feddw yn awr, ond ysgydwai i gyd drosto fel deilen Hydref, dan effaith y "sbri" a gafodd. Yr unig achos nad oedd yn feddw yn awr oedd, ei fod heb arian i dalu am ddïod; ac nid gwragedd tai tafarnau yw y rhai a roddant eu heiddo i neb heb obaith da cael tâl cyflawn yn ol.

Nid oedd Sion Williams wedi tywyllu gorddrws ei dŷ byth ar ol y noson yr anfonodd ei ferch fechan i dragywyddoldeb mewn mynyd o gynddaredd. Nis gallasai ei wraig edrych ar ei wyneb hagr a'i gorph crynedig; ac nid oedd neb yn foddlon na pharod i dori ar y dystawrwydd pruddglwyfaidd a achosodd ei bresenoldeb yn y tŷ. Ond o'r diwedd, efe a daflodd ei lygaid o'r naill gongl i'r llall, a gofynodd,—

"Lle mae Ann?"

Tebyg mai dyna'r peth oedd yn pwyso fwyaf ar ei feddwl. Pwy a ŵyr nad oedd rhyw fath o adgof am ei greulondeb yn ymwibio trwy ei fyfyrdodau yn nghanol ei ddïod? ac yn awr, tra yn sobr, yn pwyso ar ei galon fel plwm? Ond pa fodd bynag yr ymdeimlai, yr oedd yr holl wirionedd yn awr ar gael ei ddadlenu, er ei wae.

"P'le mae Ann bach?" gofynai drachefn.

"Mae hi wedi marw!" meddai ei wraig; "ac wedi ei chladdu hefyd!"

"Beth, beth?—wedi marw!—Ann wedi marw!" meddai, mewn tôn haner gwallgof.

"Ië, Sion William, wedi marw! Acy mae llaw greulon rhyw ddyn i fod yn atebol am ei hyspeilio o'i bywyd pan yn ddwyflwydd oed. Dichon nad yw'n werth genyt gofio dy ymddygiad ati'r noson o'r blaen. Pa fodd bynag, dyna i ti yr unig gysur a fedraf fi roddi, sef ei bod wedi marw—marw trwy greulondeb ei thad meddw—ti yw ei llofrudd!"

"Dduw mawr!" llefai'r dyn anffodus; "Beth yw hyn yr wyf yn ei glywed? Fy llaw i fy hun wedi anfon fy ngeneth bach i'r byd arall, i fod yn dyst gerbron gorseddfainc barn Duw o fy nghreulondeb i! A yw hi wedi myn'd i'r nefoedd i ddwyn ar gof i Dduw fy mhechod? Na! nid fi a'i lladdodd hi—Ann bach!—fy ngeneth ieuangaf!—fy anwyl Ann! Pwy feiddia ddyweyd mai y fi a'i lladdodd ?"

Syrthiodd ar y fainc, gan grynu i gyd drosto.

Yn awr, yr oedd yn rhywyr i ofnau eraill gael lle ar ei feddwl. Y mae cyfiawnder i ymweled â llofruddion heblaw cyfiawnder y nef; a digon naturiol fuasai i Sion Williams ddechreu ofni cyfraith y tir erbyn hyn.

"Oes rhywun yn gwybod am hyn?" gofynai yn bryderus. "A achwynodd rhywun arnaf?"

Da iawn iddo oedd fod Mrs. Parri yn y tŷ'r pryd hwnw, yr hon a'i hatebodd, gan ddywedyd,

"Na, nid oes neb yn gwybod am y peth heblaw ni ein hunain. Yn awr, y mae genyf ammod i'w chynyg. Os gwnewch chwi addaw yn awr bod yn well dyn rhagllaw, a byw'n fwy cymedrol gyda'ch gwraig a'r gweddill o'r plant, minau a addawaf gadw'ch gweithred yn ddirgelwch. Ond y fynyd y torwch chwi eich addewid, caiff cyfiawnder cyfraith Lloegr afael ynoch. A ydych chwi yn foddlon i ymrwymo i beidio meddwi byth eto!"

"Ydwyf," meddai Sion gyda braw.

"O'r goreu; boed i hon fod yn wers ofnadwy i chwi, Sion Williams; bob tro y daw'r gelyn i gynyg eich temtio, cofiwch beth y mae eich meddwdod wedi ei gostio i chwi bywyd un o'ch plant! Yn awr, yr wyf yn eich gadael chwi a'ch gwraig i ymheddychu â'ch gilydd, fel y barnoch oreu, gan weddio ar Dduw, am iddo yn ei drugaredd, faddeu i chwi eich troseddau."

Aeth Mrs. Parri gartref. Yr oedd Llewelyn bach yn dysgwyl am ei fam, a chroesawodd hi gyda chant o gusanau cynhesion. Cymerodd Mrs. Parri damaid o swper, ahwyliodd i fyned i'w gwely yn gynar y noson hono. Ond noson bur ddigwsg a gafodd hi. Methai yn ei byw a pheidio meddwl am Llewelyn a Gwen bach, eu tad, a llawer o bethau eraill. Gwelai ei phlant, yn enwedig y bachgen, yn mhob modd yn rhai gobeithiol dros ben. Ond yr oedd y rhagolygiadau heulog a daflodd i'r dyfodiant ychydig amser yn ol, yn awr yn dechreu cyfnewid yn gas; cymylau duon a ddechreuent ymgasglu dros awyrgylch ei rhagobeithion; pruddglwyfedd a dychryn a gymerai le prydferthwch a hapusrwydd. Nid oedd dim son y pryd hwnw am ddirwest, fel yn ein dyddiau ni. Nid oedd ganddi hithau yr un syniad pa fodd i attal ei Llewelyn bach, rhag myned i afael yr hyn y bu braidd i Mari Williams, yn ei gwallgofrwydd, ei ddymuno iddo. Ac yr oedd Ysbryd Ann bach hefyd, megys yn hofran o gwmpas ei gobenydd trwy'r nos, gan lefain, mewn llais egwan, am i ryw iawn gael ei wneyd, ac ymddangos yn anfoddlon i dderbyn iawn yn y byd, oddieithr addewid ddifrifol i wneyd y goreu at gael ymwared tragywyddol o'r gelyn sy'n dwyn y fath gyflafanau i fysg dynolryw, a'r hwn a'i hyspeiliodd hi o'i bywyd yn mlagur ei hoes.

Gan benderfynu ynddi ei hun defnyddio pa foddion bynag a ganfyddai yn un effeithiol i beri diwygiad, ac atal dynolryw rhag cael eu dirywio trwy feddwdod, hi a gysgodd.

PENNOD IV.

AETH dau fis heibio heb i lythyr ddyfod oddiwrth Mr. Meredydd Parri o New York. Dau fis o bryder mawr i'w wraig; ond yr oedd derbyn llythyr oddiwrtho'n ddigon o daledigaeth yn ei bryd hi am haner oes o ddysgwyl caled; ac nis gallasai dim ond ei ddychweliad ef ei hun roddi cymaint o foddlonrwydd i'w meddwl. Cyfeiriai at ei lwyddiant yn ei anturiaeth—at y parch a delid iddo gan yr Americaniaid, a chan rai o'r Cymry a ymfudasant yno, a'r rhai oeddynt yn bur falch o weled un o deulu'r hen wlad, yn enwedig un o'u brodyr Cymreig, yn gallu hawlio'r fath ddylanwad a pharch—soniai hefyd am yr hiraeth a deimlai am ei wraig a'i blant ac am yr adeg ddedwydd yr oedd yn dysgwyl cael ailymuno â hwy, dan gronglwyd yr hen dŷ yn Nghymru.

Gwlychodd Mrs. Parri y llythyr â llawer ffrydlif o ddagrau; a'i phleser mwyaf oedd darllen ei gynwysiad i'r ddau blentyn. Llawenhai Llewelyn hefyd yn fawr wrth feddwl cael gweled ei dad eto, ac ymroddai'n fwy diwyd nag erioed i ddysgu ei wersi yn berffaith erbyn ei ddychweliad, er mwyn cael y pleser o'i synu wrth fyned trostynt.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth Llewelyn ar ol clywed llythyr ei dad yn cael ei ddarllen, oedd gofyn i'w fam chwareu tôn neu ddwy ar y piano, mewn llawenydd am y gobaith o'i weled yn dychwelyd. Nid oedd y piano ardderchog wedi cael ei hagor unwaith, byth er ymadawiad Mr. Parri; ond yn awr nid oedd Llewelyn bach yn fwy parod i ofyn nag oedd ei fam i ufuddhau i chwareu. Chwareuodd "Godiad yr Hedydd," a "Serch Hudol," yn eu holl swyn cynenid, gan redeg trwy'r holl variations ardderchog mewn ysbryd a hoen teilwng o'r hen amser gynt, pan nad oedd gofalon byd yn pwyso dim arni.


Aeth tri mis arall, cymysg o ddedwyddwch a phryder heibio. Dysgwyliai Mrs. Parri lythyr oddiwrth ei gŵr, yn yr hwn y byddai yn dyweyd pa ddiwrnod y deuai adref.

Yr oedd hi a'r ddau blentyn wedi bod yn y parlwr am haner awr, un boreu, yn chwareu rhai o'i hoff alawon ar ol cymeryd rhodianfa fer i ben y bryn. Yr oedd Mrs. Parri megys yn teimlo rhyw swyn anarferol y boreu hwnw yn swn y piano; ac yr oedd nodau naturiol yr hen alawon Cymreig yn cyfodi rhyw syniadau dyeithrol o'i mewn. Anfonodd y plant i gymeryd eu boreufwyd, ond arhosodd hi ar ol, a pharhai i chwareu. Cyfodai ysbrydion megys ar heriad y seiniau melusion—ysbrydion yr hen amser gynt pan oedd hi yn eneth ddiofal—wedi hyny yn briodferch ddedwydd—a thrachefn yn fam ofalus. Ysgubai'r hyn a fu, y sydd, ac a ddaw, o'i chwmpas mewn cylch cyfareddol. Nid oedd un math o alawon yn awr yn gyfaddas i'w theimlad heblaw rhai lleddf, cwynfanus, a sobr. Aeth ei hysbryd yn drwm; nis gwyddai paham; ond nis gallasai beidio chwareu ar y piano, a hyny yn y dull mwyaf pruddglwyfus.

Aeth i feddwl am lwyddiant ac anrhydedd ei gŵr, ac yn y meddwl hwnw hi a chwareuai alaw hyf—"Difyrwch Gwŷr Harlech," os ydym yn cofio'n iawn. Daeth i'w chof yr hyn a ddygwyddodd i Sion Williams a'i deulu, a'r arwyddion o ol dïod oedd ar ei gŵr y noson cyn cychwyn i ffwrdd, a chyfnewidiai ei thôn i'r cywair lleddf yn ei ol. Aeth i ddychymygu llu o bethau, disail efallai. Tybiodd y gallasai ei gŵr ysgrifenu ati yn amlach nag unwaith bob deufis neu dri, er ei fod mor bell; ac aeth i ofni fod ei ofal a'i gariad yn dechreu oeri. Gwyddai fod ei gwr yn un o'r rhai tyneraf wrth natur—o duedd gyfeillgar i'r eithaf; ond ofnai drachefn fod hyd yn oed y rhinweddau hyn yn demtasiynau iddo i ymhel gormod â'r gwpan feddwol. Tybiai y gallasai ei duedd gymdeithasgar, ei haelfrydedd digyffelyb, ei ddymuniad mawr am foddio eraill—y nodweddion a'i gwnaeth yn wrthddrych parch mor gyffredinol—tybiai y gallasai hyn fod yn foddion i'w niweidio mewn gwlad ddyeithr, mor lawn o demtasiynau ag ydoedd New York. Pa un a oedd rhyw sail i'r ofnau hyn ai peidio, amser byr a ddengys. Pa fodd bynag, nis gallai Gwen Parri rwystro i'w dagrau syrthio a gwlychu allweddau'r piano wrth feddwl am danynt; a dyrchafodd weddi at Dduw pob daioni yn iselder ei hysbrydoedd y boreu hwnw.

Nid oes neb ond cristion pur a all deimlo a mwynhau'r nerth y mae gweddi yn ei hyfforddio, pan fydd amgylchiadau allanol fel yn cyduno i ddarostwng yr ysbrydoedd, a llwfrhau'r enaid. Ac nid dyma'r tro cyntaf i Mrs. Parri deimlo nerth ac adfywiad wrth droi at orsedd gras mewn cyfyngder. Cafodd ei thawelu'n fawr, a theimlai fath o lawenydd dystaw yn dyfod dros ei chalon wrth feddwl fod Un a'i lygaid bob amser yn gwylied pob ysgogiad, ac yn barod i'w hamddiffyn rhag pob enbydrwydd.

Clywai lais llawen Llewelyn a Gwen bach yn chwareu yn y gegin. Ar hyn dyna rat-tat llythyr-gludydd ar drws. Llamai ei chalon lawenydd wrth feddwl fod llythyr wedi dyfod oddiwrth ei gŵr, a rhedodd i lawr ei hunan. Cyfarfyddodd y forwyn hi gyda llythyr mawr yn ei llaw. Neidiodd am dano gydag awyddfryd cariadferch gynhes-galon, ac enciliodd i'w hystafell ddirgel i ddarllen ei gynwysiad. Eisteddodd yn ei chadair gydag ochenaid o foddineb, fel pe buasai cadwen haiarn yn gollwng ei gafael o'i chalon, wrth ganfod fod y llythyr yn dwyn marc post New York.

Fel y bydd ar un ofn i fynyd o ddedwyddwch anghyffredin ysgubo'n rhy fuan o'i afael, felly hithau, am fynyd, a ddaliai y llythyr yn ei llaw—cusanai ef a thrôdd ef am y waith gyntaf i edrych ar y llawysgrifen cyn agor y zel.

Ond y fath siomedigaeth! nid llawysgrifen ei gŵr oedd hi yn y diwedd. Heblaw hyny, yr oedd y sel yn ddu. Pwy a allai yr ysgrifenydd fod? Beth a allai fod y genadwri? Ac o New York hefyd! Neidiodd y wraig o'i chadair mewn braw dysymwth.

Ah! y fath bwysigrwydd sydd yn gynnwysedig yn y llythyr yna! Wraig addfwyn, ni'th gynghorem i beidio bod ar ormod brys i'w agor, rhag ofn y bydd i ti gael gwybod rhywbeth na ddymunai dy galon. Nid oes ond y sel ddu yna rhyngot a chael ar ddeall dy fod yn weddw! A wnei di ei agor?

Ië, ei agor a wnaeth gyda llaw grynedig, darllenodd yr ychydig linellau cyntaf ynddo. Nis gallai fyned yn mhellach. Syrthiodd ar y llawr fel darn o blwm, gan roddi bloedd a ddeffroai bob ecco yn y mur!

Rhuthrodd y morwynion ati mewn mynyd ar ol clywed yr ysgrech a thwrf y cwymp. Ond aeth oriau lawer heibio cyn i allu meddygol penaf y dref ei dwyn i deimlad —i deimlad o'i gwir sefyllfa adfydus.

Braidd nad oedd yn ddig am i neb gymeryd trafferth i'w dwyn ati ei hun. Pa gysur oedd iddi hi mwyach? Ai nid oedd ei gŵr wedi myned i ffordd yr holl ddaear? "Pa'm na fuasent yn gadael i mi farw?" gofynai. "Pa'm y codasant fi o'r trobwll du hwnw o ing, yn nerth pa un yr oeddwn yn cael fy llusgo, megys â nerth anwrthwynebadwy i geulan y bedd? Gwell bod yno wrth ochr fy ngŵr, na byw, a gwybod ei fod ef wedi marw!"

"Ah! Mrs. Parri," meddai rhyw gymydoges dyner-galon, "cofiwch am eich plant!"

"Fy mhlant!—fy mhlant! O, ïe, fy mhlant! Y maent yn awr wedi eu gadael yn amddifaid o dad!"

"Ond, er hyny, mae Tad yr amddifaid eto yn fyw," oedd yr ateb tyner.

Y mae'r syniad crefyddol yma wedi bod yn angor gobaith i filoedd o weddwon, pan mewn trallod yn methu gwybod beth a ddeuai o'u plant. Felly y bu i Mrs. Parri. Tybiodd y rhai oeddynt yn sefyll yn ei hymyl ar y pryd, fod math o wên angelaidd wedi ysgubo'n ddystaw bach ar draws ei gwyneb, pan grybwyllwyd y cysur nefol hwn iddi. Digon tebyg. Yr oedd hi'n' un o'r rhai a wyddai'n dda beth oedd byw mewn ymddibyniad ar yr addewidion dwyfol.

Ond yr oedd y tarawiad yn un trwm. Effeithiodd i'r byw. Ofnai'r meddyg y byddai'n un ai ei bywyd neu ei synwyrau gael eu ddinystrio gan y ddyrnod. Ac nid rhyfedd. Wedi iddi fod am fisoedd yn breuddwydio am ddychweliad ei gŵr, ac yn ymbarotoi ar gyfer yr amgylchiad dedwydd wedi bod yn rhoddi ei holl ymdrechion meddyliol ar waith i berffeithio'r plant, yn enwedig Llewelyn, yn eu gwersi, erbyn dyfodiad eu tad—wedi bod yn gosod pob peth mewn trefn teilwng i'w groesawu; a phan oedd ei hawyddfryd wedi ei godi i'r pwynt uchaf o ddysgwyliad a phryder, yn cael ei hysbysu yn y diwedd ei fod wedi cael ei dori i lawr yn nghanol ei rwysg a'i lwyddiant, heb iddi hi dderbyn cymaint a gair na gwên ymadawol oddiwrtho. Rhuthrai ei myfyrdodau difäol trwy ei hymenydd fel afon o dân, yn dwyn beunydd yr unrhyw weledigaeth ar frigau ei thonau tanllyd y weledigaeth o'i gwr yn oer ac yn farw, wedi cael ei daraw i lawr gan gyllell y llofrudd—ei gwr wedi marw—wedi ei ladd wedi ei lofruddio! Gwelai ef yn holl ogoniant ei ddynoldeb—yn brydferth, urddasol, caruaidd, a llwyddiannus—yn cael ei dori i lawr yn ddisymwth, heb gael amser i ddanfon yr un genadwri o gariad, nac efallai, gymaint a gweddi cyn marw! Ymddangosai pob peth iddi'n dywyllwch di wawl—heb yr un pelydr o obaith. Dychymygai ei weled yn ymbalfalu yn y glyn tywyll, heb gyfaill i'w arwain—heb wraig i gynal ei liniau a'i freichiau yn ei ymdrech ddiweddaf—heb neb i roddi gair o gysur i'w enaid! A gorweddai hithau yn ei gwely digysur, gan ddysgwyl ei thynged ei hun: nid ymddangosai yr un edef o drugaredd wedi ei gadael, trwy help pa un y gallasai ddringo i fywyd yn ol. ****** "Ai gwir yw fod Mr. Meredydd Parri wedi marw yn New York?" gofynai cyfaill i gymydog ag oedd yn myned allan o dŷ Mrs. Parri.

"Ië, digon gwir, ysywaeth," oedd yr ateb.

"O ba glefyd y bu farw?"

"O glefyd y ddïod, y mae arnaf ofn."

Sut felly?"

"Wel, mae'n ymddangos ddarfod iddo syrthio i gweryl A rhyw Americanwr, mewn perthynas i ryw bwnc masnachol o'u heiddo. Yr oedd y ddau'n drwm mewn diod. Yn mhoethder y gwirod, dywedodd Mr. Parri rywbeth nad oedd yn ei feddwl—rhywbeth ag y buasai'n gofidio llawer yn ei gylch, pe y cawsai hamdden i sobri. Yr oedd ef yn ŵr boneddig o'r iawn ryw, yn mhob peth braidd; ond pwy a all ateb am ymddygiad dyn meddw? Ac yr oedd yntau, fel yr ymddengys, wedi meddwi hyd wallgofrwydd. Aeth y ddau feddwyn yn mlaen mor bell yn y cweryl, nes y daethant i'r penderfyniad o setlo'r mater trwy rym min y cleddyf. Felly fu. Ymladdwyd gornest. Brathwyd Mr. Parri dan ei bumed ais, a syrthiodd i lawr yn gorph marw!"

"Y fath wers ofnadwy!" meddai'r dyn arall. "Dyn yn cael ei yru felly i wyddfod ei Farnwr heb gael rhybudd i ymbarotoi; un arall yn agored i gael ei boeni am oes â'r ymsyniad erchyll o fod wedi cymeryd ymaith fywyd ei gyd—ddyn—bywyd dyn ag oedd ond prin yn atebol am yr hyn a ddywedai nac a wnelai ar y pryd! Y fath fywyd disglaer, yn diflannu yn y fath gaddug o warth! Meddwl mawr yn cael ei daflu oddi ar ei echel, dan effaith gormod o wirod!—calon urddasol yn cael ei hamddifadu o'i churiadau tyneraf!—ac enaid gwerthfawr yn cael ei hyrddio i'r glorian tra'r dyn mewn cyflwr o feddwdod! O ddiwedd truenus!"

Dyna fel y bu farw tâd ein harwr, yn ngogoniant ei ddyddiau.

PENNOD V.

Nis gwelwyd mo Mrs. Parri, byth ar ol marwolaeth frawychus ei gŵr yn ymgymysgu fel cynt yn y cylchoedd llawen a diofal, ond cysegrodd ei hoes o hyny allan at geisio gwneyd rhyw les yn y dref—at esmwythau gobenydd rhyw ddyn neu ddynes sâl—at estyn tamaid at safn rhyw un ar haner newynu—at leddfu poen rhywun mewn gofid—at weinyddu balm crefydd i enaid rhywrai trallodedig—ac at ddwyn i fynu ei dau blentyn yn ofn Duw. Penderfynodd ddefnyddio'r gyfran helaeth o gyfoeth a adawodd ei gŵr iddi hi, at wneyd rhyw les yn ei hoes, a gwneyd y defnydd goreu o gyfran Llewelyn a Gwen bach, fel ag iddynt gael rhywbeth i bwyso arno wrth ddechreu byw. Apwyntiodd gyfreithiwr parchus a chyfoethog, o'r enw Mr. Powell, i fod yn warcheidwad i'w phlant.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y weddw, yn ei hynt ymweliadol â thruenusion y dref, oedd ceisio dod o hyd i anneddau'r meddwon mwyaf nodedig, a gwneyd rhywbeth ar eu rhan. Yr oedd meddwdod cyntaf Llewelyn bach amgylchiad teuluaidd sobr Sion Williams—a marwolaeth ddisyfyd ei gŵr—wedi bod yn foddion effeithiol i beri iddi deimlo mwy dros gyflwr y meddwon, na'r un dosbarth arall.

Pan yn parotoi ei hun un bore i fyned allan ar ei neges ganmoladwy, daeth llythyr iddi o Gaerlleon. Hawdd oedd gweled ar sirioldeb ei llygaid, wrth ddarllen y marc post, a'r llawysgrifen, ei fod yn dyfod oddi wrth rywun ag yr oedd hi yn ei garu. Cusanodd ef hefyd wrth weled y geiriau, "Dearest Mother," yn ei ddechreu.

Iawn yw gwneyd yn hysbys yn y fan yma, fod Llewelyn wedi ei anfon i'r ysgol i Gaerlleon, er mwyn perffeithio 'i dafod yn fwy yn yr iaith Saesonaeg, a dysgu gwersi uwch nag a ddysgai gartref. Cedwid dynes yn y tŷ o bwrpas i ddysgu Gwen bach, yr hon oedd yn rhy ieuanc ac eiddil i fyned o'r cartref.

Y llythyr hwn oedd i hysbysu fod Llewelyn yn ymbarotoi i ddyfod gartref i fwrw gwyliau Calanmai.

Fe ddaeth adref, yn fachgenyn llawn ysbryd, bywiogrwydd, talent, a chariad. Synai ei fam at y cynydd a wnaeth yn ei wybodaeth a'i foesau; ac nid oedd yr un petrusder yn ei meddwl na thyfai ei mab i fynu yn addurn i'w hen ddyddiau hi, ac yn fendith i'w oes.

Aeth y mis o wyliau i blant yr ysgol heibio'n fuan; ac ni chymerodd dim rhyfedd le gyd â golwg ar Llewelyn, amgen na 'i fod wedi mwynhau ei hun yn gampus ar ei ddychweliad, am y tro cyntaf erioed, i wlad ei enedigaeth, o'r ysgol.

Aeth yn ol yn mhen y mis, ac ymroddai o lwyrfryd calon, i hynodi ei hun fel ysgolor.

Fe ganiata'r darllenydd i ni daflu golwg pur frysiog dros ystod deng mlynedd o'i oes forëol, er mwyn dyfod at yr adegau mwyaf cydnaws a natur ein testun, yn hanes bywyd ein harwr.

Enwogodd Llewelyn ei hun gymaint yn ei astudiaethau yn Nghaerlleon, fel yr aeth, cyn pen llawer iawn o amser, trwy bob peth ag oedd yno iddo i'w ddysgu. Dychwelodd adref yn llawn gogoniant. Treuliodd dair blynedd gyd â'i fam heb wneyd dim byd neillduol, heblaw cadw 'i chalon hi i fynu. Yr oedd erbyn hyn yn ddeuddeg oed. Tybiai Mr. Powel, sef y dyn a benodwyd i edrych ar ol eiddo'r plant, a chynhorthwyo 'u mam i'w dwyn i fynu'n iawn, y byddai'n well ei ddanfon i Edinburgh am ychydig flynyddoedd, er mwyn ei berffeithio mewn dysg, a'i barotoi at ryw broffeswriaeth anrhydeddus. A thueddai yr hen foneddwr at iddo astudio'r gyfraith yn fwy na dim arall.

Felly y gwnaed. Ac yr ydym yn awr yn dyfod o hyd i Llewelyn Parri yn laslanc deunaw oed, wedi dyfod adref o'r Coleg, heb ddim yn eisiau ond ychydig wythnosau o arholiad tuag at iddo gael ei anrhydeddu a rhai o'r graddau uchaf.

Ychydig ddyddiau cyn dyfod adref, ysgrifenodd lythyr at ei fam, yn saesonaeg, cyfieithiad o ba un yw yr hyn a ganlyn:

"FY ANWYL FAM.—Dichon y goddefwch i mi fod mor hunanol a dweyd fod gobaith am i'ch disgwyliadau mwyaf awchus am fy llwyddiant yn y Coleg, gael eu boddhau yn drylwyr. Yr wyf eisoes wedi myned trwy amryw arholiadau, ac heb fethu rhoddi boddlonrwydd cymaint ag unwaith.

"Y mae caniatad i'r holl ysgolheigion ddyfod gartref i fwrw gwyliau'r Nadolig; ac yr wyf yn llawenhau wrth feddwl cael unwaith eto groesi gorddrws hên dŷ anwyl fy mam—fy hoff fam!

"Arhosaf adref am bythefnos; ac yna dychwelaf i orphen fy llafur, ac i dderbyn fy ngraddebau.

A gaf fi genad i ofyn eich caniatad i wahodd un cyfaill mynwesol i mi, yr hwn sydd yn yr un dosbarth a mi, i dreulio'r gwyliau dan gysgod bryniau Arfon? Ysgotyn yw, o'r enw Walter M'c Intosh; ond y mae'n un o'r bechgyn callaf, mwyaf moesgar, ffyddlonaf, y cyfarfyddais âg ef erioed. Gwnawn chwi a Gwen bach, rhyngom ein dau, mor llawen a chogau, er fod yr eira'n hulio'r ddaear. "Fy nghariad puraf i fy anwyl, unig chwaer, Gwen. Derbyniwch chwithau yr unrhyw, fy serchog a ffyddlon fam, oddi wrth eich mab diffuant,

"LLEWELYN."

"Mrs. Parri."

Anfonodd ei fam lythyr yn llawn o serch, gyd â'i haner wedi ei ysgrifenu gan Gwen bach, yn atebiad i'r nodyn uchod; a rhoddodd y gwahoddiad gwresocaf i Walter M'c Intosh ddyfod gyd âg ef i dreulio pymthegnos yn Ngwyllt Walia.

Daeth y ddau lanc i Gymru yn holl rwysg Colegwyr ieuainc o ysprydoedd llawen, a meddyliau diwylliedig. Derbyniwyd Llewelyn a'i gyfaill gyda'r caredigrwydd a'r serch ag y gallesid yn naturiol ei ddisgwyl oddi wrth y dyner Mrs. Parri, a'r brydferth, seraphaidd Gwen bach.

Dichon y dylem, yn y fan yma, roddi disgrifiad o'r ddau lefnyn Colegaidd.

Dyna Llewelyn yn eistedd yn ddïofal ar y soffa, ac yn tynu Gwen, ei chwaer, ato, gan wneyd iddi eistedd ar ei lin. Ymdonia modrwyau o wallt brown, cyrliog, o gylch ei dalcen hardd, braidd gyd â'r prydferthwch ag a hynodai ei dâd o'i flaen. Arddengys y llygaid gleision, disglaer, treiddgraph, a charuaidd—y trwyn syth a thlws—y genau heirdd mewn gair, arddengys ei holl wynebpryd brydferthwch braidd heb ei ail, ac fod enaid mawr o fewn y llanc gobeithiol yma.

Nid oedd Walter Mc'Intosh yn debyg i Llewelyn mewn dim braidd. Meddai bâr o lygaid duon digon prydferth, gwallt du fel y frân, gwedd—ymddangosiad tywyll drwyddo, a ffurf corphorol cryf iawn, eto, diwall a mawreddog yr olwg. Arddangosai foesgarwch o'r math mwyaf diwylliedig, a deall cryf; ond yr oedd rhywbeth cyfrwysgall i'w ganfod, ond sylwi'n fanwl—a rhaid fuasai manylu cryn dipyn hefyd cyn canfod yn ardrem ei lygaid duon.

Nid oedd dim yn ei holl ymddangosiad a fuasai'n un gwaradwydd i Llewelyn Parri, am ei ddewis yn gydymaith; eto, nis gallasai Mrs. Parri lai na synu paham y dewisodd ei mab y llefnyn hwnw. Yr oedd flwyddyn neu ddwy'n hŷn na Llewelyn, er na chyrhaeddodd yr un gradd uwch nag ef mewn dysg; nid oedd ei dalent a'i dueddfryd o'r un rhywogaeth ag eiddo ein harwr ychwaith; ni siaradai haner cymaint; ond pa beth bynag a ddywedai, byddai'n gynwysfawr, i'r pwrpas, ac yn llawn o garictor.

Gŵyr y darllenydd eisoes fod Mrs. Parri'n dra hoff o fiwsig. Dygwyddodd fod pob un o'r cwmni difyr ag oedd yn y tŷ yr adeg yma, mor hoff, ac efallai, mor alluog a'u gilydd. Gallai Gwen bach chwareu'r piano'n swyngar Llewelyn oedd yn gampus o chwareuwr ar y flute, a thalodd Walter sylw nid bychan i'r piano hefyd.

Wedi sirioli natur â chwpanaid o dê, dywedodd Llewelyn wrth ei chwaer,

"'Rwan, Gwen, mae arnaf hiraeth am dy glywed yn myned dros rai o dy hoff alawon ar yr hen biano 'na, a gwrando hefyd ar dy lais yn herio tynerwch yr offeryn. Tyr'd, dyro gân, 'ngeneth i," a lladratäodd gusan oddiar ei gwefus gwrelaidd.

Neidiodd yr eneth at y piano fel aderyn ysgafndroed: chwareuodd "Nos Galan," nes tynu'r dagrau i lygaid ei brawd. Aeth dros amryw eraill hefyd; ac ni fuasai'r gwrandawyr yn blino pe yr aethai yn mlaen felly trwy'r nos. Ond teimlai hi awydd clywed y llanc dyeithr yn cyffhwrdd yr offeryn hoff. Deallodd Llewelyn ar ei golwg, beth oedd ar ei meddwl, a dywedodd,

"Walt., y mae fy chwaer llawn cystal am farnu chwareu rhai eraill, ag yw am chwareu ei hunan. Dyro dro dros rai o alawon yr hen Alban."

"Un peth a fedraf i foddloni Miss Parri," oedd yr ateb. Chwareuodd "Auld Lang Syne," braidd i berffeithrwydd. Wedi hyny canodd yr hen falad gampus, "Will and Jean," o waith Hector Macneil, a dilynodd ei lais a'i law; a

"Chyd â'r llaw ydd â'i'r Awen;
Wi! wi! i'r llaw wisgi wèn."

Gwrandawai Mrs. Parri, Llewelyn, a Gwen bach, mewn syndod a dedwyddwch. Wedi i'r llanc orphen, unodd y cyfan i ganu a chwareu, mewn cydgan, yr hen "Sweet Home." Aed drosti a throsti drachefn, ac ni wyddir pa pryd y buasid yn darfod â hi, oni bai i floedd o'r heol ddyrysu eu cyngherdd. Bloedd oedd honno na chlywodd yr un o'r cwmni dedwydd ei bath erioed o'r blaen. Neidiodd Llewelyn i'r ffenestr, a thyna lle y gwelai dorf o bobl, gwýr, gwragedd, a phlant, yn rhedeg ar ol dyn ag oedd yn ymddangos megis yn wallgof. Rhedodd Llewelyn allan ac ar eu holau; dilynodd hwy at lán yr afon, a chyrhaeddodd yno'n ddigon buan i weled yr adyn ag y ceisid ei ddal, yn cymeryd naid ofnadwy oddi ar bincyn craig i lawr i'r berw islaw, ac yn cael ei rowlio gan y dylif tua'r weilgi fawr, nes, o'r diwedd, suddo am byth dan y tonau certh! Cyfodai'r dyrfa floedd fawr, rwygol, wrth ei weled yn cymeryd ei naid, a dychwelodd Llewelyn gartref i fyned dros yr hanes.

Erbyn iddo fyned i'r tŷ, yr oedd Mrs. Parri wedi cael gwybod gan y gwas pwy oedd yr adyn gwallgof. Pwy 'ddyliet ti oedd ef ddarllenydd? Y truan gwr Sion Williams! Gwnaeth y dyn anffodus gais teg at fyw'n sobr, ar ol yr amgylchiad o gladdedigaeth ei eneth; a llwyddodd i gadw'r addewid a wnaeth i Mrs. Parri, am fis neu ddau; ond fe guriai ei gnawd ymaith, nes braidd nad oedd ganddo ond y croen am yr esgyrn; nis gallai roddi cwsg i'w lygaid na hun i'w amrantau, ddydd na nos; ac o'r diwedd, fe 'i gyrwyd at y cwpan meddwol drachefn, er mwyn ceisio lleddfu pangfeydd ei enaid.

Ymddangosai fel dyn wedi llwyr golli arno 'i hun. Cymerwyd ef i'r gwallgofdy. Cadwyd ef yno am flynyddoedd, nes y tybiwyd ddarfod i'w synwyrau gael eu hadferu. Daeth adref. Ond enynodd yr olwg ar ei hen drigfan—ar fedd ei Ann fach, yr hon a hyrddiwyd i dragywyddoldeb gan ei law greulon ef ei hun—ar fedd Mari ei wraig, yr hon a dorodd ei chalon mewn gofid a chyni— ar ei hen fwthyn yn gartref clyd i ryw estroniaid, —enyodd yr holl bethau hyn y fath fflam o ofid yn ei fynwes, nes y tybiodd nad oedd dim ond y ddïod fyth a'i diffoddai. Ymrôdd i yfed ac i yfed gyn waethed ag erioed. Cyfarfyddwyd ef ar yr heol, tuag wythnos cyn yr amgylchiad sobr yma, gan Mrs. Parri. Syrthiodd ar ei ddwylin ar lawr, a wylodd fel plentyn wrth ei gweled. Buasai edrych arno yn toddi'r galon galetaf.

"Oh! Mrs. Parri anwyl!" meddai; "fedrwch chi na neb arall mo f' achub i rwan! Waeth i mi heb na threio bod yn ddyn sobor byth mwy! Y mae gwyneb yr eneth bach o flaen fy llygaid raid i ba le bynag yr af, âf, a llais Mari yn erfyn am i mi arbed ei bywyd, yn swnio yn fy nghlustiau bob munud! Yr wyf yn clywed y beth bach yn crio—yr wyf yn ei gweled yn gorph marw ac oer—yr wyf yn ei chlywed yn achwyn wrth ei mam, mewn llais isel, gresynus, mai fi a'i lladdodd! Nid oes i mi orphwysdra na dydd na nos, ond pan fo fy ymenydd wedi ei foddi mewn diod!".

Dyna oedd agwedd ei feddwl wythnos yn ôl. Ond beth yw yn awr? Safai o'r blaen yn ei olwg ei hun, yn ngolwg Mrs. Parri, ac yn ngolwg Duw, fel llofrudd ei eneth—fel torwr calon ei wraig; ond safai yn awr yn nghlorian ei Farnwr, fel llofrudd ei blentyn—fel dinystrydd ei wraig—fel dinystrydd ei fywyd ei hun, ac fel damniwr ei enaid am byth!

"Mam!" meddai Llewelyn, gan dynu ei gadair at ei hochr, ar ol dychwelyd o weled yr adyn yn boddi; "Mam! y mae arnaf ofn fod y cyffro yma wedi effeithio gormod arnoch; yr ydych yn edrych yn bur ben-isel."

"O, fy machgen!" atebai'r fam; "y mae genyf reswm da dros fod yn ben-isel. Yr wyf yn gwybod mwy am yr adyn yma sydd newydd hyrddio 'i hun i dragywyddoldeb, nag y mae neb yn ei feddwl; ac y mae adgof am bethau a ddigwyddodd flynyddau'n ol, yn pwyso'n drwm ar fy meddwl y fynud yma!"

Torodd Gwen bach i wylo wrth glywed ei mam yn siarad fel yna, er na wyddai at ba beth yr oedd yn cyfeirio. Efallai fod gan Llewelyn ryw adgof am yr amgylchiad o farwolaeth geneth Sion Williams, ond ni wyddai ddim am yr achos o'i hangau.

"Mae arnaf ofn eich bod yn myned yn nervous, mam," meddai Llewelyn.

"Yr wyf yn gwybod digon o bethau i wneyd llawer un yn nervous," oedd yr ateb. "Am pa bethau, mam?" "Am effeithiau meddwdod."

"Os meddwdod a yrodd y dyn yma i wneyd pen am dano'i hun fel yna, yr wyf fi'n methu gweled paham y rhaid i chwi boeni yn ei gylch."

"Dichon fod mwy a wnelwyf fi a'r peth, nag yr wyt ti'n ei wybod, Llewelyn."

"Wel, os oedd raid iddo gael diod; ac os nad allai gadw rhëol ar ei drachwant, iawn oedd iddo sefyll y canlyniad. Nid oes dim ychwaneg a fyno neb ag ef ei fai ef ei hun yn unig oedd."

"Welais di erioed rai o effeithiau mwyaf ofnadwy meddwdod?"

"Do! mi a welais un o'r students, ar ol bod yn yfed gwirod am wythnos, wedi llosgi'n lludw ar lawr ei ystafell erbyn un bore, pan nad oedd dim tân yn agos ato, nac ôl tân ar ddim byd arall; a barn y doctoriaid oedd, ei fod wedi myned ar dân oddi wrth natur danllyd gormod o wirodydd poethion."

"Wel, rwan—fydd rhyw ddigwyddiadau fel yna ddim yn sibrwd yn dy feddwl di, y dylid defnyddio rhyw foddion i roddi atalfa ar bethau fel hyn?"

"Ond pa atalfa a ellir roddi?”

"Dyna'r cwestiwn mawr. Yr wyf fi wedi bod yn treio dyfeisio llawer cynllun, ond yn methu'n glir a chael un wrth fy modd. Byddaf braidd a meddwl weithiau y dylai pob dyn a dynes ymwrthod yn dragywyddol â phob math o ddïodydd meddwol, ac y dylai pob tŷ tafarn yn y deyrnas gael ei gau i fyny."

Pw! lol wirion, mam; peidiwch boddro 'ch pen hefo phethau fel hyn. Beth ddeuai o'r byd pe y rhoddai pawb y goreu i yfed yn gymedrol? A phaham y dylid cau'r tafarnau? Y mae gwerthu cwrw a gwirod yn fusnes gonest; ac os oes rhai'n analluog i reoli eu trachwantau eu hunain, ni ddylid cosbi pawb am hyny. O'm rhan i, yr wyf yn ddigon hoff o ddiferyn o wirod yrwan ac yn y man; ac mi ystyriwn fy hun yn cael fy nghaethiwo'n ormodol, ac yn annheilwng o ddyn rhydd, pe y rhwystrid fi i yfed yn gymedrol am fod eraill yn yfed gormod.

"Fy mab!" meddai Mrs. Parri'n ddifrifol; "yr wyt yn siarad fel bachgen difeddwl a diofal, ac un nad yw erioed wedi deall rheolau euraidd yr egwyddor Gristionogol. Yr wyf fi'n gwadu fod gwerthu dïodydd meddwol yn fusnes gonest, er y gallai rhai dynion a merched gonest fod yn eu gwerthu; o herwydd nid wyf yn credu fod gwerthu diodydd o'r fath yn gwneyd lles i neb, tra gŵyr pawb eu bod yn gwneyd niwed i bawb. Y mae gwario arian am wirod yn waeth na 'u taflu ymaith. Y mae'r dyn sydd yn ymgyfoethogi ar werthu gwirodydd poethion, yn lladrata pobl o'u harian, cysuron, cyfeillion, tai, tiroedd, nodweddiad, iechyd, bywyd, ac enaid; ac yn rhoi yn eu lle, anghysur, gwallgofrwydd, clefydon, llofruddiadau, terfysgau, cableddau, dinystr, a phleser mynudol y delirium. Busnes gonest wyt ti'n galw peth fel yna? Ai gormod genyt ti fyddai aberthu ychydig wirod bob dydd er mwyn cael ymwared â'r holl bethau hyn? Na, nid yw fy Llewelyn anwyl i yn un mor hunanol a hyny!"

"Dowch mam—yr ydych yn siarad yn rhy ddifrifol o'r haner ar y mater! Ni feiddiaf fi ddadleu a chwi yn y style yna. Yr ydych yn dymuno gormod o lawer, mae arnaf ofn. Fedrwn ni ddim dysgwyl i bob peth gael ei ddwyn yn mlaen mewn perffaith gydweddiad â rheolau Cristionogaeth yn yr hen fyd llygredig yma."

"Pa un bynag a fedrwn ni ddysgwyl hyny ai peidio, felly y dylai fod. A phe yr ymddygai pobl yn unol â rheolau yr hen Fibl yna, ni fyddai'r fath beth a meddwdod a'i ganlyniadau o fewn y byd. Ac yr wyf fi'n coleddu rhyw syniad dirgelaidd, er's wythnosau bellach, ond na wiw imi adael i neb ei wybod, rhag iddynt chwerthin am fy mhen, mai dyledswydd pob dyn a dynes gymedrol yw peidio yfed dim, er mwyn esiampl i'r rhai sy'n yfed llawer. Ac yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad yma, sef na chaiff yr un dafn o ddïodydd alcoholaidd byth ymddangos ar fy mwrdd i, ond hyny."

"Pw, pw! peidiwch bod yn wirion! Yr wyf fi'n ddigon hoff o wirod! Ac yr wyf yn bwriadu dal ati i yfed ychydig bach ar hyd fy oes. Nid oes arnaf yr ofnad lleiaf na's gallaf reoli fy hun hefyd, heb wneyd ffwl o honof fy hunan."

Pe na buasai Mrs. Parri mewn cyrhaedd clyw, buasai Walter M'c Intosh wedi adgoffa i Llewelyn fod ei ymffrost yn nghylch rheoli ei hun yn un go wag, o herwydd fe wyddai Walter ddarfod iddo fethu "rheoli ei hun" lawer gwaith mewn swperi a roddai'r naill golegydd i'r llall.

Gwen bach, dan chwerthin, a ddywedodd,—

Yr wyf fi'n meddwl yn siwr i mi glywed fy mam yn son ryw dro am fachgen bach yn myned yn feddw ar win yn yr ystafell giniaw, ac yn syrthio'n rholyn ar draws yr ystolion. Beth ddywedet ti, fy mrawd, pe y clywet ti'r bachgen hwnw'n bostio y gallai reoli ei hun?"

Cyrhaeddodd y sylw ei bwynt dymunedig, o herwydd fe wridodd Llewelyn at ei glustiau, a cheisiodd lanhau ei hun trwy ddyweyd,—

"Ho! beth oedd ryw dro hogynaidd felly? Nid oeddwn ond hogyn, neu, ni fuaswn yn gwneyd ffwl o honof fy hun. Yr wyf yn awr yn dechreu myned yn ddyn; ac fe gaiff y byd wybod mai fel dyn yr ymddygaf, y llefaraf, ac yr yfaf, ac nid fel ynfyd."

"Duw roddo nerth i ti i gadw dy benderfyniad, fy machgen anwyl i!" meddai Mrs. Parri.

PENNOD VI.

Nos Nadolig a ddaeth. Y fath ddysgwyl fu am dani! Y fath nifer o blant fu'n casglu pob dimai a fedrent gael, er mwyn gallu gallu prynu triagl i wneyd cyflath y noson honno! Gynifer o wyryfon a llanciau a gytunasant i eistedd i fyny i barotoi'r cyflath, ac i ymgomio am yr adeg yr unid hwy mewn glân briodas! Gymaint o ddichellion y bu plant y pentref yn eu cynllunio i ddychrynu ambell i gariadlanc ofnus, ar ei ffordd adref o garu! Penderfynai un daflu cath wedi ei rhwymo wrth hwyaden, trwy simnai un o'r tai lle y byddai llu wedi ymgyfarfod i dreulio'r noson; a chaffai'r bechgyn oll bleser mawr wrth feddwl fel yr ysgrechid wrth weled yr ymwelyddion hynod yn dyfod i lawr bendramwnwgl trwy'r simnai, efallai i ddisgyn mewn cwmwl trwch o barddu i ganol y crochan a'r cyflath. Cytunai eraill i chwythu asiphetta trwy dwll clo rhyw dŷ, er mwyn cael y pleser o weled yr anneddwyr yn rhuthro allan, er cael ymwared oddiwrth yr arogl drwg. Parotoai'r lleill eu gyddfau i fyned i ganu carolau, rhai i'r Eglwys, a'r lleill o gwmpas y pentref. Felly, pawb yn ol ei dueddiad yn penderfynu gwneyd y goreu o'r Nos Nadolig.

Bu Llewelyn a Walter hefyd yn addaw iddynt eu hunain bleser nid bychan nos a dydd Nadolig. Penderfynent hwythau chwilio am ryw fwyniant diniwed, ag a wnai iddynt gofio gyda hyfrydwch mewn adeg i ddyfod, fel y bu iddynt dreulio gwyliau'r Nadolig yn B———

Gwelwyd papyrau wedi eu gludio hyd barwydydd y dref, i hysbysu fod cwmpeini o Saeson yn myned i roddi cyngherdd yn y Town Hall, ar Nos Nadolig, pryd y byddai chwech o'r cantorion enwocaf yn y deyrnas yn canu rhai o'r darnau cerddorol goreu. Yno y cytunodd ein harwr a'i gyfaill fyned. Nid llawer o gyngherddau a gawsant tra yn y Coleg; er iddynt gael ambell un hefyd; a dysgwylient y byddai cyngherdd fel hyn yn "drêt" mawr iddynt.

Saith o'r gloch a ddaeth, a gwelwyd dau neu dri o gerbydau o'r palasau cyfagos yn chwyrnu myned tua'r Town Hall. Gwelodd Llewelyn ar unwaith fod y cyngerdd i fod yn un "respectable," yr hyn oedd arno ef ei eisiau uwchlaw pob dim, rhag anfoddloni ei fam wrth ymgymysgu a dosbarth israddol iddo ef ei hun, mewn pleserau, er na ddywedasai'r foneddiges dda yr un gair yn erbyn iddo ymgymysgu faint a fynai â'r dosbarth isaf, mewn gwneyd rhyw les iddynt. Gofal mawr oedd ganddi am gymeriad ei mab.

Cychwynodd Llewelyn a Walter tua'r man apwyntiedig. Cymerasant eisteddle bob un yn nghanol y boneddigion; a gwelid yn ebrwydd y sylw a dynent yn y lle.

"Pwy yw'r ddau ŵr ieuanc hardd yna?" oedd yr ymholiad cyffredinol.

"Llewelyn Parri, mab y diweddar Mr. Meredydd Parri," meddai ambell un ag oedd yn dygwydd adnabod Llewelyn.

"Yn wir," meddai un arall, "y mae Mrs. Parri wedi cael ei bendithio â mab o'r fath harddaf, ac yn edrych mor hawddgar, er iddi hi fod mor anffodus a cholli ei dad ef."

" Y mae'r llanc yr un bictiwr a Mr. Parri," ebe'r trydydd.

Dechreuodd y concert—aed trwyddo yn dra llwyddiannus —a darfyddodd. Hwyliodd pawb tua chartref, Llewelyn a Walter yn eu mysg.

Mynych oeddynt y sylwadau ar y canu. Mynai rhai mai methiant hollol oedd y cyngherdd trwyddo draw; haerai eraill na fu erioed o'r blaen y fath gantorion yn ninas B———; gresynai eraill yn fawr fod y brif gantores wedi crygu, a chwynai eraill fod y prifgantor yn gwaeddi gormod.

Pa fodd bynag, yr oedd ein harwr wedi cael ei foddloni dros ben; ond am ei gyfaill, ychydig a ddywedai ef ar y pwnc.

Yr oedd yr heolydd wedi rhewi ychydig; gwenai y lleuad dlos uwchben, a chwareuai'r ser mewn sirioldeb yn yr wybren; ar y cyfan, prin y gallasai Llewelyn ddymuno noson hyfrytach yr amser yma o'r flwyddyn; a thynai tua'r tŷ mewn ysbryd siriol a boddgar.

"Beth!" meddai ei gyfaill," nid ydych am fyned gartref yrwan? Mae hi'n rhy gynar eto."

"Gwir ei bod yn o gynar; ond gwyddoch i mi addaw bod i fewn erbyn deg o'r gloch," atebai Llewelyn.

"Wel, rhaid i mi gyfaddef, os nad oes rhyw bleser mwy na hyn i'w gael yn eich dinas enedigol, y buasai yn well i mi fod wedi aros gartref i fwrw'r gwyliau."

"Ha, ha! byddwch bob amser yn gweled pob peth, yn mhob man yn salach ac islaw pethau eich gwlad eich hun. O'm rhan i, mi gefais fy moddhau i'r pendraw heno, ac yr wyf yn meddwl pe y chwiliech chwi Edinburgh drwyddi, na fuasech yn dod o hyd i chwech o gantorion tebyg i'r rhai hyn."

"Wel, yn wir, o ran hyny, canu'n dda ddarfu iddynt; ond dysgwyliais gael rhywbeth mwy cyffrous i fy nifyru ar ol dod yma. Ac os oes genych ryw ryfeddod gwerth ei gweled, dewch i ni gael rhoi trem arni."

"Buasai'n dda genyf allu eich boddio yn mhob modd dichonadwy, fy nghyfaill, ar ol eich denu fel hyn i Gymru," ychwanegai Llewelyn; "Ond y mae arnaf ofn ymdroi dim yn hwy, rhag y bydd fy mam yn ofidus am danom."

Ar hy hyn, dyma bentwr o wŷr ieuainc yn dyfod heibio, hefo cigars yn eu cegau, ac yn gwneyd cymaint o drwst a phe buasai yno gant. Yr oedd yn amlwg fod eu bryd yn hollol ar ddigon o lawenydd a digrifwch. Adnabu rhai o honynt ein harwr, a gwaeddasant,

"Holo, Llewelyn Parri, fyth o'r fan yma! wydden ni ddim eich bod wedi dod adref nes i ni eich gweled yn y concert. Mae'n dda genym daro arnoch. Dowch gyd â ni, yr hen gyfaill diddan."

"I ba le yr ydych yn myned?" gofynai Llewelyn.

"I dŷ Bili Vaughan i gael tipyn o ddifyrwch," oedd yr ateb.

Temtasiwn gref, heb ei disgwyl, oedd hon; ond cofiodd y llanc am ei fam a'i chwaer—am ei addewid i ddychwelyd gartref yn gynar-a phetrusodd am funud.

"Sut ddifyrwch?" gofynai.

"Rhoddwn ein gair na fydd yno ddim yn cael ei ddwyn yn mlaen berygla eich enw da, nac a niweidia yr un blewyn o wallt eich pen. Y mae genym ormod o barch i'ch anrhydedd, eich enw, a'ch talent, i geisio eich denu at unrhyw beth peryglus. Nid yw ddim yn y byd ond tamaid o swper da, cân neu ddwy, ac adref drachefn."

"Yr wyf yn dra diolchgar i chwi," meddai Llewelyn Parri; "ond y mae'n ddrwg genyf fy mod wedi addaw bod adref cyn hyn; ac felly nid wyf yn gweled pa fodd y gallaf ddyfod gyd â chwi, er mor dda fuasai genyf gael awr yn eich cwmni."

"Er mwyn rheswm, peidiwch bod yn ffwl, Llewelyn!" ebe Walter M'c Intosh wrtho, yn haner dig. "Chwi yw'r babi mwyaf a welais i erioed. Nid oeddych yn ffit i gael eich gollwng o arffedog eich nurse!"

"Ond, foneddigion, y mae genyf reswm arall hefyd. Gwelwch fod genyf gyfaill gyd â mi; ac os nad yw ef yn cael ei wahodd cystal a minau, ni's gallaf ei adael."

"Wrth gwrs," llefai'r holl lanciau. Ac unodd y cyfan hefo'u gilydd, ac aethant am dŷ Bili Vaughan yn llawen a chwareuus.

Math o blasdý hardd a hynafiaethol yr olwg arno, yn nghanol coedwig fechan, tua haner milldir o'r dref, oedd y tŷ hwn; ac yr oedd y mab yn absenoldeb ei rieni, wedi gwahodd nifer o'i gyfeillion yno i dreulio'r nos Nadolig mewn llawenydd. Gorchymynodd i'r hen gogyddes barotoi'r swper goreu ag y gallai'r lle ei hyfforddio, a gofalodd ei hunan am ddarparu digonedd o'r gwirodydd goreu ar gyfer yr amgylchiad.

Erbyn myned o'r llanciau i mewn, dyna lle'r oedd y tân mawr yn rhuo yn y grât, y bwrdd wedi ei osod a'i barotoi yn y dull mwyaf chwaethus, a'r potelau gwin, &c., yn barod i goroni y swper â mwyniant ac â llawenydd.

Aeth pang trwy fron Llewelyn Parri wrth weled yr holl barotoadau hyn, o herwydd gwyddai o'r goreu nad aethpwyd erioed i'r gôst a'r drafferth i wneyd y fath ddarpariadau, gyd â'r disgwyliad am i'r cwmni dori i fynu'n gynar, fel yr addawyd iddo ar y cyntaf. Gwyddai hefyd ei wendid ei hun, a'i anallu i wrthsefyll temtasiwn pan fyddai gwirod mewn cyrhaedd. Pa fodd bynag, addawai wrtho 'i hun un ymdrechu drechu cadw o fewn terfynau cymedroldeb.

Yn anffodus i'n harwr, nid oedd ei gyfeillion yn teimlo yr un gochelgarwch ag ef; a gwnaent eu goreu i gael ganddo yfed mwy nag oedd briodol, hyd yn oed yn y dyddiau hyny. Gwyddai o'r goreu ei berygl—teimlai ei hun yn llithro—i lawr y gwelai ei hun yn myned er ei waethaf, ac yn ei fyw nis gallai atal ei hun. Nid oedd yn un o'r rhai cryfaf i ddal diod, ond ychydig iawn a wnai'r tro i'w feddwi. Wrth ystyried hyn, ymdrechai yfed gyn lleied ag oedd bosibl.

Ond pa fodd y gallai gadw 'i hun rhag bod yn agored i gael ei ystyried gan ei gyfeillion yn ofnus merchedaidd? Yr oedd Llewelyn yn falch yn gystal ag yn addfwyn; ac ni fynai er haner ei etifeddiaeth i neb dybied ei fod yn wanach na'r gweddill o'r cwmpeini. A'r teimlad hwn a gafodd yr oruchafiaeth, fel y bydd yn cael braidd bob amser ar fechgyn ieuainc pan yn cellwair â pherygl. Felly, yfodd nes anghofio 'i fam a Gwen bach, yn yr adeg ag yr oedd mwyaf o anghenrheidrwydd am iddo'u cofio. Pan gyfodwyd oddi wrth y bwrdd, teimlodd ei hun, a gwelodd pawb eraill, ei fod yn feddw. Ymddygodd ar y cyntaf yn hollol foneddigaidd wedi hyny aeth yn ffraeth a sïaradus—ac o'r diwedd aeth yn afreolus ac ystyfnig. Ond chwareu teg iddo ef, prin y gellid dweyd fod y lleill fawr well nag yntau; yr oedd y ddïod wedi cael effaith arnynt oll, oddi eithr Walter, yr hwn a gadwodd well rheol arno 'i hun.

"Wel, gyfeillion llon," meddai Llewelyn mewn ymadrodd bloesg, "addawsoch y caem gân neu ddwy; rwan am dani hi."

"Clywch, clywch," llefai'r cyfan.

"Foneddigion," ebe Bili Vaughan, "yr wyf yn cynyg ar fod i Mr. Llewelyn Parri ein hanrhegu â chân."

"Rydw i'n eilio'r cynygiad," meddai Ifan Llwyd; "pawb sydd o'r un feddwl, coded ei law."

Cododd pob un ei ddwylaw, a dechreuodd Llewelyn ganu, er mawr adeiladaeth y brodyr teilwng, fel y gellid tybied, wrth eu gweled yn gwrando â'u cegau:—

Yn iach i bob gofid a phenyd a phoen,
A chroesaw bob llonfyd a hawddfyd a hoen:
Yn iach i ofalon helbulon y byd,
A chroesaw bob rhyddid—hoff ryddid a'i phryd,
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

Tra fyddo rhagrithwyr yn uchel eu nâd
Am yru Difyrwch o oror y wlad,
Ni fynwn ei chadw'n arglwyddes fawr glod,
A'i moli a'r canau pereiddiaf yn bod.
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

O llanwer y gwydrau ac yfer yn hael,
Ein moliant mae Bacchus yn haeddu ei gael;
I'n perffaith ddifyru mae'n gweddu cael gwîn
A lona ar amnaid yr enaid â'i rin.
Yn nhymhor ieuenctid ni fynwn gael byw
Mewn môr o ddifyrrwch—ein hiawnder ni yw;
A mynwn anrhydedd i Bacchus ein Duw.

"Bravo," llefai'r cyfeillion oll.

Cyfododd Bili Vaughan ar ei draed drachefn, i gynyg iechyd da dau gyfaill sef Mr. Llewelyn Parri, a Mr. Henry Huws—y cyntaf ar yr achlysur o'i ddychweliad adref o'r Coleg, a'r llall ar ei lwyddiant mewn cystadleuaeth ddiweddar. Yfwyd y llwnedestun yn wresog.

Wedi hyny llwyddwyd i gael gan Walter M'c Intosh ffafrio'r cyfeillion â chân Ysgotaidd; ond am na wyddom pa fodd i sillebu tafodiaith yr Albanwyr, ni's beiddiwn gofnodi ei gân. Pa fodd bynag, fe ymddengys ddarfod iddi roddi boddlonrwydd cyffredinol, a derbyniwyd hi gyd â tharanau o gymeradwyaeth.

Aeth oriau heibio fel hyn, mewn cyfeddach a meddwdod a chrechwen. Ac yr oedd yr haul yn euro'r dwyrain hefo 'i belydrau cyntaf fore dydd Nadolig, cyn i'r llanciau gyrhaedd y dref yn ôl.

Druain o Mrs. Parri a'i merch! cawsant noson anesmwyth. Arosasant ar eu traed i ddisgwyl am y ddau fachgen hyd nes oedd wedi haner nos; a digon anfoddlon oeddynt i fyned i orphwys yn y diwedd.

Clywodd Mrs. Parri'r ddau'n dyfod i fewn, ac ofnodd nad oedd cerddediad a llais un o honynt yn union fel yr eiddo dyn sobr; ond ar ol cael sicrwydd eu bod yn ddiogel o dan ei chronglwyd, hi a gysgodd yn drwm am oriau.

Ni osodwyd y boreufwyd ar y bwrdd hyd nes oedd yn hwyr; ond er hwyred oedd, bu raid aros tipyn hwy wed'yn cyn i'r ddau fachgen ddod i lawr am dano. Ond daeth y ddau i lawr; ac nis gallai Llewelyn beidio gwrido at eu glustiau wrth wynebu ei fam—yr oedd ei euogrwydd yn pwyso'n drwm arno: disgwyliai gael gwers dda am ei ymddygiad; ac nid oedd dim mwy annymunol ganddo na chyfarfod â'i golygon treiddgraph yn tremio arno, fel pe buasai yn ceisio darllen dirgelion ei galon. Gallodd Walter feddiannu ei hun yn well—ymddygai yn berffaith dawel a moesgar, fel arferol, ac ni fuasai neb yn meddwl, wrth edrych arno ef, fod dim o'i le wedi digwydd.

Braidd nad oedd yn dda i Mrs. Parri, fod Llewelyn mor wridog pan ddaeth i lawr, neu buasai'n dychrynu wrth weled mor llwyd oedd ei mab. Ond wedi i'r gwrid gilio o'i wyneb, hi a ganfyddodd yr holl ddirgelwch; nis gallai amheuaeth fod yn ei meddwl mai effaith yfed i ormodedd oedd y gwefusau llaesion—y llygaid trymion—y gwyneb llwyd y llaw grynedig, a arddangosai Llewelyn y bore hwnw. Tebyg ei bod yn rhy drallodus i siarad llawer; dichon hefyd nad oedd yn dymuno darostwng ac israddio ei mab yn mhresenoldeb Walter. Cymaint a ddywedodd oedd,

"Buoch allan trwy'r nos, onid do, fy mechgyn i?"

"Wel, y gwir am dani hi yw, fy mam," meddai Llewelyn, dan wrido drachefn, "ddarfod i ni gyfarfod â pharti o hen gymdeithion i mi, y rhai oeddynt yn myned i'r wlad, ac fe'n temtiwyd ninau i fyned gyd â hwy gyn belled â chartref Bili Vaughan. Cawsom swper yno; aethom dros rai o hen streuon ein hieuenctid; ac achosodd hyny i ni fod yn bur hwyr cyn gallu cyrhaedd cartref. Gobeithio na ddarfu i chwi a Gwen aros ar eich traed i'n disgwyl."

"Ddim hwy na haner nos."

"Y mae'n ddrwg genyf i chwi gael achlysur i aros mor hwyr a hyny."

"Wyt ti'n sâl, machgen i? Yr wyt yn edrych felly. Oes rhywbeth yn dy flino?"

"Dim byd o bwys. Ond yr wyf yn meddwl i mi gael anwyd lled drwm neithiwr, trwy fy mod yn anghynefin a theithio dan awyr y nos, a minau heb ofalu am ddigon o gynhesrwydd, gan na fwriedais fyned i'r wlad. Yr oedd yr awel yn bur lèm," meddai Llewelyn, gan gadw ei lygaid ar y soser dê, rhag cyfarfod a thremiad ei fam.

"Poor Llewelyn!" meddai Gwen bach, a'i llygaid yn llawn o ddagrau serch, gan feddwl fod Llewelyn yn dweyd y gwir am natur ei selni.

Wedi i'r boreufwyd fyned trosodd, aeth Mrs. Parri a'i merch allan, ar ryw neges haelionus, gan adael Walter yn unig gyda Llewelyn yn y parlwr. Rhyddhad mawr oedd hyn i'r ddau. Gyn gynted ag y cawsant y tŷ iddynt eu hunain, taflodd Llewelyn ei hun ar y soffa gydag ochenaid. Cyn pen hir, dywedodd Walter wrtho,

Wyddoch chwi beth, Llewelyn? mae'r eneth yna Gwen eich chwaer—yn un o'r creaduriaid mwyaf nefolaidd y disgynodd fy llygaid arni erioed."

"Ydyw, o ran corph a meddwl," meddai Llewelyn. "Nid oes neb ond y sawl sydd yn yr un sefyllfa a mi yn gwybod mor drwyadl yr wyf yn ei charu. Ni fynwn er dim iddi gael yr un achos i boeni y gradd lleiaf o'm herwydd i. Gwyn fyd na fa'i yr hen drafferthion Colegaidd yma drosodd! fe gaech chwi a phawb eraill weled Llewelyn Parri yn llawer gwell dyn wed'yn. Yr wyf yn penderfynu cadw fy hunan yn uchel yn meddwl fy chwaer."

"O, gwyn fyd na fa'i genyf fi'r fath angyles i ddylanwadu ar fy henderfyniadau!"

"Fyddai'n dda genych chwi hyny?"

"Byddai yn fy nghalon."

"Wel, mi ddywedaf i chwi beth, Walter, ac yr wyf braidd yn sicr na fydd i mi fethu wrth ei ddweyd:—yr wyf yn meddwl yn sicr y bydd i chwi eich dau—chwi a Gwen syrthio mewn cariad â'ch gilydd pan ddaw hi dipyn hynach, a phriodi wed'yn. Dyna ddrychfeddwl campus, onid ê?"

"Campus yn wir—rhy brydferth—rhy ddysglaer i fod yn wirionedd, mae arnaf ofn. Ond, a gawsoch chwi unrhyw le i feddwl y byddai i Gwen fy hoffi fi?"

"Ddywedodd hi erioed mo hyny—mae hi'n rhy ddiniwed a simple i beth felly eto. Ond beth pe gwelsech ei llygaid pan oeddych yn chwareu'r piano ac yn dadganu, y dydd o'r blaen! Yr oedd digon o brawf yn hyny i mi fod gyn hawdded cynneu'r fflam o gariad rhyngoch chwi a'ch gilydd, ag a fyddai enyn tân hefo callestr yn nghanol ystordŷ powdwr."

"Wel, Llewelyn, yr wyf fi'n barod—fi yw'r powdwr; ond gobeithio na fydd iddi hi fod gyn galeted a challestr chwaith. Ond cofiwch fy mod i yn tyngu, o'r mynyd hwn, mai eiddo Gwen Parri a fyddaf fi, neu ni fyddaf yn eiddo neb byth. Ond eto mae arnaf ofn na fedraf byth enill ei chydsyniad hi."

"Os na fedrwch chwi, fy nghyfaill," meddai Llewelyn, "mi fedraf fi ei thueddu i dderbyn llaw'r neb a fynwyf. Nis gall Gwen bach lai na charu pwy bynag a garwyf fi."

"Wnewch chwi addaw arfer eich cariad a'ch dylanwad o fy mhlaid ynte?" gofynai Walter.

"Nid yn unig yr wyf yn addaw, ond yn tynghedu!"

Rhoddodd y sicrhad yma fath o foddlonrwydd i feddwl Walter. Parhaodd y ddau yn ddystaw am ychydig fynydau, a syrthiodd Llewelyn mewn hun. Ni chysgodd Walter, ond myfyriai'n ddwys ar rywbeth. Parhaodd y ddau felly hyd nes y dychwelodd y boneddigesau o'u neges genadol ganmoladwy.

Cwestiwn cyntaf Gwen bach oedd,

"Sut mae 'ch cur, fy mrawd?"

"Oh, all right," atebai Llewelyn. "Mae o wedi diflanu ymaith cyn llwyred ag eira'r llynedd."

Mae'n dda genyf glywed."

"Ond Gwen, beth feddyliech chwi a wnaethum i tra yr oeddych allan?"

"Wn i ddim wir."

"Dyfeisiwch."

"Fedra' i ddim—dywedwch chwi."

"Wel, mi roddais y Christmas Box gwerthfawrocaf yn yr holl fyd i Walter!"

"Haelionus iawn wir. Ond wyddwn i ddim o'r blaen eich bod yn feddiannol ar y peth mwyaf gwerthfawr yn y byd," meddai Gwen, dan chwerthin yn llawen.

"Fuasech chwi ddim yn dweyd hyny," meddai Walter, dan edrych mor dyner ag y medrai yn ei llygaid, "pe y gwybyddech beth oedd yr anrheg."

"Dichon hyny," meddai Gwen drachefn; "ond nid yw o bwys yn y byd genyf fi beth a roddodd, os yw wedi peidio ymadael a'i chwaer." Chwerthai'r eneth dlos drachefn.

"Ha, ha, ha! dyna'n union y peth yr wyf wedi ei roddi iddo. Rhoddais fy unig chwaer i fy mrawd mabwysiedig. Ai nid yw honyna yn rhodd werthfawr? Rhaid i ti gofio hyn pan ddeui'n fawr, Gwen, a pheidio syllu mewn serch hefo'r llygaid gleision yna ar neb ond Walter. Dyro dy law iddo, i ddangos dy gydsyniad, Gwen," dywedai Llewelyn.

"Mi a roddaf fy llaw yn rhwydd," ebe'r eneth; "ond cofiwch, nad wyf wrth hyny yn cydsynio. Ond yr wyf yn addaw ystyried y mater drosodd. Y mae arnaf ofn y bydd i mi gyfarfod â rhywun arall ag y gallaf ei garu'n well."

"Na! rhaid i chwi beidio meddwl am hyny," meddai Walter, dan gusanu ei bysedd meinwynion. "Y funud y bydd i mi gael ar ddeall fod fy anwyl Wen Parri wedi rhoddi ei chalon i arall heblaw fi, bydd fy nhynged wedi ei sefydlu am byth—fy nghalon wedi ei thori—fy oes wedi ei gwneyd yn wagnod dibwrpas a difudd yn ngraddfa bodolaeth plant dynion! chwi, Gwen, a fydd seren fy oes eich bresenoldeb chwi fydd y baradwys at ba un y rhodiaf —goleuni disglaer eich llygaid fydd colofn arweiniol fy nghamrau—swn eich llais fydd y miwsig y byddaf yn hiraethu am dano—y gobaith o feddiannu eich cariad fydd coron fy modolaeth!"

"Campus, Walter!" dywedai Llewelyn, "Yr ydych yn fwy hyawdl fel carwr o'r haner nag yn y Coleg. Gellwch garu gyd âg arddull Apollo, ac nid tebyg i'n dull diniwed, syml, ni, rhwng bryniau Cymru yma."

"Ha! deuparth yspryd y beirdd Ysgotaidd sydd wedi disgyn arnaf, fachgen—Burns a Byron—"atebai Walter."

"Ond dowch, fy anwyl Wen, cyfhyrddwch eich llaw âg allwedd y piano yna eto."

Nid oedd eisiau gofyn ddwywaith i Gwen chwareu—yr oedd yn rhy hoff o gerddoriaeth.

Wedi myned dros amryw o'i hoff alawon, hysbyswyd hwy fod y ciniaw yn barod. A chiniaw oedd, teilwng o giniaw dydd Nadolig yr hen amser gynt. Ond yr hyn oedd o fwy boddhâd i Lewelyn na'r holl seigiau o'i flaen, oedd gweled ei fam yn edrych arno mor garedig a maddeugar a phe buasai erioed heb droseddu yn ei herbyn. Bwytaodd y bechgyn gyd âg awchusrwydd rhai yn eu hoed hwy; a chafodd Walter brawf teg o garedigrwydd pobl bryniau Cymru.

Treuliwyd y gweddill o'r dydd mewn ymddiddan difyr, canu a chwareu; a phrin y gallesid meddwl fod yr un yspryd drwg erioed wedi cael dylanwad ar yr un o'r cwmni tangnefeddus.

PENNOD VII.

"Glywsoch chwi'r newydd am Harri Huws?" Gofynai dyn ieuanc i un arall, tra'n eistedd wrth dân siriol mewn parlwr cynhes.

"Harri Huws? Y dyn ieuanc hwnw a eisteddai gyferbyn a ni'r noson o'r blaen?"

"Ië, hwnw."

"Naddo, beth am dano?"


"Cefais nodyn gyda'r pôst heddyw, oddi wrth gyfaill, yr hwn a'm hysbysiai fod y truan gwr Harri Huws wedi marw mewn cyflwr ofnadwy. Tybir ei fod wedi cael y delirium tremens, mewn canlyniad iddo fyned ar ei sbri am wythnos. Y mae arnaf ofn mai difyrwch y noson honno a wnaeth iddo ddechreu yfed, o herwydd fe 'i ystyrid yn un o'r gwyr ieuainc sobraf yn yr holl gymydogaeth; ac yr oedd hefyd yn ŵr priod, a chanddo dri o blant. Cyn gynted ag y bydd rhywun yn dechreu mwynhau ei hun, fe fydd rhyw newyddion fel hyn yn myned ar led, nes gwneyd i un braidd a chashau'r gwirod am byth."

"Ydych chwi, gan hyny, yn dechreu cofleidio syniadau eich mam bellach?" gofynai'r gŵr ieuanc arall, mewn tôn gellweirus.

"Mi wnawn hyny oni bai dau beth—fy hoffder o ddiferyn bach, a'm penderfyniad o beidio cymeryd gormod byth mwy."

"Clywais ryw lanc yn dweyd rhywbeth tebyg i hynyna naw diwrnod yn ol, a'r noson gyntaf ar ol gnweyd yr ymffrost, fe 'i gwelwyd yn chwilsan feddw yn canu ac yn rafio yn waeth na phawb o'i gwmpas."

"Peidiwch bod mor bigog," meddai'r gwr ieuanc a siaradodd gyntaf.

Dichon fod y darllenydd yn lled-dybied pwy a allai'r ddeuddyn ieuainc fod. Llewelyn a Walter oeddynt. Yr Harri Huws y cyfeirient ato oedd un o'r cymdeithion a'u hudodd hwy i gartref Bili Vaughan nos Nadolig. Cael ei hudo ar ei waethaf ddarfu i Harri Huws hefyd, gan hen gyfeillion iddo, y rhai a gymerent arnynt fod yn awyddus am dalu parch iddo mewn anrhydedd i'w lwyddiant mewn Eisteddfod a gymerodd le ychydig ddyddiau yn ol.

Dyn call, parchus, o ffraethineb mawr, a thipyn o brydydd lleol pur ddel oedd Harri Huws. Bu fyw hefo 'i wraig yn y modd mwyaf dedwydd am flynyddoedd, ac erioed ni chafwyd achlysur i air croes basio rhyngddynt hyd yr adeg hon.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Harri dreio am wobr mewn Eisteddfod; ac er ei fawr lawenydd, enillodd bum' punt. Nid rhyfedd, gan hyny, oedd iddo gymeryd ei berswadio i dreulio awr ddifyr yn nghyfeillach dynion a ystyrid yn respectable, a'r rhai hyny'n cymeryd arnynt gadw'r swper mewn anrhydedd i'r amgylchiad o'i lwyddiant llenyddol ef. Trôdd ei ben yn llwyr yn swyn y ddïod y noson honno, a bloeddiai fel dyn o'i go' pan ganodd Llewelyn ar ôl swper.

Dygwyd Harri Huws i fynu yn holl symledd crefydd y tad a'r fam mwyaf duwiol yn y pentref lle 'i magwyd. Collodd ei rieni'n fore; ond sylwai pawb fod argraphiadau dyfnion wedi eu gwneyd ar ei galon, gan gynghorion ei dad a'i fam. Yr oedd yn un o emau prydferthaf yr Ysgol Sul yn y lle; a gwnaed ef yn aelod o eglwys Crist pan yn ieuanc iawn.

Ymdrechodd lawer, yn ngwyneb anfanteision, i fod yn ysgolaig da, a llwyddodd. Aeth trwy'r tutor heb gymhorth athraw; a chyn bod yn ugain oed, efe oedd y rhifyddwr goreu o fewn pum' milltir o gwmpas.

Pan yn ddwy-ar-ugain oed, syrthiodd mewn cariad a genethig brydferth, merch i dyddyn o fewn milltir i ddinas B———, a charai hi a holl frwdfrydedd cariadlanc dwy-ar-ugain oed. Priododd hi, ac ar farwolaeth ei thad a'i mam, aeth y cwpl ieuanc i fyw i'r hen dyddyn.

Nis gallai dim fyned tu hwnt i wirionedd a phurdeb eu cariad a'u dedwyddwch. Symbylid pob un o'r ddau gan yr unrhyw syniadau, a'r unrhyw dueddiadau, ac ni cheisiai yr un o honynt ei lesiant ei ei hun, ond y naill eiddo'r llall.

Yn mhen y flwyddyn ganwyd iddynt fab, a mawr oedd y llawenydd a ddangoswyd ar yr achlysur dyddorol.

Wedi i ddwy flwydd arall fyned heibio, anrhegwyd Harri Huws drachefn â merch. Prin y gellid dweyd fod y llawenydd cyntaf yn fwy na'r ail.

Gwenai Rhagluniaeth ar y teulu dedwydd; nid oedd yr un cwmwl yn hofran yn awyr eu hamgylchiadau bydol, ond preswyliai digonolrwydd a llawenydd yn wastad ger eu bron. Chwyddai'r arian yn y coffr yn raddol; a gwenieithai'r cwpl tawel iddynt eu hunain y caent ddwyn eu plant i fyny yn barchus, a gosod yn eu dwylaw alwedigaethau a sicrhâi iddynt fywiolaethau cysurus.

Ganwyd mab arall iddynt. Yr oedd Mrs. Huws, un noson, yn canu i yru'r baban hwnw i gysgu, pan ddaeth Harri i'r tŷ, a'i wyneb yn bradychu math o lawenydd na welodd y wraig mo'i debyg ar wedd ei gŵr erioed o'r blaen. Daliai bapur newydd yn ei law, a chyn dweyd yr un gair wrth ei wraig, aeth yn mlaen i ddarllen yr hyn a barodd y fath lawenydd iddo:

Gwobr o £5, am y cywydd goreu ar——— Deg o ymgeiswyr. Y goreu oedd Clywedog, sef Mr. Henry Hughes, ger B———."

"Dyna i ti,'ngeneth i," meddai Harri, gan daraw cusan ar wefus ei wraig. "Enill pum' punt y tro cyntaf erioed i mi dreio am wobr!"

"Da iawn wir," meddai hithau. "Ond yr wyf fi'n meddwl yn sicr dy fod wedi gwneyd mwy o ddrwg i dy iechyd na wna pum' punt o les, ar ol studio. Mae cleisiau duon dan dy lygaid, byth er's pan rois di dy ben at brydyddu."

"Pw! fe gilia y rhei'ny i ffwrdd fel ia o flaen gwenau haul, ar ol i'r pwnc yma fyn'd trosodd, ac i minau fod yn fuddugol fel hyn."

Eisteddodd Harri i lawr yn nghanol ei deulu hoff, ac ystyriai ei hun yn frenin bach. Teimlai fod cwpan ei hapusrwydd yn llawn hyd yr ymylau. Bwytaodd ei ymborth parotoedig—llyncodd ei wydriad arferol o whiskey, ac estynodd ei bibell i ddechreu ysmocio catiad neu ddau.

Aeth y wraig i barotoi'r plant i'w gwelyau. Dywedodd y ddau hynaf eu pader mewn llais addolgar, ac aethant i orwedd yn dawel. Adroddai Harri Huws rai o helyntion y dydd, ac elai'r wraig yn mlaen i drwsio par o hosanau cochddu'r ddafad iddo.

Teimlai Harri ryw syched mwy nag arferol—estynodd y botel a gadwai yn nghongl y cwpbwrdd, a dechreuodd ail lenwi'r gwydr. Ni welwyd mono'n gwneyd hyny erioed o'r blaen; a theimlodd ei wraig yn ddwys yn awr, wrth ei weled yn tori ar ei reol. Gwelodd Harri ei phryder, a meddyliodd unwaith am roi'r gwirod yn ol yn y botel heb ei brofi. Ond rhag ofn y buasai hyny yn weithred annewr ac annynol, cododd y gwydryn at ei wefusau, a llyncodd y cynwysiad yn fuddugol.

Dyna'r tro cyntaf iddo yfed dau wydriad y naill ar ol y llall. Wyddom ni ddim pwy roddai ei air bellach na fydd iddo droi'n feddwyn. Dyna fel yr ydym ni yn gweled braidd bob dyn cymedrol yn myned yn y diwedd.

Nos Nadolig, aeth Harri Huws i'r dref. Yfodd dri gwydriad o whiskey, ac arosodd yno braidd yn hwy nag y bwriadai. Ar ei ffordd adref, efe a gyfarfyddodd â'r cymdeithion ieuainc hyny, â pha rai y mae'r darllenydd eisoes yn lled gydnabyddus. Dangosai rhai o honynt eu hunain yn falch am fod un o'u cymydogion hwy wedi enill yn yr eisteddfod; ac wedi cyfhwrdd â'r tant hwnw yn malchder Harri Huws, perswadiasant ef i fyned gyda hwynt i'r swper.

Nid aeth ef adref ar ol i'r swper fyned trosodd. Yr oedd yn feddw! Ni threuliodd Elin Huws noson hebddo ef er pan briodasant, hyd y tro hwn. Gall gwragedd tyner-galon Cymru gydymdeimlo â hi, a dychymygu'n well nag y gallwn ni ddesgrifio yr ingoedd a dreiddient trwy ei henaid wrth wylied yno tan doriad y wawr dranoeth am ddychweliad ei gŵr.

Aeth i'r dref i chwilio am dano wyth o'r gloch y boreu. Cafodd hyd iddo'n rafio yn mharlwr y White Horse. Er meddwed oedd, cywilyddiodd wrth weled ei wraig. Aeth adref gyda hi heb lawer o wrthwynebiad. Ond ni arosodd yno ddim hwy nag y gwaghäodd y botel whiskey. Aeth yn ei ol yn mhen ychydig oriau. Cafodd flas ar feddwi; a phwy a allai ei atal yn awr? Nid gwraig na phlant!

Bu'n feddw am chwe' diwrnod cyfain heb gyfarfod â'r un anhawsder i dalu am gymaint o ddiod ag a chwennychai. Yn mhen y chwe' diwrnod yr oedd ei arian i gyd wedi myned, rhwng gwario, tretio, a cholli.

Bore'r seithfed dydd o'r sbri, safai â gwyneb llwyd a dillad lleidiog, o flaen bar y White Horse. Yr oedd braidd ar dân o eisieu ychwaneg o ddïod, ac ni feddai yr un ffyrling i gael ychwaneg, ac ni roddai gwraig y gwestdy ddim iddo.

"Un glasiad o rum!" meddai, gan estyn ei law mewn awch ac awydd.

"Dim dafn 'chwaneg heb arian!" oedd yr ateb.

"Un glasiad, er mwyn Duw! talaf yfory gyn wired a'm geni."

"Dim diferyn! Heblaw hyny, Henry, yr wyf yn dweyd wrthych am gadw draw oddi wrth y tŷ yma. Nid oes arnom eisiau gwel'd eich gwyneb. Yr ydych yn gywilydd eich gweled. Felly, peidiwch a rhoi'ch troed dros drothwy'r drws yma, hyd nes sobri. Mae'n ddigon am garictor y tŷ i neb wel'd y fath furgyn yn y lle. Ewch allan!"

"Mae hona'n iaith go galed, Mrs. Martin," meddai Harri, "a finau wedi gwario cymaint yma. Ond dowch! peidiwch bod mor front! 'Drychwch ar fy llaw!—fel y mae'n crynu! Rhaid i mi gael rhywbeth i wneyd hon yn sâd yn ei hol, neu fe fydd wedi darfod am danaf!"

"Dywedais unwaith—ddwywaith—na chaech yr un dafn genyf fi; ac mi ddaliaf at fy ngair," meddai'r dafarnwraig drachefn. "Ac os nad ewch allan y mynud yma, mi alwaf y policeman i'ch rhoi'n ddigon sâff. Hwdiwch, John!" Galwai ar ei gŵr, yr hwn a ddigwyddodd fod yn pasio heibio" taflwch y llypryn dyn yna allan; ni chaiff neb lonydd ganddo."

"Holo, Huws!" ebe'r gwr—" beth sydd, was?"

"Eisiau un glasiad o rum ar goel-dyna'r cwbwl."

"Yr unig beth a gei di genyf fi yw gorchymyn i fyn'd allan"

"Rhaid i mi gael un; ac wedyn mi af allan," meddai'r meddwyn.

"Mae'n rhaid ê? Cei wel'd hyny yn y munud," ebe'r gŵr, gan agoshau at Harri gyd â golwg llidiog.

Gwelwyd cyfnewidiad yn cymeryd lle, nid yn unig yn ngwyneb, ond hefyd yn holl gorph Harri Huws y foment honno. Y llaw oedd ychydig eiliadau cynt yn ysgwyd fel deilen, oedd yn awr yn edrych mor ddisigl a chraig; cododd ei gorph i sythder cawr, ac ymwibiai ei lygaid mewn llidiogrwydd, ail i gadfarch. Erbyn hyn yr oedd Mr. Martin yn sefyll yn union yn ei wyneb.

"A wyt ti am adael y tŷ yma rhag blaen?" gofynai'n awdurdodol.

"Nid cyn cael glasiad o rum," oedd yr ateb.

"Felly, nid oes dim i'w wneyd ond dy gicio dros y drws, fel pel droed."

"Nid oes yma a fedr wneyd hyny!"

"Wel, os nad ei di, heb 'chwaneg o lol, mi dynaf dy groen oddiam dy gefn! Y brych gwirion! pwy sydd i gym'ryd dy dafod drwg di? Dos allan!"

"Peidiwch cyfhwrdd â mi, Mr. Martin!" meddai Harri, "mae'r diawl yn fy nghorddi, ac ni fyddai dim mwy genyf eich lladd nag edrych arnoch! Peidiwch fy nhemtio!

"Y ffwl!" llefai'r tafarnwr, gan gydio gafael yn ei goler, a cheisio 'i lusgo oddiwrth y bar. Prin yr oedd ei law wedi cyfhwrdd âg ef, nad oedd y meddwyn wedi neidio ar ei ymosodydd fel llewpart, a thaflodd ef ar y llawr gan roddi ysgrech hell. Plygai John Martin o dano fel brwynen, a chydiai Harri afael yn ei wddf, fel pe am ei dagu ar unwaith. Trodd y meddwyn egwan i fod yn ellyll o ran nerth. Fe'i trawsffurfiwyd, mewn mynyd, o fod yn ddyn cyffredin, i ymddwyn fel cythraul cythruddedig. Daliai ei elyn ar y llawr mor ddiysgog a phe buasai'r Wyddfa'n pwyso arno.

"Paid a lladd fy ngwr!" llefai Mrs. Martin, gan redeg allan i floeddio am geispwl.

"Martin!" meddai Harri; "mi ddywedais fod y diawl yn fy nghorddi. Mi fedrwn eich lladd rwan gyn hawsed a phoeri i'ch gwyneb. Ond os rhoddwch wydriad o ddïod i mi, gollyngaf chwi'n rhydd heb yr un niwed."

"Rhof!" Ilefai Martin. A chyn gynted ag y cafodd ei hun yn rhydd, neidiodd at y jar rum, a rhoddodd hi i Harri fel yr oedd. Rhuthrodd hwnw allan hefo 'i ysglyfaeth dan grochfloeddio; ac ni thynodd y llestr oddi wrth ei enau hyd nes ei gwaghau'n llwyr. Yn ffodus, nid oedd yno ond ychydig o wirod wedi ei adael, neu buasai'n yfed ei hun i farwolaeth ar y llecyn.

Wedi cael ei foddloni gyn belled a hyn, hwyliodd ei gamrau tua chartref. Ah! dai fodd i rywun redeg a rhybuddio 'i wraig o'i ddyfodiad, a'i gorfodi i ffoi! Y mae y diawl yn corddi'r dyn hefyd! Ond adref y mae'n myned. Cafodd hyd i'w wraig yn eistedd ar yr hen aelwyd, heb yr un tenyn o dân; y ddau blentyn lleiaf ar ei glin, a'r hogyn mwyaf yn crio nerth ei ben wrth ei hochr, gyda 'i law am ei gwddf. Yr oedd ffynnonau ei dagrau hi wedi sychu er's dyddiau. Wele 'i gwr yn awr yn sefyll uwch ei phen. Nid fel yr arferai sefyll gynt, gyda gwên ar ei enau a chariad yn ei fynwes. Ni ddaeth i'r tŷ i fwynâu a chyfranu bendith i'w deulu, ond fel diafl i wasgar gwae yn eu mysg.

Neidia'r fam i fyny—cydia'r plant yn ei dillad—teimla pob un o honynt fod rhywbeth ofnadwy i ddisgyn arnynt. Tremia'r meddwyn arnynt fel pe trwy lygaid cythraul ysgyrnyga mor ddychrynllyd ag arch-ddiafl. Mae'n ofnadwy edrych arno!

"Am ba beth yr wyt ti'n crio yn y fan yna?" gofynai i'r bachgen.

Fedrai'r bychan mo 'i ateb gan faint ei fraw.

"Wnei di mo f' atebi?" gofynai'r tad annynol drachefn. "Mi ddysgaf i ti sut i siarad, ac mi ro'f ryw achos i ti i grio!" A chymerai afael yn ngwallt pen y bachgentarawodd ef yn ochr ei glust hefo 'i ddwrn cauedig dechreuodd fwrw cawod o felldithion a rhegfëydd am ei ben, a pharotoai ei hun i'w daflu allan trwy'r drws. Ond ar hyny, gwallgofwyd y fam wrth weled mab ei bru yn cael ei drin felly gan ei dad meddw—cipiodd glamp o gleiffon onnen fawr oedd yn agos i'w llaw, a tharawodd fraich ei gŵr nes ei gwneyd fel ffyst y dyrnwr!

Fuasai raid iddi ddim gwneyd hyny ychwaith. Pe yr arosasai am funud hwy, cawsai weled llaw ei gŵr yn ymollwng o wallt yr hogyn o honi ei hun, o herwydd yr oedd cyfnewidiad ofnadwy yn dechreu cymeryd lle ar y meddwyn. Cymerodd rhyw glefyd afael disymwth yn ei galon, ac attaliwyd ei wynt. Ah! ddarllenydd, beth pe gwelsit ti ei lygaid! fel y safasant yn ei ben mewn eiliad! Beth pe gwelsit welsit ti ei wyneb! fel yr arddangosai'r fath ddychryn nad allasai dim ond golwg ar uffern ei hun ei gynyrchu! Buasit yn gofyn mewn syndod, "Beth sydd ar y dyn?" Ah! eto: gwel ef yn rhoddi naid yn ol, fel pe bai sarph wrth ei draed;—gwel ei wyneb gwelwlas, fel pe ba'i angeu yn tremio yn ei wedd;—gwel ei ddwylaw dyrchafedig, fel pe ba'i yn ceisio cadw rhyw alanastr draw! Beth y mae yn ei weled? A yw uffern yn y golwg? Nid wyt ti'n gweled dim. Na—nid yw dy lygaid wedi eu hagor fel yr eiddo ef; a gobeithio Duw na chant byth ychwaith! Ond y mae ef yn gweled rhywbeth. Ydyw, y mae'n gweled mor wirioneddol ag sydd modd i ddim fod, neidr fawr yn dyfod trwy'r drws yna, a'i safn fawr yn agored a'i cholyn fforchog allan, mae'n ei gweled yn dyfod yn nes—nes—nes ato, ac y mae'n clywed ei chwythiad gwenwynig wrth iddi nesâu. Cilia yr adyn yn ol gymaint fyth ag a all, nes y mae'n ymgrwtian yn blygion yn nghongl bellaf y gegin, gan ddal ei ddwylaw i fyny i geisio cadw draw yr anghenfil dychymygedig. Yn awr, y mae'n gweled y sarph yn cymeryd ei naid arno! Y mae'n teimlo 'i thorchau llysnafaidd, oer, yn ymddolenu gylch ei wddf a'i aelodau! Oh'r waedd yna! Tybed na dderfydd hi byth a swnio yn dy glustiau? Yr oedd yn debyg i ysgrech ellyll colledig! Tybed mai dychymyg yw fod swn crechwen i'w glywed yn ysgubo trwy'r awyr? Y mae yn bur debyg i drwst diafliaid yn rhedeg â'u hysglyfaeth o fyd, er gwaethed yw, sydd eto'n rhy dda i feddwon o fath Harri Huws! Pa fodd bynag, nid oes yn aros yn y gongl yna, yn awr, ond corph marw y meddwyn!

Digon naturiol oedd i'r wybodaeth am ddiwedd truenus Harri Huws effeithio yn ddwys ar feddwl Llewelyn Parri. Llwyddodd yr amgylchiad i gael ganddo gasâu meddwdod yn fwy nag o'r blaen ond ni fynai er dim goleddu syniad ei fam, mai gwell yw cadw draw oddiwrth bob diferyn o ddïod feddwol. Yn ngwregys cymedroldeb y penderfynai weithio'i ffordd trwy'r byd.

PENNOD VIII

Y MAE diwedd i bob mwyniant. Daw pob Gwyliau i ben. Nid oes yr un difyrwch daearol i barhau byth; a chanfyddir bob amser fod mwy o bleser mewn rhagddysgwyl pleser nag sydd mewn cael ei fwynâu pan ddelo. Tra yn ei ddysgwyl nis gellir meddwl ond am ei burdeb; ond tra yn ei fwynâu, bydd hyd yn oed y mwyniant yn cael ei gymysgu â gofid, wrth feddwl mor fuan yr aiff drosodd.


Felly, aeth gwyliau Nadolig ein harwr a'i gyfaill drosodd. Gwelwyd y ddau yn y cerbyd yn carlamu rhyngddynt a Lloegr, i dreulio ychydig wythnosau ychwaneg yn y coleg, cyn derbyn eu diploma.

Gan fod y Walter M'c Intosh yma megys wedi ei dyngedu i feddu dylanwad gref ar oes ddyfodol ein harwr, fe ganiata'r darllenydd i ni ei wneyd dipyn yn fwy cydnabyddus âg ef, ac a'i gymeriad. Yr ydym hyd yn hyn wedi ymdrechu ei ddangos yn y lliw goreu a allem, rhag ofn creu rhagfarn yn meddwl y darllenydd yn erbyn cyfaill calon ein harwr, yn yr hwn y gosododd gymaint o ymddiried.

Y mae'r Ysgotiaid yn gyffredin yn bobl o duedd falch ac uchelgeisiol. Felly Walter. Bu feirw ei rieni tra yr oedd ef yn ieuanc, ac ni adawsant ond ychydig iawn o gynnysgaeth iddo ef.

Yr oedd Walter yn hynod er yn blentyn am ddyfeisgarwch. Ystyrid ef, fel y dywed y bobl, yn hen ben. Cyn gynted ag y gwelodd y bachgen hengall ei hun wedi ei daflu ar gefn y byd, heb ddim darpariaeth ar ei gyfer, efe a benderfynodd arfer ei gallineb tuag at gael bywioliaeth heb weithio. Nid oedd dim mwy ffiaidd yn ei ffroenau nag arogl y meddylddrych o fod yn weithiwr.

Cafodd allan fod ganddo hen ewythr cyfoethog yn byw yn Glasgow, yr hwn nad oedd yn gwneyd dim yn y byd o'i berthynasau, o herwydd ei fod yn credu na fuasai yr un o honynt yn gofalu'r un blewyn am dano, oni bai o ran dysgwyl cael rhan o'r da, pan elai ei hen gorphyn ef i briddellau'r dyffryn. Gwirionedd agos iawn at ei feddwl oedd yr hen air hwnw a ddywedai, mai lle bo'r gelain, yno'r ymgasgl eryrod.

Ond gwnaeth Walter ei feddwl i fyny i i wneyd plwc bwrs yr hen ewythr, dan rhith rhyw bwrpas arall. arall. Aeth ato. Edrychai yr hen lanc arno a golygon drwgdybus ar y cyntaf; ond yr oedd gan yr hogyn y fath ffordd ddeniadol ag a lwyr wirionai'r hen law. Aeth yn bur hoff o'r bachgen, a phenderfynodd, er mwyn ei alluogi i ennill ei fara mewn ffordd anrhydeddus, ei yru i'r coleg. Anfonwyd ef yno. Gwir ei fod yn cael ei gadw'n lled lwm am arian; ond yr oedd yr ymenydd a gynlluniodd ffordd iddo ddyfod gyn belled a hyn, yn debyg iawn o gynllunio ffordd hefyd i gyrhaedd cyflenwad o arian i'w gwario. Ni fynai er dim i neb feddwl ei fod yn dlawd.

Talodd sylw manwl i'r gelfyddyd o chwareu cardiau; a daeth cyn pen hir yn ddigon o feistr yn y gamp, fel ag i enill yn rhwydd oddiar ei gyd-ysgoleigion, llawer o ba rai oeddynt mewn meddiant o ddigonedd o arian. Gwnaeth gyfaill mynwesol o'n harwr, yr hwn oedd yn llawer mwy diddichell nag ef; a llwyddodd i wneyd twlsyn mynych o hono i ateb ei ddybenion ei hun. Ond bu yn ddigon cyfrwysgall a gochelgar i ddallu llygaid Llewelyn rhag canfod ynddo yr un bai, na drwgdybio fod yn ei fryd unrhyw ddyben drwg. Ymddiriedai ein harwr ei gyfrinachau mwyaf dirgel i Walter, yr hwn, er mwyn pwmpio mwy allan o hono, a ddadguddiai yn awr ac eilwaith ychydig o'i bethau dirgel ei hun iddo yntau.

Dyma'r llanc a ddygodd Llewelyn gydag ef adref i fwrw'r Nadolig. Hoffai Mrs. Parri ffraethineb y bachgen, a'i ddullfoesau, a'i ledneisrwydd ymddangosiadol yn fawr; eto, nis gallai mewn un modd roddi ymddiried ynddo. Nis gwyddai paham; ond eto, tybiai ei bod yn canfod rhywbeth yn nghongl ei lygaid a fradychai ddiffyg egwyddor, ac fod yr arlinellau o gwmpas ei geg yn dangos dichell. Ond cadwodd hi bob drwgdybiaeth am dano iddi ei hun.

Cyrhaeddodd y ddau ŵr ieuanc y coleg yn ddiogel. Anfonodd Llewelyn lythyr cariadus adref at ei fam, yn yr hwn y rhoddai ddesgrifiad bywiog a barddonol o'i daith, ei groesawiad yn ol, a'i obaith am ddyfod adref drachefn yn llawn anrhydedd ac urddau, yn mhen y mis.

Aeth tair wythnos o'r mis heibio. Yr oedd haner dwsin o'r colegwyr uchaf wedi cydymgyfarfod un prydnawn yn ystafell un o honynt. Drwg genym iddynt gyfarfod gyda'r fath ddyben iselwael. Dywedodd un o honynt wrth y lleill,—

"Wel, gyfeillion, y mae adeg yr arholiad cyffredinol yn dynesu, pryd y bydd prawf teg yn cael ei roddi ar alluoedd a chyrhaeddiadau pob un o honom. Ac y mae pob tebygolrwydd y bydd i'r Cymro yna—Llewelyn Parri—fyned a'r llawryf werddaf gydag ef i fryndir Cymru. Yn awr, y mae ein gogoniant a'n anrhydedd ni yn dybynu a ar pa un a ellir ffurfio rhyw gynllun i rwystro iddo ef ymddangos yn yr arholiad; ac os oes modd, nid plan drwg fyddai tynu tipyn o waradwydd ar ei ben. Beth a ddywedwch, frodyr?"

Meddai un arall,—

"Yr wyf fi'n cydsynio yn hollol â fy nghyfaill, ac yn barnu y dylem arfer rhyw foddion i ddiraddio'r ddafad ddu yma!"

"Ond pa gynllun a ellir ei gael?" gofynai'r trydydd. "Gadewch y pwnc hwnw yn fy llaw i!" ebe Walter M'c Intosh. "Gallaf fi droi Llewelyn Parri o gylch fy mys fel edef wlan; ac mi roddaf fy ngair i chwi na welir mono ef yn mhen y dosbarth ar ddydd yr arholiad!"

Prydnawn dranoeth, daeth nodyn i law Llewelyn, yr hwn a redai fel hyn:

"FY ANWYL GYFAILL.—Yr wyf yn anfon hyn o nodyn i chwi ar frys gwyllt. Nid oes genyf amser i ddyfod fy hunan i'ch ystafell. Yr ydym yn myned i gael swper heno yn ystafell Mr. Smith. Ni fydd y dedwyddwch yn gyflawn heb Llewelyn Parri. Ac y mae yno bynciau pwysig i gael eu trin mewn perthynas i'r arholiad agoshaol. Dowch yno erbyn naw o'r gloch yn ddiffael,

Eich cyfaill serchog,

Walter."

Ufuddâodd Llewelyn i'r gwahoddiad. Cydgyfranogodd o'r Swper. Cymhellodd Walter ef i yfed mwy nag arferol; a'r canlyniad fu iddo feddwi! ****** Ni a ddychwelwn yn awr yn ol i ddinas B———

Eisteddai Gwen Parri wrth y piano, yn mharlwr ei mam. Edrychai fel rhywbeth haner—ysbrydoledig yn ei holl ysgogiadau; eisteddai ei phen urddasol ar wddf o'r fath brydferthaf, gan roddi ymddangosiad mawreddog a balchaidd i wynebpryd a fuasai'n anrhydedd i "lun a gwedd Elen gynt." Ymddangosai ei thalcen gyn deced ag eiddo baban; ei llygaid tywyllion, pelydrog, oeddynt fel pysgodlynoedd Hesbon, y rhai a dynerid gan amrantau sidanaidd hirion; chwyfiai ei gwallt yn gyrliau bywion o gylch ei gruddiau rhuddgochion a'i hysgwyddau marmoraidd; oni b'ai ei fod yn wallt brown tywyll, yn lle gwineu, buasem yn dweyd am dano fel y dywedodd Talhaiarn mor glws am Efa:

"Gwahaniad ei gwallt gwineu—yn lithrawg
Ar lathraidd ysgwyddau,
A'i fodrwyon clysion, clau,
Yn brinion ar ei bronau."

Yr oedd ganddi bwyntel blwm yn ei llaw, a gorwedda llen o bapyr o'i blaen, ar yr hwn y rhoddai nodau cerddorol yn awr ac eilwaith, ac weithiau byddai'n taro allweddau y piano, nes gwneyd bar neu ddau o fiwsig swynol. Daeth ei mam i'r ystafell, a gofynodd.

"Beth sydd genyt mewn llaw heddyw, ngeneth i?"

"Ceisio cyfansoddi cân—miwsig a geiriau—i'w canu mewn croesaw i Lewelyn, pan ddaw adref i aros, yr ydwyf. Cyfansoddais ddau benill eisoes; dyma nhw:—

Can croesaw i Lewelyn gu
I sangu eto dŷ ei fam;
O boed rhagluniaeth nef o'i du,
I'w wared rhag cyfarfod cam;
'Nol cyrhaedd copa ysgol dysg,
A chael coronau am ei ben,
Mil croesaw iddo yn ein mysg,
I dderbyn serch ei Fam a'i Wen.

Darparer seigiau ar ei ran,
Cyweirier y biano fwyn;
O boed llawenydd yn mhob man,
Ei lwybrau hulier â phob swyn:
Mi blethaf goron lawryf werdd,
A ser o'r rhos a'r lili lon,
A chanaf iddo felus gerdd,
Gynhyrfa serch ei ddynol fron.

Yr unig arwydd o gymeradwyaeth a ddangosodd Mrs. Parri oedd, gostwng ei phen i roddi cusan garedig ar foch rosynaidd yr eneth, a gadael ar ei hol berlyn gwlyb, yr hwn a brofai fod y llinellau wedi cyfhwrdd ei chalon. Gwnaeth hefyd iddi gyfhwrdd â dernyn o'r dôn a fwriadai i'w chanu ar y geiriau. Yna gadawodd y fam dirion i'r eneth fyned yn mlaen.

Daeth y gwas i'r tŷ, a dywedodd ei fod wedi gweled dyn ieuanc yr un fath yn union a Mr. Llewelyn Parri yn myned i fewn i'r Castle Hotel. Dychrynodd hyny y fam a'r ferch. Aethant yno i edrych, er eu bod yn credu mai camgymeryd a wnaeth y gwas. Ond, pwy a welent yn dyfod allan, gydag ol diod arno, ond Llewelyn. Bu braidd i'w fam a syrthio i lawr mewn llewyg; ond cafodd nerth o rywle. "Fy anwyl fachgen!" meddai, beth wyt ti yn ei wneyd yn y fan yma?"

"Wn i ddim!" ebe'r llanc.

"Llewelyn!" meddai Mrs. Parri drachefn; "y mae rhywbeth annymunol wedi cymeryd lle mi wn; tyr'd adref, fy machgen, a dywed wrth dy fam beth sy'n bod." Cymerodd afael yn ei law grynedig, ac arweiniodd ef i'r tŷ. Wedi cyrhaedd yr annedd, ac eistedd yn yr hen barlwr, hi a ddywedodd wrtho,—

"Wel, gâd i mi glywed y cwbl, pa mor anghysurus bynag y gall yr hanes fod. Pa beth a ddygwyddodd?"

"Dim 'chwaneg nag fy mod wedi cael fy nhroi allan o'r coleg," atebai yntau, gyda 'i lygaid wedi ei sefydlu ar y carped.

Edrychai ei chwaer yn ei wyneb gyda syndod, tra y dyrchafai ochenaid drom o ddyfnder calon ei fam.

"O!" "beth fu'r achos i'n holl obeithion gael eu difa fel hyn mor llwyr a disymwth?"

"Fy ffolineb i fy hun, a dichell cyfeillion diwaelod!"

"Llewelyn anwyl, beth ddaw o honot?"

"Oh, fy mrawd anwyl!" llefai'reneth. "Rhaid dy fod wedi cael cam garw gan rywun, neu ni chawsit byth mo dy droi allan!"

"Y mae genyt feddwl da iawn am danaf, Gwen," meddai Llewelyn; "ond y gwirionedd yw, na wnaeth neb gam â mi—y mae fy ninystr i'w briodoli i fy ynfydrwydd fy hun yn hollol!"

"Ond pa beth a wneist fy mab?" gofynai ei fam. "Ah! y mae arnaf gywilydd dweyd wrthych; a phenderfynais unwaith yr awn, yn hytrach na gorfod eich cyfarfod chwi, i rywle na welai neb byth mo honof; ac wn i ddim nad felly fuasai hi, oni b'ai i chwi fy ngweled! Y gwir yw, mam, mi a feddwais; ac nid yn unig hyny, ond mi a ymddygais yn fy meddwdod yn waeth na ffwl! Do' gwnaethum fy hun yn warth i'r holl Goleg—tynais gaddug o waradwydd am ben fy enw da—ac yn awr nid oes i mi ond dyoddef i ffyliaid y dref yma, a phob tref lle mae pobl yn fy adnabod, estyn bys ar fy ol, a gwaeddi, "Dacw'r llanc a giciwyd allan o'r coleg am feddwi!"

"Ond er fod meddwi yn beth drwg a gwarthus iawn, eto dylasai'r athrawon basio heibio am y tro."

"Ah! nid oes fodd gwneyd hyny—dyna'r ail waith i mi syrthio i'r unrhyw warth yn ystod y tair wythnos. Hwy a faddeuasant i mi am y trosedd cyntaf, ond buasai yn anghyson a'u hanrhydedd iddynt basio heibio yr ail. Heblaw hyny, dywedir wrthyf fy mod yn gwbl wallgof yn fy meddwdod."

"Oh! gwyn fyd na f'ai dim gwirod ar y ddaear!"

"Ië'n wir, mam, neu gwyn fyd na f'awn i yn medru ei gasâu yn lle ei garu!"

"Ond paham y meddwaist fy machgen?"

"Wel, a dweyd y gwir, yr wyf yn meddwl ddarfod i'r students osod cynllwyn i gael genyf wneyd hyny, o ran eiddigedd o herwydd fy mod i yn debyg o'u curo yn yr arholiad. Gwyddent fy ngwendid, a phwysasant arnaf i yfed i ormodedd."

"Oedd gan Walter law yn y cynllwyn?"

"Wni ddim yn iawn; ond yr oedd ynteu yn y swper, ac yn gwneyd ei oreu i gael genyf yfed. Os gwyddai ef am fwriad y lleill, faddeua i byth iddo fo am beidio fy rhybuddio. Ond fedraf fi ddim dweyd yn iawn pa un a wyddai a'i peidio."

"Wel, Llewelyn," ebe 'i fam, "ni fu genyf fi erioed yr ymddiried lleiaf yn y bachgen hwnw. Ofnwn bob amser mai un dichellgar a diegwyddor oedd."

"Feddyliais i erioed mo hyny; ond yr wyf yn gorfod talu'n ddrud am fy ngwers yn athroniaeth y natur ddynol. Walter oedd y diweddaf yn y byd y buaswn yn meddwl hyn am dano."

"Ond Llewelyn, dichon pe y buasit wedi cadw at fy nghyngorion i, sef darllen dy Feibl bob dydd, a gweddio yn wastadol am nerth i wrthsefyll temtasiynau, na fuasai hyn wedi dygwydd i ti."

"Wyddoch chwi beth, mam; nid wyf yn credu fod yr un diwrnod wedi myned dros fy mhen heb i mi ddarllen pennod a gweddïo. Ond er hyn i gyd, y mae gan y ddïod y fath ddylanwad arnaf pan yn nhrwst lliaws o fechgyn gwylltion, fel os unwaith yr af i ddechreu yfed gyda hwynt, yr wyf yn myned i ddibrisio pobpeth ond difyrwch y gyfeddach. Oh! pe cawn fod bob amser yn eich cyfeillach chwi a Gwen, yna gallwn roi her i'r gelyn!"

"Wel, wyt ti ddim yn meddwl y byddai modd i ti roi her iddo fo trwy ryw ddull arall—rhyw ddull ag a fyddai yn sicr o gadw dylanwad arnat hyd yn oed pe byddai dy fam a'th chwaer wedi myned o dy afael am byth?" "Ond yr anhawsder yw cael rhyw ddull felly." "Beth feddyliet ti o fy syniadau ychydig wythnosau yn ol—ymwrthod yn dragywyddol â phob math o ddïodydd sy'n meddwi ac yn gwallgofi dynion?"

"Mae'n annichonadwy i neb wadu mai dyna fyddai y llwybr mwyaf effeithiol; ond y mae eisieu cofio fod cyflwr cymdeithas yn y wlad y cyfryw nas gellid rhoi penderfyniad felly mewn ymarferiad—fe achosai i'r llwyrymwrthodwr gael ei ystyried yn fath o wallgofddyn, neu un awyddus am wneyd ei hun yn hynod ar bobl eraill. Pe b'ai rhyw ddynion parchus yn ffurfio cymdeithas, fel y gallai eraill ymuno â hwy yn anrhydeddus, a'r gymdeithas honno yn rhwymo ei haelodau i roi'r goreu am byth i bob math o ddiodydd meddwol, ni phetruswn am foment gynyg fy hun yn aelod; a chredu yr wyf y byddai i rywbeth felly fy nghadw i a miloedd eraill cyffelyb i mi, o afael crafangau haiarnaidd y pechod yma sydd mor barod i fy amgylchu."

"Yr wyt yn siarad yn fwy teilwng o honot dy hun yn awr nag y siaredit y tro o'r blaen ar y pwnc yma," meddai Mrs. Parri. "Ac yr wyf fi yn credu y rhydd Duw yn nghalonau rhyw bobl dda i ffurfio cymdeithas felly cyn bo hir. Y mae llwyr anghen am dani; a gobeithio y bydd i ferched gael llais a dylanwad i'w hyrwyddo—caiff y byd wybod fy mod i yn wresog o'i phlaid; ac yr wyf yn sicr y byddai Gwen bach felly hefyd, oni fyddit ti fy ngeneth i?"

"Byddwn yn wir, mam."

"'Rwan, Llewelyn bach, dos i dy ystafell a throcha dy ben mewn dwfr oer, er mwyn adloni tipyn arnat dy hun, ac mi barotoaf finau gwpanaid o dê da erbyn y deui i lawr. Gwnaiff hyny les i ti."

Pan adawyd Mrs. Parri iddi ei hun y dechreuodd deimlo yn iawn o herwydd yr amgylchiad newydd yma. Pan glywodd hi am y cwymp diweddaf yma o eiddo 'i mab, daeth yr adgof am ddiwedd truenus ei dad i'w meddwl gyda grym mawr, nes llenwi ei chalon â rhyw ias o arswyd, rhag mai megys ei ddiwedd ef y byddai diwedd Llewelyn. Teimlai ei hun megys yn cael ei throchi gan ymsyniad o berygl mewn môr iaog o ddychryn a braw.

Pan aeth Llewelyn hefyd i'w ystafell y teimlodd fwyaf oddi wrth ei fai. Buasai'n dymuno suddo trwy'r llofft yn hytrach na gorfod myned yn ol i wyddfod yr hon y gwyddai ei gydwybod ei fod wedi tori briw dwfn ar ei chalon, ac wedi siomi y disgwyliadau mwyaf awyddus a barddonol a allasai mam eu rhag—greu am ei chyntafanedig. Ar hyn daeth ei fam ato i'r ystafell, disgynodd ei llais cerddorol fel sŵn cerub maddeugar ar ei glust, gan ddywedyd,—

"Fy anwyl fachgen, y mae'n bryd i mi roddi gair o gysur i dy feddyliau trallodedig. Nid wyf yn meddwl y bydd i ti byth gospi dy hun eto a'th ynfydrwydd. Paid rhoi dy galon i lawr. Er fod peth fel hyn yn bur annymunol, ac yn ddechreuad drwg, y mae genyf ddigon o amser i wella, ac nid oes genyf amheuaeth mai gwella a wnei." Eisteddodd wrth ei ochr, cusanodd ef yn wresocach nag arfero gwnaeth i'r llanc deimlo peth mor gryf ydyw cariad mam.

"Mam!" meddai" nid oeddwn yn disgwyl i chwi ymddwyn ataf yn y dull caredig yma. Yr ydych yn rhy ddaionus a maddeugar! Y mae arnaf gywilydd o honof fy hun!"

"Dylai fod arnat dipyn o gywilydd, fy machgen," dywedai hithau gyd â gwên addfwyn.

"Ond y mae eich dull tyner chwi a Gwen tuag ataf, yn gwneyd i mi deimlo fy euogrwydd yn gân trymach nag o'r blaen!"

"Wel, gobeithio y bydd iddo wneyd i ti ei deimlo gyn drymed fel ag i lefain am gael ymwared oddi wrtho!"

"Ië; ond yr wyf yn meddwl y gallwn ddwyn fy maich yn well pe yr ymddygech chwi yn llai maddeugar. Pe buasech yn dyfod ataf gyda gŵg, yr wyf yn meddwl na theimlaswn fy hun mor annedwydd a siomedig."

"Ha! fy mab—cofia mai dy fam ydwyf. Ac y mae cariad mam yn cuddio llïaws o bechodau. Ond paid a meddwl dim ychwaneg am hyn yn awr, na byth ar ol hyn, ond yn unig pan fyddi'n cael dy demtio eto—yna meddwl am dano faint a fyno dy galon, a cheisia gofio fod modd tynu cariad mam at ei derfyn eithaf. Mae'r te'n barod bellach; tyr 'd i lawr, fy machgen."

PENNOD IX.

"Iechyd da i ti, Wil Dafis," meddai Owen Roberts. "Tanci, Owen—'r un peth i titha'."

"Tanci. Beth wyt ti'n feddwl o'r cwrw 'ma? Cwrw Llangollen, medda' Mr. Evans wrtha' i."

"O, stwff iawn ydi hwn—mae o'n crafu gwddw rhwfun wrth fyn'd i lawr. Cawn i beint o hwn bob dydd mi awn gin gryfed a cheffyl."

"Ond, glywist ti ddim pwy sy wedi dwad i fyw i'r Plas Newydd, ar ol i Lord V—— 'madael?"

"Do."

"Pwy?"

"Rhyw Scotsman o Scotland. Ac y ma' nhw'n dweud o gwmpas y Plas, mai rhyw garp o'r gŵr bynheddig mwya' cybyddlyd chw'thodd wynt yrioed ydi o. Clywais wraig y Lodge yn deud na roiff o mo'i f———i'r ci, os medar o gael careg i roi arno fo."

"'Mhell y bo'r Scotsmun yma! nhw sy'n dwad i bob lle brâf yn Nghymru rwan. Hidiwn i ddim baw a rhoi 'i ardd ŷd o ar dân un o'r dyddia' nesa' 'ma, wel 'd i."

"Twt lol, gad iddo—fydd o byw fawr i gyd. Mae o bron a chw'thu 'i anadl ola'. Ac y mae un ai ŵyr ne' nai iddo yn ei ganlyn—y gŵr bynheddig mwya' cyredig yn y byd. P'run bynag ai Scotsman ai Gwyddel ai Sais ydi o, mae o'n ddyn bob modfedd. Ac mi gei di wel'd fel y bydd o'n i chwafrio hi ar hyd y caea'na amser hela nesa.' Mi cyfarfyddis i o ddoe, ac mi dynodd sgwrs hir â mi. Holodd fi am helsman da; ac mi ddaliaf chwart y mynud yma y medraf neud y lle i ti'n helsman."

"Treia ditha, byth o'r fan 'ma. Mi gei ddigonedd o sgyrnogod gin i os gnei di. Glasiad o gwrw eto i Owen Robarts!"

"Diail a mina'—'mwya' soniff rhywun am y bwgan, 'gosa''n y byd y bydd o ato fo,' chwedal yr hen air, a thyna fo'r gŵr bynheddig ifanc yn pasio rwan. Dyna i ti geffyl hardd, 'ngwas i. Beth 'ddyliet ti o ganlyn hwna ar ol llwynogod a sgyrnogod?"

"Campus!—campus! Tyr'd ýf—mi rana'i tra bo ffyrling yn fy mhoced."

Y ddau ddyn a ymddyddanent fel hyn a'u gilydd oeddynt feddwon adnabyddus yn mhentref bychan P———. Caffai Owen Roberts ei fywioliaeth trwy fyned ar negesau i oruchwyliwr y Plas Newydd, yr hwn hefyd oedd yn dra hoff o ddiod. Galwedigaeth Wil Dafis oedd dilyn cŵn hela.

Y lle yr oeddynt ynddo yn awr, ydoedd dyfarndy'r pentref, lle yr ymgynullai diogwyr, meddwon, a hustingwyr, i drin materion y gymydogaeth a boddio eu chwantau anifeilaidd.

Y "gŵr byneddig" ieuanc ddygwyddodd fyned heibio, ac am yr hwn yr oeddynt yn ymddyddan, oedd ddyn ieuanc tua phum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, gydag ysgwyddau llydain, corph cryf drwyddo, gwyneb go lwyd, gwallt du cyrliog, a llygaid pur dduon. Ymwisgai yn y dull mwyaf boneddigaidd, a dangosai ei holl ysgogiadau ei fod yn gydnabyddus ag arferion mwyaf coethedig cymdeithas.

Ceisiai enill hoffder trigolion y lle trwy ddangos ei hun yn ŵr boneddig ieuanc haelionus.

Y mae'r darllenydd yn gydnabyddus âg ef cyn hyn. Yr oedd yn awr yn myned yn ei holl rwysg a'i ogoniant, ar gefn ei geffyl goreu, i ddinas B———. Nid bychan y sylw a dynai ar y ffordd, yn gystal ag ar hyd heolydd y dref.

Y mae dyn ieuanc arall, o edrychiad pur foneddigaidd ac urddasol yn cerdded yr heol yn awr, gyd rhol o bapyr yn ei law. Ymddengys fod y diweddaf wedi cael ei adnabod gan yr Ysgotyn dyeithr, o herwydd tynhaodd ffrwyn ei geffyl, safodd, a dywedodd,

Holo, Llewelyn Parri, chwi yw'r sawl yr oeddwn yn edrych am dano!" Cododd Llewelyn ei ben, ac edrychai fel wedi ei daro â syndod; ac atebodd, "Dear me! pwy fuasai yn dysgwyl eich gweled yn y fan yma?"

"Ho, meddai'r llall, "yr wyf wedi dyfod i fyw yn bur agos yma—i'r Plas Newydd er's ychydig wythnosau. Gobeithio y cawn dreulio llawer awr ddifyr hefo'n gilydd."

"Yr ydych yn bur garedig; ond y mae genyf fi bethau eraill i feddwl am danynt yn awr, heblaw pleser. Boreu da i chwi!"

"'Rhoswch fynyd, Llewelyn; nid wyf wedi gorphen â chwi eto. Dowch i fewn i'r P—— Arms am ychydig fynydau."

"Nis gallaf; y mae pethau eraill yn galw am danaf."

"Ond y mae genyf beth pwysig i'w ddywedyd wrthych, a rhaid i chwi ddyfod am ychydig fynydau; ni chadwaf chwi am fwy na deng mynyd—neu chwarter awr i'r fan bellaf.

I fewn â Llewelyn gydag ef.

Tra y maent yn siarad a'u gilydd, dichon y dylem ddweyd pwy yw y dyn ieuanc dyeithr hwn. Nid yw neb llai nac amgen na hen gyfaill a chydysgolor Llewelyn Parri—Walter M'c Intosh.

Dyma'r tro cyntaf i'n harwr glywed na gweled dim yn ei gylch ar ol cael ei droi allan o'r coleg.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth ewythr Walter, ar ol i'w nai ddychwelyd o'r coleg yn llawn anrhydedd a gogoniant, oedd edrych am gartref cysurus mewn lle gwledig, lle y gallai gael llonyddwch oddiwrth drafferthion y dref am yr ychydig amser oedd ganddo i fyw, a sefydlu Walter mewn diogelwch a llawnder. Prynodd y Plas Newydd, yn Nghymru, yn agos i dref enedigol ein harwr. Yr oedd yn awr newydd ddyfod i drigo i'r Plas, efe a Walter.

Rhoddodd calon Llewelyn dro pan welodd ei hen gyfaill. Cofiodd yn y fan am yr amgylchiadau dan ba rai y diarddelwyd ef o'r coleg, a'r hwn yr ofnai oedd wedi cymeryd rhan yn ei ddwyn i'r cyflwr diraddiol y syrthiodd iddo. Penderfynodd ar y cyntaf beidio gwneyd cydnabyddiaeth yn y byd â Walter, a theimlai wrthwynebiad mawr i fyned gydag ef i'r P—— Arms. Ond gan i'w hen gyfaill ddweyd fod ganddo rywbeth pwysig i ymddyddan yn gylch, cydsyniodd.

Galwodd Walter ein harwr i gyfrif am edrych mor oeraidd at ei hen gyfaill, a gofynodd beth oedd yr achos. Dywedodd Llewelyn ei holl ddrwgdybiaeth yn ddigel, sef ei fod ef (Walter) wedi ymuno âg eraill i osod cynllwyn tuag at gael gan Llewelyn achosi hunan-ddiarddeliad o'r coleg. Ond yr oedd Walter yn hen gynefin o ffurfio esgusodion, a gosod lliw da ar ei ymddygiadau ei hun, pan, efallai, y buasent yn ymddangos, pe yn eu lliw eu hun, gyn hylled a phechod. Gwnaeth i Lewelyn gredu nad oedd ganddo ef law yn y byd yn y fradwriaeth. Addefodd ei fai am ei wahodd i'r swper, ac am ymuno yn y digrifwch, ond haerodd iddo wneyd hyny heb feddwl yr un drwg. Y canlyniad fu, i Llewelyn adfeddiannu ei holl hen ymddiried yn Walter, ac aethant yn awr yn well cyfeillion nag erioed. Nid oedd gan Lewelyn gyfaill cywirach a ffyddlonach na Walter yn yr holl fyd; ac nid oedd yr un dyn dan dywyniad haul ag y gofalai Walter gymaint am dano ag a wnai am ein harwr.

Gresyn garw na fuasai modd argyhoeddi Llewelyn druan o fwriad y cnâf boneddigaidd yn ymdrechu adffurfio'r gyfeillach. Ond pe y dywedasid wrtho, dichon na fuasai'n credu. Er fod Walter yn ymddangos y fath foneddwr, ychydig iawn o arian a gaffai at ei law ei hun, o herwydd yr oedd ei ewythr yn rhy hoff o gwmpeini'r pethau anwyl hyny, i ymadael ond a chyn lleied ag a fyddai raid. Teimlai Walter fod hyn yn anfantais fawr iddo ef, ac yn atalfa gref ar ei falchder. O ganlyniad, dymunol iawn fuasai gwneyd twlsyn o Lewelyn Parri, a myned i'w bwrs ef dan fantell cyfeillgarwch.

Yr oedd Llewelyn yn yr adeg yma, yn gweithredu fel cynnorthwywr i Mr. Powell, ei warcheidwad, yn ei swyddfa.

Tybiodd Mr. Powel, a Mrs. Parri, mai gwell oedd iddo wneyd hyn, er mwyn cadw ei feddwl ar bethau a wnaent les iddo, a pherffeithio 'i hun yn y gyfraith, er mwyn bod yn alluog i gymeryd lle Mr. Powell, pan elai ef yn rhy hên i gario 'i fusnes yn mlaen. O'r swyddfa yr oedd yn dyfod pan gyfarfyddodd Walter âg ef.

Yn fuan ar ol yr adnewyddiad yma ar gyfeillgarwch Llewelyn a Walter, fe ddechreuodd y cyntaf fyned yn fwy diofal yn nghylch ei ddyledswyddau—aeth i aros allan yn hwyr y nos, ac ni cheid ganddo ddweyd yn mha le y treuliai ei amser—deuai i lawr yn hwyr at ei foreufwyd, gyda gwyneb llwyd a llygaid meirwon—poenai ei fam a Mr. Powel yn fynych am arian—yr hyn oll a wnai i galon ei fam guro mewn pryder am ei mab. Ofnai nad oedd dim daioni i ddyfod o arferion fel hyn. Rhybuddiodd ef yn fynych, gyda'r tynerwch ag oedd mor naturiol iddi hi. Ni thyciai ei holl rybuddion, ac elai ei holl gynghorion yn ofer—disgynai ei dagrau i'r llawr yn ddieffaith. Parhau i fyned yn mlaen yn yr un dull wnai Llewelyn. Aeth pobl y dref i ddechreu ei adnabod, nid yn ei gymeriad arferol, ond fel meddwyn.

Gwyddai Mrs. Parri o'r goreu pwy oedd wedi llwyddo i ddenu ei mab o ffyrdd sobrwydd y tro hwn, yr hyn a gryfhâi yn ei meddwl y drwgdybiaeth fod gan yr unrhyw un ran yn ei ddiraddio yn y Coleg. Credai mai un i'w ochelyd oedd Walter M'c Intosh, er ei holl foesgarwch ymddangosiadol.

Yn mhen enyd, cymerodd Mrs. Parri afael yn yr holl awdurdod ag oedd yn ei llaw fel rhïant, i dori'r cysylltiad peryglus hwn, rhwng Llewelyn a Walter. Siaradodd yn rymus yn erbyn yr hyn a ystyriai oedd yn prysur lusgo ei bachgen tua dinystr. Cyffrodd hyny dipyn ar dymher Llewelyn, ac aeth i ymddwyn at ei fam yn hollol wahanol i'w ymddygiadau ufuddgar, caruaidd, a pharchedig arferol.

Ond er fod Walter yn canfod y cyfnewidiad a gymerai le gyd â golwg ar Mrs. Parri, ac er ei fod yn ymwybodol o'i chasineb o hono, parhâi i fyned i'r tŷ yn rheolaidd. Yr oedd ei galon wedi ei sefydlu ar Gwen—ac ni's gallai holl oerfelgarwch ei mam ei gadw draw o'r tŷ.

Dechreuad gofidiau i Mrs. Parri oedd ymgysylltiad adnewyddol Llewelyn â Walter. Achlysurol oedd pob trosedd blaenorol o eiddo ein harwr; a pha bryd bynag y cwympai, fe fyddai cwymp un noson yn dwyn gyd âg ef edifeirwch misoedd. Ond yn awr, fe aeth i ddechreu gwneyd arferiad gwastadol o elyn ei ddedwyddwch ymrôdd i feddwi.

Aml iawn yr eisteddai ei chwaer i'w ddisgwyl gartref hyd haner nos—un—dau—heb denyn o dân yn fynych i'w chadw'n gynhes, ac heb ddim i'w difyru ond llyfr, yr hwn y ceisiai ei ddarllen; ond byddai ei meddwl yn ymwibio bob yn ail bum' mynyd, neu amlach, oddi wrth y llyfr at wrthddrych ei serch a'i phryder. Tybiai mai sŵn traed ei brawd oedd pob twrf oddi allan. Oh, mor falch fyddai wrth glywed cerddediad rhywun yn agosâu at y tŷ! ond oh, hefyd mor siomedig yr ymdeimlai wrth glywed hwnw yn myned yn mlaen yn lle troi at ddrws eu tŷ hwy! Pa bryd bynag y byddai'n sicr mai Llewelyn fyddai'n dyfod, hi a redai i'w gyfarfod at y drws mor groesawus a phe buasai'n dychwelyd o gyflawni'r neges fwyaf pwysig ac angenrheidiol. Nid oedd ymddygiad Llewelyn ati hi'n debyg i'r hyn yr arferai fod. Weithiau fe ysgubai heibio iddi yn sarug, efallai gyd â rheg distaw, gan ofyn i ba beth yr oedd y ffolog yn aros ar ei thraed i'w ddisgwyl ef adref. Ond bryd arall fe ymddygai'n fwy teilwng o'r hen amser gynt—rhoddai gusan frysiog iddi, gan geisio atal ei wynt rhag iddi arogli'r ddiod a lyncasai; ac edrychai mor euog ac anhapus ag un troseddwr condemniedig. Yn ei adegau sobraf, perswadiai Gwen ef i fyned gyda hi i eistedd yn y parlwr am chwarter awr, a chymerai'r eneth fantais o'r adeg honno i geisio ymresymu âg ef, a phwyso ar ei feddwl y perygl mawr, a'r creulondeb o arwain bywyd felly, gan dori calon ei fam. Gollyngodd yr eneth dirion ffrydiau ddagrau lawer gwaith wrth geisio gwared ei brawd o afael distryw a gwarth. Weithiau, fe lonid ei meddwl â gobaith y llwyddai yn ei hymdrechion—byddai arwyddion o deimlad i'w gweled ar wynebpryd ei brawd—cyffesai ei fai ambell waith gyda dagrau poethion a chwerwon—addawai ddiwygio'n fuan, a bod eto y Llewelyn a gerid ac a berchid gynt. Ond ah! nid oedd byth yn cadw 'i addewid. Y dafarn oedd ei drigle'r dydd, ac yn fynych, y nos hefyd. Hofranai cwmwl du uwch ben yr hen dŷ. Gwisgai Mrs. Parri a Gwen wynebau trist, a cherddent o gwmpas gyd â chamrau afrosgo ac eiddil. Byddai arwyddion trallod i'w darllen hyd yn oed ar wynebau'r gweision a'r morwynion. Ni agorid byth mo'r hen biano hoff, ac ni chlywid sain cân a llawenydd yn treiddio trwy'r tŷ mwy na thrwy ddaeargell.

Oh!'r pangfeydd a ddryllient deimladau'r fam ofalus, wrth weled ei bachgen—ei hunig fachgen—yn sathru ei holl gynghorion a'i haddysgiadau dan ei draed—yn dibrisio ei dagrau a'i gweddïau—yn chwilfriwio y rhwymau oedd rhyngddo a'i gartref—ac yn dilyn yn wallgof y cwmpeini ag oedd yn prysur dynu at golledigaeth, distryw, a gwarth! Pwy a all blymio cariad a phrofedigaeth mam dan y cyfryw amgylchiadau?

Un bore, cyn i Lewelyn fyned allan, galwodd Mrs. Parri arno i'r parlwr. Gofynodd iddo'n ddifrifol, gan sefydlu ei llygaid ar yr eiddo ef, a gafael dyn yn ei fraich, "Wel, Llewelyn! ai penderfynu gyru dy fam i'r bedd wedi tori ei chalon yr wyt?"

Treiddiodd saeth o euogrwydd trwy fynwes y llanc. Ni feiddiai godi ei olygon i fynu yn hwy, a buasai'n dymuno suddo trwy'r llawr o olwg ei fam.

"Ond, fy mab," ychwanegai hi, "y mae genyf un cynllun, yr hwn, os cydsyni di âg ef, a allai dy waredu rhag distryw tymhorol a thragywyddol, a'th fam a'th chwaer, beddau anamserol."

"Beth yw?" gofynai'r llanc yn ddisymwth.

"Wel, yr wyf yn gweled mai ofer yw i mi ddysgwyl am i ti wella dy fuchedd, tra yn dilyn y cwmni sydd genyt yn awr; ac mai anhawdd yw i ti eu hysgoi tra y trigi yn y dref yma. Gan hyny, yr wyf yn gofyn i ti yn awr, os wyt yn caru dy les dy hun—os wyt yn prisio calon a chysur dy fam—os wyt yn hidio rywfaint am ddedwyddwch dy chwaer—os wyt yn caru dy enaid dy hun—a ddeui di gyda mi i fyw i'r wlad? Y mae Mr. Powel yn dweyd y gall ef gael fferm i ni, lle y gallwn fyw fel angelion bach, ond i ti gadw oddiwrth y ddïod."

"Deuaf!"

"Da machgen i! pwy a ŵyr nad oes amser dedwyddach yn nghadw i ni eto?"

"Os fy ngwaith i'n peidio meddwi a all ddwyn yr amser hwnw i ben, fe ddaw yn ddiffael, o herwydd yr wyf yn addaw yn ddifrifol, os caf ond unwaith ymwared oddiwrth y cymdeithion sydd yn fy llusgo megys â chadwyn haiarn i ffosydd a chorsydd meddwdod, y bydd i mi fod yn ddyn gwahanol rhagllaw. Oh mor ddedwydd fydd cael neb ond chwi a fy anwyl chwaer yn gwmpeini i mi, rhagor bod yn swn a thwrw'r gyfeddach." Ac wylai'r llanc yn hidl!

****** Wedi i Mrs. Parri, ei mab, a'i merch, ymadael o'r dref, a myned i fyw i'r wlad, teimlai Llewelyn gryn chwithdod am ddiota, er iddo ymddangos, yn ngrym y meddylddrych cyntaf am gyfnewid sefyllfa, yn dra awyddus am gael ymwared o'r maglau. Crëodd ei arferion diweddar fath o awydd annynol ynddo am ddiodydd meddwol, a cherddai o amgylch ei drigle newydd, am yr wythnos neu'r pymthegnos cyntaf, fel dyn gwirion. Ond nid hir y bu tawelwch a phrydferthwch y lle heb effeithio cyfnewidiad arno. Yr oedd ef o duedd naturiol farddonol, a llwyddodd yr olygfa swynol—y coed a'r maesydd—y dolydd a'r nentydd—y bryniau a'r afonydd i ddiddyfnu ei feddwl oddi wrth au-bleserau llanciau gwylltion y ddinas; a mwy hyfryd yn ei glustiau ef oedd llais Gwen, wrth geisio dynwared y fronfraith a'r ehedydd, na holl grechwen a miwsig y tafarnau a'r singing rooms. Aeth ei yspryd fel yn raddol i gyfranogi o nodweddiad y pethau oeddynt o'i gwmpas. Daeth ymëangiad y dail gwyrddion—blaguriad y blodeu—tarddiad yr ŷd—ymchwyddiad y cornant—epiliad yr anifeiliaid yn wrthddrychau dyddorol iawn iddo; a dechreuodd ei gorph a'i feddwl gynyddu mewn iechyd a hoender. Aeth i edrych yn ol ar ei fywyd yn ystod yr ychydig fisoedd a aethant heibio gyd â ffieidd-dod, a threiddiai ing o edifeirwch trwy ei fynwes bob tro yr adgofiai am ei ynfydrwydd.

Cafodd y cyfnewidiad dedwydd yma effaith ddymunol ar Mrs. Parri a Gwen. Ymddangosai'r fam yn dawelach a dedwyddach: ond yr oedd siomedigaethau ei bywyd wedi peri iddi hi beidio edrych ar yr un pleser mwyach gyda gormod o ymddiried. Daeth yr hen wrid i fochau Gwen. Nis gallai y rhosyn a'r lili ragori ar ei phrydferthwch. Aeth Llewelyn i'w galw'n Lili Wen, wrth ei gweled mor dlos; a gwnaeth ddau bennill iddi un bore, wrth ei bedyddio â'r enw newydd, y rhai oeddynt yn debyg i hyn:

"Mae brenines ar y blodeu,
Honno yw y lili wen;
O mor hardd fydd yn y boreu—
Coron wlithog ar ei phen;
Blodeu fyrdd o'i chylch yn gwenu,
Pawb yn syllu ar ei gwedd;
Hithau iddynt yn pengrymu,
Mewn lledneisrwydd, parch a hedd.

Tithau ydwyt, Gweno hawddgar,
Fel y lili hardd mewn bri;
Tecach na gwyryfon daear,
A rhagorach ydwyt ti,
Lili hardd yn ngardd dynoliaeth,
O dan wlith a bendith nen;
Pawb gydnebydd dy ragoriaeth,
Ac a'th alwant "Lili Wen."

Yr oedd yr effaith a gafodd bywyd sobr Llewelyn ar ei chwaer yn hynod a dyddorol i sylwi arno. Symudwyd ymaith yn llwyr y baich fu yn pwyso ar ei meddwl am fisoedd. Dechreuodd neidio a phrancio o gwmpas mor heinyf ag oenig; yr oedd hi yn hoff o bawb a phob peth o'i o'i hamgylch, ac ymddangosai pawb a phob peth yn hoff o honi hithau. Edrychai'r ieir a'r gwyddau—y gwartheg ar y cae a'r defaid ar y bryn—megys mewn serch arni. Deuai'r hen Fodlanu—y fuwch— yn fynych adref, er mawr ddifyrwch a syndod y laethferch, gyda 'i phen a'i chyrn wedi eu hurddo a garlantau o ddail a blodau. Pan ellid dal yr wyn bach, urddid hwythau yr un modd; ac ni ddiangai hyd yn oed y moch heb ryw arddangosiad o'i ffafr. Carlamai'r ddau geffyl hefyd, o dani hi a Llewelyn, yn eu hynt o gwmpas yr ardal, fel pe buasent yn falch cael dau mor brydferth a charuaidd i'w marchogaeth.


PENNOD X.

Y MAE'n annichonadwy son nac ysgrifenu am braidd ddim heb sylwi peth mor fyr yw parhad pob cysur daearol. Fuasai ddim yn werth braidd ceisio byw'n rhinweddol er mwyn cyrhaedd dedwyddwch yn y byd hwn, oni b'ai fod y dedwyddwch cysylltiedig â bywyd rhinweddol yn hyfforddio math o ragbrawf o ddedwyddwch tragywyddol mewn gwlad na ddaw yr un gofid o'i mewn. Ond eto, y mae byw'n rhinweddol yn sicr o dalu am dano'i hun, hyd yn oed yn y byd hwn.

Dechreuai cwmwl newydd grogi uwch ben Mrs. Parri a'i phlant. Anfonodd angeu rai o'i genadon i ddwyn ar gof iddynt nad oedd ef ei hun yn mhell iawn, ac y deuai i ymweled â'r teulu cyn bo hir. Daeth afiechyd i gyfansoddiad Mrs. Parri. Nis gallai awelon iach y wlad effeithio yr un cyfnewidiad er gwell ynddi hi—suddai'n raddol yn is, is, nes llwyr argyhoeddi pawb o'i chwmpas nad oedd adeg ei hymddatodiad yn mhell. Gwyddai hithau hyny hefyd; ond ni chlywyd hi'n grwgnach cymaint ag unwaith. Nis gallai symud oddiar y sofa trwy'r dydd, a rhaid oedd ei chario i'w gwely y nos. Cysgai Gwen—pe buasai yn cysgu hefyd yn yr un ystafell a'i mam, er mwyn bod yn agos ati i weini i'w hanghenion yn oriau pruddglwyfus y cyfnos. Cysegrodd Llewelyn ei holl amser at gysuro ei chalon a thawelu ei meddwl. Darllenai iddi ei hoff benodau o'r hen Fibl teuluaidd; cariai hi yn ei freichiau o gwmpas y tŷ, gan ei dal yn y ffenestr, weithiau, fel y gallai fwynhau yr awel beraroglaidd a ddeuai o'r ardd.

Aeth Llewelyn yn bruddglwyfaidd, yn enwedig pan allan o olwg ei fam, o herwydd ymdrechai ei oreu i ymddangos mor fywiog ag oedd modd yn ei gwydd hi. Ond fe sylwai pawb arall fod rhywbeth tost yn pwyso ar ei feddwl. Gwyddai o'r goreu fod y pryder a deimlodd ei fam yn ei gylch ef, yn un o brif achosion ei hafiechyd; a theimlai faich o euogrwydd, fel mynydd o blwm, yn pwyso ar ei feddwl a'i gydwybod. Ond ymdrechai wneyd iawn mawr am ei holl gamymddygiadau blaenorol, trwy dalu y sylw a'r gofal manylaf i'w unig rïant yn yr adeg hon.

Parhau i wanychu yr oedd Mrs. Parri. Nid oedd modd ei pherswadio fod gobaith iddi wella byth; ac yn wir, ni chwennychai wella, ond yn unig pan gofiai am Llewelyn. Braidd na fuasai'n gofyn i'w Thad nefol arbed ei bywyd, er mwyn bod yn alluog i warchod ei fywyd ef, a'i atal rhag ymgymysgu eto â chyfeillion ag oed oeddynt wedi dangos eu hunain yn meddu y fath ddylanwad ar ei mab—y rhai a fuont mor agos i'w gael yn hollol o afael dylanwad rhinwedd a chrefydd. Gwyddai nad oedd ei bachgen yn alluog i gerdded am foment ar geulanau'r môr meddwol, heb syrthio iddo; a gwyddai ddarfod iddo wneyd hyny amryw weithiau, nes o'r bron cael ei ysgubo ymaith yn llwyr gan rym ei genllif. Pan gofiai hyny, hi a dywalltai ei chalon mewn gofid, ger bron Duw—traethai ei hofnau yn ddigel iddo ef, gan erfyn arno fod yn Dad ac yn Waredwr i'w mab. Pan yn gwneyd hyn, teimlai ei ffydd yn ymgryfau, ac ymfoddlonai i adael pob peth i law ei Harglwydd.

Yr oedd Mrs. Parri wedi dysgu cofio ei Chreawdwr o ddyddiau ei hieuenctid. Bu'n ddisgybl ffyddlon i Iesu Grist o foreu ei hoes. Nis gallodd llwyddiant bydol—rhwysg a balchder cylchoedd uchel o gymdeithas—sugno 'i bryd hi oddiar bethau Duw. Bu hi'n ffyddlon i grefydd, a bu crefydd yn ffyddlon iddi hithau. Galluogodd hi i ymgynal dan siomedigaethau, dan groesau, a gofidiau lawer. Ac yn awr, pan yn gorwedd dan afiechyd trwm, yr oedd ganddi oes ddefnyddiol i'w hadolygu, a dyfodiant dysglaer i edrych ato. Ymhofrai ei defnyddioldeb yn awr o'i chwmpas, fel y bydd pelydrau dysglaer yn amgylchu yr haul pan ar fachludo. Machludai haul ei bywyd hithau mewn prydferthwch a gogoniant, yn dawel ac arafaidd.

Ond yr awr ddysgwyliedig a ddaeth! Pan oedd yr holl dylwyth wedi ymgasglu o gwmpas ei gwely, un boreu, gwelwyd fod Angeu hefyd wedi dyfod i fewn. Nid oedd dim o swn ei draed i'w glywed, ond gwelwyd fod ei anadl yn gwywo bywyd Mrs. Parri yn gyflym. Tebyg ddarfod iddo gael gorchymyn i'w throsglwyddo o fysg ei phlant i'r byd arall yn y dull tyneraf ag oedd modd. Gorweddai'r wraig dduwiol yn dawel—ni ddywedai yr un gair, a chauai ei llygaid am gryn enyd o amser. Ofnodd Gwen na ch'ai glywed ei llais, na gweled ei llygaid tyner byth mwy. Ond agorodd hwy o'r diwedd, ac erioed ni welwyd monynt yn edrych mor ddysglaer mor seraphaidd ag yn awr. Gwibient o amgylch yr ystafell, megys pe heb yr un gwrthddrych i ymsefydlu arno, nes o'r diwedd iddynt gael eu sefydlu ar ben rhywun ag oedd wedi cuddio ei wyneb yn nghwrlid y gwely..

"Llewelyn!" meddai, mewn tôn isel, ond eglur.

"Fy mam anwyl!" meddai yntau, gan godi ei ben, ac yna ei ŵyro at ei genau hi.

"Yr wyf yn myned i farw!"

Wylodd pawb.

"Ond y mae un peth," hi a ychwanegai, "ar fy meddwl ag sy'n rhwystro i mi ollwng fy ngafael yn llwyr o'r hen fyd yma, ac yn gwneyd yr ymsyniad o fod yn rhaid i mi fyn'd, yn boenus i mi."

"Beth yw, mam bach?" gofynai'r bachgen.

"Pryder yn dy gylch di! Yn awr, a wnei di addaw peidio meddwi byth mwy? A wnei di addaw edrych ar ddïodydd meddwol o bob math fel dy elynion penaf? Y maent yn sicr o gynyrchu trallod a gwae!"

"Gwnaf, yn rhwydd! Yr wyf yn tyngedu na welir monof yn feddw byth ond hyny; thrwy gymhorth Duw mi a gadwaf at fy mhenderfyniad!"

"Yr Arglwydd o'r nef a'th nertho, ac a roddo ras i ti i wrthsefyll pob temtasiwn. Gobeithio y caf dy weled yn y nefoedd a'th addewid heb ei thori."

"Yn awr, fy'ngeneth i," hi a ychwanegai gan droi at Gwen, "y mae genyf air i'w ddweyd wrthyt tithau cyn dy adael. Yr wyt wedi bod yn blentyn da—cei ddyfod ataf mi wn. Ymddygaist yn deilwng o eneth yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrwg, a bydd yntau yn sicr o dy wobrwyo."

" Y mae genyf un gair eto i'w ddweyd wrthych eich dau fel eich gilydd. Cerwch y naill y llall—byddwch ffyddlon i'ch gilydd—gwasanaethwch Dduw, ac fe delir i chwi yn adgyfodiad y rhai cyfiawn!"

"Gwnawn, mam anwyl," meddai'r ddau ar unwaith. Hithau a ychwanegodd,

"Yn awr, O Dad, yr wyf yn foddlon i ddyfod atat! Yr wyf yn marw'n ewyllysgar, ac yn bendithio dy enw! Edrych yn dy drugaredd ar y plant hyn!"

Wedi iddo ddyrchafu'r weddi hon, edrychodd trwy ffenestr oedd gyferbyn a'r gwely, ar yr awyr orllewinol, yr hon oedd yn ymddangos fel yn agor ei phyrth euraidd i dderbyn ei hysbryd ymadawol ar ei hynt i wlad yr hedd.

Ni chlywid yr un swn yn yr ystafell—dystawyd hyd yn oed y wylo tra yr edrychai yr holl dylwyth mewn cariad parchedig ar brydferthwch sanctaidd ei gwyneb. Gwelwyd ei gwefusau'n symud megys mewn gweddi ddystaw, a'i dwylaw yn mhleth. Gosododd Llewelyn ei glust wrth ei genau, a thybiodd iddo ei chlywed yn enwi Iesu Grist. Bu farw felly, yn anghraifft darawiadol o ddedwyddwch Cristion yn gadael byd o boen.

Gall y darllenydd bortreiadu iddo ei hun yn llawn cystal, os nad gwell, nag y medrwn ni ddesgrifio iddo yr ingoedd a'r trallod a deimlai Llewelyn a Gwen ar ol colli eu hunig riant, a honno'n rhiant mor dda.

"Oh fy anwyl chwaer!" meddai Llewelyn, ar ol myned allan o ystafell y marw, "nid oes neb wedi ei adael ar y ddaear i ni, ond ein gilydd! Gan hyny, boed i ni gofio siars ddiweddaf ein mam—caru y naill y llall—bod yn ffyddlon i'n gilydd."

"Gwnawn Llewelyn anwyl!" atebai Gwen dan wylo yn y fath fodd nas gallai neb ond un yn yr un amgylchiad a hi wylo. "Caru—bod yn ffyddlon—dyna gymaint sydd genym i'w wneyd bellach; ac ni a wnawn hyny hefyd!"

Diwrnod prudd oedd y diwrnod y claddwyd Mrs. Parri. Yr oedd yr holl gymydogion wedi dysgu ei charu yn ystod yr amser byr y bu hi'n byw yn Brynhyfryd (enw'r fferm), o herwydd ei haelioni a'i chariad; a daethant yn lluoedd i'w hebrwng i "dŷ ei hir gartref." Nid oedd braidd yr un llygad sych yn ymyl y bedd, pan ddywedai yr offeiriad, "Pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," a phan ddechreuodd y graian ddisgyn ar gauad yr arch. Gwlychwyd y pridd â miloedd o ddagrau, y rhai oeddynt yn gofgolofnau anrhydeddusach na phe y rhoddesid ceryg o farmor yn y fan. Safai, neu yn hytrach, gwyrai Llewelyn a Gwen fel delwau o geryg, a'u dwylaw'r naill yn eiddo'r llall. Mr. Powel, yn ol ei synwyr da arferol, a'u cymerodd o'r fynwent gyn gynted ag oedd modd, ac aeth a hwy i'w gartref ei hun.

Dyn go garedig oedd Mr. Powel, a dynes fwy caredig oedd ei wraig. Nid oeddynt erioed wedi cael eu hanrhydeddu â phlant; ac ystyrient eu hunain yn ddedwydd cael y brawd a'r chwaer amddifaid dan eu cronglwyd, i gymeryd gofal o honynt nes y deuent i'w hoed, ac yn alluog i fyw heb gymhorth yr un gwarcheidwad.

Cydsyniodd Llewelyn a Gwen, o wirfodd calon, i fyw gyda hwynt; a gwnaethant eu goreu glas i ysgwyd ymaith eu pruddglwyfedd, gan deimlo fod hoffder Mr. a Mrs. Powel o honynt y nesaf peth i hoffder eu rhieni. Ymdrechasant hwythau dalu yr hoffder yn ol yn ddau ddwbl. Pan ddywedodd Llewelyn, un prydnawn, mewn mynyd o bruddglwyfedd mwy nag arferol,

"Oh, ni ddychymygais erioed o'r blaen, beth yw bod heb fam!" atebodd Gwen ef gyda gwên ddifrifol,

"Ond, Llewelyn, nid ydym wedi ein gadael heb fam mae genym ddwy yn awr—un yn sant yn y nefoedd, yn edrych arnom fel math o angel gwarcheidwadol, ac un arall ar y ddaear yn edrych ar ein holau braidd mor ofalus ag y gwnelai ein mam gyntaf!"

Buasai'n ormod o sarad ar y natur ddynol i neb dybied y gallasai Llewelyn Parri ymhel â dïodydd meddwol yn yr adeg yma, pan newydd gladdu ei fam, a phan newydd wneyd ammod wrth erchwyn ei gwely angeu, i beidio meddwi byth mwy. Heblaw hyny, fe ddygwyddodd amgylchiad ag a effeithiodd i greu casineb ychwanegol ynddo at ddïodydd meddwol, yn mhen ychydig amser ar ol iddo ef a'i chwaer fyned i fyw at Mr. a Mrs. Powel.

Bu llances o'r enw Jane yn gweini yn y tŷ tua phedair blynedd cyn hyny. Geneth o'r wlad oedd Jane, a morwyn dda iawn oedd hi. Trwy ei thymher tawel a'i hymddygiad gonest, unplyg a ffyddlon, daeth i feddu ymddiried llwyraf Mrs. Powel.

Un ffordd a feddai'r feistres i ddangos ei charedigrwydd at ei morwynion, oedd rhoddi gwydriad o win iddynt yn echlysurol, yn enwedig ar ol bod yn gweithio'n galed; ac ar ddiwrnod golchi, hi a'u hanrhegai a gwydraid o gin da. Tybiai fod y ddïod yn eu cryfâu a'u bywiogi, ac y gallent gyflawni ei gwaith yn well dan ei effeithiau.

Cynygiwyd peth o'r gwirod i'r forwyn newydd; ond dywedodd Jane nad oedd hi'n hoff o hono; ac er mawr syndod Mrs. Powel, hi a'i gwrthododd yn benderfynol. Aeth ei meistres yn mlaen i'w hargyhoeddi o'i chamgymeriad dinystriol, nes llwyddo i gael gan yr eneth gymeryd ei dogn rheolaidd. Nid ydym mewn un modd yn meddwl fod gan Mrs. Powel yr un bwriad drwg mewn golwg, ond gwnai hyn yn hollol gydwybodol, gan lwyr gredu fod arferiad cymedrol o'r diodydd meddwol yn llesol. Ac nid oedd neb ychwaith yn fwy selog yn erbyn meddwdod na hi—casâi ef â chas cyflawn.

Aeth pethau yn mlaen felly am fisoedd—parâi Jane i gymeryd y dogn a ganiateid iddi, a boddlonid y feistres yn holl ymddygiadau y forwyn.

Ond, yn raddol iawn, fe ddaethpwyd i ddechreu darganfod fod Jane yn myned yn hoffach o wirod, ac yn ystyried nad oedd gwydriad o gin bob diwrnod golchi yn ddigonol i dori ei hanghen. Trwy weithredu yn ol egwyddor ei meistres o edrych ar wirod fel peth llesol at gynaliaeth iechyd a nerth, hi a aeth i ddechreu gwneyd yn o hyf ar y llestri gwin, &c., yn y seler.

Aeth y tymhor gwasanaeth heibio; gadawodd Jane ei lle, a chyflogwyd morwyn newydd. Anghofiwyd yn fuan bob peth am Jane yn nhŷ Mr. Powel.

Pan oedd Mr. a Mrs. Powel, a Llewelyn a Gwen, yn eistedd yn gysurus o flaen tân braf, ar noson wyntog a gwlyb, a Llewelyn yn darllen rhyw stori ddifyr a wnai i ochrau yr hen bobl anafu wrth chwerthin, daeth y forwyn i'r ystafell i ddweyd fod rhyw greadures o ddynes, garpiog, ac anwydog, yn sefyll wrth ddrws y cefn, eisieu gweled y feistres. Nid oedd neb parotach i wrandaw ar gwyn, ac i esmwythau gofidiau'r tlawd a'r trallodus, na'r foneddiges hawddgar; a dywedodd wrth y forwyn,

"Gollwng hi i fewn, a dywed y deuaf ati yn ddioed." Wedi i Mrs. Powel fyned i lawr at y ddynes, cyfarchodd y ddyeithres hi gan ddywedyd,

"Oh, mistres bach, mae dynes druenus yn byw yn yr un tŷ lodging a mi, bron a marw; mae'r doctor wedi ei rhoi i fyny; ond y mae hi yn siarad o hyd am Mrs. Powel, ac eisiau ei gwel'd hi garw. Yr ydan ni'n meddwl fod gynddi rywbeth trwm ar ei meddwl eisio 'i ddeud."

"Yn mha strŷd yr ydych yn dweyd ei bod?" gofynai Mrs. Powel.

"Yn strŷd y Ffynnon."

Cofiodd y foneddiges fod honno'n un o'r heolydd o'r nodweddiad gwaethaf; ac ofnodd braidd fyned yno. Aeth at ei gŵr i ofyn ei gynghor. Dywedodd yntau,

"Ewch yno ar bob cyfrif; ac mi a ddeuaf fi a Llewelyn gyda chwi; cewch chwi fyned i mewn i'r tŷ, ac aroswn ninau o'r tuallan i'ch dysgwyl, fel ag i fod wrth law os bydd anghen."

Aeth Mrs. Powel yn ol at y ddynes, gan ei hysbysu y dilynai hi'n ebrwydd.

Wedi cyrhaedd y fan, arweiniwyd y foneddiges i fyny grisiau gridwst, trwy ganol budreddi mawr ac arogl afiach, i'r ystafell lle y gorweddai y ddynes sal. Canfyddodd yno rhyw hen wrach yn ceisio gwthio llwyaid o physic i lawr gwddf y druanes, ond methai hi a'i lyncu.

Cyn gynted ag y gwelodd y llances sal ac anffodus, fod Mrs. Powel wedi dyfod i'r ystafell, hi a lefodd yn groch, "Oh, Ma'm, chi nygodd i yma!—chi nygodd i yma!" Aeth Mrs. Powel yn mlaen at erchwyn y gwely, dan grymu, a gofynodd, beth oedd hi yn ei feddwl wrth hyny. "Oh!" meddai'r llances drachefn; "gwae erioed i mi ddod yma; ac ni faswn ni ddim wedi d'od oni b'a chi!"

"Beth wnaethum i tuag at eich dwyn i'r fath gyflwr, druan bach?" gofynai y foneddiges.

"Ond, o ran hyny," ychwanegai'r ddynes anffodus, fel pe buasai heb glywed y cwestiwn diweddaf, "nid oeddych yn meddwl dim drwg; felly'rwy'n maddeu i chi. Ond cofiwch, mai chi nysgodd i i yfed; ac oni ba'i hyny, faswn i ddim yma heiddiw!"

"Nid wyf yn cofio erioed i mi wneyd i chwi yfed—nid wyf yn gwybod i mi eich gweled erioed o'r blaen."

"Ai ê? Dydach chi ddim yn cofio Jane y'ch hen forwyn chi? A dydach chi ddim yn cofio gneud i mi yfed glasiad o gin bob diwrnod golchi? Daswn i heb gym'ryd y glaseidiau rheini, faswn i ddim wedi troi allan fel hyn. Mi eis yn ffond o ddïod, ac mi ddygodd y ddïod fi i ddiwedd gwaeth na daswn i wedi cael fy ngeni mewn lle heb grefydd. Oh, beth dasa mam yn fyw i wybod hyn! Tybed i bod hi'n gwybod, a hithau yn y nefoedd?" Gwae, gwae fi!"

Effeithiodd yr olygfa yn ddwys ar Mrs. Powel. Gofynodd i'r llances ddirywiedig faddeu iddi am ei chamgymeriad—ei bod hi wedi gwneyd y cyfan o garedigrwydd, ond ei bod yn awr yn gweled iddi fethu yn ei hamcan. Yna gofynodd a oedd rhywbeth ag y gallai hi ei wneyd ar ran y llances! hithau a atebodd,

"Nac oes! Yr wyf yn myn'd i farw! Waeth gin i beth na nhw o'r hen gorphyn yma—dydio dda i ddim ond i lygru—mi llygris i o mewn pechod. Ond y mae gin i rai petha' eisio'u deud, os byddwch chi cystal a gwrando."

"Yr wyf yn gwrando," meddai Mrs. Powel.

"Wel, cym'rwch rybudd i beidio byth rhoi dïod feddwol i'r morwynion. Mi ddeudaf fy hanes i chi, gael i chi wel'd cymaint ddrwg naeth licar i mi. Ar ol i mi'ch gadael chi, mi gefis le hefo Mr. Lloyd, Post—office; ond collis y lle am i fy mistres wel'd fy mod yn ffond o licar. Cefis le arall, a chollis hwnw'r un fath. Wedyn mi gefis le mewn tŷ Ffeiriad; ac mi ddygis bum swllt o stydi fy mistar, er mwyn medru prynu potelaid o gin, o achos fy mod yn ffondiach o hono fo bob dydd. Gyrodd fy mistar fi i ffwrdd heb fy nghosbi; ond deudodd wrtha i am gym'ryd gofol o hyny allan, a pheidio medlaeth â diod, a byw'n onest.

"Faswn i yn ty fy myw einioes yn cael lle arall yr oeddwn wedi myn'd yn rhy garpiog, budur, a hagar. Mi ddioddais eisio bwyd am dridiau, heb gael tamaid na llymaid, na lle i gysgu."

"O'r diwedd, mi eis i sefyll ar y dre', i gael arian trwy ffordd ddrwg. Bu'm fyw felly am ddwy flynedd, a bywyd ofnadwy gefis i. Eis i'r tyciau; bu'm yn gorfadd yn y fan yma am rai wsnosau, heb ddim at fy nghadw ond 'chydig o'r plwy."

"Yr ydw'n gwybod na fydda i ddim byw fawr hwy, ac fedrwn i ddim meddwl am farw heb ddeud wrthoch chi am gym'ryd gofol i beidio gwneud i'ch llancesi yfed licar."

"'Rwan mae fy neges i wedi darfod, ac yr wyf yn goll— wng fy hun i gym'ryd fy siawns; a phan ddaw'r hen angeu creulon i fy'nol, 'does gin i ddim gobaith am ddim gwell nag—uffern!"

Wedi rhoi cynghor da i'r druanes, a gorchymyn i wraig y tŷ edrych ar ei hol yn fwy gofalus, a rhoi arian iddi i geisio bwyd cyfaddas, &c, ymadawodd Mrs. Powel.

Wedi cyrhaedd y tŷ yn nghwmni ei gŵr a Llewelyn, aeth dros yr holl hanes, a dywedodd ar ol darfod,—

Oh, pa fodd y gallaf byth olchi ymaith y pechod a gyflawnais? Sut y bu'm i mor ddall a pheidio gweled fy mod yn gwneyd mawr ddrwg, ac yn pechu yn erbyn Duw? Os bydd ir Hollalluog faddeu i mi'r pechod hwn, mi gymeraf well gofal sut i ymddwyn o hyn allan!"

Bu'r llances fyw am ychydig wythnosau wed'yn, mewn canlyniad i fendith y nef ar ofal Mrs. Powel o honi, a'r ymgeledd a wnaeth iddi. Ac mae lle i obeithio—er mai lle go gul hefyd ei bod wedi cael llwyr edifeirwch a maddeuant gan Dduw trwy Grist. Gobeithiwn y goreu.

PENNOD XI.

GWELWYD Llewelyn Parri'n eistedd yn astud, unwaith, eto, yn swyddfa Mr. Powel. Ymroddai o ddifrif at ei ddyledswyddau. Daeth Mr. Powel i feddu mwy o ymddiried ynddo braidd nag o'r blaen—cyn ei gwymp diweddaf. Cynyddai'n rhyfeddol yn ei wybodaeth o'r gyfraith, nes gwneyd ei hun yn ddefnyddiol iawn i'w warcheidwad.

Wedi gorphen ei orchwylion yn y swyddfa, ei unig bleser yn y prydnawn fyddai brysio at Gwen—darllen llyfr bob yn ail pennod â hi—neu eistedd wrth ei hochr tra y chwareuai hi'r piano—neu fyned allan i rodio gyda hi. Yr oedd ef yn bob peth iddi hi, a hithau yn bob peth iddo yntau; a gwnelai'r ddau gwpan dedwyddwch yr hen bobl yn llawnach nag y bu erioed.

Aeth misoedd heibio felly. Rhoddodd y rhan fwyaf o hen gyfeillion Llewelyn Parri i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd atynt hwy, er's talm. Yr oedd rhai o honynt yn dra chenfigenus hefyd, ac yn ceisio cynllunio rhyw foddion i'w ddenu i'w rhwyd.

Nid oedd yn awr ond tri mis rhwng ein harwr a dyfod i'w gyflawn oed, pryd y byddai iddo ddyfod i feddiant o gyfoeth nid bychan. Y fath les y gall ef ei wneyd hefo'r cyfoeth hwnw, os bydd iddo fyw'n deilwng o'i fam!—y fath fell- dith y gall ef a'i eiddo fod i'r byd os bydd iddo anghofio cynghorion y ddynes dduwiol honno! Onid wyt braidd yn crynu mewn pryder, ddarllenydd, wrth fynod yn mlaen, a dyfalu pa fath ddyn y try Llewelyn allan ar ol dyfod i'w oed? Cei wybod cyn bo hir. Os oes genyt ryw fath o ymddiried yn niogelwch yr egwyddor o fyw'n gymedrol, yn awr fydd yr adeg i ti ddwyn dy opiniwn i'r prawf. Yr wyt yn myned i gael golwg ar ddyn ieuanc, wedi cael ei ddwyn i fyny gyda'r gofal mwyaf, gan un o'r mamau goreu a duwiolaf—un wedi cael perffaith brawf yn moreu ei oes o dwyll y byd a drygedd meddwdod—un yn gwybod ddarfod i'w hoffder ef o'r ddïod fod yn un achos i yru ei fam i'r bedd—un a wnaeth ammod o'r fath ddifrifolaf wrth erchwyn gwely ei anwyl fam na welid byth mono ef yn feddw drachefn—un yn y mwynad o bob manteision daearol, a chanddo chwaer braidd rhy rhy dda i'r ddaear hon, i'w charu a chael ei garu ganddi—cei olwg ar ddyn yn meddu yr holl fanteision hyn yn ymollwng ar fôr y byd yn nghwch cymedroldeb—cei wybod a oes ymddiried i'w roi yn yr egwyddor honno ai peidio. ****** Un prydnawn oer yn mis Rhagfyr, fe eisteddai dau ddyn ieuanc yn mharlwr y Castle Hotel. Dygwyd y ddau i fyny yn mysg y gymdeithas mwyaf boneddigaidd ag a allasai tref Gymreig o fath B{{bar|3} ei hyfforddio. Cawsant addysg dda hefyd; ac ystyrid hwy yn awr yn ddau ŵr ieuanc parchus. Y mae'r darllenydd wedi clywed enw un o honynt o'r blaen—William Vaughan, neu fel y gelwid ef gan ei rieni a'i gyfeillion agosaf—Bili Vaughan. Yr oedd Bili'n dra hoff o "sbri," fel y gŵyr y darllenydd; ond eto, nid oedd ef cyn waethed "yn y bôn” a rhai oi gyfeillion. Llanc go ddifeddwl oedd; ond credwn yn gryf fod ganddo egwyddor led lew, pe buasai wedi cael chwareu teg gan esiamplau drwg.

Y mae'n ddrwg genym nad oedd ei gyfaill y tro hwn cystal dyn ag ef. Un wedi ymwerthu i wasanaethu'r cnawd, ei wyniau a'i chwantau oedd hwn. Meddai eithaf ymddangosiad; ond calon ddrwg ofnadwy, oedd dan groen ei fynwes. Anhawdd fuasai cyfarfod â dyn harddach mewn rhai pethau; ond gresyn fod rhywbeth wedi gadael lliw cochddu ar ei drwyn, gwahanol i'r lliw hardd fydd yn cael ei adael gan awelon iach y boreu ar wyneb dyn sobr. Gellid tybied i'w lygaid fod yn leision unwaith; ond yn awr, y maent wedi troi i fath o liw llwyd. Wrth edrych ar ei law hefyd, tra yn estyn y gwydraid brandy yna at ei safn, braidd nad ellid tybied fod rhyw elyn wedi cael caniatâd i weithio 'i ffordd dan sylfeini'r tŷ o bridd, a'i fod yn ei dynu i lawr yn raddol; neu ynte paham y rhaid fod ei law yn crynu? Ofnai ei hen fodryb mai afiechyd oedd ar y Ilanc; ond ni thybiodd am foment mai afiechyd diod gadarn.

Ar ei fodryb yr oedd yn byw, a a dysgwyliai dy gael cyfoeth mawr ar ei hol, pan elai'r hen wrach allan o'r ffordd, i fysg y meirwon. Ac yna, addawai iddo 'i hun, fine life, chwedl yntau.

"Welsoch chi'rioed fel y mae Llewelyn Parri wedi altro ar ol marwolaeth ei fam?" ebe Bili Vaughan wrth ei gyfaill. Y mae'n actio'r sant byth er hyny mor berffaith a'r un pregethwr."

"Gadewch iddo—mae hyny'n eithaf i ddallu tipyn ar lygaid yr hen Bowel."

"Botheration! braidd nad wyf fi yn cenfigenu wrtho. Byddai Llewelyn yn arfer bod yn un o honom ni; ond yn awr, y mae wedi troi'n wrthgiliwr. Ond synwn i ddim nad yw yn llygad ei le er hyny."

"Yn llygad ei le! Ai peth yn ei le ydych chwi yn galw peth fel yna? O'm rhan fy hun, yr wyf yn tosturio dros y bachgen, ac yn bwriadu troi'n genadwr i geisio cael ganddo adael ei ffyrdd ynfyd, a dychwelyd at bleserau ei hen gyfeillion."

" Yr ydych yn bur hunanymwadol, yn siwr!"

"Hunanymwadol neu beidio," atebai Ffrederic Jones canys dyna oedd ei enw—"mae'n anghyson â fy nghredo fi edrych ar ddyn ieuanc o dalent mor gymdeithasgar yn difa 'i amser a'i dalent hefo pethau nad ydynt gymhwys ond i hen grystiau sychion o ddynion i'w cyflawni!"

"Ond yr wyf fi'n barnu fod Llewelyn Parri'n gwneyd gwell defnydd o'i dalent a'i amser na'r un o honom ni ein dau," meddai Bili.

"Wel, cymaint sydd genyf fi i'w ddweyd ar y pwnc yw, fy mod yn penderfynu ei dynu o'i lwybr presennol, pa un bynag ai fo ai fi sy'n iawn Fedraf fi ddim goddef edrych arno'n byw mor sanctaidd a hynyna, ychwaith."

"Beth gebystr sydd rhyngddo chwi âg ef? Nid ydych yn hoffi dim drwg iddo? O'm rhan fy hun, fynwn i ddim llawer niweidio blewyn o wallt ei ben."

"Pw lol—niweidio!—pwy sy'n meddwl am ei niweidio? 'Does dim byd rhyngwyf fi âg ef, ond fy mod yn grynsio na fuaswn i yn ei esgidiau ef. Dyna fo—bydd cyn pen tri mis yn un-ar-ugain oed, a daw holl gyfoeth ei dâd i'w feddiant yn un lwmp. Heblaw hyny, mae'r hen Bowel yn ymddangos mor hoff o hono fe, mae'n fwy na thebyg y bydd i'r hen law ei wneyd yn aer i'w eiddo yntau. Mae hyny'n eitha' da. Ond pan gofiaf fy mod i'n hongian wrth odreu culion rhyw hen wrach o fodryb grintachlyd, yr hon a all fyw mil o flynyddoedd eto i boeni fy enaid, a gwneyd fy mywyd yn fwndel o wermod i mi—y mae edrych ar Llewelyn Parri'n ormod i mi i'w ddal. Ac yr wyf yn yn penderfynu hefyd tori tipyn ar ei grib cyn bo hir."

"Y mynyd yma' roeddych yn son am fod yn gyson a'ch credo. Mi 'ch cynghorwn chwi hefyd i geisio cael gan eich geiriau fod yn gyson â'u gilydd. Dywedasoch nad ydych yn meddwl am niweidio Llewelyn Parri; a chyn gorphen eich stori, mynwch dyngu y torech dipyn ar ei grib!"

"Mi wnaf hyny hefyd, pa un bynag ai cysondeb ai anghysondeb fydd hyny!"

"Peidiwch bod yn ffwl! gadewch i'r llanc lonydd. Mae'n dda iawn genyf ei fod yn dod yn mlaen cystal, ac ni fynwn er llawer ei weled yn troi'n feddwyn yn ei ôl. Gall Llewelyn fod, cyn pen ychydig amser, yn ogoniant i'n tref, os parha i fyned yn mlaen am ychydig amser fel y mae'n myned yn awr."

"Aed yntau, ddywedaf fi. Ac ni hidiwn i ddim a rhoi pwl o dano fo i'w helpu i fyned i ben pinagl anrhydedd. Ond, cofiwch fy nghyfaill, y peth sydd yn fy ngolwg i yn awr yw hyn y mae pwrs Llewelyn yn drymach na'n pyrsau ni, pan mae ein hangenion ni'n llawn cymaint a'r eiddo ef."

"Gwir; ond ei eiddo cyfiawn ef yw ei bwrs a'r hyn oll sydd ynddo—eiddo wedi ei enill trwy flynyddoedd o ddyfalwch o ochr ei dad, ac megis wedi ei gysegru â gwaed calon yr anffodus Meredydd Parri. Braidd na ddywedwn wrthych mai gwerth gwaed ydynt!"

"Peidiwch ceisio codi ysbrydion i fy nychrynu oddi wrth fy mhlan. Y mae gan Llewelyn Parri fwy nag a wna'r tro iddo; ac waeth iddo ef dalu am ein diod a'n pleserau ni na rhywun arall—talu raid i rywun!"

"Haelionus iawn! Ond nid syniad sâl mo hwna, chwaith."

"Sâl! glywsoch chwi fi yn dweyd rhywbeth sâl erioed pan fyddai nodweddiad, pleser, ac anrhydedd fy nghyfeillion a fy hunan yn gofyn cymhorth fy nghynlluniau? A chyn wired ag fod arian yn anghenrheidiol tuag at gadw i fynu ein rhwysg a'n mwyniant, yr wyf yn sicr o gael gan Llewelyn Parri ddyfod yn mlaen i offrymu ei gyfran." A llyncai Ffrederic Jones ei wydraid brandi gyda golwg buddugoliaethus.

"Mae arnaf ofn eich bod yn addaw gormod, fy nghyfaill," meddai Bili. "Efallai nad ydych yn gwybod am adduned Llewelyn i'w fam ar ei gwely angau. A gwyddoch hefyd mai nid peth hawdd fyddai gwneyd ffwl o Llewelyn Parri os bydd yn sobr."

"Ond ei feddwi yw'r hyn sydd genyf fi mewn golwg. A pha mor gryf bynag y dichon ei adduned i'w fam fod, gwnaf iddo ei thori. Y mae gan y byw fwy o ddylanwad ar ddynion na'r marw. Dowch, llynewch y glasiad yna, ac mi a alwaf am un arall."

"Ac mi wnewch i Llewelyn Parri dalu am dano?"

"Pw! yr wyf yn sicr pan gawn Llewelyn i'n mysg, y bydd cystal genych chwi gael share o'r mwyniant a'r un o honom."

"Digon tebyg," meddai Bili. "Ond sut yr ydych yn bwriadu ei gael? Yr wyf fi wedi ei gyfarfod tua haner dwsin o weithiau yn ddiweddar, ac wedi methu bob tro cael ganddo droi gyda mi i gael glasiad."

"Ho! y mae genyf blan ag y bydd i mi fforffetio cymaint oll ag sydd ar fy helw os metha. Bydd Llewelyn Parri ar ei sbri cyn pen y pythefnos!"

Galwodd Ffrederic Jones am wydraid arall i bob un; yfodd y ddau lanc hwynt, ac ymadawsant â'u gilydd am y noson.

PENNOD XII.

DYCHWELAI Llewelyn Parri o'r wlad, un prydnawn, ar ol bod yn edrych tipyn o gwmpas y fferm Brynhyfryd—yr hon a ymddiriedid i hen was ffyddlon i deulu Llewelyn, i'w chadw a'i hymgeleddu, hyd nes y byddai ein harwr yn dymuno myned yno i fyw ei hunan. Cafodd ei gadw'n hwy nag y bwriadai, ac yr oedd wedi deg o'r gloch y nos cyn iddo ddychwelyd i'r dref. Yr oedd yn noson dywyll ac yn wlawog iawn. Cerddai Llewelyn at y tŷ yn gyflym, mewn awydd am beidio gadael i'w chwaer a'i warcheidwad fod mewn pryder yn ei gylch, wrth ei weled mor hir heb ddychwelyd.

Fel yr oedd yn troi o gwmpas congl yr heol a arweiniai at dŷ Mr. Powel, clywodd waedd, megys gwaedd merch. Rhedodd at y fan, a gwelai lances yn ymdrechu a dyn, yr hwn a geisiai ei gorthrechu. Teimlodd ein harwr ei waed yn berwi yn ei wythïenau o ddigofaint—rhuthrodd ar y cnaf, yr hwn, wrth ei weled, a dybiodd yn briodol gollwng ei afael o'i ysglyfaeth a gwneyd y goreu o'i draed. Oni ba'i iddo wneyd hyny, buasai wedi cael teimlo pwys dyrnod Llewelyn yn ei wneyd yn gydwastad â'r llawr. Neidiodd ein harwr at yr eneth, yr hon oedd wedi syrthio mewn llewyg. Cododd hi i fyny'n ebrwydd, ac wrth edrych ar ei gwyneb prydferth, yr hwn oedd yn gwisgo ymddangosiad o fraw mawr, yn ngoleu'r lamp, efe a lefodd,—

"Gwarchod pawb! Pwy a pha beth ydych? a sut y daethoch i'r trwbwl yma?"

Yr eneth ddychrynedig, yr hon erbyn hyn oedd yn dechreu dyfod ati ei hun o'r llewyg, a dorodd allan i wylo. Yn mhen ychydig fynydau, hi a ddywedodd,"Oh, syr, yn mh'le yr ydwyf?"

"Yr ydych yn ddiogel oddiwrth ychwaneg o greulondeb yn awr, pa fodd bynag," atebai Llewelyn.

"Oh fy mam!—fy mam!—cym'rwch fi adref at fy mam, neu mi fydd farw cyn i mi ei gweled!"

"Pwy yw eich mam? a pha fodd y daethoch i'r fan hon yr amser yma ar y nos?"

Ymdrechai'r llances drallodus gasglu ei meddyliau yn nghyd, a dywedodd,

"Daethum allan i chwilio am y doctor, i ddyfod at fy mam, a chyn gynted ag y daethum gyn belled a'r gongl yma, rhuthrodd rhyw ddyn ataf, yr hwn a wnaeth i mi gynygiadau anfoesol; ac o herwydd i mi ei wrthwynebu, ymosododd arnaf yn greulon. Oh, syr, cymerwch fi gartref—yr wyf yn teimlo fy hun bron a syrthio—a Duw a dalo i chwi!"

Toddodd calon Llewelyn o'i fewn o dosturi. Rhedodd ei feddwl yn ebrwydd at Gwen ei chwaer, gan ofyn iddo 'i hun, beth pe buasai rhywun yn gwneyd felly iddi hi. Aeth bron yn wallgof wrth feddwl am y fath dro cachgiaidd, annynol. Gofynodd i'r llances yn mha le yr oedd hi'n byw. Enwodd hitha ryw heol gefn yn nghanol y dref.

Cyrhaeddasant y man desgrifiedig. Safodd yr eneth gyferbyn a thŷ oedd yn ymddangos fel yn union o'r tu cefn i'r Blue Bell Tavern, lle yr ymgynullai yr hen gymdeithion meddw'n fynych i gydswpera. Gofynodd y llances iddo mewn llais addfwyn,

"Oh, dowch gyda mi i'r tŷ, rhag ofn fod fy mam wedi marw! Beth os yw wedi trengu tra yr oeddwn i allan? Oh, fy mam anwyl!"

"Raid i neb ofyn ddwywaith am i mi wneyd gweithred o drugaredd," ebe Llewelyn; ac aeth ar ei hol i fyny grisiau hirion, troellog, nes cyrhaedd rhyw ystafell. Synwyd y llanc yn aruthr pan gyrhaeddodd y fan. Dysgwyliodd weled ystafell ddigysur, ddiddodrefn, afiachus, gyda dynes sal, neu gorph trancedig ynddi. Ond yn lle hyny, ymddangosai pob peth o'i gylch yn gostfawr ac ardderchog; ac yn un pen i'r ystafell fe fe welai—nid dynes ar fin trengu—ond lliaws o foneddigion yn eistedd uwchben eu gwydrau gwirod yn llawn afiaeth a llawenydd.

Gyda 'i fod wedi rhoi ei draed yn y lle, diflannodd y llances allan o'i olwg, ac ni welodd mwy o honi.

Cafodd yr amgylchiad y fath effaith arno, nes ei wneyd yn analluog am ychydig fynydau, i adnabod neb o'r dynion lawen oedd o'i flaen, er eu bod oll wedi codi ar eu traed i'w groesawu.

"Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed?" gofynai yn wyllt, pan anerchid ef gan ŵr y Blue Bell, yr hwn a ddywedodd,

"Croesaw, Mr. Llewelyn Parri! mae'n dda genyf eich gweled wedi taflu pruddglwyfedd o'r neilldu, a dyfod i edrych am eich hen gyfeillion. Dowch yn mlaen, ac eisteddwch i lawr."

Y cyntaf iddo 'i adnabod o'r cwmpeini ydoedd Walter M'c Intosh. Gafaelodd Walter yn ei law, a gofynodd iddo, "Pa fodd y bu hyn, frawd? dyfod yma yn nghwmni geneth ddrwg!"

"Wn i ddim—yr wyf yn wallgof!"

Edrychodd o'i gwmpas, ac adnabu'r cyfan. Yr oedd ei hen gymdeithion yno i gyd. Gwridodd mewn cywilydd, ac edrychodd am y drws i redeg allan yn ei ôl. Daeth yr holl wŷr ieuainc yn mlaen ato, gan feddwl ei dynu yn ôl; cymerodd dau neu dri afael ynddo, gan geisio ei lusgo at y bwrdd. Rhuthrodd y gwaed i wyneb ein harwr—pelydrai tân o'i lygaid bywiog—crychau ei dalcen mewn cynddaredd, a llefodd allan,—

"Foneddigion! yr wyf yn eich tynghedu i sefyll draw dan boen eich bywyd! Pwy bynag a gyfhyrddo â mi, bydd yn adyn marwol!"

Gwywai'r cwmpeini annewr dan effaith ei olwg a'i lais, a phan oedd yntau yn troi at y drws i fyned i ffordd, dywedodd Walter wrth y llanciau,

"Nid oedd yn iawn i chwi geisio 'i berswadio i aros heno, o herwydd digon tebyg iddo feddwl nad oedd neb yn yr ystafell pan ddaeth i fewn gyda'i fenyw." A chan droi at Llewelyn, ychwanegodd—"Mae arnoch gywilydd o'r cwmpeini a ddaeth gyda chwi i'r ystafell, Mr. Parri, onid oes?"

Gwyddai'r cnâf beth a wnaethai'r tro i gael gan Llewelyn droi yn ei ol. Rhoddodd winc ar Ffrederic Jones a Billi Vaughan i gario'r pwnc yn mlaen.

"Profodd eich cyfeilles yn anffyddlon i chwi'r tro yma," sylwai Ffrederic.

"Dewch i mi glywed tipyn o'ch helynt," meddai Bili. "Foneddigion!" llefai Llewelyn, a'i lygaid yn melltenu mewn cynddaredd wyllt—"nid wyf yn gwybod yn iawn pa beth i'w ddweyd na'i wneyd. Ond y mae arnaf ofn fod dichell yn hyn oll. Gwrandewch arnaf!"

"O gwnawn siwr," meddai'r cwmpeini. "Gosteg, tra bo Mr. Parri'n myned dros ei hanes!"

"Cym'rwch wydraid o frandi i ireiddio'r corn cyn dechreu ar y ddarlith," meddai Ffrederic Jones, gan estyn y gwirod iddo.

"Nid oes arnaf eisiau cynorthwy hwnyna i hyrwyddo fy ymadrodd," meddai Llewelyn; "ond rhag i chwi feddwl fy mod yn ffwl nac yn gachgi,———" cymerodd y gwydr o law ei faglwr, ac i lawr â'r brandi mewn amrantiad llygad.

Y foment y llyncodd ef y gwirod, rhuodd ei gydwybod daranau o gyhuddiadau o'i fewn, nes gwneyd iddo lefain yn eigion ing ei enaid, er y dichon na thorodd allan mewn geiriau,

"Dduw mawr! pa beth a wnaethum? A yw fy mam yn gweled hyn oll?"

Ond fe gymerodd Mr. Jones ddigon o ofal am wneyd y brandi'n ddigon cryf i'r dyben iddo godi i ben y llanc hyny yn gynt, a'i feddwi. Ni chafodd ei siomi yn ei amcan. Cyn pen y deng mynyd, yr oedd Llewelyn Parri wedi anghofio pob peth yn nghylch ei fywyd blaenorol—ei fam—ei addewid—ei chwaer—a'i benderfyniadau mynych i fyw'n sobr. Cododd y gwydraid cyntaf flys am un arall —ac un arall—ac felly yn mlaen, nes iddo feddwi. Galwodd Llewelyn am y fath gyflawnder o wirod i'r cymdeithion hefyd, nes iddynt hwythau oll fyned i'r un cyflwr ag yntau. Ni ymadawsant o'r ystafell tan y boreu.

Pan ddaeth y boreu, yn lle myned, gyda gwyneb euog, adref i dderbyn cerydd Mr. Powel a maddeuant Gwen, arosodd yn y dafarn. Tretiai bob un a ddeuai i fewn. Ac erbyn y nos, yr oedd prif feddwon y dref wedi ymgasglu o'i gwmpas, a phawb yn rafio mewn afiaeth.

****** Disgynai'r gwlaw'n llifogydd—codai'r gwynt yn groch—ac yr oedd y noson yn ddu ac yn dywell.

Eisteddai dynes druan wrth ochr bwrdd, oddi ar ba un yr oedd newydd roddi'r tamaid diweddaf o fara i'r plant, y rhai a edrychent megis wedi haner llewygu. Ehedodd y wreichionen olaf o dân oddi ar yr aelwyd, ac ymgrapiai'r plant o gwmpas y lludw, tra yr eisteddai'r baban ieuengaf, braidd wedi fferu, ar lîn ei fam.

Yr oedd y ganwyll ddimeu ddiweddaf yn y tŷ yn tynu at ddiwedd ei thymhor; a theyrnasai distawrwydd a phruddglwyfedd angau yn y tŷ.

Nid ymddangosai fod y fam yn cymeryd yr un sylw o'r plant, ond cauai ei llygaid, pwysai ei phen ar ei llaw, gyd a'i phenelin yn gorphwys ar y bwrdd, a suddai ei meddwl mewn adgof o'r pethau a fuont o'r blaen.

Portreadai o flaen llygaid ei meddwl ddyddiau dedwyddion ei hieuenctid—galwai i gof ei bywiogrwydd hoenus, ei chyfeillion a'i chyfeillesau llawen, a'i hymddiried trylwyr yn mhawb a phob peth. Cofiai am dynerwch ei gŵr tuag ati, pan ddechreuasant fyw hefo 'u gilydd; a chydmarai'r cyfan gyda 'i chyflwr torcalonus presennol.

Yr oedd yn awr yn yr wythfed flwyddyn o'i bywyd priodasol, ac yn y seithfed flwyddyn o'i hatebolrwydd pwysig fel mam. Aeth yr wyth mlynedd ymaith yn ei golwg, fel breuddwyd pan ddihuno un; a chyda hwy fe ddarfyddodd adlewyrchiadau diweddaf gobaith o fewn ei mynwes. Teimlai fod y wermod yn cael ei ychwanegu yn nghwpan ei bywyd yn barhaus, ac edrychai ar y dyfodiant gydag ias o arswyd.

Pa beth fu yr achos o hyn? Pa beth hefyd, heblaw yr hyn fu yn achos o braidd bob annedwyddwch yn mysg dynoliaeth wareiddiedig? MEDDWDOD. Cymerodd y cawr yma afael yn ei gŵr, a llusgai ef tua cholledigaeth gyda grymusder anorchfygadwy. Rhoddodd ei wraig i fyny bob gobaith am ei weled yn dychwelyd i'w hen lwybrau rhinweddol, a phrofi ei hunan byth mwyach yn ŵr gofalus ac yn dad tyner—tybiai—a thybiai'n gywir hefyd ei fod wedi myned yn rhy bell yn ffordd dystryw i allu dychwelyd.

Ond hi a gafodd afael ar obaith nad yw'n darfod gyda gobeithion daearol—parodd siomedigaethau'r bywyd hwn i'w meddwl chwilio am bethau ansiomadwy—pethau tragywyddol. Penderfynodd roi'r goreu am byth i'w brwydrau daearol; edrychodd tuhwnt i'r bedd; rhoddodd ei hymddiried yn Nuw, ac edrychai am orphwysdra yn unig yn y wlad lle y mae pob deigryn o ofid yn cael ei sychu oddiar bob grudd am byth, a llawenydd tragywyddol a digymysg yn cymeryd lle poen.

Parâai'r ystorm i ymgynddeiriogi oddiallan; daliai'r gwlaw i ymdywallt yn bistylloedd; rhuthrai'r gwynt mewn pwffiau ysgubawl trwy'r heolydd a'r ffyrdd; ac ymruthrai'r llifddyfroedd trwy'r cwteri tua'r afon islaw y dref gyda swn anferth. Ysgythrai'r gwynt yr hen ffenestr; curai'r gwlaw yn erbyn y gwydr gyda ffyrnigrwydd; yr oedd pob peth yn dywyll oddiallan, a phob peth yn bruddglwyfaidd oddifewn. Darfyddodd y ganwyll, ac nid oedd yno'r un wreichionen i daflu gradd o sirioldeb ar yr un gwrthddrych, na byw na marw. Neidiodd yr hogyn hynaf ar ei draed, a gwaeddodd,—

"Mam!"

Nid oedd yno lais na neb yn ateb. Dynesai'r hogyn ati; ond ni symudai hi mwy na phren; cymerodd y bachgen afael yn ei llaw—yr oedd honno gyn oered a rhew; crïai'r babi—ond ni wnai'r fam yr un sylw o hono.

Rhuthrodd yr hogyn hynaf allan i'r heol wag ac anial, a rhedodd yn erbyn y gwynt a'r gwlaw, heb sefyll moment yn unlle, nes cyrhaedd gyferbyn a'r Blue Bell. Gwyrodd dan y ffenestr i wrandaw, a chlywodd lais ei dad yn ymddyrchafu mewn crechwen uwchben ei ddïod! Yr oedd ef yn un o'r rhai a dretid gan Llewelyn, ac yn hynod fel meddwyn yn y dref. Yr oedd pob un yn yr ystafell yn feddw. Dewiswyd Llewelyn i fod yn gadeirydd ar y cyfarfod, a Rhydderch Pritchard—tad y bachgen yn is-gadeirydd.

Pan ddaeth yr hogyn bach i wrandaw dan y ffenestr, yr oedd Llewelyn Parri newydd ddarfod siarad ar ryw bwnc llwncdestunol; ac yr oedd yr is-gadeirydd yn difyru'r cwmpeini â chân. Curai'r cyfeillion y byrddau'n ddidrugaredd ar ol pob penill, i ddangos eu cymeradwyaeth.

Cyn iddo orphen y penill diweddaf, yr oedd bachgen truenus yr olwg yn sefyll wrth ei ochr. Dyryswyd y cerddor ar ei gân, trwy i'r bachgen waeddi arno,

"'Nhad, nhad! rhowch i ni damaid o fara! Y mae fy mam heb brofi yr un tamaid er ddoe! 'nhad, nhad! mae mam yn sal!—mae mam wedi————marw!

"Wedi marw!"

Gwnaeth y geiriau hyn i galon hyd yn oed y meddwyn gyffroi. Clowyd ei dafod cyn gorphen ei gân; cyfododd o'i gadair, ac ymlusgodd adref ryw lun.

Deffrôdd yr apeliad rywun arall hefyd, heblaw ef.

"Pa beth a glywais?" gofynai'r llanc meddw oedd yn y gadair ddwyfraich, iddo 'i hun. "Mam—mam wedi marw! Ydyw, mae fy mam inau wedi marw; a dyma finau yn awr yn sathru ei gair diweddaf wrth farw dan fy nhraed!"

Cyfododd yntau i fyned i rywle nas gwyddai i ba le. Ond efe a ddilynodd y dyn a'r hogyn.

Aeth y tri i'r tŷ annedwydd a ddesgrifiasom uchod. Oedd, yr oedd Margared druan wedi marw! Eisteddai'n union fel y gwelwyd hi ddiweddaf gan y bachgen, ond yr oedd yn oer a chyfflyd. Gorphenodd esgeulusdod a chreulondeb eu gwaith arni. Cafodd y diafl o Feddwdod un aberth arall i'w gell, ac nid annhebyg yw y caiff un arall eto yn fuan.

Aeth y tad annynol yn ol i'r dafarn i geisio boddi euogrwydd ei gydwybod mewn ychwaneg o ddïod. Rhoddodd ei feddwdod, a'r cyffro a achosodd marwolaeth ei wraig arno, dro dwbl cyflymach ar olwynion ei fywyd, a llusgodd ei hun at geulan y bedd cyn haner ei ddyddiau. Disgynodd i fewn yn feddwyn; ac ni welwyd mwy o hono!

Druain o'r plant! yr oedd yn edrych yn wgus arnynt hwy. Ond cymerodd y gyfraith ofal o honynt, a chawsant noddfa go lew yn y Tlotty. Gobeithio eu bod wedi cael eu cadw yno ddigon o hyd i fod dan ofal rhai eraill, hyd nes i DDIRWEST ddyfod i'r ardal; a gobeithio eu bod hwythau, yn ngrym yr adgof am ddyoddefiadau eu mam ac euogrwydd eu tad, wedi cofleidio'r moddion goreu a welodd y byd erioed er atal meddwdod—sef llwyrymwrthodiad.

Dygodd effeithiau'r gwlaw ar ei wyneb, ynghyd a'r olygfa echrydus a welodd Llewelyn, ef i gofio fod rhywrai —neu rhyw un o leiaf—yn poeni, os nad yn tori ei chalon, o'i achos ef. Cofiodd am Gwen. Aeth adref, sef i dŷ Mr. Powel.

Ni fu yn ngholwg ei warcheidwad na'i chwaer er's tridiau; ac nis gwyddai yn iawn pa fodd i'w gwynebu yn awr. Teimlai ei euogrwydd yn faich trwm, ac nis gwyddai pa fodd i gael ymwared o hono—pa un ai trwy fyned a chyfaddef ei fai, ynte trwy ddychwelyd i'r dafarn, "fel ci at ei chwydfa." Pa fodd bynag, yn mlaen yr aeth, a gwelwyd ef yn sefyll am fynyd o flaen y drws, cyn canu'r gloch.

Tarawai yr awrlais un-ar-ddeg. Yr oedd Mr. & Mrs. Powel newydd fyned i'w gwelyau, ac eisteddai Gwen ei hunan yn y parlwr, fel pe buasai rhywbeth yn dweyd wrthi am beidio myned. Canai'r gloch. Neidiodd yr eneth at y drws, a llamodd ei chalon o lawenydd wrth weled ei brawd.

"Oh, Llewelyn!" meddai—" a ddeuaist ti'n ol? Ofnais fy mod wedi dy golli am byth;" ac aeth ato gan feddwl ei gusanu. Gwelodd ei lygaid—aroglodd ei wynt—a neidiodd oddiwrtho drachefn fel pe neidr wedi ei phigo, a llefodd,"Llewelyn Parri!—yr ydych yn feddw!"

"Paid a gwirioni, Gwen," atebai yntau. "Dim o'r fath beth; ac yr wyf yn synu at eneth gall fel tydi yn meddwl peth mor wirion. Nid wyf yn feddw!"

Syrthiodd Gwen i lewyg, a chofodd ddyfod ati ei hun goreu gallai, gyda chynhorthwy dyn meddw.

Wedi cael adferiad o'i llewyg, hi a sefydlodd ei llygaid ar yr eiddo ei brawd, yn y cyfryw ddull difrifol a cheryddol na welodd ac na theimlodd ef erioed o'r blaen mo'i fath.

"Fy mrawd!" meddai, "yr wyt wedi tori dy addewid i fy mam—yr wyt wedi dibrisio ei chais olaf yr wyt wedi darostwng dy hun—wedi pechu braidd tuhwnt i edifeirwch —ac y mae arnaf ofn dy fod yn ddyn colledig! Oh, Llewelyn, wyddost ti beth yw'r hyn a wnaethost?"

"Mae'n debyg y gwn i," oedd yr ateb sarug. "Mi fu'm yn edrych tipyn o fy nghwmpas, gan fwynhau fy hun am dridiau; a phwy a faidd fy ngalw i gyfrif?"

Wylai'r eneth yn chwerw dost.

"Am ba beth yr wyt ti'n crio, Gwen?" gofynai'r meddwyn. "Fu'm i ddim yn meddwi fwy na thithau; ac os clywi di rywun yn dweyd hyny, rhaid i ti beidio 'i goelio. Yr wyf gyn sobred a sant."

"Oh, Llewelyn! Llewelyn! Ni feddyliais erioed y buasit yn troi allan fel hyn! Y mae fy nghysur wedi ei ddinystrio am byth. O, fy mam? cawn i ddyfod atoch chwi!"

Cychwynodd Llewelyn i fyned ati, i afael yn ei llaw, ond wrth fyned syrthiodd ar draws y gadair, ar ei ben i'r llawr; tarawodd yn ei godwm yn erbyn y bwrdd crwn, ar yr hwn yr oedd amryw lestri, a thaflwyd y rhein'y i lawr nes oeddynt yn ddrylliau man. Tybiodd Mr. Powel, wrth glywed y trwst, fod dynion drwg yn y tŷ—tarawodd ei lodrau am dano, ac aeth i lawr. Y peth cyntaf a welodd oedd, Llewelyn yn mesur y llawr, ac yn tyngu yn enbyd am na fedrai godi. Enynwyd tymher wyllt yr hen gyfreithiwr i'w heithafion—cyffröwyd ei holl ddigofaint—ysgyrnygai ei ddannedd, a chauai ei ddwrn. Yr oedd yn dda i'r bachgen meddw fod ei chwaer yn yr ystafell ar y pryd, neu fuasai dim ymddiried nad ymosodasai ei warcheidwad arno'n greulon.

Ond sefyll yn fud uwch ei ben a wnaeth yr hen ŵr. O'r diwedd, gwyrodd i gydio gafael yn ei goler. Cafodd olwg llawn ar ei wyneb hagr, meddw. Ailgynhyrfwyd ei ysbryd —dechreuodd lusgo'r llanc at y drws, a gwaith ychydig fynydau oedd ei daflu allan i'r heol, gyda rhoi rhybudd iddo am beidio byth tywyllu'r drws hwnw drachefn.

Pan oedd yn myned d i gloi'r drws ar ei ol, cydiodd Gwen afael yn ei fraich, a gofynodd iddo,

"Mr. Powel! nid ydych yn ystyried beth yr ydych yn ei wneuthur! Wyddoch chwi ddim mai fy mrawd yw?" "Gwn! A gwn hefyd nad yw'n deilwng o gael ei alw'n frawd i chwi!"

"Ond, fedraf fi ddim goddef edrych arno'n cael ei daflu allan, fel ci, i'r gwlaw a'r storm, i gymeryd ei siawns. Pa mor anfad bynag yw ei drosedd, yr wyf fi dan rwymau i'w garu; ac os oes modd ei achub, fy nyledswydd yw ceisio gwneyd!"

"Ei achub! Nid yw yn werth y drafferth. Os gallodd dori yr amod ddifrifolaf ag y gallasai dyn ei gwneyd, mewn gan lleied o amser, nid oes dim a all ei atal yn awr. Y mae eich cariad yn hollol ofer. Ddylech chwi ddim ei garu! Nid yw'n deilwng o hyd yn oed maddeuant!" Clôdd y drws, gan dynu Gwen at y tân; ac yna aeth i'w wely, ar ol dweyd wrthi am beidio meddwl mwy am y peth.

Cymerodd hithau ganwyllbren, a chychwynodd i'w gwely, gan dybied, fel Mr. Powel, nad oedd yr un a allai wneyd y fath watwaredd o addewid mor bwysig, yn haeddu ei chydymdeimlad na'i chariad; a bwriadai geisio anghofio'r fath adyn diymddiried am byth.

Ond fe 'i tarawyd megis gan daranfollt, gan rym geiriau diweddaf ei mam—"cerwch y naill y llall—byddwch ffyddlon ich gilydd!" Syrthiodd y ganwyllbren o'i llaw, a safai hithau yn y lle am fynyd fel delw. Yna dywedodd wrthi ei hun,

"Ha! y mae genyf finau amod i'w chadw cystal ag yntau; ac os na chadwaf hi, byddaf yn anffyddlon. Ond mi a'i cyflawnaf. Ni waeth pa mor isel mewn pechod yr â fy mrawd, bydd ei chwaer yn ffyddlon iddo. Glynaf wrtho trwy bob peth—maddeuaf iddo—caraf, a chyflawnaf ddyledswyddau eithaf cariad chwaer!" Gweddïodd am nerth i gyflawni ei dyledswydd, ac am arweiniad ac hyfforddiant pa fodd i fyned yn mlaen. Mewn gweddi, fe dywynodd pelydr o gysur i'w henaid cyfododd oddi ar ei gliniau yn grêf ei ffydd, ac yn ymroddgar ei meddwl.

Aeth i'w gwely, gan benderfynu gweithredu ar ran ei brawd bore dranoeth.

PENNOD XIII.

TORODD y wawr. Yr oedd y gwynt wedi gostegu a'r gwlaw wedi peidio. Cyfododd Gwen o'i gwely, ac yr oedd i lawr bron gyn gynted a'r forwyn. Cymerodd damaid o fara ac ymenyn, gan brysuro i fyned allan mewn ymchwiliad am ei brawd.

Cerddodd yr eneth yn ol ac yn mlaen, i lawr ac i fyny, ar hyd a lled y y dref, am oriau; ond ni welai ni wrthddrych ei hymchwiliad yn un lle. Cyfarfyddodd â rhai o'i hen gwmpeini fwy nag unwaith, y rhai a edrychent arni â golwg gellweirus, ac a chwarddent yn eu llewis wrth ddyfalu rhyngddynt a'u gilydd beth oedd ei hamcan.

Gydag yspryd isel ac aelodau lluddedig, bu gorfod iddi ddychwelyd i dŷ Mr. Powel gyda'r nos, heb gael hyd i'w brawd. Ceryddodd ei gwarcheidwad hi am fod mor ffôl; ond ystyriai hi o hyd na wnaeth ddim mwy na 'i gwir ddyledswydd.

Bore dranoeth, amser boreufwyd, dywedodd Mr. Powel wrth Gwen,

"Sut yr ydych yn ymdeimlo heddyw, 'ngeneth i, ar ol eich lludded mawr trwy'r dydd ddoe?"

"Cystal a'r disgwyliad, diolch i chwi," atebai Gwen.

"Pe baech yn dod o hyd i Lewelyn, pa beth a wnaech wedyn?" Gofynai yntau drachefn. "Gwyddoch fy mod wedi dweyd na chai dywyllu drws y tŷ yma ond hyny."

"Ymddiried i Ragluniaeth—dyna gymaint sydd genyf i'w wneyd, os ydych chwi'n bwriadu dal at eich bygythiad."

"Wel, rhag poeni dim ychwaneg ar eich meddwl tyner, Gwen, efallai fod yn well i mi eich hysbysu ddarfod i mi gael llythyr heddyw'r bore, oddi wrth eich brawd, ac fod y llythyr hwnw wedi siglo tipyn ar fy mhenderfyniad blaenorol. Er fod rhai pethau ynddo ag y buasai'n llawn gwell i'r bachgen beidio'u hysgrifenu, eto, o herwydd ei fod yn mynegu ei edifeirwch, ac yn crefu am faddeuant, yr wyf yn barod i'w dderbyn eto yn ol, os gellwch gael hyd iddo."

"Yn mha le y mae?" gofynai Gwen yn awyddus iawn. "O gwmpas rhai o'r tafarnau yna, mae'n debyg."

"Af i chwilio am dano'r mynyd yma!"

Wedi i Gwen gyrhaedd gwaelod un heol, daeth cydnabod ati, yr hon a'i hysbysodd ddarfod iddi weled Llewelyn yn myned, tua haner awr yn ol, rhyngddo â'r porthladd. Ffwrdd â'r eneth tuag yno gyda chyflymder y gwynt, braidd.

Yn eistedd â'i ben rhwng ei liniau, ar bincyn o graig, yn union yn yr un llecyn ag y rhoddodd yr adyn Sion Williams ddiwedd arno 'i hun, hi a welodd Llewelyn. Rhedodd ato gyda gwaeddolef, rhywbeth rhwng arddangosiad o lawenydd a thrallod. Cododd Llewelyn ei ben, gwelodd ac adnabu ei chwaer, ac mewn dau fynyd yr oeddynt yn mreichiau eu gilydd.

"Oh, fy mrawd!" gwaeddai'r eneth.

"Oh, fy chwaer!" atebai'r llanc.

"I ba beth y deuaist ar fy ôl?" ychwanegai Llewelyn. "Paham y daethost i fy rhwystro i roddi fy mwriad mewn gweithrediad?"

"Pa fwriad?"

"Fy mwriad o beidio bod byth mwy yn ddarlun byw o ddyn anffyddlon i ddymuniadau ei fam—yn boen ac yn warthrudd i fy chwaer, ac yn ddiraddiad i mi fy hun ac i'r natur ddynol!"

"Gobeithio, Llewelyn bach, nad wyt yn meddwl gwneyd dim niwaid i ti dy hun!"

"Mae'n debyg na's gallaf wneyd yn awr, ar ol i dy ymddangosiad di ddatod llinynau rhewedig fy nghalon, a gorchymyn i gariad ail redeg nes chwyddo fy mron!"

"Oh—y mae bywyd o ddedwyddwch o dy flaen di eto, ond yn unig i ti ddychwelyd i chwilio am dano. Ond nid oes dedwyddwch gwirioneddol i'w gael mewn un ffordd heblaw trwy wneyd yr hyn sy' dda ac uniawn,—dyna'r hyn a ddywedai ein mam wrthym bob amser, onid ê?"

"Paham y soniaist am ein mam?"

"Am mai coffadwriaeth am dani hi, a phryder am danat ti, yw'r ddau beth agosaf at fy nghalon. Pa beth bynag a ddywedai hi wrthym, byddai yn ei ddweyd gyda'r disgwyliad iddo fod o les i mi. Ac os gall rhyw air o'i heiddo dy ddeffro a'th gymhell i droi oddi wrth ffyrdd truenus pechod, fy nyledswydd yw dy adgofio o hono."

"Da y dywedaist—ffyrdd truenus pechod—truenus ydynt yn wir. Nid oes ond gofid a gwarth i'w cael wrth eu dilyn. O, Gwen, pan fyddaf yn deffro yn y bore, yn sâl gorph a meddwl, wedi ymffieiddio ar fwyniant a chynhwrf y noson o'r blaen—pan fo adgofiadau am ddifyrwch anifeilaidd, meddwdod gorwyllt, crechwen ellyllaidd, a gweithredoedd annheilwng o bob peth ond diafliaid—pan fo adgofiadau am bethau o'r fath yn rhuthro fel dylifiadau am fy mhen, byddaf yn casâu fy hun, ac yn gwynfydu na fuaswn erioed heb fy ngeni. Bydd yr adgof hefyd am yr oriau difyr a dreuliasom yn y ffarm, pan oedd ein mam yn fyw, yn ysgubo drosof fel pelydrau disglaer oddi ar ogoniant nefoedd wedi ei cholli i mi! Oh, Gwen, yr wyf yn adyn truenus—wedi dechreu rhedeg i lawr goriwaered distryw, ac yn methu'n glir ag atal fy hun!"

"Gweddïa ar Dduw," meddai Gwen, gan roddi ei llaw am ei wddf, a'i gusanu.

"Yr wyf yn synu sut y medri di afael fel yna ynof, a rhoi cusan i mi," meddai'r meddwyn. "Y fath adyn a myfi!"

"Yr wyt ti'n frawd i mi, Llewelyn, a fy mrawd a fyddi di byth," oedd yr atebiad difrifol, tra y treiglai llif o ddagrau dros ei gruddiau.

"Gwae i mi ymostwng i demtasiwn y noson o'r blaen! ebe Llewelyn, gan guro 'i fynwes.

"Pa demtasiwn?—pwy fu'n offerynol i dy lusgo oddiwrthyf i feddwi?"

Rhoddodd ein harwr dalfyriad o hanes ei gyfarfyddiad â'r llances a'i denodd i ystafell gefn y Blue Bell, a'r modd y llwyddwyd i gael ganddo yfed.

"Oh, fy mrawd gwirion! y mae eu pechod hwy'n fwy na'th eiddo di; ond gwyn fyd na fuasit wedi dryllio'u rheffynau a darnio eu maglau, fel y dylasit! Er hyn, rhaid i ti beidio rhoi dy galon i lawr. Bydd i Dduw faddeu hyn eto; ac nid oes arno Ef eisiau dim ond edifeirwch a diwygiad. Boed i mi roi ein hymddiried ynddo Ef!" "Waeth heb! nid oes genyf fi f fi ymddiried ynof fy hun mi gollais hwnw." Gruddfanai'r dyn ieuanc yn drist. "Y mae fy hunan-barch—fy hunan-ymddiried—wedi colli am byth!"

Oh, na!—na!—y mae mantais ac amser i ddiwygio eto, ac i'th achub. Yr wyf yn cofio darllen am y fath beth ag achub "pentewyn o'r tân." Eri ti bechu'n erbyn Duw, a thori dy addewid i'n mam, cei faddeuant ond gofyn. Gweddïwn ein dau am edifeirwch a maddeuant cyn iddi fyn'd yn rhy hwyr; ac yna gelli adnewyddu dy addewid."

"Ni feiddiaf wneyd hyny bellach—nid oes yr un sicrwydd i'w roi y bydd i mi ei chadw. O, Gwen, gwyn fyd na fuaswn yn dy gyflwr di? Nid wyt ti'n agored i demtasiynau—nid oes maglau yn cael eu gosod ar dy lwybrau di fel ag sydd i mi, nid oes cyfeillion meddwon yn disgwyl am danat, ac ni fedd y pot a'r bibell yr un swyn i ti!"

"Pe buaswn yn yr un cyflwr a thithau, mi a gasaswn y cyfeillion a'r maglau yr un fath yn union. Y mae'r ysgrythyr yn dweyd nad ydym yn cael ein temtio uwchlaw'r hyn a allom."

"Ond Gwen," ebe Llewelyn, "nid dyma'r lle i siarad —y mae yn rhy oer i ti sefyll yn y fan yma'n hwy. Dos adref, ngeneth i, a threia fod yn gysurus yn y lle na feiddiaf fi droi fy ngwyneb ato!"

"Y fath eneth ddifeddwl ydwyf!" ebe Gwen. Paham y bu i mi dy gadw mor hir, heb dy hysbysu fod Mr. Powel mewn canlyniad i'r llythyr a ysgrifenaist ato, yn barod i anghofio pob peth, a dy dderbyn yn ol i'w dy fel cynt."

"Ha! ni chai'r hen law fy ngweled byth, oni ba'i fy mod yn teimlo y dylwn ddyfod er dy fwyn di. Ac o hyn allan, dyma fi am fod yn ddyn sobr. Gan dy fod yn dwyn y fath genadwri i mi, mi a ddeuaf gyda thi; byddwn fyw gyda'n gilydd fel o'r blaen."

"Ond, Llewelyn, y mae un lle arall ag y dymunwn i ni ein dau fyned yno yn nghyntaf—bedd ein mam. Ar hwnw y dylit ti adnewyddu dy addewid doredig! Ac y mae llawer o amser er's pan fuom yno bellach."

"Nid cymaint ag wyt ti'n feddwl fy chwaer. Neithiwr, bu'm yn gorwedd ar y bedd hwnw am oriau, gan ruddfanu yn chwerwder fy enaid, heb ddim yn y byd heblaw udiadau'r gwynt yn nghangau'r coed fel yn foddlon i roi'r un atebiad i mi yn fy nhristwch!"

"Mi fuost? Oh fy mrawd anwyl—wedi i ti gael dy droi dros yr unig ddrws ag y meddit ti fath o hawl ynddo, a fu i ti wneyd dy loches yn y llecyn cysegredig hwnw?"

"Do!"

Aeth ias oer dros Gwen, ac wylodd yn ddwys. Penliniodd y ddau ar y graig oer, a gweddïasant. Wedi codi, cymerodd Llewelyn afael yn ei llaw, ac aeth y ddau rhyngddynt a thy Mr. Powel. Go oeraidd y derbyniwyd ein harwr gan Mr. Powel; ond ymddangosai yr hen wraig foneddig yn falch iawn o'u gweled, a chusanodd hwy'n wresog.

PENNOD XIV.

Yr oedd Walter M'c Intosh yn awr yn ymwelydd cyson â thŷ Mr. Powel.

Nid da iawn yr hoffai yr hen foneddwr ef—yr oedd yn hen ŵr call, craffus, ac ofnai ddyben yr ymwelydd. Mrs. Powel a'i derbyniai'n wastad gyda'r sirioldeb mwyaf. Llewelyn hefyd, oedd yn falch iawn o'i weled. Ond parâai Gwen i goleddu ei hen ofnad am dano.

Nid oedd Walter wedi gwneyd cais teg at ffurfio carwriaeth â Gwen. Ond dyna a oedd ei ddyben, a pha beth bynag a feddyliai ef am dano, ni adawai yr un gareg heb ei throi, tuag at gael ei fwriad i ben. Hysbysodd ef Mr. a Mrs. Powel mai ei fwriad oedd gwneyd Gwen Parri'n wraig iddo 'i hun, gyda 'u cydsyniad hwy.

Yr oedd Walter yn awr yn dair-ar-ugain oed, ond yn ymddangos ddwyflwydd, beth bynag, hynach. Ymwisgai yn y dull mwyaf chwaethus, ac actiai'r gŵr boneddig yn berffaith ddigoll.

Ni siaradai lawn cymaint ag yn ei ddyddiau boreuaf; ond siaradai yn awr lawn ddigon i osod argraff foddhaol ar bwy bynag fyddai yn ei gwmpeini. Ond yr oedd yr unrhyw edrychiad ganddo o hyd rhywbeth annesgrifiadwy tua chonglau ei lygaid, fel yn bradychu tuedd ddichellgar a chyfrwysgall. Po fwyaf yr edrychai Gwen ar ei wyneb tywyll, gyda 'i wefus aflonydd a'i lygad gochelgar, treiddgar, mwyaf oedd ei hanymddiried ynddo.

Ymddangosai Mrs. Powel yn falch iawn fod Mr. M'c Intosh yn talu'r fath sylw i'w geneth—canys nid edrychai ar Gwen ond fel ar ei geneth ei hun. Ystyriai yn anrhydedd fod y fath foneddwr yn cynyg ei hun yn ddarpar ŵr iddi; ac addawai iddi ei hun bleser mawr eu gweled yn cael eu huno mewn cwlwm priodasol.

Nid oedd Gwen eto ond deunaw oed, ac yr oedd mor ddiniwed ac angelaidd yn ei ffyrdd syml a'i hedrychiad unplyg, nes y gallesid ei hystyried, braidd, fel rhosyn gwyn ieuanc, yn tyfu ar dir cysegredig, rhy sanctaidd, a pheraroglaidd i gael ei dori a'i wisgo yn nhwll botwm yr un dyn. Ond eto, yr oedd ei mam newydd yn ymlawenhau yn fawr yn y gobaith o gael rhoi'r gorchudd priodasol gwyn ar ei phen prydferth, ar yr achlysur o'i hymuniad â Walter M'c Intosh. Pa bryd bynag y soniai Mrs. Powel rywbeth wrth Gwen yn nghylch y garwriaeth, edrychai'r eneth mor ddiniwed, a dangosai'r fath ddifaterwch ar y pwnc nes synu ei noddwraig.

Er fod Gwen fel hyn yn dymuno cadw draw oddiwrth Walter, ond yn unig fel cyfaill, eto nis gwyddai paham y coleddai'r syniadau oeraidd hyn ato. Ond y gwirionedd yw fod y pur o galon a'r diddichell o ysbryd, yn fynych, yn meddu math o ymsyniad greddfol ag sy'n gwneyd iddynt neidio'n ol rhag cofleidio gau, pa mor hardd bynag y b'o wedi ei wisgo.

Elai ymddygiadau a geiriau Walter, ac awgrymiadau Mrs. Powel a Llewelyn, yn fwy plaen y naill ddydd ar ol y llall, nes yr oedd annichonadwy i Gwen fethu gweled yr amcan mewn golwg. Gwelodd yn amlwg mai ewyllys ei noddwraig a'i brawd oedd iddi wneyd cariad o Walter. Ond cymaint ag a allai hi wneyd oedd, canu neu chwareu bob tro y ceisiai ef ganddi, ac edrych yn dyner a hawddgar arno—teimlai nas gallai byth ei garu.

Un diwrnod cafodd Walter hyd iddi ar ei phen ei hun yn y tŷ, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfle i gyflwyno i'w sylw yr hyn a orweddai agosaf at ei feddwl. Eisteddodd wrth ei hochr ar y sofa, a chan gymeryd gafael yn ei llaw wen, efe a ddywedodd,—

"Miss Parri, y mae pwnc pwysig wedi bod yn pwyso ar fy meddwl er's blynyddoedd, o achos pa un yr wyf yn methu cael tawelwch na dydd na nos—a chwi yw yr unig un all roddi tawelwch i fy meddwl. Ymdrechais lawer gwaith i gael genych ganfod a theimlo fel yr wyf yn eich caru, ond erioed ni welsoch chwi yn dda ddangos yr un gradd o gydymdeimlad â mi. A ydych chwi'n cofio'r addewid a wnaethoch i mi, pan ddaethum, yn fachgen gyda 'ch brawd i dreulio gwyliau'r Nadolig i'ch cartref chwi?"

"Begio 'ch pardwn, Mr. M'c Intosh—nid wyf yn cofio i mi wneyd addewid yn y byd."

"Ai ni roddasoch eich llaw i mi mewn cydsyniad â chais Llewelyn, am beidio edrych hefo'r llygaid tlysion yna ar neb heblaw fi?"

"Os wyf yn cofio'n iawn, mi a ddywedais y pryd hwnw nad oeddwn yn rhoi fy llaw fel arwydd o gydsyniad; ond y byddai i mi ystyried y mater."

"Wel, gobeithio eich bod, ar ol cael cynnifer o flynyddoedd i ystyried y pwnc, wedi dyfod i benderfyniad ffafriol i mi, a'ch bod yn foddlon i dderbyn fy llaw, fy nghalon, a fy eiddo."

"Y gwirionedd am dani yw hyn, sef fy mod eto heb ddyfod i weled yr anghenrheidrwydd am i mi roddi fy hun i un dyn byw, heblaw cadw fy hun yn ffyddlon i fy mrawd."

"Oh, Gwen!" meddai Walter, gan edrych yn ei gwyneb gyda'r difrifoldeb mwyaf, " y mae fy mywyd hyd yn hyn wedi bod yn un go ddedwydd, o herwydd ei fod yn cael ei felysu â'r gobaith o'ch cael chwi yn wraig i mi mewn adeg ddyfodol. Ond os wyf yn awr i ddeall fod y gobaith hwnw wedi ei adeiladu ar sylfaen gau, fe fydd fy oes rhagllaw yn un cyfnod o annedwyddwch diswyn! Gwen—fy anwyl Wen—gwnewch addaw cadw eich hun yn bur i mi, a bod, cyn pen ychydig amser eto, yn brïod fy mynwes!"

"Y mae tegwch ac uniondeb yn fy ngorfodi i ddweyd yn blaen nas gallaf addaw hyny, syr. Yr wyf yn teimlo fy hun yn rhy ieuanc i wneyd addewid o'r fath—nid wyf ond geneth eto; a phe buaswn yn hŷn, y mae arnaf ofn na—na————"

"Fedrech chwi ddim rhoddi eich hunan i mi? Ai dyna'r hyn a ddymunech chwi ei ddweyd? Ond peidiwch a dweyd hyny, ac felly rhoi dyrnod marwol i obeithion melusaf fy mywyd boreuol. A fedrwch chwi fod mor greulon a thori'r galon sydd wedi bod yn curo am flynyddoedd mewn teimladau cynhes atoch chwi? A fedrwch chwi daflu bustl chwerwder i'r enaid na ŵyr beth yw mynyd o ddedwyddwch ond mewn breuddwydio am yr adeg y byddai i Walter a'i Wen gael eu huno yn nghyd? Pe buaswn yn ddyeithr hollol i chwi, nis gallaswn ddysgwyl dim yn amgen ar eich llaw; ond wedi i ni fod yn gydnabyddus â'n gilydd am gyhyd o amser—wedi i ni gael manteision i brofi tymherau'r naill y llall, chwaeth a thueddiadau ein gilydd hefyd a chael eu bod yn perffaith gydweddu—yr wyf yn hyderu nas gallwch wrthod addaw bod yn wraig i mi—eich ffyddlon Walter!"

"Nis gallaf fod yn wraig i chwi, Walter, a hyny o herwydd y rheswm plaen nad ydwyf—nas gallaf—eich caru. Heblaw hyny, yr ydym ein dau yn ddigon ieuanc gellwch chwi gyfarfod â chyflawnder o foneddigesau hawddgarach na mi, y rhai a fyddant yn alluog i'ch gwneyd yn ddedwyddach nag y gallwn i byth—boneddigesau yn meddu mwy o brydferthwch a chyfoeth,"

"Cyfoeth! Ai tybied yr ydych fy mod yn edrych am hwnw? Diolch i Ragluniaeth, y mae genyf ddigon o hwnw fy hunan.'ni' ddywedais hyny i chwi hyd yn hyn, rhag ofn y buasech yn camgymeryd fy amcan, trwy feddwl fy mod yn ceisio eich rhwydo â rhwyd aur. Ond waeth i mi ddweyd yn awr na pheidio y mae fy ewythr wedi marw, ac wedi gadael ei holl gyfoeth i mi. Ond beth fyddai aur nac arian y byd i mi heb fy Ngwen? Pentwr o faw!"

"Wel, Walter M'c Intosh," ychwanegai'r eneth, "yr wyf yn dra diolchgar i chwi am goleddu'r fath opiniwn da am danaf fi, er nad wyf yn ei haeddu. Ond rhaid i mi siarad fy meddwl yn blaen, i rwystro pob camddealltwriaeth mewn amser i ddod—fedraf fi byth moch caru'n fwy nag fel cyfaill. Bydd yn dda genyf bob amser gael eich cwmpeini, a bydd yn dda gan Llewelyn hefyd ar delerau cyfeillgarol—dim pellach."

"Cyfaill! meddai Walter" gwyddoch o'r goreu na's gallaf foddloni i wisgo titl mor glaear—rhaid i mi fod yn fwy neu'n llai na chyfaill! Rhaid i mi gael edrych ar Gwen fel fy Ngwen, neu ni chaiff y byd mo fy mhresenoldeb i!"

Ar hyn daeth Mr. Powel i fewn, a rhoddodd ataliad ar yr ymddiddan. Ond gallodd Walter sibrwd yn nghlust Gwen,

"Cofiwch nad wyf yn meddwl rhoi'r goreu i chwi ar hyn o dreial."

Arosodd Walter i dê'r diwrnod hwnw. Wedi gorphen y pryd bwyd, gofynodd Walter i Lewelyn ddyfod i'w ddanfon ef ychydig o'r ffordd rhyngddo a'i gartref. Derbyniodd ein harwr y cynygiad gyda pharodrwydd, o herwydd gwyddai fod Walter wedi rhoi prawf ar gariad Gwen, a theimlai awydd gwybod y canlyniad.

"Wel, Llewelyn," meddai Walter, wrth iddynt fyned trwy lôn gul, yn cael ei hymylu ar bob ochr â choed cysgodol—" y mae'n ymddangos fod holl freuddwydion melus fy ieuenctid i gael ei siomi, canys y mae Gwen yn gwrthod gwneyd dim â mi; mewn gair, dywedodd yn blaen na fydd iddi byth fy ngharu."

"Mae'n ddrwg genyf glywed hyny; ond rhaid i chwi beidio ystyried y pwnc fel wedi ei benderfynu, cyn i mi roddi fy holl ddylanwad o'ch plaid. Byddai'n o anhawdd genyf gredu y bydd i Gwen wrthod unrhyw beth a geisiaf fi ganddi."

"Ië; ond nid yw hynyna'n un prawf y bydd iddi hi fy ngharu fi;—dichon y gellwch chwi ei pherswadio i dderbyn fy nghynygion er eich mwyn eich hun; ond pa fodd y gellir cael ganddi fy ystyried yn deilwng o'i llaw er fy mwyn i?"

"Wel, y mae'r cwbl i ddibynu ar fy ymdrechion—fy ymddygiadau, a fy ngeiriau i. Os methaf a chael ganddi edrych arnoch â phâr o lygaid mor garuaidd ag yr edrychodd yr un ferch erioed ar ei chariadlanc, mi a fforffetiaf bob hawl i'ch ymddiried rhagllaw. Yn y cyfamser, ymddygwch ati yn y dull mwyaf defosiynol ac ymroddgar ag y gellwch."

"O'r goreu; mi a ymddibynaf arnoch chwi, ac ar ewyllys da yr hen dduwies—Ffawd."

PENNOD XV.

Dychwelai Llewelyn Parri o'r wlad, lle y bu'n treulio'r diwrnod. Ar ei ffordd gartref, galwodd yn y Plas Newydd, i weled Walter M'c Intosh, ac i ddadlwytho 'i fron o gyfrinach ddyddorol, fel yr arferai'r ddau wneyd â'u gilydd, pa bryd bynag y byddai rhywbeth pwysig ar eu meddyliau.

"Llawer a boenasoch arnaf," meddai Llewelyn wrth ei gyfaill, " yn nghylch fy mod bob amser yn cadw'n mhell oddi wrth y lodesi. Y gwirionedd yw, na chyfarfyddais i erioed, tra heddyw, â'r un fenyw a fedrodd fy swyno i'w charu. Ond yn awr, yr wyf wedi syrthio dros fy mhen a'nghlustiau mewn "cariad."

"Atolwg, a yw'n ormod i mi ofyn pwy yw'r angyles a ddylanwadodd gymaint arnoch?"

"Wn i ddim yn iawn, er fod genyf amcan." "Ha, hacampus! Barddonol iawn! 'Doedd ryfedd eich bod mor benboeth, y ddwy flynedd ddiweddaf, yn nghylch rhai o'ch beirdd cymreig; tybiwn fod tipyn o natur prydydd ynoch chwi eich hun.—Syrthio mewn cariad â benyw na wyddoch yn iawn pwy yw! Ai rhyw ddyn felly oedd y Lewys Morris hwnw y byddoch yn brolio cymaint ar ei ganiadau pan yn eich diod?"

"Dichon mai ê. Ond pa fodd bynag am hwnw, felly mae hi wedi digwydd hefo mi. Yr wyf wedi cael fy llygad—dynu, braidd, gan y rïan addfwyn a'm cyfarfyddodd."

"Pa le, a pha fodd y cyfarfyddasoch â'ch gilydd?" Gofynai Walter, gyda math o wên gellweirus. Ond yr oedd Llewelyn yn rhy ddifrifol gyda gwrthddrych ei serch i ganfod hyny. Aeth yn mlaen i adrodd fel y cyfarfyddodd â'r fenyw brydweddol a dynodd ei sylw gymaint:

"Fel yr oeddwn yn cerdded ar hyd glan y cornant prydferth sy'n treiglo'n agos i'n fferm, a fy meddwl wedi ei sefydlu ar ddarn tlws o farddoniaeth sydd yn yr hen lyfr Cymraeg yma, o waith Cymro, o'r enw Dafydd ab Gwilym, daethum ar draws geneth garuaidd, yr hon hefyd oedd yn darllen, ac yn ymddangos mor ddwys yn ei myfyrdodau ag oeddwn inau. Bu braidd i ni a tharo yn erbyn ein gilydd, mor agos yr aethom y naill at y llall cyn i'r un o honom wybod fod neb yn ymyl. Neidiodd yr eneth gam neu ddau yn ol, fel pe mewn braw, ac edrychai fel wedi synu. Nid oedd yn hardd iawn ymwisgai mor blaen a'r un merch ffermwr yn nghanol y wlad—ond yr oedd rhywbeth yn ei hymddangosiad ag a barodd i fy nghalon roddi tro a thoddi'n llymaid, wrth edrych arni. Yr oedd wedi ei gwisgo mewn du, fel pe buasai'n mournio, ac yr oedd ol gofid ar ei grudd. Wrth i mi edrych arni yn o galed, gwridodd ychydig. Yr wyf yn tybied ddarfod i'm hymddangosiad effeithio rhywfaint arni; ond curai fy nghalon fel calon aderyn bach wedi ei ddal mewn croglan. Edrychai tuag ugain oed, a chyn iached a rhosyn Mai. Ceisiais ymesgusodi am ddyfod ar ei thraws mor ddiddisgwyl. Ni's gwyddwn pa beth i'w ddweyd. Pan glywodd hi fy llais, edrychodd arnaf gyda'r fath dynerwch a lledneisrwydd, nes taflu fy holl enaid i fath o berlewyg. Dywedodd wrthyf, yn y llais mwynaf a glywais gan eneth erioed, heblaw Gwen, am beidio rhoi'r bai arnaf fy hun, gan ei bod hi mor feius a minau. Ac yna hi a aeth yn ei blaen, gyda 'i llygaid mawrion yn syllu'n wylaidd ar y llawr. Wyddwn i ddim beth i'w wneyd—pa un ai myned yn fy mlaen—sefyll yn yr un man—ynte myned ar ei hôl hi. Ond deliais i edrych arni, nes yr aeth o'r golwg, yr ochr arall i'r goedwig sydd o'r tu cefn i hên dŷ fy mam. Edrychais o'm hamgylch, ond nid oedd yr holl olygfa hardd yn ddigonol i ddiddyfnu fy meddwl oddi ar y rian oedd newydd fy mhasio. Rhoddaswn yr holl fyd, pe yn fy meddiant, am gael ei gweled yn troi yn ei hôl, i siarad un gair â mi. Parhâi fy nghalon i guro—ymwibiai fy meddyliau'n ormodol i mi allu darllen dim ychwaneg; felly cauais y llyfr, eisteddais ar wreiddyn gwyn hen goeden fawr oedd yn cysgodi'r cornant, ac ni's gallwn feddwl am ddim ond am y fenyw. Dyfalais pwy a allai fod—o herwydd nid oeddwn wedi ei gweled erioed o'r blaen y ffordd honno, er i mi fod yn cerdded yno ganwaith—a phoenais fy hun a thybiadau fyrdd. Wedi eistedd yn y fan honno na wn i ddim pa hyd, cofiais fy mod wedi addaw wrth y wraig sy'n byw ar y fferm, bod yno erbyn amser ciniaw. Codais yn ebrwydd, ac aethum i chwilio am damaid o fwyd."

"Wel, ar y fan yma, Llewelyn," ebe Walter yn chwerthinllyd "ddarfu i mi ddim meddwl y buasai'r un ferch dan haul yn gallu effeithio cymaint a hyn arnoch, o herwydd tybiwn bob amser fod eich holl serch at y rhyw fenywaidd yn gydgorphoredig yn Gwen eich chwaer. Ond cerddwch yn mlaen."

"Wel, er fy mawr syndod, ond er fy llawenydd hefyd, pwy welwn yn eistedd ar yr hen setl fawr wrth y tân, ond yr un fenyw fyth. Ymddangosai hithau fel pe wedi synu llawn cymaint wrth fy ail weled inau. Cefais well mantais yn awr i'w holrhain o'i choryn i'w sawdl—i wylio ar ei holl ysgogiadau, ac i wrando ar ei llais. A mwyaf a edrychwn ac a wrandawn, agosach, agosach y teimlwn fy nghalon yn ymlynu wrthi. Nid oedd yn gwybod ond y nesaf peth i ddim am ddull coegaidd y rhan fwyaf o foneddigesau balch y trefi—ni welodd fawr o'r byd, ond cymerodd Natur ddigon o ofal i'w gwneyd yn hynod am ei hawddgarwch, ei graslonrwydd, a'i lledneisrwydd. Plentyn Natur perffaith yw hi."

Wrth i Walter dori ar stori Llewelyn trwy chwerthin am ben ei wresogrwydd yn ei da darlunio, dywedodd yntau gyda mwy o ddyhewyd fyth,

"Oh, pe gwelsech chwi ei gwallt melynwawr—ei llygaid asurliw—ei gwefusau cwrelaidd ei gwddf gwyn—a'i ffurf perffaith! Rhuthrodd llinellau Dafydd ab Gwilym i wallt ei Forfudd, i fy nghof gyda grym.'

"Sut mae y rhein'y?" gofynai Walter, gyda gwên ddichelledig arall.

"Wel, mae'n hawdd i mi eu hadrodd, ond y mae'n ddrwg genyf nas gellwch chwi eu deall; ond pe baech yn medru, chwi a siaradech yn llai bostfawr o feirdd yr Alban, ac yn fwy parchus o feirdd Cymru. Dyma rai o'r llinellau:

Yn gwnfallt, fanwallt, fynwaur,
Yn gangog, frig eurog, aur.
Aur melyn am ewyn môr,
 Tresi mân tros ei mynwor:
Bargod haul goruwch brig tón,
Lleuryg euraid, lliw'r goron;
Blodeuog oedd, blaid ag aur,
Brun gwyreiddwallt brig ruddaur.
Canaid ei grudd dan ruddaur,
Cofl aur wen, cyfliw a'r aur;
Eirian rodd arwain ryddaur,
Ar ei phen o raffau aur."


"Wel, gawsoch chwi wybod pwy oedd hi?" gofynai Walter.

"Naddo. Gofynais i'r wraig sydd yn cadw y tŷ, a phan oedd hi'n myned i ddweyd wrthyf, daeth yr eneth ar ein traws, a thorodd ar y stori. Felly, rhaid i mi aros tan yfory heb wybod dim o'i hanes. Af i'r fferm y peth cyntaf boreu 'fory."

"Well done, Llewelyn! mae 'ch dull o syrthio mewn cariad yn deilwng o fod yn sylfaen i novel newydd gan Syr Walter Scott. Gobeithio na fydd gwrthddrych eich cariad mor ystyfnig i ddychwelyd eich serch ag y mae Gwen yn gwneyd i mi!"

****** Boreu dranoeth, aeth Llewelyn drachefn i'r fferm. Cafodd hyd i'r wraig ei hunan yn y tŷ. Defnyddiodd y cyfle cyntaf i'w holi yn nghylch y lodes ddyeithr oedd yno ddoe. Cafodd allan mai merch i berthynas i wraig y raig y tŷ ydoedd hi, wedi dyfod o sir Fôn, i dreulio mis neu ddau gyda hwy, er mwyn "bwrw 'i hiraeth," ar olmarwolaeth ei thad.

Cadw fferm, yn agos i L————, yr oedd ei rhieni. Bu ei thad farw bymthegnos yn ol, o'r darfodedigaeth, gan ei gadael hi a chwaer ieuangach yn amddifaid.

"Mae hi wedi bod hefo ni am wsnos bellach," meddai'r ffermwraig dda; "ac yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod yn bwrw 'i hiraeth yn o lew. 'Drychai'n fwy llawen ddoe ac echdoe nag y gwelais hi o gwbl. Ond neithiwr, 'dydw i ddim yn meddwl iddi hi gysgu yr un awr—yr oedd yn ochyneidio trwy'r nos. Gofynais iddi hi, ar ol codi, beth oedd y mater; ond gwadodd fod dim byd neillduol. Ond, a deud y gwir, Mistar—maddeuwch i mi am fod mor hy' hefyd 'rydw i'n meddwl yn y nghalon fod y'ch 'drychiad a'ch geiriau chi wedi cymryd gafael yn ei meddwl hi."

Yr oedd Llewelyn yn falch clywed hyn; o herwydd ei fod mewn pryder mawr, rhag ofn mai o'i ochr ef yn unig yr oedd y cariad yn bodoli.

Cytunodd Llewelyn hefo'r wraig i adael iddynt fod yn y parlwr ar eu penau eu hunain am ychydig amser, pan ddeuai'r eneth i'r tŷ.

Felly fu. Gofynodd ein harwr iddi eistedd wrth ei ochr ef, yr hyn a wnaeth gyda'r gwyleidd-dra mwyaf. Gofynodd iddi,

"Beth ydych yn ei feddwl o'r ardal yma?" gofynai Llewelyn.

"O, y mae'n lle hyfryd!" atebai hithau. "Buaswn yn dymuno byw yma am fy oes, ond fod yn debyg mai gwag yr ymddengys pob man i mi bellech, ar ol i mi golli fy nhad!" a hi a sychai ddeigryn oddiar ei grudd deg hefo 'i chadach llogell plaen.

"Felly yr wyf finau'n gweled rhywbeth yn eisieu yn mhob man, byth ar ol marwolaeth fy anwyl fam," ebe Llewelyn, a chymerodd afael yn ei llaw, braidd heb yn wybod iddo 'i hun.

"Ond," efe a ychwanegai, "y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf, pe y cawn fod yn eich cwmni chwi, y byddai ï'r hen fyd siomedig, peryglus, a chyfnewidiol yma, fod yn fath o wynfa ddaearol i mi."

Gwridai'r eneth wrth glywed hyn. Ond yr oedd ganddi lawn cymaint o synwyr da, ac o wyleidd—dra; a dywedodd,—

Y mae clywed hyn gan ddyn ieuanc fel chwi yn fwy nag y dysgwyliais i erioed; ond prin yr wyf yn gallu credu y dylai yr un o honom roddi rhyddid i'n teimladau, pa beth bynag allant fod, cyn adnabod mwy ar ein gilydd."

"Gwir!" ebe Llewelyn. "Ond a gaf fi ganiatâd i'ch ystyried chwi fel cyfeilles; ac os byddwch yn cael eich boddloni yn fy ymddygiadau, i gynnyg fy nghariad i chwi?"

"Syr, yr ydych yn gwneyd anrhydedd mawr i eneth amddifad, ddistadl, o fy math i, wrth gynnyg eich cyfeillgarwch; a thra yn ei dderbyn yn ddiolchgar, yr wyf yn addaw ymdrechu ei deilyngu am ein hoes. Mwy na hyn nis gallaf ei ddweyd na'i addaw yn awr!"

Ni wnaeth yr atebiad yma ond argraphu syniadau o gariad yn ddyfnach fyth ar galon Llewelyn; o herwydd fe 'i argyhoeddid fod y llances wledig, nid yn unig yn meddu ymddangosiad caruaidd, ond fod ganddi hefyd feddwl rhinweddol, ac enaid uwchlaw y rhan fwyaf o'r rhai y bu ef yn cyfeillachu a hwynt.

Cymerodd Llewelyn Morfudd Jones (dyna enw'r lodes) i roi tro o gwmpas y lle. Mawr oedd y difyrwch a gaffai'r ddau yn nghyfeillach eu gilydd. Tybiai pob un o honynt yn eu calonau eu hunain fod y Creawdwr wedi trefnu eu tueddiadau yn berffaith gydweddol a'u gilydd, canys pa beth bynag a enynai edmygedd y naill, byddai'r llall yr un mor barod i'w edmygu.

Cymerodd Llewelyn ddigon o ofal am arwain ei gydymaith hawddgar at y llecyn y cydgyfarfyddasant â'u gilydd ynddo'r prydnawn o'r blaen; ac nis gallodd ymatal rhag tywallt ei deimladau yn y lle hwnw, yr hwn a ystyriai byth wedi hyny yn fan cysegredig.

Ond gan i'n harwr addaw bod adref yn gynar, efe a arweiniodd Morfudd yn ol i'r tŷ, ac ymadawodd â hi yn y dull cynhesaf ag a allesid ddysgwyl oddiwrth ddeuddyn ieuane dan y cyfryw amgylchiadau.

Wrth ddychwelyd i'r dref, cyfansoddodd Llewelyn englyn o glod i'w gariad—canys nid ystyriai hi yn ddim llai na chariad—yr hwn oedd y cyntaf erioed iddo ef gyfansoddi mewn cynghanedd gaeth. O ran cywreinrwydd, ni a'i dodwn i lawr yn y fan yma, er y dichon nad oes ynddo fawr o deilyngdod barddol:

"Fy anwylyd fwyn, wiwlon—fy enaid,
Fy nghowlaid, fy nghalon;
Aur dlws yw fy nghariad lon,
Iawn ddelw rhinweddolion."


PENNOD XVI.

DAETH Llewelyn Parri i'w oed. Ystyriai ei hun am unwaith yn ei oes yn DDYN, ac ystyriai pawb arall ef felly hefyd.

Yr oedd ei gwympiadau blaenorol wedi eu hanghofio gan bawb, ac iawn wedi ei wneyd am bob trosedd trwy i'n harwr arwain bywyd pur sobr byth ar ol ei aildderbyniad i dŷ Mr. Powel, er ei fod yn cymeryd diferyn cymedrol bob dydd. Ni chymerid byth giniaw na swper yn nhŷ ei warcheidwad heb iddynt gael eu golchi i lawr hefo gwin neu ryw wirod arall. Ond fe gedwid at reolau cymedroldeb mor fanwl ag y gallasai bodau dynol wneyd.

Amser boreufwyd boreu dyfodiad Llewelyn i'w oed, dywedodd Mr. Powel wrtho,

"Wel, 'machgen i, dyma dymhor dy fachgendod wedi dyfod i ben, ac oes fy atebolrwydd inau wedi ehedeg ymaith. Y mae genyt yn awr hawl yn dy holl eiddo. Y mae'n llawen genyf allu dy hysbysu nad aeth yn ddim llai dan fy ngofal i, ond gwnaethum bob ymdrech i'w ychwanegu. Meddi yn awr ddigon i dy gadw am dy oes o afael pob eisieu, os parhei i fod cystal dyn ag wyt yn awr. Gobeithio er mwyn pobpeth y gwnei. Yr wyf yn awr yn barod i roddi cyflawn gyfrif o fy ngoruchwyliaeth; ac yn dymuno am i ti gymeryd gafael yn dy hawliau cyfreithlon. os bydd rhywbeth rhagllaw ag y gallaf ei wneyd drosot, dim ond i ti ei ofyn, ac mi a'i gwnaf."


"Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, "syr, ," meddai Llewelyn.

Y mae genyf yr ymddiried llwyraf yn eich ffyddlondeb a'ch callineb. Nid oes arnaf yr un brys am gymeryd meddiant o fy mhethau, o herwydd fy mod yn berffaith sicr y bydd fy eiddo'n fwy diogel yn eich llaw chwi na than fy ngofal fy hun. Ond y mae un peth ag y dymunwn ofyn eich barn arno."

"Beth yw? Os bydd fy marn o ryw fudd i ti, yr wyf yn barod i'w rhoddi."

"Wel, syr, yr wyf wedi ffurfio cysylltiad carwriaethol â genethig o Sir Fon; ac yn bwriadu, cyn bo hir iawn, cynyg fy hunan yn ŵr iddi."

Dechreuai llygaid yr hen foneddwr aflonyddu. Torodd ar siarad Llewelyn trwy ddywedyd,

"Gobeithio dy fod wedi dal dy lygaid yn ddigon uchel, a dewis rhywun o sefyllfa cystal, o leiaf, a thi dy hun."

"A dweyd y gwir," ebe Llewelyn, "ni feddyliais am fynyd am ei sefyllfa—cymaint ag a effeithiodd arnaf fi oedd gwyleidd—dra, lledneisrwydd, hawddgarwch, talent, a challineb yr eneth."

"Ai nid yw hi yn gyfoethog?"

"Nac ydyw! Y mae ei rhinwedd yn ddigon i orbwyso pob cyfoeth."

"Pw! mae rhyw syniadau rhamantaidd fel yna yn eithaf i wneyd i fynu garictor mewn ffughanes; ond thalant hwy ddim mewn bywyd gwirioneddol. Ni wiw i ti feddwl am ymgysylltu â neb îs na thi dy hun!"

"Nis gallaf feddwl am ymgysylltu â neb heblaw Morfudd Jones," ebe Llewelyn.

"Wel, wn i ddim byd am yr eneth," meddai Mr. Powel; "ond yr wyf yn dweyd wrthyt yn blaen, os bydd i ti briodi un ddynes fyw heb fod ganddi swllt i'w roi yn mhen pob swllt o'th eiddo dy hun, y bydd i ti wneyd hyny dan boen derbyn fy ngwg a fy anghymeradwyaeth i. Ond, digon tebyg nad yw hyny o bwys yn y byd genyt yn awr, pan yr wyt yn feistr arnat dy hun."

"Na—yr ydych yn gwneyd cam â mi, fy anwyl dad. Ni's gallaf byth eich galw'n ddim llai na thad, canys buoch y cyfryw i mi a fy anwyl, unig chwar. Yr wyf yn foddlon i ufuddhau i chwi yn mhob peth rhesymol; ond mewn pwnc fel hyn, ar yr hwn y dibyna dedwyddwch neu annedwyddwch fy oes ddyfodol, yr wyf yn meddwl na ddylwn ufuddhau i chwi ar draul gwneyd cam â fy nghydwybod fy hun; ac y mae honno yn dweyd wrthyf mai Morfudd Jones a ddylai fod fy ngwraig. Maddeuwch i mi, syr, am ddweyd fy meddwl mor blaen, ond yr wyf yn penderfynu gwneyd priod o'r ferch yma, yr hon yr wyf yn ei charu â'r cariad mwyaf diffuant a diledryw."

"Plaen iawn yn wir! Ond pe buasai genyf y gradd lleiaf o awdurdod drosot, mi a'i harferaswn yn awr i dy rwystro i daflu dy hun mor ynfyd i afael gwaradwydd. Y mae'n gywilydd i ti feddwl priodi neb salach na thi dy hun."

"Ond nid yw Morfudd yn salach na mi mewn dim, ond mewn cyfoeth bydol; a pha beth yw hwnw i'w gydmaru a chyfoeth meddyliol ac eneidiol?"

Aeth y ddau yn mlaen i ddadleu yn y dull hwn am enyd, nes o'r diwedd i gweryl gyfodi rhyngddynt. Yn mhoethder y ffrae, agorodd Mr. Powel ei ysgrifgist, tynodd allan fwndel o bapurau, a thaflodd hwy at Llewelyn, gan ddweyd mewn llais uchel a chythruddedig,—

"Hwda'r carp anniolchgar!—dyna gymaint ag a roddwyd dan fy ngofal i perthynol i ti; gwna dy botes hefo nhw; a chymer ofal na welir mo honot byth yn gwynebu'r tŷ yma eto. Cefaist dy droi oddi yma unwaith o'r blaen; ond fe faddeuais y trosedd a gyflawnaist y pryd hwnw; ond pe bai fy maddeuant fy hun gan y Nefoedd, yn dibynu ar fy ymddygiad presennol atat ti, yr wyf yn dy sicrhau nad ymostyngaf byth i dy groesawi dros riniog fy nhŷ ar ol heddyw. Cymer dy eiddo, a dos o fy ngolwg y mynyd yma!"

Diolchodd Llewelyn iddo yn goeglyd a chellweirus am y gorchymyn yma, a gadawodd y ty heb gymaint a ffarwelio hefo Gwen!

Oh'r fath loes i deimladau'r eneth anwyl honno oedd clywed am y cweryl a'i ganlyniadau! A hèl ei brawd i ffwrdd heb iddi gael cymaint a chusan ganddo! Yr oedd yn ormod o greulondeb. greulonded.

"Oh!" meddai" ———gyr hyn ef i feddwi eto'n waeth nag erioed! Dyna fo'n awr wedi ei ollwng gyda'r ffrwyn ar ei war—ei feddwl wedi ei gythryblu a'i daflu oddi ar ei echel—digon o arian yn ei logell—llu o gymdeithion drwg o'i gwmpas yn barod i'w ddenu i byllau meddwdod fel o'r blaen! Oh, beth a ddaw o hono ef a minau? Fy Nuw!—bydd Di'n Arweinydd ac yn Noddwr i ni!"

Ni wyddai'r addfwyn Forfudd am yr anffawd yma. Yr oedd hi wedi gadael yr ardal, ac wedi dychwelyd i Fôn at ei mam. Bu Llewelyn yno yn edrych am dani dair gwaith, ac ysgrifenai ati braidd bob dydd. Enillodd ei ymddygiad boneddigaidd, ei dymher dda, a'i ofal mawr am foesgarwch, rhinwedd, a chrefydd, tra ar ei ymweliadau â Mon, serch mam Morfudd, a rhoddodd ei chydsyniad parotaf iddynt gadw cyfrinach â'u gilydd.

Oh, druan o honi! bychan a wyddai yn awr fod ei chariadlanc wedi ei daflu i wyneb y fath demtasiwn, ac fod cymaint o galedi a gofidiau yn nghadw iddi hi yn ei chysylltiad âg ef!

Nid oes dim mwy peryglus i ddynion ieuanc penboeth, na chael eu gollwng i gymeryd eu siawns gyda digon o arian at eu galwad, fel yr oedd ein harwr yn awr.

Y cyntaf a gyfarfyddodd â Llewelyn, ar ol iddo gael ei droi eilwaith dros ddrws Mr. Powel, oedd Ifan Llwyd siopwr yn y dref, a dyn yn trin llawer iawn o fusnes, ond un meddw ofnadwy. Gwyr y darllenydd rywbeth am dano eisoes.

Ystyrid Ifan Llwyd, gan bob math o gwmpeini mewn tafarn, yn un o'r dynion difyraf, o herwydd medrai ddweyd ystori gyd ag effaith mawr, meddai ffraethineb ac atebiad parod rhagorol, a chanai gerdd cystal a'r un yn y lle. Gofynodd i Lewelyn beth oedd yr achos ei fod yn edrych mor gyffrous. Atebodd ein harwr ef trwy roddi adroddiad cyflawn o'r hyn a gymerodd le.

"Ac y mae'r arian genych?" gofynai Ifan Llwyd. "Mae'r papurau genyf," atebai Llewelyn.

"Ho, wel—haner dwsin o un, a chwech o'r llall. Dowch rwan, peidiwch gadael i beth fel hyn bwyso ar eich meddwl am fynyd hwy. Trowch i fewn i'r fan yma am lasiad—mae poced Ifan Llwyd yn o lawn; a thra bo ffyrling yn fy meddiant, gellwch chwi ystyried fod genych gyflawn hawl mewn hatling o honi. Gwnaethoch chwi drugaredd â mi lawer gwaith pan fyddai fy mhwrs wedi gwagâu; ac yrwan dyma fi at eich gwasanaeth."

I fewn a'r ddau; ac ni ddaethant allan o'r dafarn nes oeddynt yn feddwon.

Dechreuodd y bleiddiaid arogli'r ysglyfaeth, a gwelwyd llu o honynt yn ymgasglu o gwmpas Llewelyn Parri.

Oh, gymedroldeb, ai hyn yr wyt ti yn ei wneyd â dy blant? Wedi bod am fisoedd yn ymdrechu dilyn dy rëolau ansefydlog di, ai ni elli eu harbed rhag syrthio dros dy derfynau pan ddaw croesau i'w cyfarfod? Fedri di ddangos cynifer ag un dyn, yn mysg y miloedd fu'n ceisio dy ddilyn, ag y bu i ti ei gadw ar hyd ei oes, dan bob math o amgylchiadau, rhag syrthio i geunant meddwdod? Meddw yr ydym ni yn gweled braidd bob cymedrolwr yn troi yn y diwedd; ac os meddwyn, pa sicrwydd nad rhywbeth gwaeth?

Dyma Llewelyn Parri, druan, wedi troi'n feddwyn cyson a chyhoeddus! Parhäodd i anrhegu pob un a ddeuai i'r un dafarn âg ef, â diod, a rhoddi swperi i'w gyfeillion mwyaf cydnabyddus, am rai wythnosau, nes y gwelodd fod ei bwrs yn gwagâu'n ddychrynllyd, ac y gwelodd ei filiau'n rhy drymion i'w talu'n rhwydd.

Un bore, pan yn sobrach nag arferol, daeth i ganfod ddarfod iddo fforffetio gwerth canoedd o bunau, trwy fetio, gamblo, tretio, colli, a MEDDWI; ac yr oedd y rhai ag y bu iddo chwareu mor hwylus i'w dwylaw, yn awr yn barod i sythio arno am yr hyn oedd ddyledus iddynt.

Agorodd hyny dipyn ar ei lygaid. Gwelodd fod yn rhaid iddo werthu rhai o'r pethau gwerthfawr a adawodd ei dad a'i fam iddo, tuag at glirio ei hun yn anrhydeddus. Pwysodd hyn gymaint ar ei feddwl, a gwnaeth iddo deimlo'r fath gywilydd, nes y penderfynodd adael y wlad, a myned i Lundain.

Ah! gwyn fyd na fuasai rhywbeth yn gallu ei rwystro i fyned yno yn anad un man!—na fuasai rhywun i ddangos iddo fel y bu i gynnifer o Gymry wneyd drylliad tragywyddol o'u henw da, o'u harian, iechyd, a'u bywyd tymhorol ac ysbrydol, yn nerth hudoliaethau Llundain!

Yr oedd moesau diwylliedig, ymwisgiad boneddigaidd, prydferthwch naturiol, dysgeidiaeth campus, ac, uwchlaw pob dim—ffortiwn helaeth Llewelyn Parri, yn ddigon o drwydded iddo i gael ymgymysgu yn y cylchoedd mwyaf respectable ag y gallai Cymro o'r wlad—canys felly y'i hystyrid yno—ei ddysgwyl na 'i ddymuno.

Gwarchod pawb! yr oedd cael ei ystyried gan Gymry a Saeson Llundain yn foneddwr yn ysgolhaig uchel—yn gydymaith dyddan, ac yn hardd o berson—yn fwy na digon gyda chynhorthwy'r gwirod yr oedd yn ei lyncu'n barhaus, i droi ei ymenydd. Aeth y nesaf peth i fod yn wallgof. Meddwai bob dydd, nes yr aeth yn raddol, i golli cwmni bob dyn ag oedd ganddo ofal am ei gymeriad, ac heb neb i ymgyfeillachu a hwynt ond rhai mor benchwiban ag ef ei hun.

Cafodd flas ar fyned i'r theatres. Lleoedd melldigedig yw y rhan fwyaf o'r rhai hyny. Profodd y theatre i fod yn felldith i Lewelyn beth bynag. Ac fe fuasai'n ymwaredu rhag myned yn agos yno, oni ba'i ei fod yn feddw.

Un noson, fe aeth i wrandaw ar fenyw o'r enwogrwydd uchaf, yn chwareu dernyn tra phoblogaidd. Yr oedd y chwareuyddes y pryd hwnw yn anterth ei gogoniant—yn ieuanc, brydferth, gyda pherson hardd, llais o'r fath oreu, a thalent dra dysglaer. Gwnaeth ei hymddangosiad hanner-angelaidd yr olwg, a'i dull di-ail o fyned trwy ei chyfran, effaith dwfn ar feddwl Llewelyn. Curai a bloeddiai o gymeradwyaeth iddi'n uwch na neb. Tybiodd ddarfod iddo ddwyn ei sylw hi, ac ymwenieithodd iddo 'i hun ei bod wedi edrych arno gyda thynerwch fwy nag unwaith, ac wedi ei anrhydeddu a'i gwên. Gosododd hyny ei ymenydd ar dân—derbyn edrychiad caredig a gwén serchog gan y fath fenyw! Gormod—gormod!

Aeth y chwareuyddiaeth drosodd hwyliodd pawb ymaith—rhai tua chartref ac eraill i ymfoethi mewn pleser a phechod. Ond y chwareuyddes oedd ar feddwl Llewelyn Parri, ac ar ei hol hi y penderfynodd ef fyned!

A goelia fy nghydwladwyr hyn am Gymro? penderfynodd Llewelyu y mynai wybod yn mha le yr oedd y witch yn byw, ac y mynai hefyd gael tywallt ei galon ger ei bron! Gwyliodd hi yn myned adref—gwelodd hi yn llogi cerbyd, a llogodd yntau'r nesaf at hwnw mewn mynyd, gan orchymyn i'r gyrwr ddilyn y cerbyd arall i ba le bynag yr elai!

Pan gyrhaeddasant yr heol lle y trigai hi, ac i'r ddau gerbyd sefyll, rhedodd y llanc gwirion ati, pan oedd ar fedr agor drws ei thy, gyda'r bwriad o siarad â hi. Ond y foment y gwelodd ei hun yn sefyll o'i blaen, diflannodd ei wroldeb—ni wyddai beth i'w wneyd; a thra'n ymgolli mewn dyryswch—hi a aeth i mewn gan feddwl mai rhyw ddyn gwallgof oedd Llewelyn.

Yr ydym, tra yn ysgrifenu ei hanes y noson hon, braidd a myned i natur ddrwg wrth feddwl am ei ynfydrwydd ac ni fuasem yn gallu casglu digon o amynedd i gofnodi ei ffolineb, oni ba'i ein bod yn gwybod mai nid efe yw'r unig Gymro—na Sais chwaith, dai fater—a gafodd ei yru o'i hwyl dan effaith diod a chwareuyddiaethau Llundain. Ac er mwyn rhoddi gwers i Gymry ieuainc a ddygwyddant fyned i'r trefydd mawrion, yr ydym yn myned trwy y rhan yma o hanes bywyd ein harwr.

Do, ddarllenydd, fe ddyryswyd cymaint ar ymenydd Llewelyn Parri, gan y ddynes yma, nes y bu iddo fod yn ddigon o ffwl (maddeuer i ni am alw ein harwr felly hefyd—dichon nad yw'n oddefol nac yn rheolaidd) i gerdded yn ol ac yn mlaen o gwmpas drws ei thŷ, tan chwech o'r gloch boreu dranoeth. Teimlai ei hun fel wedi ei drawsblanu yn y fan honno. Ymdrechai sefyll weithiau ar yr un llecyn ag y gwelodd ef hi yn sefyll arno ddiweddaf—ysbiai trwy'r ffenestri, gan ddychymygu ei bod yn edrych arno o dan odreu'r blinds—dychymygai glywed ochenaid yn ymddyrchafu o'i mynwes o gydymdeimlad ag ef. A hyn oll, pan oedd cenllysg yn peltio'r llanc braidd i farwolaeth, a phan oedd yr anwyl Forfudd Jones mewn petrusder yn ei gylch, ac yn gobeithio 'i fod yn parhau'n ffyddlon a digyfnewid. Ond pa goel sydd i'w roddi ar ddyn meddw?

Effeithiodd y cyffro a'r oerni'n drwm arno. Hanner awr wedi chwech, cafodd yr heddgeidwad hyd iddo wedi fferu i ddideimladrwydd ar gareg drws gwrthddrych ei gariad gau. Yn ffodus, gwasanaethodd cerdyn ag oedd yn ei logell, i alluogi'r heddgeidwad i'w gymeryd i'w lety. Galwyd meddyg ato, a chanfyddodd hwnw fod effaith y ddïod a yfodd, y cyffro ar ei feddwl, a'i waith yn sefyll allan trwy'r nos ar y fath dywydd, wedi dwyn twymyn beryglus arno. Cynghorodd y meddyg ef i beidio yfed dafn ychwaneg o wirod nes llwyr wellhau: ond yfed a wnaeth, nes, yn ychwanegol at y twymyn, iddo ddwyn arno 'i hun y selní ofnadwy hwnw a elwir wrth yr enw delirium tremens—sef math o wallgofrwydd, yn deilliaw oddi wrth yfed i ormodedd—neu yr hyn a adwaenir yn fynych gan y Cymry yn gystal a'r Saeson dan y disgrifiad o "weled y Blue Devils."

Ymosododd y clwyf hwn ar Llewelyn yn ei ffyrnigrwydd mwyaf. Gorchymynodd y meddyg ar fod iddo gael ei rwymo wrth y gwely; a phan deimlodd y meddwyn ei hunan yn rhwymedig felly, gyda haid o ddieithriaid o'i gwmpas, gwnaeth yr oernadau mwyaf brawychus, ac ysgyrnygai ei ddannedd fel ellyll! Edrychai ei wyneb, a fu mor deg gynt, yn gwbl fel gwyneb rhyw fod annaearol. Ymwibiai ei lygaid i bob congl o'r ystafell, gan edrych fel pe am neidio allan o'i ben. Llefai, ysgrechai, ceisiai gnoi ei hun a phawb o'i gwmpas, am tuag awr gron. Wedi hyny diffygiodd, a gorweddodd yn llonydd am enyd.

Nesäodd y meddyg ato gan geisio teimlo 'i bwls. Gyda 'i fod wedi cyf hwrdd â'i arddwrn, trôdd Llewelyn ato, gan lefain,—

"Gwarchod pawb! Ifan Llwyd. Pwy fuasai'n disgwyl dy weled yn y fan yma? Wyddost ti fy mod i bob amser yn hoff o dy gwmpeini?"

Yn ffodus i'r gwallgofddyn, yr oedd yno Gymro yn yr ystafell, yr hwn a gyfieithai i'r meddyg bob peth a ddywedai Llewelyn os byddai yn Gymraeg. Cymerodd y meddyg arno mai Ifan Llwyd oedd, er mwyn ceisio dyfeisio rhyw foddion i dawelu ei feddwl. Ac y mae'n wybyddus hefyd yn mhlith y doctoriaid, mai y ffordd oreu i drin dynion yn y cyflwr hwnw yw gadael iddynt gael cymaint ag a ellir yn rhesymol a diogel o'u ffyrdd eu hunain.

"Trugaredd anwyl!" gwaeddai Llewelyn drachefn,"mae genyt bâr o lygaid dychrynllyd, Ifan—erchyll—melldigedig! Lle cefaist ti nhw? Pa ddiafl a'u gwnaeth mor uffernol yr olwg? Nid llygaid dynol ydynt, mi wnâf lw—nage'n wir! Tebyg i ba beth y meddyliet ti fy mod yn gweled dy lygaid hyllion?"

"Wn i ddim yn wir?" ebe'r meddyg, yr hwn a gamgymerai Llewelyn am Ifan Llwyd.

"Maent yn union yr un fath a phâr o lygaid un o ddamnedigion uffern—tra'n llygadrythu rhwng barau tanllyd ei garchar! Beth feddyliet ti o'r drychfeddwl yna, Ifan?"

"Mi feddyliwn ei fod yn un dychrynllyd ofnadwy," atebai'r meddyg.

"Ha, ha, ha!—Ha, ha, ha!" rhuai Llewelyn fel anghenfil wedi digio—"Diafliaid ydych i gyd fel yr ydych yn y fan yma. Ond mi fedraf fi, gan y'ch bod yn sôn am ddrychfeddyliau dychrynllyd, greu rhai teilwng o Homer — Shakespeare—o Goronwy Owain. Ac mi gewch fy nghlywed yn dweyd pethau mwy barddonol fyrdd o weithiau na hwnyna, yfory; o herwydd yr wyf yn bwriadu myn'd i lawr i annwn, i ddysgu'r ellyllon siarad Cymraeg; a phan ddeuaf yn ôl, mi rôf wers i ti, Ifan Llwyd, yn ei hiaith hwy, a wnaiff y tro i ti gadw cwmpeini'r Blue Bell i chwerthin am ddwy flynedd gron—ha, ha, ha!"

"Ifan!" gwaeddai drachefn—" Lle mae Bili Vaughan?—lle mae Ffred Jones? — lle mae Walter? Ha! mae'r corgi hwnw'n meddwl mai beirdd yr Alban yw'r goreu,—oni bai ei fod yn gariad i Gwen fy chwaer, mi fuaswn yn ei alw'n ffŵl. Gelwch o yma! Ho, Walter, ddaethoch chwi?" meddai, gan droi at y Cymro oedd yn sefyll wrth ochr y meddyg. "O'r goreu. 'Rwan—mae genyf ddarn o farddoniaeth i'w adrodd, a digon o ddrychfeddwl ynddo fo i yru'r byd yn bendramwnwgl. Pa Aristophanes?—pa Sophocles?—pa Virgil?—pa Byron?—ië Byron, Scotchman oedd ef, onid ê? Ond pa—Ifan Llwyd, paham yr wyt yn siarad ar fy nhraws fel yma? Nid yw'n ymddygiad boneddigaidd, gweddaidd, moesgar, mewn un modd." Tawodd am fynyd neu ddau. Yna llefodd yn groch,—

"Ah! glywsoch chwi'r daran yna?——welsoch chwi'r mellt? Ofnadwy!——mawreddog! — arddunol! Well done, Dafydd ab Gwilym!—ti oedd yr unig fardd er dechreuad y byd a allodd gyfansoddi darluniad iawn o'r daran yna glywais i 'rwan. Glywaist ti linellau Dafydd ab Gwilym erioed, Walter?" gofynai, gan droi at y Cymro. "Naddo, sut y maent?" atebai yntau.

"Ha, dywedodd am y daran, ei bod

Yn gwlawiaw croewlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn.'"

"Dyna ddarn!" efe a ychwanegai. "Ond—ond—dyma fy synwyrau'n dianc!—maent yn rhedeg ymaith ar garlam gwyllt!—daliwch nhw bobol!" ac estynai ei ddwylaw, fel pe buasai'n ceisio dal rhywbeth rhag dianc.

Yna trôdd at y meddyg drachefn, a gofynodd yn wyllt,

"Welaist ti hi, Ifan? y fath gorph! —y fath wynebpryd! —y fath droed! —y fath lais!—ond, uwchlaw pob dim—y fath lygad! Onid yw hi'n glws, Walter?" gofynai drachefn, gan droi at y Cymro hwnw.

"Ydyw anghyffredin," atebai yntau.

"Ond, sut na ddeuai hi yma? Ydyw hi ddim yn gwybod fy mod yn ei dysgwyl?"

"Ydyw, siwr, ac y mae hi am ddyfod yn bur fuan; treiwch chwithau i ymdawelu tipyn i aros iddi ddyfod."

"Beth?—beth?—aros iddi ddyfod! Pwy, pwy? Ah! Ffrederic," meddai, gan droi at un dyn arall oedd yn yr ystafell—"I ba beth yr hudaist di dy fwldog yma, dwad? Ifan cadw fo draw, wnei di? Edrych fel y mae o'n ffrothio o gwmpas ei geg! Fel yna y bydd cwn cynddeiriog bob amser cyn neidio a brathu!"

"Nid oes yma yr un ci," ebe'r Cymro.

Oes, y mae— mae—gwelwch!—oes! Clywch o'n chwyrnurwan! Dyma fo'n dyfod—Ifan Llwyd, Bili Vaughan cadwch o draw—cadwch o draw! Estynwch y gleiffon yna i mi—mi dalaf i'w gwman o!'rwan!" llefai, gan ymdrechu â dillad y gwely, fel pe y buasai mewn ymladdfa fawr â rhywbeth. "Dyna fo!" gwaeddai drachefn—dyna fo! Mi a'i tagais—y diafi melldigedig!! Mae o wedi trengu—wedi trengu—wedi trengu!"

Wedi hyn, bu'n llonydd am tua chwarter awr. Ac yna llefodd drachefn mor uchel nes y rhaid fod y bobl o'r heol wedi ei glywed, ac yn y fath fodd arswydus, nes yr oedd ei lais yn treiddio fel iasau rhewedig trwy gnawd pob un yn yr ystafell—" Ewch ymaith, gnafon! ddiafliaid!" gan ymdrechu a'r dynion oeddynt yn ei ddal. "A ddaethoch chwi yma i fy mwrdro? Ha—a—а—а!" A syrthiodd yn ol drachefn ar wastad ei gefn fel pe buasai rhywun yn ei dagu.

Deallodd y meddyg os parâi fel hyn yn hir, nas gallai'r babell bridd ymgynal. O ganlyniad, mynodd gael eillio ei ben yn llwyr, heb adael yr un blewyn o wallt—gwaedodd lawer arno o'i fraich—gorchymynodd ar fod i'r ystafell gael ei chadw mor ddystaw ag oedd modd, ac ar fod i bob dyeithrddyn gael ei gadw o honi, a chymysgodd ryw physigwriaeth briodol iddo. Pe na buasai hyn wedi ei wneyd yn y modd mwyf deheuig ac effeithiol, credu yr ydym y buasai ei ddelirium yn cael ei weithio i'r fath raddau, nes gwneyd i'r fflam o gynddaredd yr oedd ynddi ymgyneu gyda'r fath ffyrnigrwydd, nes llwyr ddifa'r cynneddfau deallol, gan adael y corphyn — y gragen—y muriau noethion, duon, ac adfeiliedig, eu hunain, yn gofgolofnau echrydus o effaith gwallgofrwydd wedi ei achosi gan feddwdod.

Ond llwyddodd y driniaeth a gafodd Llewelyn Parri, i ddarostwng yr ystorm oedd yn bygwth ei synwyrau, ac hyd yn oed ei fywyd. Diflannodd y dymhestl pan oedd wedi chwythu'r dyoddefydd gyn belled ag ymylon y bedd, yn mha fan y bu'n gorwedd wedi hyny am ddyddiau lawer cyn gallu ymgodi. Nis gallai braidd ysgwyd na bys na llaw, nac ysgogi yr un rhan o'i gorph, nac hyd yn oed cnoi ei ymborth. Braidd y gallesid dweyd am amryw ddyddiau ei fod ar dir y rhai byw, ac nid pryder bychan a feddiannai feddwl y meddyg yn nghylch ei dynged ddyfodol.

PENNOD XVII.

PAN ddaeth y gair i glustiau Morfudd a'i mam, fod Llewelyn wedi troi allan i fod yn ddyn mor wyllt a meddw, penderfynasant na fyddai dim mwyach a wnelent hwy âg ef. Nis gallai yr hen Wenhwyfar Jones feddwl am adael i'w merch hynaf gael ei chylymu am ei hoes â dyn yn meddu cyn lleied o reol arno 'i hun. Gwyddai yr hen wraig o'r goreu nad ellid byth dysgwyl dedwyddwch hefo dyn meddw. Cafodd wers nad anghofiai am ei hoes, mewn perthynas i annedwyddwch gwraig meddwyn, o herwydd fe drôdd brawd iddi hi allan yn feddwyn cyhoeddus, a dygodd y fath drueni i'w deulu nes y bu i'w wraig dori ei chalon mewn gofid ac eisieu. "A pha beth a ddeuai o honof," meddai Mrs. Jones wrth Morfudd, "pe y byddai raid i ti fyw a bod hefo dyn meddw? Na, gwell yw i ti gael dyn tlawd, os sobr, na phe caet fab i bendefig, pe byddai yn feddw. Ni wiw i ti feddwl gwneyd dim ychwaneg âg ef byth!"

Cydsyniai'r eneth yn hollol â'i mam, mai peth peryglus ofnadwy fyddai iddi ymgysylltu â meddwyn. Yr oedd ganddi ddigon o synwyr i ganfod y perygl. Ond eto, pa fodd y gellid diffodd y cariad a gyneuwyd yn ei mynwes at Llewelyn? Ai peth i'w ddifa dan bob awel groes ydyw cariad merch? Nagê! Ac nid aml y gwelsom hyd yn oed novels yn cofnodi hanes dwy ferch yn gweithredu oddiar gariad purach nag y gweithredodd Morfudd a Gwen, pan ddaethant i ddeall yn iawn am gyflwr truenus Llewelyn, brawd y naill a chariad y llall.

Aeth Morfudd, un diwrnod i F————, i edrych am Gwen Parri. Yr oedd amgylchiadau diweddar wedi dyfod â'r ddwy eneth garuaidd i hoffi eu gilydd, ac i garu'r naill y llall â chariad chwiorydd. Oh, y fath ing meddwl oedd i'w ddarllen ar wynebpryd pob un o honynt y diwrnod y siaradent yn nghylch Llewelyn!

"'Chlywsoch chwi ddim byd byth am eich brawd?" gofynai Morfudd. "Do!—glywsoch chwi rywbeth?" Naddo, yr un gair, ychwaneg na'i fod wedi gadael y wlad! Ond yn mha le y mae ef? Ai ni ddaw byth yn ol at ei Wen a'i Forfudd?"

"Oh, fy anwyl chwaer!" ebe Gwen, gan roddi ei braich am wddf Morfudd, "wn i ddim sut i ddweyd y gwirionedd wrthych! Y mae arnaf gywilydd ei fod yn frawd imi; ac y mae yn ddrwg genyf eich bod chwi wedi sefydlu eich serch arno!"

"Gadewch i mi glywed y gwaethaf!" ebe Morfudd, "Mi a'i caraf hyd y diwedd! Yn mha le y mae?"

"Y mae yn Llundain. Ond a ddaw ef byth yn ol i gysuro calonau toredig y rhai sy'n curio mewn poen yn ei gylch, sydd fwy nag a fedraf ddweyd."

Rhoddai Morfudd ochenaid drom.

Dyma lythyr a ddaeth imi boreu heddyw," ychwanegai Gwen, "oddiwrth ryw ddoctor, yn yr hwn y rhoddir tipyn o hanes yr afradlon."

Cymerodd Morfudd y llythyr i'w llaw grynedig gan ei ddarllen trwy gwmwl o ddagrau. Rhedai yn debyg i hyn:

"MISS PARRI.—Esgusodwch fi, ma'm, am gymeryd yr hyfdra i ysgrifenu atoch. Y mae'r amgylchiadau yn rhai anghyffredin i mi.

Galwyd fi y diwrnod o'r blaen at ddyn ieuanc hardd a dysgedig, yr hwn oedd yn sâl ar ol yfed gormod, fel y deallid. Nid wyf am archolli eich teimladau trwy roddi desgrifiad o natur ac effeithiau ei selni; ond rhaid i mi ofyn eich caniatâd i sylwi ei fod mewn cyflwr go beryglus.

Yr oedd yn gwbl ddyeithr i bawb yma; ac er fod pob un sydd o'i gwmpas yn ymddwyn yn berffaith garedig a gofalus tuag ato, eto tybiais, pe y gallesid cael rhai o'i deulu ei hun yn agos ato, y buasai hyny'n foddion effeithiol i'w dawelu.

Ond ni wyddai nèb o ba le y daeth, heblaw mai o Gymru, nac i bwy y perthynai. O ganlyniad, trwy ganiatâd un o'r awdurdodau, ni a agorasom ei portmanteau, yn yr hwn y cawsom bapyrau yn cynnwys pob hysbysiad anghenrheidiol; a thyna sut y medrais anfon atoch.

Pe gallech chwi, neu rywun arall ddyfod yma ato, hyd nes y bydd iddo wella digon i gymeryd gofal o hono ei hun, gwnelech drugaredd âg ef a rhoddech foddlonrwydd mawr i fy mhryder inau.

Unwaith eto, yr wyf yn gofyn i chwi fy esgusodi am eich trwblo,

Yr eiddoch &c————

Wedi i Morfudd fyned tros y llythyr, hi a sefydlodd ei llygaid mawrion, yn llawn dagrau, ar yr eiddo Gwen, a gofynodd,—

"Wel, fy chwaer, beth sydd i'w wneyd? A ydych chwi am fyned yno? Os nad ewch chwi, mi werthaf y fuwch a roddodd fy nhad i mi, ac mi af yno fy hunan! Pa siomedigaeth bynag a roddodd meddwdod Llewelyn i fy ngobeithion disgleiriaf, fedra'i ddim meddwl am ei adael i farw yno, heb na chwaer na chariad i esmwythau ei obenydd, na sychu'r chwys oddi ar ei dalcen!"

Cymerodd Gwen afael yn llaw Morfudd, syrthiodd ar ei gliniau, a ddywedodd,

"Wel, trwy gymhorth Duw, efe a gaiff chwaer a chariad i'w wylio, ynte; ac ni raid i Morfudd werthu ei buwch ychwaith. Y mae Rhagluniaeth wedi fy nghynysgaeddu fi â moddion, ac fe gaiff hwnw ei ddefnyddio tuag at adferu'r colledig—brawd i mi a gwr i chwithau!"

"Diolch i Dduw! Mia af adref at fy mam, ac a ddywedaf y cyfan wrthi. Gwn y bydd iddi fy ngwrthwynebu; ond y mae pob gwrthwynebiad yn rhy wan i gariad.

"Deuaf gyda chwi i Lundain y mynyd cyntaf y byddwch yn barod."

"O'r goreu. Mi a ddeuaf yn awr gyda chwi adref, i ymresymu â'ch mam, ac yna cawn gychwyn bore 'fory."

****** Safai'r ddwy eneth ymroddgar wrth erchwyn gwely y claf ddydd a nos, gan wylied pob ysgogiad ar ei wynebpryd —cymhwyso defnynau adfywiol dwfr glan at ei wefusau sychedig—cadw draw bob gwybedyn rhag disgyn ar ei dalcen marmoraidd, a suo ei deimladau i dawelwch cariad. Ni's gallai edrychydd wneyd allan pa un o'r ddwy a arddangosai fwyaf o bryder a gofal—yr oedd y ddwy wedi myned yn llwyd gan wylio, ac yn barod i suddo dan y baich oedd yn pwyso ar eu meddyliau, wrth weled gwrthddrych ei serch megis yn ymdrechu rhwng bywyd ac angau, heb wybod yn iawn pa un ai gadael byd o gyfnewidiadau a wnai, ynte byw i fod eto yn noddwr ac yn gysur i'w anwyl rai.

Ond trwy ofal diflino'r genethod a'r meddyg, dan fendith Rhoddwr pob daioni, dechreuodd Llewelyn ymddeffro i fywyd—dychwelodd ei synwyrau gwibiedig, ac nid bychan oedd ei syndod, wrth ddyfod ato 'i hun, canfod wrth ei ochr, gyda golygon pryderus, yr unig ddwy a adawyd ar y ddaear i ofalu am dano ac i'w garu.

Llawer gair o gariad a basiwyd rhwng y tri, pan ddaeth y llanc yn ddigon cryf i siarad. Erioed ni theimlodd ef y fath edifeirwch yn llenwi ei fynwes ag yn awr, wrth gydmharu ei fywyd anwadal, meddw, ac annuwiol ei hun, ag ymddygiad dianwadal, ymroddgar, a duwiolfrydig ei gariad a'i chwaer.

Gwellhaodd ddigon i ddychwelyd gartref yn nghwmni y ddwy eneth.

Effeithiodd yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd uchod i beri iddo ddiwygio a byw'n grefyddol a rhinweddol; a daeth Llewelyn Parri i fod yn un o flodau prydferthaf yr ardal yr adeg honno, yn ei ôl. Cadwai ei hun mor ddisigl o fewn cylch Cymedroldeb, fel na theimlai ef ei hun na neb arall yr ofnad lleiaf iddo gwympo byth mwy.

Ymwelai'n fynych â thŷ Mrs. Gwenhwyfar Jones, ac anghofiodd yr hen wraig dda ymddygiadau blaenorol ei darpar fab-yn-ghyfraith. Argyhoeddwyd hi fod ei edifeirwch a'i ddiwygiad yn drwyadl a diffuant, ac ymddiriedai yn ei sefydlogrwydd.

Cytunodd Llewelyn a Morfudd i briodi. Gwnaeth ef bob peth yn barod yn hen fferm ei fam i'w derbyn hi yno fel ei wraig, a'i gwneyd yn gysurus ar ol dyfod.

Pan eglurodd ein harwr ei holl fwriadau i Mrs. Jones, ymddangosai hi'n lled hwyrfrydig. Er ei bod yn credu yn sefydlogrwydd Llewelyn, ac wedi pasio heibio ei waith yn ei siomi hi a'i merch o'r blaen trwy feddwi, eto, ni theimlai ei hun yn bur barod i ymadael â Morfudd am dipyn yn hwy. Yn wir, nid peth bychan ydyw i fam ofalus—mam wedi colli manteision cynghorion ei gŵr hefyd—roddi ei hanwyl ferch yn meddiant estron, "er gwell, er gwaeth." Carai'r hen Gymraes y llanc â chariad mam; eto wrth feddwl am adael iddo briodi ei merch, digon naturiol fuasai iddi adgofio hoffder blaenorol Llewelyn o ddïod gadarn; ac er nad oedd ef byth wedi meddwi er yr adeg y bu yn Llundain, eto yr oedd yn rhaid iddo gael diferyn cymedrol. Credwn fod Mrs. Jones yn deall y natur ddynol, yn gystal a natur y diodydd meddwol, yn dda, a'i bod yn argyhoeddedig fod yn anhawdd iawn i neb chwareu â'r wiber feddwol heb dderbyn ei brathiad gwenwynig. Buasai'n dymuno, cyn gwllwng gafael o'i merch, fel y bu mam Llewelyn yn dymuno flynyddoedd lawer cyn hyny, am i ryw gyfundrefn newydd, ddiffael, gael ei rhoi mewn gweithrediad, trwy gymhorth pa un y gellid cadw'r llanc o diriogaeth meddwdod. Ond och! yr oedd y gyfundraeth eto heb ei darganfod. Felly, nid oedd gan yr hen wraig ond dweyd, os rhaid fyddai iddynt gael prïodi, na wnai hi eu rhwystro, ond mai ei dymuniad hi fuasai iddynt aros blwyddyn neu ddwy eto, i edrych a fuasai Llewelyn yn profi ei hun yn ddigon o ddyn i yfed yn gymedrol, a dim ond yn gymedrol.

Diwrnod y brïodas a ddaeth. Mawr fu'r llawenydd yn yr ardaloedd ar yr achlysur o uniad Llewelyn Parri a Morfudd Jones. Wrth eu gweled yn dychwelyd o'r Eglwys yn mreichiau eu gilydd, clywid llawer yn dweyd mai gwir oedd yr hen air, mai "llanciau Arfon a Merched Mon pia hi."

Mor hyfryd oedd yr hen fferm y diwrnod y dygodd Llewelyn Parri ei ddyweddi yno, i fod yn feistres y Brynhyfryd! Mor garuaidd oedd pob peth yn ac o amgylch y ty! Ni welid dim ond symledd chwaethus a defnyddiau dedwyddwch dirwysg. Anadlai y rhosynau eu llongyfarchiadau peraroglaidd, a chathlai yr adar anthemau o groesaw. Edrychai'r defaid ar y bryn, a'r gwartheg ar y cae fel pe buasent yn lloni ar yr achlysur dyddorol. Clywid swn llawenydd yn mhob congl, a gwelid sirioldeb yn dawnsio ar bob grudd.

Anhawdd yw dysgrifio teimladau Llewelyn ar y pryd. Canfyddai ei hun yn ddyn adferedig, cadwedig, dedwydd, wedi cael ei ysgubo o safn rôth marwolaeth trwy ffyddlondeb di—ail, a chariad diffuant ei Forfudd a'i Wen, pan yr oedd y diafol a'i holl angelion yn dysgwyl am dano, i wneyd i fyny un aberth ychwanegol at y miloedd Cymry sydd wedi disgyn i'r pwll diwaelod trwy effeithiau dinystriol meddwdod! Teimlai ei hun yn ddyn dedwydd pan yn meddu'r fath ddynes ragorol yn brïod ei fynwes—dynes a roddodd y fath brawf o ddyfnder ei chariad a'i hymroddiad, pan yr oedd ef wedi syrthio mor ddwfn, ac ystaenio ei hun mor ddu gan warth a llygredigaeth. Pa fodd y gallai neb fod mor annynol ag ofni y byddai iddo byth mwy ymdrybaeddu yn y dom? Os gall cymedroldeb gadw dyn rhag myned yn feddwyn, fe gedwir Llewelyn Parri yn awr. mae'n ffieiddio meddwdod fel y drwg mwyaf—yn ei gasâu a chas cyflawn—ac yn penderfynu cadw ei hun cystal ag y gall, trwy arfer ychydig o ddïod feddwol, oddiwrth y ffosydd y syrthiodd iddynt gynnifer o weithiau. Y mae ganddo addewid i'w fam drengedig i'w hail adnewyddubuchedd ddrwg flaenorol i edifarhau o'i herwydd—bywyd sobr a rhinweddol i ymgyrhaedd ato rhagllaw—gwraig brydweddol a hawddgar i'w noddi, i'w chysuro, ac i dreulio ei oes mewn pleser yn ei chwmni. Y fath gadwyni pwysig sydd i'w gadw rhag myned ar gyfrgoll! Y mae braidd yn anmhosibl tybied y gwelir ef byth yn troi yn wibiad a chrwydriad oddiwrth ffyrdd cymedroldeb a sobrwydd.

Ah! Llewelyn Parri—ni a welsom ugeiniau yn dechreu eu bywyd priodasol, yn llawn mor siriol a gobeithiol a thithau—ond pa beth a ddaeth o honynt yn y diwedd?—a pha beth a ddaw o honot tithau? Pa fodd bynag, ni a obeithiwn y goreu; ac os cawn ein siomi, ni fydd genym ddim i'w wneyd ond tyngu yn erbyn aneffeithiolrwydd cymedroldeb i gadw dynion rhag meddwi!

PENNOD XVIII.

Y MAE Brynhyfryd yn parâu i fod yr un a'r unrhyw le cysurus. Nid oes yn yr holl fyd yr un gwrthddrych mor werthfawr yn ngholwg Llewelyn Parri ag yw ei Forfudd. Ac i roddi grym ychwanegol i'w hoffder a'i gariad o'i wraig, y mae geneth ddwyflwydd oed, llawn castiau a thrwst hogenaidd, yn cripio ar ei lin. Chwyddid ei fron gan gariad gŵr a thad; a chlywyd ef yn dweyd un diwrnod, wrth Walter M'c Intosh, wrth son am ei ddedwyddwch, nad oedd modd iddo roddi darluniad cywirach o'i deimladau wrth weled ei blentyn ar fraich ei mam, nag a roddodd Coleridge:—

"My slow heart was only sad when first
I scanned that face of feeble infancy;
For dimly on my thoughtful spirit burst
All I had been, and all my babe might be!
But when I saw it on its mother's arm,
And hanging at her bosom (she the while
Bent o'er its features with a tearful smile),
Then I was thrilled and melted, and, most warm,
Impressed a father's kiss; and all beguiled
Of dark remembrance, and presageful fear,
I seemed to see an angel's form appear—
'Twas even thine, beloved woman mild!
So for the mother's sake the child was dear,
And dearer was the mother for the child."

Aeth tair blynedd o ddedwyddwch teuluaidd a llwyddiant bydol dros ben Llewelyn Parri a'i eiddo. Y mae yn awr hoff—nis gellid ei gael. Enillodd ei sobrwydd yn ŵr ac yn dad; a gwell priod a rhiant—mwy gofalus a ei lwyddiant, a'i ymddygiadau gofalus ato 'i hun, ei deulu, a'i eiddo, gymeradwyaeth a pharch cyffredinol. Daeth yn ŵr mawr a dylanwadol dros ben. Ystyrid ef yn dywysog y fro—prisid ei farn fel deddf—mawrygid ei gyfeillgarwch gan hen ac ieuanc, boneddig a gwreng—caffai fynedfa rwydd i balasau boneddigion, ac ni chrynai'r un hen wraig rhag ei drem—edrychid arno gyda syniadau aruchel a charedig gan dlawd a chyfoethog.

Mrs. Parri, hefyd, a gerid fel yntau. Ystyrid hi yn anghraifft o hawddgarwch, diwydrwydd, callineb, b, a rhinwedd, gwerth ei hefelychu gan uchel ac isel. Erioed ni welwyd teulu dedwyddach. Pe buasai pob teulu yr un fath, buasai'n anhawdd credu fod y fath beth a chwymp dyn wedi cymeryd lle erioed. Braidd y gallasai Adda ac Efa fod yn ddedwyddach yn eu cyflwr o ddiniweidrwydd, ond yn unig fod Mrs. Parri yn teimlo math o ofn yn ei mynwes, rhag y byddai i'r gwydraid rheolaidd o wirod a yfai ei gŵr gael effaith i'w arwain i yfed ychwaneg. Byddai hyny weithiau yn taflu damp ar ei chysuron penaf. Tybed nad oedd rhyw sail iddi hi ofni hyn? Nid oedd gan Morfudd Parri y gradd lleiaf o ffydd yn yr egwyddor gymedrol; ond dywedai wrthi ei hun, "os oes yr un dyn dan haul a fedr gadw 'i hun yn sobr, ar yfed ychydig yn awr ac eilwaith, Llewelyn yw hwnw."

Yn y dyddiau hyny, yr oedd etholiad cyffredinol yn cynhyrfu'r holl deyrnas. Gŵyr pawb fel y mae'r etholiadau wedi bod yn achlysuron i yru miloedd o ddynion i feddwi. Y cyffro a achosir gan y brwydrau pleidleisioly siomedigaeth a deimlir gan y blaid a gyll y dydd, a'r Ilawenydd a deimla'r un fuddygol—y diodydd meddwol a gyfrenir (neu a gyfrenid, o leiaf) gyda'r fath helaethrwydd —y ciniawau a'r swperi a rydd yr ymgeiswyr i'w cyfeillion a'u pleidwyr, a lluoedd o bethau eraill, ydynt wedi bod yn achosion i dorfeydd o ddynion cymedrol droi'n feddwon.

Yr oedd y frwydr etholiadol yn debyg o fod yn un boeth anghyffredin trwy sir Gaernarfon, yr adeg honno, yn enwedig o gwmpas trefydd B—— a C——— Cafwyd ar ddeall fod dau foneddwr cyfoethog a phoblogaidd dros ben, yn bwriadu tynu'r dorch yn erbyn eu gilydd; a mawr fu ymdrechion pob un o'r ddwy blaid i sicrhau cymaint ag oedd modd o ddylanwad, cyfoeth, talent, a gwybodaeth o'u hochr.

Edrycha i'r blaid dros ba un yr addawodd Llewelyn Parri ei lais a'i ddylanwad, ato ef gyda rhag ddysgwyliadau awchus a gwresog. Gwyddent am ei boblogrwydd, am ei gysylltiadau parchus, ei fywiogrwydd, ei hyawdledd, a'i gyfoeth; a gwnaent eu goreu i gael ganddo ymarfer pob mantais yn ei feddiant i hyrwyddo eu hachos, a'i gael i ddyben llwyddiannus.

Dydd yr etholiad a ddaeth. Hwyliai Llewelyn Parri ei hun i fyned i'r dref. Curai calon ei wraig mewn pryder, rhag ofn y byddai i'r cyffro achosi iddo yfed gormod. Pan oedd yn cychwyn, bu braidd iddi ei gynghori i gadw glir oddiwrth gwrw a gwirod, oni b'ai iddi ofni drachefn y buasai gocheliad felly yn sarad arno, ac yn dangos iddo ef gyn lleied ffydd oedd ganddi yn ei gwr. O ganlyniad, ni ddywedodd ddim heblaw gofyn tua pha bryd y deuai ef adref.

"Byddaf yma erbyn amser tê,'nghariad i," ebe Llewelyn, gan gusanu'r wraig a'r plentyn.

"O'r goreu, fy anwylyd," ebe hithau; "mi a barotoaf ddysgleidan bur dda o dê i chwi, gyda theisen flasus.

Boreu da, was; cym———." Bu agos iddi ddweyd wrtho am gymeryd gofal o hono 'i hun wedi hyny; ond fe ddiflannodd y gair ar ei gwefus cyn cael ei adrodd.

Yr oedd heolydd y dref yn orlawn o bobl o bob cwr a chongl o'r wlad. Dechreuodd y frwydr fawr. Esgynodd y pleidiau yr esgynlawr parotoedig, a cheisiodd amryw areithio; ond nid oedd modd braidd clywed yr un gair, gan faint yr husiadau o un ochr a'r cymeradwyaeth o'r ochr arall, pwy bynag a siaradai. Ond yn mlaen yr elai'r areithwyr goreu gallent. Gorfodwyd llawer i eistedd cyn cael dweyd yr un gair, gan faint y trwst a'r gwrthwynebiad.

Cyfododd Llewelyn Parri ar ei draed. Yr oedd rhai o'i gyfeillion ef wedi cael eu trin yn annhrugarog gan y mob, a'r rhan fwyaf o honynt wedi gorfod eistedd heb fedru areithio ond y nesaf peth i ddim; ac edrychent fel cŵn wedi tori eu cynffonau.

Pan wnaeth ein harwr ei ymddangosiad, gwyddai ei wrthwynebwyr y caent deimlo oddi wrth ei ddawn, ac ymegnïasant yn greulonach fyth i'w darfu a'i ddistewi ef, yn anad neb. Ond rywfodd, caffai ei ymddangosiad boneddigaidd, ei wedd siriol, ei lais treiddgar a swynol, a'i hyawdledd campus, effaith gyfareddol ar y lliaws. Ni's gallent beidio gwrando arno. Gwelodd yntau ei lwyddiant yn ei gais, ac ymrodd ati hi gydag egni dau-ddyblyg. Disgynai ei arabedd a'i wawd fel plwm toddedig ar benau ei wrthwynebwyr, a gwasanaethai ei resymau cryfion a chywrain fel diliau mêl, neu falm adfywiol, i'w gyfeillion. O'r fynyd gyntaf y dechreuodd siarad, yr oedd yn amhosibl peidio canfod fod y dafol yn troi yn raddol o'i ochr ef. Elai y curo a'r llefain ffafriol yn amlach ac yn uwch fel yr elai ef yn mlaen. Cariai'r dorf i'w ganlyn megys â grym llifeiriant dyfroedd lawer.

Wedi siarad am dros awr gron, eisteddodd i lawr yn nghanol taranau o gymeradwyaeth, y rhai a barhasant am amser maith ar ol iddo dewi.

Yn ffodus—neu yn anffodus yn hytrach—ei blaid ef a gafodd y fuddugoliaeth. A gwyddai pob copa walltog fod araeth Mr. Parri wedi gwneyd mwy'r diwrnod hwnw tuag at ddwyn hyn i ben na dim arall.

Aeth y frwydr drosodd. Ymgasglodd y blaid fuddygol i'r Castle Hotel, i'r dyben o adloni eu hysbrydoedd â lluniaeth ac â llawenydd. Parotöwyd ciniaw ardderchog ar draul yr ymgeisydd llwyddiannus, o ba un y cyfranogai rhai o brif foneddwyr y Sir.

Fel y gellid disgwyl, telid sylw mawr i Mr. Parri, gan y cwmpeini; ac anrhydeddwyd ef mewn dull arbenig, trwy i'r cadeirydd ar yr achlysur gynyg ei iechyd da yn llwnedestun, ac i brydydd oedd yn digwydd bod yno, gyfodi ar ei draed, a'i anerch âg englyn, gyda chyfeiriad neillduol at ei araeth gampus, gan ddywedyd,—

Byw areithydd y Brython,—a siriol
Cicero gwlad Arfon;
Daeth o'i wrol, freiniol fron,
Ddylifedd ail i afon.

Tynwyd Llewelyn Parri, braidd yn ddiarwybod iddo 'i hun, i yfed. Yr oedd moesau da yn galw am iddo ddychwelyd diolchgarwch am y dull gwresog y cynygiwyd ac yr yfwyd ei iechyd da; a chynygiodd yntau mewn addaliad, iechyd y cadeirydd.

Yfwyd dwsin neu ddau o lwncdestunau—canwyd amryw ganiadau a cherddi—traddodwyd anerchiadau, ac ni ymwasgarodd y cwmpeini hyd nes oedd yn ddeg o'r gloch y nos.

Y fynyd gyntaf yr aeth Llewelyn allan i'r gwynt, teimlodd ei fod yn analluog i sefyll ar ei draed—yr oedd wedi meddwi. Oferedd oedd iddo feddwl am farchogaeth adref yn y cyflwr hwnw; ac o ganlyniad, nid oedd dim i'w wneyd ond troi yn ol i'r dafarn, a threulio'r noson honno yno.

Pa fodd yr ymdeimlai Morfudd Parri yr holl amser yma? Druan o honi!

Dysgwyliodd yn bryderus am amser te; a phan ddaeth, nid oedd yr un gŵr wedi dyfod! Clywodd yr awrlais yn taraw chwech—saith—wyth, heb i'w gŵr ddychwelyd o'r "lecsiwn." Dechreuodd calon Morfudd guro mewn pryder am ddychweliad ei gŵr am y tro cyntaf ar ol priodi. Teimlai fel pe buasai gwmwl du, llawn taranfolltau, yn codi uwch ei phen, a'i bod hithau a'i phlentyn wedi eu tynghedu i gyfarfod a thymestl arswydus. Er hyny, ceisiai goleddu'r dysgwyliadau goreu am ei gwr. Tybiai fod rhyw fater o bwys, nad oedd modd ei ochelyd, wedi ei gadw rhag dychwelyd gartref mewn amser—nad oedd bosibl ei fod wedi anghofio cymaint am brïod ei fynwes plentyn ei serch—amgylchiadau ei dŷ a'i dylwyth, fel ag i ymollwng i ganlyn unrhyw demtasiwn a'i cadwai oddi cartref yn wirfoddol. Tybiai mai rhaid oedd yn ei gadw'n hwyr heb ddyfod gartref, ag y dychwelai gyn gynted ag fa'i modd, fel dyn.

Ond ah! mor chwannog i gael ein siomi ydym yn ein dysgwyliadau goreu! Treiglai'r oriau yn mlaen mor arafaidd yn ngolwg Mrs. Parri a phe buasent gynifer o flynyddau; ac edrychai'r noson honno gyhyd yn ei golwg a rhyw dragywyddoldeb o ran parâd! Arhosodd ar ei thraed trwy'r nos i ddysgwyl ei gwr; ond dysgwyl gafodd hi—ni ddaeth yno'r un Llewelyn Parri'r noson honno.

Gyda thoriad gwawr boreu dranoeth, fe ganai'r fronfraith mor ber ag arferol ar frig y goeden tu cefn i'r tŷ; ond Och! gyn lleied o gydymdeimlad oedd yn nghalon Morfudd Parri â chân y perorydd adeiniawg! Yr oedd calon y wraig addfwyn wedi ei thaflu o'i lle. Pa ryfedd? Onid oedd hi newydd dreulio noson o ddysgwyl wrth wr meddw, am y tro cyntaf erioed? Ond gwyn fyd mai'r tro diweddaf fuasai! Ond waeth heb nag adeiladu cestyll o obeithion—i'r llawr y maent yn dyfod yn chwilfriw.

Tua chanol dydd, dranoeth ar ol y lecsiwn, dychwelodd Llewelyn gartref. Ceisiodd ymddangos mor sad ag y gallasai. Ymdrechai hefyd ymddangos yn siriol. Gwnaeth amrywiol esgusodion dros aros o'r cartref am noson gyfan. Cymerodd y plentyn ar ei lin—cusanai hi, a gwasgai hi at ei fynwes mor wresog ag y gallai ar y pryd. Canfyddodd Myfanwy bach yn ebrwydd fod rhyw arddangosiad o gywilydd yn llechu yn nghongl llygad ei thad; gwnaeth allan yn ebrwydd hefyd fod rhywbeth ar ei wynt na fyddai arfer a bod. Yr oedd y beth bach yn rhy ieuanc a difeddwlddrwg i ddyfalu beth oedd yr achos o hyn. Ond nid oedd mor hawdd cau llygaid y fam. Canfyddodd honno yn ebrwydd yr achos o'r cyfnewidiad yn edrychiad ac ymddygiad ei gwr—gwyddai mewn eiliad mai wedi bod yn meddwi yr oedd.

Ond ni chymerodd Morfudd arni wrth Llewelyn ei bod yn drwgdybio dim. Gwenai arno gyda 'i charedigrwydd arferol; gan obeithio, os oedd ei gŵr wedi dygwydd llithro y tro hwnw, na wnai mo hyny byth drachefn.

Oh,'ngwas anwyl i!" meddai, "mae'n dda genyf eich gweled! Ofnais fod rhyw ddamwain wedi dygwydd, wrth eich bod yn aros mor hir heb ddyfod gartref; a phenderfynais ddyfod i'r dref i chwilio am danoch y prydnawn yma. Ond diolch eich bod wedi dyfod yn fyw ac yn iach!" "Ho, na, 'chymrodd dim annymunol le, Morfudd," ebe Llewelyn, gan geisio edrych yn ddidaro "dim ond fod y frwydr yn yr etholiad wedi dygwydd troi allan yn boethach nag y dysgwyliais i, ac i ni fethu cloi pethau i fyny'n briodol hyd nes oedd yn rhy hwyr i mi ddyfod gartref neithiwr."

Gadawyd i'r peth basio felly am y tro.

Ond, y mae'n syn meddwl y fath rym sydd gan ddiodydd meddwol ar ddyn, pan unwaith yn ymollwng i'w hyfed. Y mae pryf y gwirod, pan unwaith y sefydla ei lygad ar ei ysglyfaeth, yn rhwym o effeithio hudoliaeth mwy cyfareddol na holl swyn y rattle-snake na'r boa constrictor ddyhiraf! Y mae llyn tro meddwdod, os unwaith yr eir i gyrhaedd dylanwad ei genllif, yn fwy sicr o fod yn fwy dinystriol na throbwll Ceris ac na rhaiadr y Niagara! Pe amgen, pa fodd y gallasai Llewelyn Parri, yr hwn oedd yn cael ei ddal rhag cwympo gan golofnau cedyrn cais mam dduwiol—adgofion am lithriadau mynych o'i eiddo mewn amseroedd a aethant heibio gwraig mor rinweddol a Morfudd, chwaer mor gariadus a Gwen, a geneth mor swynol a Myfanwy bach? Pa fodd y gallasai'r wiber ei hudo oddiwrth gysuron dieilfydd yr ael aelwyd gartref at ddifyrwch trystiog y dafarn? Pa fodd y gallasai'r ffrydlif ei lusgo mor anorchfygadwy o fynwes ei deulu i lynclyn meddwdod? Och! peth peryglus melldigedig ydyw chwareu â'r wiber!—peth enbyd ofnadwy ydyw rhodiana ar hyd ceulanau y rhaiadr hwn!

Profodd gwaith Llewelyn Parri yn meddwi am y tro cyntaf ar ol dyfod yn ŵr ac yn dad, yn ddechreuad cyfnod truenus a gwaradwyddus yn hanes ei fywyd. Nid oedd dim arall i'w ddysgwyl, o ran hyny, o herwydd, er ei fod wedi cadw'i hun rhag meddwi byth ar ol priodi Morfudd, eto yr oedd wedi creu cariad anorchfygol yn ei galon at wirod, trwy yfed yn gymedrol am flynyddau. Y mae braidd yn nesaf peth i anmhosiblrwydd i ddyn, pa mor gryf a phenderfynol bynag y b'o, barhau'n yfwr cymedrol am oes gyfan, yn enwedig dyn o dueddiadau gwresog, cymdeithasgar fel Llewelyn Parri.

Aeth y tân dirgel, yr hwn a gynheuwyd yn araf am ystod pedair blynedd neu bump, trwy yfed yn gymedrol, yn awr yn eirias fyw. Methodd ei wraig, ei ferch, a'i fferm hyfryd, a dal Llewelyn lyn gartref—rhaid —rhaid oedd ganddo gael myned i'r dref bob dydd, lle'r arosai'n fynych am ddyddiau'n olynol, yn feddw. Dechreuodd Morfudd Parri yfed yn helaeth o gwpan chwerw gwraig meddwyn—a chwerw iawn hefyd oedd y cynhwysiad iddi hi. Yr oedd yn galed iawn i chwaer dyner aros ar ei thraed am oriau meithion i ddysgwyl am ei brawd adref o'r dafarn—i wisgo ymaith ei gobeithion mewn gwylio yn ofer — i ddifa ymaith ei chalon mewn gofid. Ond nid yw trallod ac annedwyddwch chwaer, pa mor ddwfn bynag yw, yn haeddu ei gydmaru a'r eiddo gwraig.

Edrychai Morfudd druan ar ei merch fechan gyda theimladau cymysglyd—yr oedd yr eneth yn wrthddrych poen a chysur iddi. Byddai ei chastiau hogenaidd digrif, yn fynych yn gwneyd i'r fam anghofio 'i thrallod; ond bob tro yr edrychai hi i'r dyfodiant du, dychrynai'n arswydus rhag gan nad pa beth ddygwyddai fod'n yno drysoredig i blentyn ei chroth. Ni hidiai fawr am ei thynged ei huno leiaf, ni theimlai fawr drosti ei hun yn awr, pan yr oedd tynged dau arall yn pwyso cymaint ar ei chalon—ei gŵr a'i geneth. Byddai ei chalon braidd a thori yn ddwy wrth feddwl am feddwdod Llewelyn, a melldithiai'r dydd yr aeth ef i'r etholiad fel cychwynfa bywyd o wae iddynt fel teulu.

Cyn i auaf arall fyned heibio, canfyddodd ei bod mewn gobaith o gael ychwanegiad at ei theulu. Ai gwir yw fod gwragedd rhinweddol yn llawenhau yn y rhagolwg? Os ydynt, nid oedd Morfudd Parri felly'r tro hwn. Gofynai iddi ei hun,

"Paham y dylwn i ddymuno cael plant? Y fi—gwraig i feddwyn? Ai i'r dyben o'u gweled yn tyfu i fyny ac i etifeddu deuparth ysbryd dideimlad eu tad? Oh, ai tybed y bydd raid i mi edrych ar blant fy ymysgaroedd yn ymdrybaeddu yn mhyllau llygredigaeth a meddwdod, fel y mae Llewelyn? Dysgwyliais bethau amgen am dano; ond cefais fy siomi; a phwy a all sicrhau nad fy siomi a gâf eto yn fy mhlant? Ond, mi a ddaliaf i garu Llewelyn fel cynt. Ni chaiff ei feddwdod mo 'i amddifadu o fy nhosturi a fy nghariad i. Os yw ef yn fy esgeuluso i, mi a ofalaf am dano ef. Ac os gall ymroddiad diffuant ei Forfudd ei adferu, fe 'i hadferir!"

Ond parhau i fyned yn mlaen waeth, waeth, yr oedd Llewelyn. Dechreuodd ei feddwdod maith effeithio'n ddrwg ar ei gyfansoddiad. Collodd ei fywiogrwydd arferol—ni's gallai fwyta—aeth yn nervous dros ben—ac arddangosai natur ddrwg a thymher afrywiog braidd ar bob achlysur. Aeth yn frwnt wrth—a gawn ni ddweyd? —ei wraig! Ofer oedd pob ymdrech o'i heiddo tuag at greu gwên ar ei wyneb, na gair melus ar ei wefusau. Ni enynai ei diwydrwydd, ei gweithgarwch, ei haddfwynder, a'i chariad, yr un edmygedd yn ei feddwl mwyach. Ofer hefyd oedd ei hymdrech i'w gadw gartref i dreulio prydnawnau difyr hefo hi a'r eneth bach. Ei unig bleser oedd myned i'r lle y cai wirod; yr hwn oedd yn difa ei ymenydd, ei galon, a'i gylla. Crebachwyd ei gyneddfau naturiol cryfion a'i ddarfelydd bywiog; difawyd y llinynau tyner hyny yn ei galon a arferent wneyd adsain mor felus ar y cyfhyrddiad lleiaf o eiddo bysedd cariad a hwynt. Ond fe enynwyd nwydau mwyaf anifeilaidd ei natur. Aeth yn anhaws ei garu, er na pheidiodd ei wraig a gwneyd hyny. Collodd ei edrychiad enaid—dreiddiol—collodd ogoniant a phurdeb ei ddoniau deallol—boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad—ei grebwyll chwareüus—ei barch i'r hyn oedd fawreddog, arddunol, a phur! Cafodd yn eu lle edrychiad bwystfilaidd—meddwl dŵl a marwaidd—ymddygiadau celyd a rhyfygus syniadau bâs a llygediga hoffder parâus o'r hyn oedd yn ddinystr iddo 'i hun, yn warth i ddynoliaeth, ac yn gas gan Dduw!

PENNOD XIX.

DYGODD meddwdod parâus Llewelyn Parri annedwyddwch diail i'w deulu. Bygythiai tlodi ymosod ar Brynhyfryd hefyd. Yr oedd y gwr wedi colli rhai cannoedd o bunnau yn ddiweddar mewn rhedegfeydd ceffylau yn yr ardal. Betiodd bum' cant o bunau ar droed un ceffyl, a chant ar un arall—collodd y ddau, er mawr siomedigaeth Llewelyn, yr hwn, felly, oedd dan orfod i fforffetio chwe' chant o bunnau am ei ynfydrwydd.

Heblaw hyny, yr oedd yn ystod y deuddeng mis diweddaf, heb dalu y sylw lleiaf i'w fferm; a chanlyniad naturiol yr esgeulusdod hwnw oedd gwneyd i honno fod yn ddifudd. Nid oedd Morfudd Parri yn alluog i edrych ar ol dim; o herwydd iddi gael ei dwyn yn ddiweddar i'r esgoreddfa, ac yn parâu yn wael iawn. Ond pa mor wael bynag oedd, ychydig, os dim, o gydymdeimlad a ddangosai ei gŵr tuag ati. Nid elai braidd byth i'w hystafell i ofyn pa fodd y byddai, ac anaml iawn y deuai'n agos i'w dŷ. Yn wir, ni fu yn agos i'r fan am yr ychydig fisoedd diweddaf, ond pan ddeuai yno i gymeryd rhywbeth ymaith i'w werthu, er mwyn cael arian i foddio ei drachwant. Yr oedd y ddau geffyl, ac un fuwch wedi eu cymeryd ymaith eisoes, a'u gwerth wedi eu llyncu gan Llewelyn.

Aeth i dynu cheque ar ol cheque ar yr ariandŷ heb ddodi yr un swm yn ol gymaint ag unwaith. Gwarchod pawb! pa beth oedd i ddyfod o hono ef a'i deulu? Cwynai nad oedd y fferm yn troi dim ennill iddo; ac eto nid oedd yn edrych dim ar ei hol, nac yn awdurdodi neb arall i wneyd. Cafodd flas ar chwareu cardiau, ac amryw fathau eraill o chwareuon pechadurus a niweidiol.

Un diwrnod, efe a anfonodd at ei arianwr i ofyn am ddeg punt. Ond yr oedd eisoes wedi codi mwy o bum punt nag oedd yn dygwydd iddo. Felly, anfonwyd ei genadydd yn ol heb arian. Cynhyrfodd hyn dipyn arno. Aeth adref—os teilwng o'r enw "cartref," sef i Frynhyfryd, lle y gorweddai ei wraig rhwng byw a marw. Er nad oedd wedi bod yn holi am ei hiechyd fwy nag unwaith, eto aeth ati yn awr i ofyn pa beth a wnai—fod ei arian yn y bank wedi darfod bob ffyrling.

"Wedi myned i gyd, Llewelyn?" gofynai hithau mewn llais truenus ond mwyn.

"Bob dimai goch Loegr, myn ——— Morfudd!" oedd yr atebiad annynol. Aeth y wraig i grynu'n enbyd, tra y cerddai ei gŵr yn ol ac ymlaen ar hyd yr ystafell, hefo 'i ddwylaw yn ei boced a'i ben i lawr. Beiddiodd Morfudd Parri ofyn iddo pa beth a wnaeth a'r holl arian.

"Nid dyna'r pwnc yrwan!" ebe yntau. Y maent wedi myned, a'r hyn sy'n pwyso ar fy meddwl i yn awr, nid pa beth a fu, ond pa beth a fydd nid yr hyn a wnaethum, ond pa beth a allaf wneud. Ydych chwi ddim yn meddwl, pe y gyrech at eich mam, Morfudd, yr helpai hi ni?"

"Oh, Llewelyn!" ebe'r wraig—" pa fodd y gellwch fod mor galon galed a gofyn hynyna? Ni wn yn iawn a oes gan fy mam bunt i'w hebgor ai peidio; ond os oes, byddai yn dro annynol myned a ffyrling oddiar hen wraig weddw fel y hi. Heblaw hyny, yr wyf fi wedi dyoddef llawer er adeg genedigaeth y babi yma, o eisieu arian i geisio pethau anghenrheidiol; ond ni ofynais am ddimai i chwi na neb arall, rhag eich poeni!"

"Diolch yn fawr i chwi, Mrs. Parri," meddai ynteu. "Ond mi a wn beth a wnaf—gellwch wneyd eich meddwl i fyny i godi cyn gynted ag y galloch o'r gwely yna, o ran mi af i'r dref y mynyd yma, a gwnaf gytundeb hefo rhyw un i brynu'r dodrefn, a chym'ryd ein siawns wedi hyny. Yr wyf mewn dyled fawr, a rhaid i mi ei thalu neu ddyoddef myned i'r carchar!"

Ni fuasai neb ond dyn meddw yn medru siarad felly â dynes sal fel Morfudd Parri. Ac effeithiodd yr olygfa hon i'w thaflu yn is fyth—llewygodd y foment y gadawodd ei gŵr yr ystafell, a bu'r forwyn mewn pryder mawr, gan ofn na ddeuai'r druanes byth ati ei hun.

Ar ei ffordd i'r dref yn ol, daeth llawer cynllun i ymenydd dyryslyd Llewelyn, trwy ba rai y bwriadai allu talu ei ddyledion. Weithiau, bwriadai ymadael â phob peth ag oedd yn ei feddiant y fferm a'r hyn oll oedd ynddi; bryd arall meddyliai am wneyd cais i gael arian o rai o'r cymdeithasau benthyciol oeddynt yn dechreu codi eu penau; phryd arall, bwriadai ofyn am fenthyg arian gan Gwen ei chwaer. Ond fe chwelid y cestyll awyrol hyn; o herwydd gwyddai na roddai neb fenthyg arian i ddyn mor wamal a meddw ag ef; a gwyddai hefyd nad allai Gwen roddi yr un bunt iddo heb yn wybod i Mr. Powel, dan awdurdod pa un yr oedd hi'n dymuno parâu i aros. Ac fel y noddfa ddiweddaf, efe a benderfynodd wneyd cais ar haelioni un ag y bu iddo wneyd gweithred o garedigrwydd âg ef lawer gwaith, a'r hwn oedd yn awr yn meddu digon o arian wrth law—Walter M'c Intosh. Aeth ato, a gofynodd am fenthyg pum' cant o bunnau iddo, yn ngwystl ei stock. Gwrthododd hwnw roddi dim iddo tuag at dalu dyledion ag y bu iddo amdoi ei hun ynddynt mewn canlyniad i fyw mor afradlon.

"Buaswn yn rhoi eu benthyg yn rhwydd," ebe Walter, "pe cawswn y lle lleiaf i gredu nad aech i'r fath gyflwr drachefn. Ond pe y tynwn chwi allan o'r trwbwl yma, ni fyddai hyny yn ddim amgen na gohirio tipyn ar ddydd eich dirywiad yr ydych mor ansafadwy a dwfr!"

"Walter, coeliwch fi," meddai Llewelyn Parri—" os bydd i chwi wneyd y drugaredd hon a mi, chwi gewch weled y trof o hyn allan i arwain bywyd hollol wahanol. Rhoddaf ffarwel tragywyddol i bob math o fetio a chwareu damwain.

"Wel, ar yr amod yna, hidiwn i ddim llawer a rhoi nodyn i chwi dan fy llaw am bum' cant o bunnau, i'w talu yn arian i chwi yn yr ariandŷ yn mhen yr wythnos—ond ni seiniaf fy enw wrtho tan fydd yr wythnos wedi dyfod i ben."

"Pw! seiniwch o rwan, dyna lanc da. Bydd y giwed wedi syrthio arnaf fel haid o locust cyn y daw yr wythnos i ben; ac fe wnai pum' cant fwy o les i mi yn awr—ar law —na mil yn mhen yr wythnos."

"Yr wyf wedi enwi fy nhelerau, ac nid wyf am gyfnewid fy mwriad!" meddai Walter. " Y mae arnaf eisiau gweled a fedrwch chwi gadw eich hun yn glir â'r haid sydd yn barod i'ch lyncu am un wythnos. Ond cofiwch, Llewelyn, mai er mwyn Gwen yr wyf yn addaw gwneyd y drugaredd hon â chwi. Y mae eich bywyd meddw a phenrydd yn gwneyd i'ch chwaer gurio ymaith fel pe bai mewn darfodedigaeth. Yr ydych yn ei lladd. Ond, byddwch sobr am wythnos, ac mi a roddaf fy enw yn gyflawn wrth y nodyn yma," ychwanegai, gan estyn darn o bapur ysgrifenedig i Llewelyn" ac fe delir y pum' cant i chwithau."

"Diolch i chwi, fy anwyl gyfaill!" meddai Llewelyn, gan wasgu llaw Walter yn garedig, a myned ymaith.

Y fynyd gyntaf y cafodd Llewelyn Parri y nodyn i'w law, safodd diafl wrth ei benelin, yr hwn a'i temtiodd i gyflawni trosedd anfad. "Pa'm y rhaid i ti aros am wythnos heb dderbyn yr arian?" dywedai'r ellyll wrtho—hyny yw, yn feddyliol. " Y mae mor hawdd i ti wneyd i'r nodyn yma ateb ei ddiben yn awr ag yr adeg honno. Yr wyt yn ysgrifenwr campus — yn efelychwr da, ac yn berffaith gydnabyddus a llaw-ysgrifen Walter M'c Intosh! Gan hyny, taraw ei enw wrtho dy hunan—dos âg ef i'r bank, a bydd yr arian yn dy boced cyn pen yr awr!"

Gwrandawodd Llewelyn ar y demtasiwn—ufuddhaodd hefyd! Seiniodd enw Walter wrth y nodyn, a chafodd yr arian!

Yn lle myned a thalu ei ddyled gyda hwynt, aeth ar ei sbri drachefn, gyda phum' cant o bunau yn ei boced.

Pan wnaed y ffaith yn wybyddus i Walter, braidd na chnöai ei dafod mewn cynddaredd. Gwisiodd y troseddwr i'w gyfarfod yn mharlwr y P— Arms.

"Yn mha le y mae'r papur a addewais ei seinio?" Gofynai Walter.

"Ho—y mae yn yr ariandŷ er 's dyddiau," atebai Llewelyn. "Eis a fo yno fy hunan, derbyniais yr arian yn gyflawn, a pheth sydd well fyth, y maent wedi eu gwario bron i gyd!"

"Felly! Y mae arnoch awydd gwybod beth ydyw bywyd carcharor eto, yn ychwanegol at brofi bywyd meddwyn."

"Pw!—carchar? Pe buaswn wedi gwneyd mor hyf a hyn ar enw rhywun heblaw fy mrawd, Walter, fuaswn i ddim yn dysgwyl amgen na charchar. Ond gwyddwn beth yr oeddwn yn ei gylch."

"Dichon eich bod wedi methu'r tro yma! Cewch wybod eich bod wedi gwneyd yn rhy hŷf hyd yn oed ar fy enw i. Pa sicrwydd sydd genyf nad aiff fy holl eiddo o fy ngafael, tra bod dyn meddw yn medru helpio 'i hun i bum' cant o bunnau o fy eiddo fy hun, heb gymaint a gofyn, 'gyda'ch cenad?" Na, Llewelyn! yr ydych wedi cyflawni trosedd nad oes dim ond y gyfraith a fedr ei osod yn iawn!"

"Wel, Walter," ebe Llewelyn, pan welodd fod ei gyfaill yn siarad o ddifrif ar y pwnc, —" y mae'n ddrwg genyf fy mod wedi cyflawni'r weithred fyrbwyll. Ond, gan eich bod wedi eich digio gymaint gan y tro, mi a âf y mynyd yma i werthu pob peth sydd ar y fferm—y dodrefn a'r cwbwl—er mwyn medru talu'r pum' cant cyn y nos!"

"Waeth i chwi heb, Llewelyn Parri! Y mae'n rhaid i mi gael iawn mwy na hynyna. Cofiwch eich bod yn fy ngafael i yn awr!"

"Pa beth y mynech i mi ei wneyd?" Gofynai Llewelyn, â'i lygaid yn fflamychu gan gyffro.

"Wel, mi a faddeuaf y weithred, a'r ddyled hefyd, os bydd i chwi gael gan Gwen dderbyn fy nghynygion. Y mae hi, fel y gwyddoch, yn gwrthod gwneyd dim byd â mi, er i mi ei charu mor ddiledryw am flynyddoedd. Ni's gallaf fyw hebddi yn hwy; a rhaid i mi un ai ei chael hi yn wraig, neu ynte rhaid i mi eich cael chwi yn garcharor?"

"Walter!" llefai Llewelyn, "Pa mor bell bynag y mae fy meddwdod wedi fy ngyru oddi ar lwybr dyledswydd, yr wyf eto heb fyned mor bell fel ag i fethu gweled eich bod yn ymddwyn yn debycach i fradwr nag i garwr. Ai dyma yr hyn a elwch chwi yn gariad? A yw ymddygiad fel hyn yn un boneddigaidd, teg, dynol, a gonest?"

"Pwy sy'n son am foneddigeiddrwydd, tegwch, dynoldeb a gonestrwydd?—ai ffugiwr enwau ei gymydogion? Ond yr wyf wedi dweyd fy mwriad, ac yr wyf am sefyll ato! Cymerwch chwithau eich siawns!"

"Cymeryd fy siawns a wnaf!" meddai Llewelyn, a rhuthrai allan o'r ystafell.

Dichon fod y darllenydd yn methu cysoni ymsyniad presennol Llewelyn o dynerwch a thegwch hefo 'i ddull annynol a garw at ei wraig heddyw'r boreu. Ond yr unig eglurâd allwn ni roddi ar y pwnc yw, ddarfod i ddymuniad cythreulig Walter M'c Intosh, o'i orfodi dan boen carchariad, i fynu cael gan Gwen gydsynio i fyw hefo'r dyn a gasai, ddeffro tipyn ar ei hen serchiadau. Ond fe ddaeth syniadau eraill i'w feddwl yn awr. Ymresymodd fel hyn âg ef ei hun gyn gynted ag yr aeth allan o wydd Walter:

"Yr wyf yn ddyn colledig! Y mae'r d——l wedi fy nghael i'w rwyd! Yr wyf yn sefyll rhwng dau ddibyn erchyll—fy ngharchariad fy hun ac annedwyddwch fy chwaer. Ond pa beth a wnaf? A fedraf fi oddef y drychfeddwl am i Llewelyn Parri, gŵr y Brynhyfryd i gael ei euogfarnu o godi arian trwy dwyll?—cael fy nyfarnu i ddeng mlynedd o alltudiaeth—fy ngwisgo mewn dillad carcharor—fy ngwallt wedi ei eillio, a heiyrn am fy nhraed a'm dwylaw! Na fedraf!"

Trôdd ar ei sawdl—aeth yn ol at Walter, a chytunodd âg ef i foddloni ei gais.

Anfonodd Llewelyn lythyr at Gwen, i erfyn arni ei gyfarfod ef mewn man penodol, am chwech o'r gloch y prydnawn hwnw. Daeth yr eneth ddifeddwl-ddrwg yn yno yn ol ei gais. Pwy a all ddychymygu ei thrueni wrth glywed Llewelyn yn myned dros yr hyn a gymerodd le, a'r aberth yr oedd yn rhaid iddi hi ei wneyd o honi ei hun, neu i'w brawd fyned i'r carchar.

"Wel, Llewelyn!" meddai'r eneth anwyl— nid oes yr un gradd o gysur i mi i'w ddysgwyl yn y byd hwn. Yr wyf wedi ymgynefino a thrallodau; ac wedi dyoddef cymaint ar dy ran di, fel nad yw'n pwyso dim ar fy meddwl wneyd unrhyw beth a geisi genyf, drosot. Yr wyf yn casâu Walter fel anghenfil; ond mi a'i prïodaf er mwyn dy waredu di. Addewais wrth erchwyn gwely angeu fy mam bod yn ffyddlon i ti, ac mi fyddaf hefyd. Mi wnawn yr aberth yma yn siriol, pe y gwybyddwn yr effeithiai'r amgylchiad dychrynllyd hwn i ddwyn diwygiad sefydlog a pharâus yn dy fuchedd."

"Caiff fod felly—yn enw pob gallu yn y nefoedd a'r ddaear!" meddai Llewelyn.

"Fy mrawd!" meddai Gwen—"paid ag addaw dim ychwaneg; yr wyt wedi tori dy addewidion mwyaf cysegredig ormod o weithiau i mi allu dy goelio. Yr wyf fi am fyned adref yn awr, a gelli ddweyd wrth Walter fy mod yn barod iddo pan y myn. Y cwbl er dy fwyn di!"

Yr oedd braidd yn annichonadwy i fod dynol deimlo trallod mwy nag a deimlai Gwen Parri yn awr. Ond yr oedd un hefyd yn dyoddef, efallai, gymaint a hithau o herwydd marwolaeth Llewelyn Parri, sef ei wraig! Yr oedd Llewelyn hefyd yn anhapus ofnadwy yn awr. Teimlai yntau, am unwaith, effeithiau difaol ei fywyd afradlon—pwysai ei euogrwydd arno fel craig o frwmstan. "Oh!" meddai wrtho 'i hun—"Oh!" yr wyf yn adyn melldigedig. Y mae drosodd hefo mi yn awr. Y mae fy eiddo wedi myned —fy iechyd, fy enw da—calon fy ngwraig fy chwaer wedi eu tori—fy nedwyddwch teuluaidd wedi ei ddinystrio am byth! Yr wyf yn felldith i mi fy hun ac i bawb o fy nghwmpas. A Walter—yr wyt tithau wedi troi allan yr hyn yr ofnai fy mam a Gwen am danat! Oh! pa beth a wnaf!"

PENNOD XX.

Yr oedd yn noson oer, chwerw, yn mis Rhagfyr. Ah! druan o pwy bynag sy'n fyr o ddillad am y corph ac ym- borth yn y cylla, ar y fath noson annifyr! Gorchuddid y ddaear âg eira gwyn, a chlöwyd yr aberoedd â rhew caled. Ymlwybrai'r lloer yn entrych y nen, gan arianu bryn a dol, afon a llyn, â'i phelydrau oerion.

Safai dyn go dal, teneu, ar ochr y ffordd fawr, o fewn ychydig bellder i ddinas B———. Yr oedd ei ddillad yn deneuon a charpiog, ac yn gwbl anghyfaddas i gadw'i gorph yn gynhes ar y fath dywydd oer; crynai i gyd drosto fel cangau rhewedig yr hen fedwen unig sydd wrth ei ymyl; curai ei ddannedd yn erbyn eu gilydd nes gwneyd i'w gernau anafu; ac yr oedd goleuni'r lleuad yn ddigon i i ddangos fod ei wyneb yn dwyn argraph y diafl hwnw—Meddwdod. Yr oedd ei weled—a gweled ei drueni yn ddigon o bregeth i argyhoeddi byd o effeithiau melldigedig anghymedroldeb.

Y mae'r dyn yn siarad rhyngddo ag ef ei hun:" Y fath adyn wyf! Fy fferm—fy arian—fy iechyd—fy mharch—fy nghysur teuluaidd ydynt oll wedi cilio. Ni edrycha fy hen gyfeillion arnaf mwy na phe bawn dd——l, —cilia fy mhlant o fy ngwydd fel pe bawn lofrudd—edrycha fy ngwraig yn fy ngwyneb bob tro gwêl fi, yn y fath fodd truenus, torcalonus, nes gyru iâs o edifeirwch trwy'r galon gareg yma sydd yn fy mynwes. Yr wyf wedi pechu llawer—wedi pechu mwy nag y gall Duw na dyn faddeu i mi. Y fi yw Cain Cymru—nid wyf dda i ddim ond i wibio a chrwydro allan o olwg dynion. Oh, rhoddwn fyd am wydraid o ddïod i leddfu fy ing!"

Gadawn y dyn yna am ychydig, ac awn i edrych pa fodd y mae ei wraig yn ymdaro.

Mewn bwthyn gwael, anniddos, oer, fe eisteddai gwraig a dau o blant—geneth a bachgen. Buasai braidd yn anmhosibl canfod gwrthddrychau yn edrych mor druenus. Ysgubai y gwynt i fewn atynt trwy gant o rigolau; ac fel yr udai o gwmpas yr ystafell, fe ymsypiai'r fam a'r plant o gwmpas y tan bach a di wres. Llosgai canwyll ffyrling ar y bwrdd, yr hon oedd wedi ei stwffio i wddf potel inc. Mewn ystafell lofft yr oeddynt yn trigo, nen yr hon oedd yn rhy isel braidd i neb allu sefyll yn syth ynddi. Nid oedd yr un cwarel cyfan yn y ffenestr; ond fe lenwid rhai o'r tyllau â gwellt, carpiau, a phapur llwyd, tra yr oedd eraill heb eu llenwi o gwbl. Nid oedd yr un dodrefnyn gwerth ei godi o'r domen yn y lle—nac oedd, dim cymaint a gwely i orwedd ynddo—dim cadair nac ystôl, na bwrdd o fath yn y byd—yr oedd y lle yn berffaith wag o gyfryngau mwyaf cyffredin dedwyddwch teuluaidd. Mewn congl o'r ystafell, yr oedd swp o wellt ag y gallai moch ysgornio arno; ond dyma oedd yr unig ddefnydd gorweddfa oedd gan y teulu tlawd. Buasai calon dyn neu ddynes go dyner yn gwaedu wrth feddwl fod rhai o blant dynion yn gorfod byw yn y fath le. Dangosai goleuni gwan y ganwyll wynebau llwydion yr anneddwyr. Ac yr oedd llygaid y fam yn llawn dagrau. Mae hithau'n siarad rhyngddi â hi ei hun:

"Ah! bychan a feddyliais ychydig flynyddoedd yn ol mai dyma fuasai'n dyfod o honof! Oh, y mae'r adgof o'r hyn a fum, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn wyf, a'r ofnad o'r hyn a fyddaf, yn ddigon a thori fy nghalon. O, ddyddiau dedwyddion fy mabandod, chwi a'm gadawsoch am byth! Collais dad—mam—cartref, a—GWR, am ddim a wn i, o herwydd ni welais ac ni chlywais ddim am dano er's talm. Y mae'n rhaid ei fod un ai mewn yspyttý, neu mewn carchar, neu wedi marw? Oh, fel y carai ef fi pan oeddym ein dau yn ieuainc! Y fath ddedwyddwch[2] a deimlwn wrth gael arllwys teimladau fy nghalon iddo ef, ac wrth ei glywed yntau yn tywallt ymadroddion melus cariad ar fy nghlust i! Yr wyf yn awr yn cofio addewidion teg yr hwn a hawliai fy llaw a'm calon; a phwy a fuasai'n credu y troisai ef byth i ymddwyn ataf fi a'i rai bach mor greulon a hyn? Ei feddwdod ef a'm gwnaeth i yr hyn wyf. Gadewais gartref a golygfeydd fy ieuenctid, i fod yn wraig iddo. Yr wyf yn cofio fel pe na buasai wedi bod ond doe, fel y teimlwn ar fy mynediad i fyw i fy nghartref newydd, dan y titl o WRAIG. Oh feddwdod cythreulig!—ti a'm hysbeiliaist o bob peth oedd anwyl genyf ar yr hen ddaear yma, heblaw'r plant bach hyn; ac os parâ pethau'n hir eto fel y maent yn awr, ni fydd y rhai'n genyf ond am amser byr—nis gallant hwy na minau fyw ar y gwynt. Fy Nuw! fy Nuw! pa beth a ddaw o honom?"

Nid oes anghen dweyd pwy oedd y dyn truenus hwnw, na'r ddynes a'r plant hyn y mae'r darllenydd yn ddiau wedi dyfalu yn mhell cyn hyn, mai Llewelyn Parri, ei wraig a'i blant oeddynt.

Gellir dweyd yr hyn a gymerodd le mewn ychydig eiriau. Aeth Llewelyn yn mlaen i feddwi, a meddwi yn barâus, nes gwneyd ei hun heb ddimai ar ei elw, pan yr oedd ei ddyledion yn ddychrynllyd. Syrthiodd rhywrai ar ei bethau—gwerthwyd pob cerpyn, dodrefnyn, a thwlsyn a feddai ar ei fferm. Bu gorfod iddo fyned i fyw i'r dref, mewn heol gul, afiach, anmharchus, lle yr oedd ei wraig a'i blant yr adeg yma. Ceisiodd ei oreu i gael rhywbeth i'w wneyd at gael tamaid—ond ni roddai neb yr ymddiried lleiaf ynddo. Yn ei drallod, diangodd o'r lle, gan adael i'w deulu ymdaro goreu gallent. Dychwelyd o'r ffoedigaeth yr oedd, pan welwyd ef yn sefyll ar ochr y ffordd fawr; ond ni wyddai yn iawn beth i'w wneyd—pa un ai myned a chwilio am ei deulu, ynteu cadw oddiwrthynt: ni feddai yr un dafn o gysur i'w roddi iddynt, a gwyddai na chai yntau ddim oddiwrthynt hwy.

Ond rhyngddo a'r hen heol gul honno yr aeth; a gwelwyd ef yn sefyll o flaen drws y tŷ, lle y gwelodd ei wraig a'i blant ddiweddaf. Clywai swn plentyn yn crio yn y llofft —clywai ddynes yn siarad yn y gegin—gwrandawodd, a deallodd y geiriau hyn yn cael eu dweyd gan y wraig oedd pia'r tŷ:

"Mae'n gas gan f' enaid i glywed plant y ddynes yna yn y llofft yn crïo ddydd a nos. Byddaf yn meddwl weithiau mai eisieu bwyd sydd arnynt. Ac yn wir, y mae eu golwg hwy a'u mam yn ddigon i ddangos hyny. Maent yn siwr o l'wgu os na ddaw rhywbeth iddynt o rywle cyn bo hir."

"Mi gaf lwgu i'w canlyn, ynteu!" ebe Llewelyn wrtho ei hun, ac aeth i fewn, ac i fyny'r grisiau heb ddweyd yr un gair wrth neb. Rhoddodd ei wraig ysgrech wrth ei weled, a llefai'r plant fel pe mewn ofn am eu bywyd, wrth weled y dyn a arferai eu lluchio a'u cicio yn ei gythreuligrwydd pan yn methu cael arian i brynu cwrw. Ychydig amser yn ol, buasai Morfudd Parri yn neidio â'i dwy law am wddf ei gŵr ar ei ddychweliad gartref; ond nis gallai wneyd hyny yn awr, yr oedd dygwyddiadau yr ychydig flynyddoedd diweddaf wedi dwyn cyfnewidiad ar bob peth. Ond eto, teimlai'r ddynes dirion ei bod yn ei garu; yr oedd yn dda ganddi nad oedd dim drwg mwy wedi dygwydd iddo. "Wel, mae'n debyg nad oeddych yn dysgwyl fy ngweled!" ebe Llewelyn.

Wylai Morfudd.

"Beth ydyw hwn?" gofynai drachefn, gan gymeryd gafael mewn rhywbeth tebyg i lythyr oedd ar y silff uwch ben tân.

"Llythyr a ddaeth yma heddyw'r boreu!" ebe Morfudd. Agorodd Llewelyn ef, a darllenai ynddo'r hyn a ganlyn:

"FY MRAWD LLEWELYN.—Wele dy chwaer yn ysgrifenu atat â llaw grynedig, o wlad bell, a chyn entro i wlad o ba un na ddaw byth yn ol. Yr wyf yn sâl—yn sâl iawn—wedi cael fy rhoi i fyny gan y meddyg fel heb obaith gwella. Ond y mae'n rhaid i mi gael cyflwyno hyn o lythyr i ti er saled wvf. Nid ydwyf am ofyn i ti wneyd yr un addewid i mi; ond dymunwyf ddwyn ar gof i ti dy ymddygiadau o'r blaen. Yr wyf yn deall dy fod yn parâu i feddwi o hyd, ac wedi myned yn warth i'r ardal ac yn felldith i dy wraig anwyl, garedig, a rhinweddol. Bum yn dysgwyl, ar ol i fy nylanwad i fethu dy drin, y buasai'r addfwyn Forfudd yn gwneyd rhywbeth o honot; ond fe ymddengys fod swyn y gwirod yn fwy na dim arall.

"Pe baet yma yn awr, ti a gaet weled un arall o dy ferthyron. Caet weled llygad, ael, a boch geneth bedair-ar-ugain oed yn gwisgo arwyddlun angeu o achos meddwdod ei brawd. Aberth i ti ydwyf; rhoddais fy hun i fyny'n offrwm i'th gadw di o'r carchar ag y buasai'n drugaredd i ti erbyn hyn pe buasit ynddo. Cosbais fy hun â mwy o annedwyddwch nag y buasai raid i ti ddyoddef yn y ddaeargell dduaf. Yr wyf yn awr yn wraig i ddyn sy'n meddwl ei hun yn dduw; a'r hwn a gafodd genyt ti i ymrwymo i fy mherswadio i'w briodi, nid am ei fod yn fy ngharu, ond am nas gallai oddef y meddylddrych iddo ef feddwl am ddim a chael ei siomi. Yr wyf yn awr yn gaethferch i ddyn heb galon ddynol yn ei fynwes. I'th achub di, mi a orchfygais yr arswyd a deimlwn wrth feddwl bod yn wraig iddo, a sefais wrth ei ochr o flaen yr allor. Bum fyw gydag ef gan ymdrechu ei foddio yn mhob peth; ond ymddygai ataf fel gormeswr, ac nid fel gwr, nes y teimlwn fy nghalon ieuanc yn oeri dan fy mron. O'r diwedd, efe a flinodd arnaf. Wrth weled na wnai bryntwch, creulondeb, a meddwdod parâus dori fy nghalon, daeth i'r penderfyniad o fy ngadael. Yr wyf yn awr mewn lle dyeithr yn afiach ac yn dlawd. A Llewelyn, mae'n ddrwg genyf orfod dweyd, dy waith di yw hyn oll! Ni fuaswn yn dweyd mor blaen, oni bai fod pob tynerwch wedi myned yn ofer. Oh! fy mam, mi gaf ddyfod atoch chwi yn fuan bellach! Rhaid i mi ddim cywilyddio eich gweled—bum yn ffyddlon i'ch cais olaf. Os ydych yn gallu edrych i lawr dros ganllawiau Paradwys; y mae fy mochau tyllog, fy llygaid suddedig, fy ael brudd, fy ngwendid mawr, fy nghalon doredig—oll yn ddigon o brawf i mi fod yn ffyddlon! Llewelyn anwyl, gan Dduw na fuasit tithau wedi bod yn ffyddlon hefyd!

"Ond rhaid i mi ddiweddu—yr wyf yn rhy wan. Ond gad i mi dy rybuddio unwaith am byth: os wyt yn dysgwyl cyfarfod â dy fam, dy chwaer, a'th Farnwr, yn y dydd olaf, gyda gwên o groesaw, tro yn ol o'th ffyrdd drwg—dyro'r goreu am byth i bob math o ddïodydd meddwol, a gofyn am edifeirwch a maddeuant trwy Iawn Crist. Ond os wyt yn dewis clywed y geiriau ofnadwy, Rhwymwch ef draed a dwylaw, a thefiwch i'r tywyllwch eithaf,' yn cael eu swnio fel taranau o enau Duw uwch dy ben di—dos yn mlaen yn dy fuchedd lygredig nes y rhydd Angeu hyrddiad i ti i glorian barn.

Dy chwaer, GWEN."

Gyda fod Llewelyn wedi gorphen darllen, efe a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr fel coeden o flaen corwynt; a bu am chwarter awr cyn bod yn alluog i godi.

Clywyd curo wrth y drws. Deuai rhywun i fyny'r grisiau. Gofynai dyn wrth ddrws ystafell y llofft,—

"Ai i fewn yma mae Mrs. Parri?"

Neidiodd Morfudd at y drws. Pwy oedd yno ond Mr. Powel, wedi dyfod i estyn llaw o ymwared i'r druanes a'i phlant, gan iddo glywed gan gymydog ei bod ar lewygu o newyn. Yr oedd bachgenyn yn cludo basged wrth ei sawdl. Ond cyn rhoddi y pethau i Morfudd Parri, gwelodd Mr. Powel y dyn—os dyn hefyd—Llewelyn. Edrychai'r ddau ar eu gilydd mewn dystawrwydd am enyd.

"Pa beth sydd ar y cythraul yma eisio?" gofynai Mr.Powel. "Peidiwch myned yn mlaen yn y dull yna!" dywedai Llewelyn. "Yr wyf newydd dderbyn un archoll ychydig fynydau yn ol; dyma'r cleddyf a pha un y tarawyd fi," efe a ychwanegai, gan roddi llythyr Gwen i'w hen warcheidwad. Darllenodd Mr. Powel ef drwyddo, a gwlychodd ef a miloedd o ddagrau.

"Gwen!—fy anwyl Wen—wedi cael ei lladd gan ddau dd——1," llefai fel dyn gwallgof. "Hwdiwch, Mrs. Parri," ychwanegai—"cymerwch y pethau yma i dori eich eisieu. Mi gychwynaf heno i Baris, at fy merch; ac os Duw a'i myn, mi a'i cipiaf oddiyno cyn i angeu gael gafael ynddi!" Aeth allan, ac wrth fyned, stwffiodd bapyr pum punt i law Mrs. Parri.

"Wel, Llewelyn, meddai Morfudd—mae'n debyg fod arnoch eisieu bwyd: helpiwch eich hun o'r trugareddau hyn. Hwdiwch chwithau fy mhlant—ni fu yr un tamaid yn eich genau bach er neithiwr!"

"A hyny o'm hachos i," gorphenai Llewelyn. "Ond, beth sydd yn aros i'w wneyd rhagllaw? A oes modd ein hachub yn awr yw'r pwnc!"

"Wn i ddim!" atebai Llewelyn. " Y mae arnaf gywilydd addaw gwneyd dim fy hunan. Yr wyf wedi tori cynifer o addunedau."

"Pa fodd bynag," meddai Morfudd, "ni a gawn orphwys heno; a chawn ymddyddan pa beth i'w wneyd o hyn allan ar ol dadflino." Ac aeth allan o'r ystafell—rhoddodd y papyr pum punt i wraig y tŷ i gymeryd y tâl dyledus am ei llety o hono, a gofynodd am fenthyg gwely a dillad, er mwyn i Llewelyn gael gorphwyso.

Tranoeth a ddaeth. Yr oedd Llewelyn Parri yn rhy sâl i godi. Effeithiodd y cyffro diweddar ar ei gyhyrau yn enbyd. Bu raid cael y meddyg ato. Bu'n gorwedd dan law hwnw am wythnos cyn medru symud o'r tŷ.

Y prydnawn dydd Sul canlynol i'w ddychweliad gartref, a'r diwrnod cyntaf iddo allu myned allan, ymlusgodd yn ara' deg rhyngddo â godreu'r mynydd, er mwyn cael tipyn o awyr ffres. Wrth dalcen capel, ar ei ffordd yno, yr oedd lliaws mawr o bobl wedi ymgynnull, a dyn yn sefyll ar ei draed ar gadair yn eu mysg, yr hwn oedd yn areithio: dynesodd Llewelyn atynt i wrandaw. Yr oedd gan yr areithiwr bwnc newydd—pwnc ag oedd yn dechreu dyfod i sylw, ac yn gwneyd cyffro mawr anghyffredin mewn rhai manau——sef DIRWEST. Areithiai'n gampus—dangosai aneffeithiolrwydd yr egwyddor gymedrol at sobri'r byd—darluniai gyflwr ofnadwy dyn meddw, yn dymhorol a thragywyddola phrofai tu-hwnt i bob gwrthwynebiad, mai yr unig lwybr i wrthweithio effeithiau a chanlyniadau meddwdod, a chadw dynion, pob gradd a sefyllfa, dan bob math o amgylchiadau, ydyw rhoddi llythyr ysgar i bob math o ddïodydd meddwol —llwyrymwrthod a hwy, a chofleidio egwyddorion cymdeithas newydd oedd yn dechreu dyfod i sylw—y GYMDEITHAS DDIRWESTOL. Diweddodd trwy gyhoeddi y byddai i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynal yn Nghapel y Tabernacl, nos dranoeth (nos Lun), pryd y byddai i amryw o wŷr galluog anerch y gynulleidfa, ac y derbynid enwau aelodau at y gymdeithas newydd.

"Dyna rywbeth!" ebe Llewelyn wrtho 'i hun. "Pe buasai cymdeithas o'r fath wedi ei sefydlu er's blynyddoedd, mi fuaswn i'n ddyn iawn heddyw, yn lle bod fel hyn yn rhyw bryf na fyddai'n werth gan rywun roi ei droed ar fy mhen. Llwyrymwrthod sydd raid; a rhaid hefyd cael cadwyni cymdeithas i gadw rhai o fy math i at y penderfyniad y mae grym mewn undeb—dylanwad mewn cymdeithas. Os Duw a wel yn dda roddi i mi nerth, mi a af i'r cyfarfod yna nos yfory, ac mi a ardystiaf."

PENNOD XXI.

"A DDEUWCH chwi gyda mi i Gapel y Tabernacl heno?" gofynai Llewelyn Parri i'w wraig.

Codai Morfudd ei llygaid mawrion, gan edrych ar ei gŵr mewn syndod am ei fod yn gofyn peth mor ddyeithr.

"Beth sydd yno?" hi a ofynodd.

"Areithio ar ryw bwnc dyddorol. Yr wyf yn gobeithio y gwneiff clywed areithio da ryw les i mi," meddai Llewelyn.

"Deuaf, was, gyda phleser, er fod fy nillad yn bur garpiog." "Mae'n dda genyf glywed. Ac ni a gymerwn y plant yno hefyd."

Edrychai Llewelyn mor garedig ar Morfudd a'r plant, nes gwneyd iddi hi wylo o lawenydd. Yr oedd caredig- rwydd wedi bod yn beth mor ddyeithr iddi hi er's talm, nes y teimlai ei chalon yn ymchwyddo yn awr o serch adnewyddol.

Cerddai'r teulu tlawd, carpiog, i'r capel, yn nwylaw eu gilydd. Dechreuodd y cyfarfod. Synwyd Morfudd yn aruthr pan ddeallodd beth oedd y pwnc yr areithid arno. Buasai'n rhoddi llawer, pe yn ei meddiant, am gael gwybod pa un a oedd Llewelyn yn gydnabyddus â'r pwnc cyn myned i fewn.

Siaradodd dau neu dri yn gampus. Darluniwyd meddwdod yn ei holl erchylldra—desgrifiwyd cartref annedwydd y meddwyn—y wraig druenus a'r plant gwaelion esgeulusedig. Llifai'r dagrau i lawr gruddiau Llewelyn a'i wraig, yn gystal a channoedd eraill ag oeddynt yn y lle. Cyn diwedd y cyfarfod, apeliodd un gweinidog duwiol at y gynulleidfa liosog — yn enwedig rhai oeddynt yn arfer chwareu â'r demtasiwn, a'r rhai oeddynt wedi eu llithio eisoes, ond syrthio o afael gobaith. "Aroswch," meddai, "aroswch cyn myned yn mhellach, a thra y mae genych gyfle, ardystiwch i ysgwyd ymaith y cadwyni melldigedig sydd yn eich rhwymo mewn is-wasanaeth meddwol. Cymerwch drugaredd o honoch eich hunain, ac o'r rhai hai sy'n sy'n dibynu arnoch—o wragedd eich mynwes a phlant eich ymysgaroedd. Pa mor bell bynag yr ydych wedi myned y mae modd troi'n ol heno; ond nis gallaf addaw y bydd modd gwneyd hyny yfory. Ardystiwch yn awr, cyn yr elo'n rhy ddiweddar!"

Dygwyd llyfr yr ardystiad ar fwrdd parotoedig, a stwffiai hen ac ieuanc, tlawd a chyfoethog yn mlaen i roddi eu henwau ar lyfr Dirwest.

"Oes yma neb arall yn teimlo ar ei galon adael ei ffyrdd drygionus?" gofynai'r gweinidog. "A oes rhywun yn cloffi rhwng dau feddwl? yn petruso rhwng bywyd ac angeu? Cofiwch nad yw'r ardystiad yma yn gosod yr un caethiwed arnoch, ond yn eich gwneyd yn rhyddion——yn rhyddion oddiwrth beryglon, trueni, gwae, gwaradwydd, a cholledigaeth."

Cyfododd Llewelyn Parri yn arafaidd, ond penderfynol, a gadawodd ei wraig gan fyned at y bwrdd. Clywyd murmur cyffredinol yn rhedeg trwy'r holl dorf wrth ei weled; ond ni ddywedai Morfudd yr un gair, a gallasai rhywun feddwl wrth edrych arni, nad oedd yn teimlo y gradd lleiaf o lawenydd wrth weled ei gŵr yn myned i wneyd ammod cyhoeddus i ymadael am byth â phob math o ddïodydd meddwol. Gosododd Llewelyn ei enw ar y llyfr mewn llythyrenau breision, fel y gallai pawb a'i gwelai ei ddarllen. Ymwasgarodd y gynulleidfa, ac aeth pob un i'w le ei hun, a Llewelyn Parri a'i deulu yn eu mysg. Y gymdeithas newydd a'i bendithion oedd testun ymddyddan pawb ar y ffordd.

Fel yr elai Llewelyn Parri gartref, gyda 'i blant yn un llaw a Morfudd ar ei fraich arall, mynych oeddynt y llongyfarchiadau a wneid iddynt gan eu hen gydnabod. Ond ni siaradodd Morfudd yr un gair nes cyrhaedd y tŷ, yr hwn yr aeth iddo y noson hon gyda mwy o sirioldeb nag erioed o'r blaen. Teimlodd fod y perygl wedi ei basio—fod y cwmwl wedi cilio ymaith—fod ei gŵr a'i phlant wedi ei hadferu iddi.

"Llewelyn! anwyl Lewelyn!" dywedai'n ddystaw, gan dori allan i wylo.

"Fy anwyl Forfudd! fy ffyddlon, ymroddgar, garedig, wraig!" meddai yntau, yn dyner, gan roddi ei fraich o'i chwmpas.

Rhoddwyd y plant yn eu gorweddfa, a chysgasant yn ebrwydd. Eisteddai'r gŵr a'r wraig ar ddwy gadair a brynasant gyda chyfran o'r pum' punt a roddodd Mr. Powel i Morfudd.

"Y mae nos hir, ddu, annedwydd, wedi bod yn ein gorchuddio, fy Morfudd," meddai Llewelyn; "ond trwy gymhorth Duw, fe dyr y wawr arnom bellach. Buoch chwi yn wraig ffyddlon a mam dyner trwy bob trallod a chyni; ac o hyn allan, mi fyddaf finau yn dad ac yn ŵr teilwng o honoch chwi a'r plant anwyl. Achosais i chwi lawer o anghysur a chaledi, ond mi fyddaf, bellach, trwy gymhorth gras, yr hyn y dylwn fod."

Ymwasgai Morfudd yn nes ato, gan edrych yn ymddiriedgar yn ei wyneb, a dywedyd,

" Y mae rhywbeth o fy mewn yn dweyd wrthyf fod y gwaethaf wedi myned heibio—fod y dymestl wedi ei thawelu—fod y llifeiriaint wedi eu hatal. Y mae fy nghydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r boneddigion a glywsom yn areithio, fod rheolau'r gymdeithas newydd yma yn gwbl effeithiol i sobri'r byd; ac yr wyf yn credu y bydd i fy anwyl Lewelyn, ar ol ymuno a'r fath gymdeithas, fod o hyn allan yn ddyn sobr."

"Yr wyf finau'n teimlo yr un peth yn union," ebe Llewelyn. "Yr wyf yn cofio dweyd wrth fy mam, pan oeddwn yn hogyn diofal, y buaswn yn ymwrthod am byth â'r dïodydd meddwol, pe y byddai i gymdeithas o'r fath yma gael ei sefydlu; ac yr wyf yn cofio i'r hen wraig ddweyd ei bod hi yn credu y byddai i Dduw roddi yn nghalonau rhyw bobl dda i sefydlu'r gyfryw gymdeithas. Ac yn awr dyma ei phrophwydoliaeth wedi ei chyflawni, a thyna Llewelyn Parri wedi ardystio Dirwestiaeth. Ymdrechais fy ngoreu lawer gwaith i fyw'n ddyn sobr yn nerth yr egwyddor o yfed yn gymedrol, ond gwyr pawb fel y methais—y mae fy nghwympiadau mynych, gwaradwyddus, yn hynod yn mysg meddwon yr oes;—dygais fy hun, a llusgais chwithau, i ddyfnder tlodi a thrueni. Ond fy ngwaith bellach fydd eich tynu yn ol at odreu mynydd dedwyddwch, lle y cawn ein llochesu gan gysgod y graig ddirwestol rhag holl ruthrau y gelyn Meddwdod. Boed i Dduw fy nerthu i gadw fy ardystiad!"

"Amen!" meddai Morfudd, gyd â'r difrifoldeb mwyaf. "Dowch, fy anwyl wr," hi a ychwanegodd, "ymostyngwn ar ein gliniau—cydnabyddwch eich troseddau y rhai a wnaethpwyd o'r blaen tywalltwn ein calonau o flaen Duw—diolchwn iddo am y llewyrch yma y mae wedi ei anfon atom, a gofynwn am ei ras a'i nerth i fyw rhagllaw er ei glod ac yn ei wasanaeth." Gafaelodd yn llaw ei gŵr, a phenliniodd y ddau ar y llawr noeth. Erioed ni ddyrchafwyd gweddi ddyfalach gan fodau dynol, ac erioed ni welwyd dagrau mwy diffuant yn treiglo i lawr gruddiau mab afradlon nag a dreiglai i lawr gruddiau Llewelyn Parri, wrth arllwys teimladau dyfnion ei enaid o flaen gorsedd gras y noson honno. Tywynodd gwawr o gariad Duw i'w enaid tra ar ei liniau, a chododd i fyny yn ddyn newydd.

Bore dranoeth, dywedodd Llewelyn wrth ei wraig,—

"Wel, fy Morfudd, nid yw'n ddigon i mi fod wedi ardystio llwyrymwrthodiad—mae'n rhaid i mi wneyd rhywbeth arall cyn y gallwn fyw—rhaid i mi weithio. Af allan yn awr i chwilio am rywbeth i'w wneyd."

Bwriad Llewelyn oedd myned at rai o gyfreithwyr y dref, i chwilio am le yn ysgrifenydd mewn swyddfa. Ar ei ffordd, efe a gyfarfyddodd âg un o'r boneddigion oedd yn cadw'r cyfarfod y noson flaenorol. Daeth at ein harwr, ysgydwodd law âg ef, a dywedodd,

"Yr oedd yn dda gan fy nghalon eich gweled yn dod yn mlaen neithiwr, Mr. Parri. Hyderaf y bydd i'r tro fod o fendith i chwi, eich teulu, a'r byd,"

"Gobeithio hyny yn wir!" ebe Llewelyn. "Y mae fy nheulu wedi cael dyoddef cymaint oddi wrth fy meddwdod i, fel y mae'n rhywyr i mi chwilio am rywbeth ag a'u cyfyd o'u cyflwr truenus presennol, ac a rydd radd o gysur iddynt eto."

"Pa beth yr ydych am ei wneyd? Pa oruchwyliaeth yr ydych am ei dilyn?"

"Allan ar feddwl chwilio am rywbeth y daethum," atebai Llewelyn. "Pa beth a gaf ni's gwn, ond yr wyf yn hyderu na edy rhagluniaeth fi yn hir heb rywbeth."

"Na wnaiff. Y mae genyf fi le i chwi am ychydig, os dymunwch ei gymeryd. Rhoddaf bum-swllt-ar-ugain yn yr wythnos i chwi, os ewch i fy swyddfa yn yr yard goed sydd yn y porthladd yna, i edrych ar ol fy llyfrau. Cewch fyn 'd yno heddyw, os mynwch, a thyna i chwi gyflog wythnos yn mlaen llaw, er mwyn i chwi allu ceisio pethau anghenrheidiol i chwi a'ch teulu am yr wythnos."

"Diolch yn fawr i chwi, syr!" ebe Llewelyn, a'i lygaid mawrion yn llenwi gan ddagrau. "Duw a dalo i chwi!" Prysurodd ein harwr gartref yn ei ol, i hysbysu'r newydd da i'w wraig, a rhoddodd y pump-ar-hugain iddi bob ffyrling. Yn mhen y mis, yr oedd Llewelyn Parri a'i deulu wedi symud o'r heol afiach y trigent ynddi, ac wedi cymeryd tŷ iddynt eu hunain mewn parth arall i'r dref. Dechreuasant hel tipyn o ddillad a dodrefn—daeth y plant i ymfywiogi a chwareu mor hoenus ag erioed, ac adferwyd cryfder a sirioldeb i gyfansoddiadau'r cyfan. Cyfodwyd cyflog Llewelyn i ddeg-ar-ugain gan ei feistr, mewn cydnabyddiaeth am ei dalent, ei ddiwydrwydd, a'i gallineb yn edrych ar ol ei fusnes. Aeth y sôn am dano ar hyd yr ardaloedd, a bu yr olwg ar y cyfnewidiad a wnaeth Dirwest arno ef a'i deulu, yn foddion i gymhell dwsingau o feddwon i ardystio.

Cymhellwyd Llewelyn i draddodi araeth Ddirwestol mewn cyfarfod oedd i gael ei gynal yn yr awyr agored. Gwrthododd addaw areithio, ond addawodd wneyd sylw byr ar ei fywyd ei hun. Gwelwyd cannoedd o lygaid gwlybion yn y gynulleidfa, wrth iddo fyned yn mlaen i siarad yn debyg i hyn:

"Fy nghyfeillion, os oes arnoch eisiau profi beth yw afiechyd, gwallgofrwydd, gwaradwydd, tlodi, a thrueni, byddwch feddwon fel y bum i. Os oes arnoch eisiau wybod beth yw hoender, tawelwch, parch, llawnder, a dedwyddwch, ardystiwch eich cymeradwyaeth o egwyddorion y gymdeithas Ddirwestol. Os oes arnoch eisiau prawf byw o ddrygedd meddwdod a daioni Dirwest, edrychwch arnaf fi. Bum yn dlawd a darostyngedig, a llusgwyd fi trwy byllau budraf llygredigaeth a gwarth. Bu braidd i mi golli pob peth sy'n gwneyd bywyd dyn ar y ddaear yn werth ei gadw. Dyoddefodd fy ngwraig a'm plant—gyrais fam dduwiol i'r bedd mewn gofid, ac y mae genyf chwaer yn awr nad wyr neb pa un ai byw ai marw a wna o herwydd iddi ddyoddef oddi wrth feddwdod ei brawd—Llewelyn Parri. Duw yn unig a ŵyr pa mor bell yn ffyrdd pechod yr aethym. Torwyd y naill ar ol y llall, llinynau tyneraf cyfeillgarwch, y rhai a arferent fy rhwymo wrth y byd, ac a wnelent fywyd yn felus i mi,—aeth fy enw yn ogan a gwawd i blant y dref, a bum yn frychyn o'r math duaf ar gymeriad dynoliaeth. Buaswn yn aberthu byd er mwyn gallu dileu o goffadwriaeth yr holl bechodau a gyflawnais yn ngwallgofrwydd fy meddwdod. Ond gobeithio eu bod wedi cael eu dileu o lyfrau'r nef. Yr wyf yn edifarhau am yr hyn a wnaethum, ac yn penderfynu gwneyd iawn am fy muchedd flaenorol (sef iawn i ddynion, nid i Dduw), trwy fyw yn sobr rhagllaw. Mi a ymddarostyngaf mewn dystawrwydd dan law y nef, gan wneyd fy nyledswydd i Dduw a dyn. Cenais yn iach am byth i gwmpeini drwg—i gymedroldeb—i feddwdod—i chwareudai—i dafarnau o bob math—am byth—byth! Yr wyf o hyn allan am fod yn ddyn! Allan o'i bedd hirfaith mi a lusgais fy nghalon, ac y mae cariad wedi ail-ymorseddu o'i mewn. Tyngais na chyfhyrddwn a'r cwpan angeuol byth mwy; ac yn fy nghalon nid oes dwyll. Ni chaiff fy ngwraig a'm plant ddyoddef mwyach am bechodau na fu iddynt hwy eu cyflawni Hwy a ddyoddefasant ormod o lawer, fel y gwyddoch chwi o'r goreu. Ac y mae yma rai eraill hefyd wedi, ac yn dyoddef—mi a'ch adwaen. Wŷr meddwon, trowch o'ch cwmpas, ac edrychwch ar eich anwyl rai yn haner trengu o eisiau. Gwnewch fel y gwnaethum i—cofleidiwch Ddirwest. Peidiwch gwneyd ffyliaid o honoch eich hunain yn ddim hwy. Buom yn ffyliaid ddigon o hyd hefo'n gilydd. Gwnaethom gam â'n cyrph, â'n hamgylchiadau bydol, â'n hiechyd, ac iechyd ein teuluoedd,—llygrasom ein meddyliau, ein moesau, ein teimladau, buom anffyddlon i Nefoedd a daear, a chawsom ddyoddef o'i herwydd. Ond boed y nefoedd yn dyst, na cherddaf fi byth mwy mo'r llwybrau dreiniog. Cyfarfyddais â dreigiau ynddynt ag a fuont yn bur agos i'm llyncu am byth, ond wele byw ydwyf. Daethum allan o ogof danllyd Etna, wedi fy ysgaldio'n ddychrynllyd gan ei lava, ond heb fy llwyr ddyfetha. Ni wel neb byth eto mo Llewelyn Parri yn dringo ochrau mynydd tanllyd, nac yn syrthio i'r pwll brwmstanaidd o feddwdod. Peidiwch chwithau hefyd a myned. Dychwelwch gyda mi i ddyffryn edifeirwch, a cherddwn gyda'n gilydd ar hyd dolydd hyfryd rhinwedd a sobrwydd cadwn ein traed o fewn llwybrau Dirwest, ac felly gallwn roddi her i'r byd i'n cael mwyach allan o honynt. Oh, Feddwdod, cawsom wers galed genyt; ond hyderaf ar Dduw iddi fod yn effeithiol i gael genym oll weled dymunoldeb llwyrymwrthod â'r dïodydd sy'n achosi dystryw i'r corph a damnedigaeth i'r enaid!"

Dyrchafwyd bloedd o gymeradwyaeth wrth i'r Meddwyn Diwygiedig eistedd i lawr. Ei araeth ef oedd yr olaf yn y cyfarfod; a chyn gynted ag y dangoswyd llyfr yr ardystiad, gwelwyd torf yn ymwthio yn mlaen, ac yn ymryson —am roddi eu henwau i lawr.

PENNOD XXII.

Un boreu, pan oedd Llewelyn Parri yn eistedd wrth ei ysgrifgist yn y swyddfa, daeth y nodyn canlynol i'w law:—

"ANWYL LEWELYN PARRI.—Mae'n dda genyf glywed am dy ddiwygiad, a gobeithio y bydd i ti barâu'n sobr o hyn allan. Dymunwn gael dy weled: y mae yma rywbeth ag a wna i ti synu a rhyfeddu. Tyred yma amser ciniaw.

Dy hen warcheidwad ffyddlon, EVAN POWEL."

"Dear me!" ebe Llewelyn, wrtho 'i hun, "wyddwn i ddim bod yr hen fachgen wedi dyfod adref. A pha beth sydd ganddo i'm synu? Pa beth a ddaeth o Gwen, tybed? Nis gallaf aros tan amser ciniaw; gofynaf ganiatâd i fyned yno'r mynyd yma."

Yr oedd meistr Llewelyn yn falch rhoi caniatâd iddo fyned. Ar ei fynediad i dŷ Mr. Powel, gafaelodd yr hen wr yn ei law yn garedig, a gwasgodd hi fel y gwnelai yn yr hen amser gynt; ond neidiodd Mrs. Powel ato gan ei gofleidio fel pe buasai blentyn, a'i gusanu.

"Beth am Gwen?" gofynai Llewelyn, heb feddu amynedd i son am ddim arall.

Torodd yr hen ŵr a'r hen wraig i wylo, ond nid oedd y wylo yr un mor dorcalonus ag y buasai Llewelyn yn dysgwyl.

"A yw hi wedi marw?" gofynai drachefn.

"Rhoddodd y bedd i fyny ei farw!" ebe Mr. Powel. "Bu'n gorwedd yn Mharis ar ddibyn trancedigaeth am ddyddiau lawer ar ol i mi fyned yno, ac ofnwn na chawn byth mo'i gweled yn dangos yr un arwydd fywyd. Ond byw yw hi—mae hi'n gwella—mae hi wedi dychwelyd—mae hi yma!" meddai, gan agor drws ystafell oedd yn ochr y parlwr.

"Oh, fy Ngwen anwyl!" meddai Llewelyn wrth ei gweled. "A ollyngodd angeu ei afael o honot? gwaredwyd di o fedd marwolaeth, a finau o fedd meddwdod! Bydd Morfudd wedi synu clywed hyn!"

"Fy mrawd!" meddai Gwen, mewn llais isel, egwan, "y mae troion Rhagluniaeth yn rhai dyrus. Ni ddysgwyliais, pan ysgrifenais y llythyr hwnw atat, y cawn byth dy weled yr ochr yma i'r bedd; ond nid ein meddyliau ni yw meddyliau Duw. Arbedwyd fy mywyd i'th weled di yn Feddwyn Diwygiedig. Oh, maddeu i mi am ysgrifenu llythyr mor galed atat—gofal a theimlad mawr a wnaeth i mi wneyd!"

"Paid a son, fy chwaer—bu'n foddion i agor fy llygaid i, ac yn gymhorth i fy ngwaredu. Y mae hyny yn ddigon foddlonrwydd i dy feddwl mi wn."

"Ydyw!"

"Ond, fy anwyl chwaer, yr wyt yn rhy wan i mi dy gadw i siarad dim ychwaneg. Deuaf yma heno eto hefo Morfudd. Treia dithau fendio goreu gelli, er mwyn i ni fedru byw'n dawel, dedwydd, a rhinweddol, hefo'n gilydd eto."

Cafodd Mr. Powel hyd i Gwen Parri, ar ol llawer iawn o drafferth, mewn llety gwael, am yr hwn yr oedd wedi talu trwy ymadael â'i dillad a'i gemau. Yr oedd bron marw, mewn canlyniad i iselder ysbryd, tlodi ac anghen, yn ychwanegol at y dwymyn beryglus oedd yn anrheithio ei bywyd. Bu braidd i'r hen ŵr a cholli arno 'i hun, pan welodd hi gyntaf, a churo pawb o'i gwmpas am fod mor ddiofal o honi. Cymerodd hi oddiyno yn ebrwydd i lety arall, mwy tawel a pharchus. Cyflogodd dri o'r meddygon goreu yn y dref i ddyfod ati, a thrwy ofal anghyffredin, cafwyd hi allan o berygl. Wedi aros yno am rai wythnosau, ac i'r meddygon farnu na wnai ymadael am Gymru ddim drwg iddi, ond yn hytrach y byddai'r cyfnewidiad yn y lle a'r awyr yn fanteisiol i gynydd ei hiechyd, cychwynodd Mr. Powel gyda 'i drysor anmhrisiadwy, a chyrhaeddodd cartref yn ddiogel.

Ni chlywyd dim mwy am Walter M'c Intosh, rhagor na 'i fod wedi gadael Ffrainc, ar ol hudo'r dyner Wen yno, fel y dywedasom o'r blaen, ac wedi myned i'r America. Diamheuol yw, iddo arwain bywyd melldigedig yno, os na chafodd Dirwest afael ynddo yntau hefyd. Aeth yno braidd yn yr adeg yr oedd y cyffrawd dirwestol yn cymeryd lle; a gobeithio ddarfod iddo ufuddâu ac ardystio. Ond fedrwn ni ddim dweyd, felly gwell bod yn ddistaw.

****** Y mae Llewelyn Parri wedi bod yn ddirwestwr am dros ddwy flynedd. Yn mis Rhagfyr o'r eilfed flwyddyn o'i fywyd dirwestol, a'i wasanaeth gyda Mr. Pugh (enw ei feistr), gwnaethpwyd i fynu gyfrifon y sefydliad, er mwyn gweled pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Er mawr lawenydd y meistr a'i was, canfyddwyd fod y busnes, yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, wedi troi mwy o arian nag y gwnaeth yn ystod y pum' mlynedd blaenorol, a phriodolai Mr. Pugh y llwyddiant yma i ofal, ymroddiad, a hwylusdod Llewelyn. Er mwyn gwobrwyo 'i ymddygiadau rhagorol, efe â'i hanrhegodd â haner cant o bunnau, yn ychwanegol at ei gyflog wythnosol. Chwyddodd mynwes ein harwr wrth dderbyn yr archeb ar yr ariandy am y swm mawr hwn, a rhuthrodd meddylddrych newydd i'w ben.

Yn lle myned adref rhag ei flaen y prydnawn hwnw, efe a aeth at dy Cadben Morris, oedd yn byw yn ymyl y y dref. Eisteddai Cadben Morris yn ei barlwr cysurus a chynhes, gan ddarllen papyr newydd. Daeth y forwyn i fewn gan ddweyd fod Llewelyn Parri, y dyn oedd yn byw yn Brynhyfryd ychydig flynyddoedd yn ol, wrth y drws yn dymuno ei weled ef.

"Dywed wrtho am ddyfod i fewn," meddai'r meistr. "Mae'n dda genyf eich gweled yn dyfod yma fel dyn, Mr. Parri," meddai'r Cadben pan aeth Llewelyn i'r ystafell.

"Ha!" ebe Llewelyn, "mi boenais ddigon arnoch amser yn ol, am arian ac elusen, ond yr wyf yn hyderu na raid i mi mo'ch poeni byth ar ol heddyw, ond y bydd fy oes rhagllaw yn cael ei dwyn yn mlaen fel ag i fod yn anrhydedd i bob un a wnaeth garedigrwydd i mi — yn anrhydedd i mi fy hun—ac yn wasanaethgar i achos crefydd a moesoldeb."

"Wel, mi all dyn fel y chwi fod o ryw les i'r byd trwy droi i fod yn sobr, Mr. Parri."

"Ond," meddai Llewelyn, "mi ddaethum yma heddyw'r prydnawn ar neges bwysig iawn."

"Pa beth yw?"

"Wel, y mae arnaf braidd ofn ei dweyd; ond waeth hyny nag ychwaneg—dyfod yma a ddarfu i mi i ofyn a fedrech chwi osod y fferm i mi—y Brynhyfryd, fy hen gartrefle!" " Y mae hyna'n gam mawr, Mr. Parri. Ond, pe bawn yn ei gosod, pwy a dâl yr ardreth?"

"Y fi!" meddai Llewelyn yn benderfynol.

"A ydych chwi mewn gwaith da?"

"Ydwyf—ac wedi derbyn cyflog go lew hefyd."

"Wel, oni feddyliech chwi y byddai'n well i chwi fod yn foddlon arno ynte, rhag ofn i rywbeth croes gyfarfod â chwi eto!"

"Rhaid i mi gyfaddef fod yr hyn yr wyf yn ei ofyn i chwi yn beth pwysig dros ben, ond yr wyf wedi penderfynu gwneyd un cynygiad iawn am gael myned i fyw i fy hen gartref. Yn y Brynhyfryd y bu farw fy mam—yno y gwelwyd fi a fy anwyl Forfudd yn dechreu byw yno y treuliais ddyddiau dedwyddaf fy mywyd—colli y Brynhyfryd oedd fy Ngholl Gwynfa fi—a'i gael yn ol yw fy uchelgais."

"Ai nid oes arnoch ofn meddwi eto?"

"Yr wyf yn Ddirwestwr, syr!"

Edrychodd yr hen Gadben yn ngwyneb ei ymwelydd, fel pe buasai'n ceisio darllen dirgelion ei galon.

"Wel, Mr. Parri, gan nad wyf fi fy hun yn byw yn y fferm fy hunan, ac yn llaw go sâl hefo ffarmio, ni fyddai genyf ryw lawer o wrthwynebiad i osod y lle i chwi, pe caech gan rywun fyned yn feichiau drosoch am gan' punt, er mwyn rhoddi cadwyn ychwanegol am danoch, i'ch cadw yn sobr. Mi aethum i gostiau dirfawr hefo'r lle ar ol i chwi orfod ymadael, ac y mae mewn trim campus yn awr. Yn awr, os medrwch gael gan Mr. Powel, neu rywun arall fyn'd yn feichiau am gan' punt, dyna'r lle i chwi am yr un faint o ardreth ag a dalech o'r blaen.

"Dyma haner cant yn barod!" meddai Llewelyn, gan daflu'r papyr a gafodd gan ei feistr ar y bwrdd. "Cefais hwna'n wobr heddyw am fy ymddygiadau at fusnes fy meistr yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Felly, ni raid i mi ond chwilio am feichiau am haner cant!"

"Y mae hyn yn fwy nag y buaswn i yn ei ddysgwyl," ebe'r cadben. "Yr wyf yn synu'r fath gyfnewidiad a wnaeth dirwest arnoch! Yr wyf yn begio 'ch pardwn, Mr. Parri, mi a âf yn feichiau fy hunan am y cant—nid oes arnaf ddim o'ch ofn yn awr. Gellwch fyned i'r fferm ar y dydd cyntaf o'r mis nesaf—Dydd Calan."

Ceisiodd Llewelyn ddiolch i'r hen wr calon dyner, ond ni wnaeth namyn syrthio i'r gadair a wylo fel plentyn; a thra yr oedd yn cuddio 'i ben yn ei ddwylaw, aeth y cadben allan o'r ystafell. Dychwelodd gyda basged yn ei law, a rhoddodd hi i Lewelyn, gan ddywedyd,——

"Os byddwch yn myned i'r fferm ar Ddydd Calan, rhoddwch y pethau sydd yn y fasged yma yn g'lenig i'r plant, er mwyn iddynt gofio yn well am yr adeg ddyddorol mewn blynyddau i ddyfod!"

"Duw a'ch bendithio!" meddai Llewelyn; "ac os byth y byddaf yn anffyddlon i'r ymddiried yr ydych yn ei osod ynwyf, boed i Dduw fy melldithio ar y llecyn!"

"Daliwch chwi at eich ardystiad dirwestol, Parri, ac mi gym'raf fi fy siawns am y canlyniad," meddai Cadben Morris. "Os bydd genych amser yfory, galwch yma, a bydd y papyrau anghenrheidiol yn barod."

"O'r goreu," meddai Llewelyn, ac adref âg ef gyda chalon ysgafn. Yr oedd arwydd llawenydd i'w weled yn mhob llinell yn ei wynebpryd teg; ac fel y dynesai at ei dŷ distadl, teimlai rywbeth yn dweyd oddifewn iddo ei fod unwaith eto mewn gwirionedd yn DDYN.

****** Ymdaenodd y cysgodion tywyll sy'n arfer dilyn noson yr unfed-ar-ddeg-ar-ugain o Ragfyr, dros y ddaear, yr hon oedd yn wen gan eira caled. Eisteddai Mrs. Parri a'i phlant tlysion wrth dân braf yn eu bwthyn bychan, glân. Yr oedd Morfudd Parri yn myfyrio am yr hyn a fu, yr hyn sydd, a'r hyn a fyddai, gan ddysgwyl ei gŵr adref o'r swyddfa. Wyth o'r gloch a ddaeth—felly y daeth naw a deg; ond nid oedd yr un gŵr wedi dyfod! Ah! beth oedd yr achos o hyn? Ni chymerodd y fath beth le er's dros ddwy flynedd. Ai tybed fod holl obeithion y ddwy flynedd ddiweddaf i gael eu difa eto?

"Mam," meddai Meredydd bach, pan oedd yr awrlais yn taraw deg, "ai nid heno yw'r noson ddiweddaf o'r hen flwyddyn?"

"Ië, machgen i," atebai'r fam; ond beth wnaeth i ti ofyn?" "Breuddwydio ddarfu i mi y byddai i nhad ddyfod a ch'lenig hardd i ni i gyd yfory. Ond lle mae o mor hir heno, mam?”

"Oh, fe ddaw yma toc,'ngwas i," meddai'r fam gydag ochenaid.

Tarawodd yr awrlais unarddeg! Yr oedd y wraig bryderus mewn tipyn o ofnad erbyn hyn. Pa le yr oedd Llewelyn?

Ust, dyna dwrf ei droed yn dyfod at y tŷ, gan sathru'r eira rhewedig nes oedd yn crinsian. Gwrandawai Morfudd, ond methai a gwneyd allan fod dim diffyg ar ei gerddediad. Daeth Llewelyn i fewn. Gydag edrychiad pryderus, hi a gododd ei llygaid i fyny, ond fe dreiddiodd rhyw deimlad trydanol o lawenydd trwy ei holl enaid wrth syllu ar wynebpryd agored, dynol, llawen, a sobr ei gŵr.

"Fy anwyl Lewelyn!" meddai, " bum mor ynfyd ag ofni yn dy gylch, wrth dy weled mor hwyr heno."

"Mi fum yn hwyr, yr wyf yn cyfaddef; ond busnes a'm daliodd; ac yn awr y mae genyf ffafr i'w gofyn i ti."

"Beth ydyw, fy anwylyd?"

"Wnewch chwi beidio holi dim, os gofynaf?"

"Gwnaf."

"O'r goreu, 'ngeneth i," meddai, gan argraphu cusan gynhes ar ei boch. "Yr wyf am ofyn i chwi wisgo'r plant yn eu dillad cynhesaf, a chwi eich hunan yr un fath, a dyfod allan hefo mi am dro. Y mae'r noson yn hyfryd, er ei bod yn rhewog.

"Ond pa'm———

"Ah!—dim holi! Cofiwch eich addewid!"

Deffröwyd y plant; ac yr oeddynt oll yn barod i gychwyn yn mhen ychydig fynydau.

Yr oedd y lleuad wedi codi, ac edrychai y ser yn siriol ar y pererinion dyddorol. Arweiniai Llewelyn y ffordd, a dilynid ef gan Morfudd a'r plant. Bu hi ar fin ei holi ddwywaith neu dair, ond cofiodd yr adduned.

Aethant allan o'r dref, a cherddasant yn mlaen, nes dyfod gyferbyn a'r hen fferm, lle yr oeddynt wedi bod yn byw mor ddedwydd flynyddoedd yn ol. Yr oedd yr eira wedi ei glirio oddi ar y llwybr at y tŷ. Agorodd Llewelyn y drws dilynwyd ef i fewn gan ei wraig grynedig. Yn y gegin, yn eistedd o flaen tân brâf, pwy a welid ond Mr. a Mrs. Powel, a—Gwen. Buasai'n anhawdd i baentiwr o ddarfelydd cryfion allu gwneyd darlun cywir o'r cydgyfarfyddiad hapus. Wylai pawb yn uchel am ychydig fynydau.

Ust! dyna 'r awrlais yn taro deuddeg! Y mae'r hen flwyddyn wedi ehedeg i dragywyddoldeb, i roddi lle i un arall!

Cymerodd Llewelyn Parri afael yn llaw ei wraig, a dywedodd wrthi,—

"Wel, fy Morfudd, os bu i feddwdod ein gyru o'r baradwys ddaearol yma, fe ddygodd Dirwest ni yn ol—yr ydych unwaith eto yn wraig y Brynhyfryd! Edrychwch arnaf, fy anwyl Forfudd, a gwenwch ar eich gŵr; a chwithau hefyd fy mhlant, ymgesglwch o gwmpas eich tad—a thyna galenig a roddodd Cadben Morris i chwithau. A chwithau, fy ngwarcheidwaid a'm chwaer, cydlawenhewch â mi, canys yr hwn a fu farw a ddaeth yn fyw drachefn—bum golledig, ond fe'm cafwyd. O fy ngwraig, os oes dedwyddwch i'w gael ar y ddaear, ni a'i cawn bellach, a'r cyfan mewn canlyniad i effeithiolrwydd Dirwest.

Syrthiodd y cyfan ar eu gliniau,—dyrchafodd Llewelyn weddi a mawl at Dduw, a chyfododd y gynulleidfa fechan i fyny mor ddedwydd ag y gallai bodau marwol fod.

Yn mhen y flwyddyn ar ol hyn, y daeth Ifan Llwyd ar draws Llewelyn. Y mae'r amgylchiad hwnw wedi ei ddesgrifio eisoes.

Mewn perthynas i hen gyfeillion Llewelyn, fe ddaethant i ddiwedd amrywiol a gwahanol i'w gilydd.

FFREDERIC JONES.—Aeth ef yn mlaen yn ei feddwdod nes dwyn ei hun i dlodi mawr. Yn ei dlodi, lladratâodd arian o ariandŷ, ac alltudiwyd ef am ei oes i Bombay.

BILI VAUGHAN.—Pan glywodd ef am fywyd diwygiadol Llewelyn Parri, a phan ddywedwyd wrtho ei fod i areithio ar Ddirwest un noson, aeth Bili i wrandaw arno; a'r canlyniad fu iddo ardystio. Bu farw'n ddirwestwr selog, ar ol gwneyd llawer iawn o les i feddwon yr ardal.

GWR Y BLUE BELL.—Gwrandawodd yntau ar lais Dirwest—tynodd ei arwyddfwrdd—gollyngodd y cwrw—a thrôdd at fusnes arall—gonest.

YR ENETH A HUDODD LLEWELYN PARRI I'R DAFARN TRWY DWYLL.—Cafodd Llewelyn hyd iddi, yn ei hynt genadol trwy 'r dref, mewn tŷ drwg, bron a marw. Dygodd Llewelyn hi i'r yspytty. Ac yno, yn nghlyw yr offeiriad, hi a roddodd hanes ei bywyd. Cafwyd allan mai geneth oedd i'r truan Sion Williams a ddesgrifiwyd yn agos ddechreu ein llyfr. Twyllwyd ac arweiniwyd hi o lwybrau diweirdeb, gan Ffrederig Jones. Efe a Walter a'i llogodd i osod y cynllwyn hwnw i'n harwr. Bu 'n sâl am wythnosau yn yr yspytty; a bu farw'n dra edifeiriol.

Trodd Llewelyn Parri allan i fod yn fath o genadwr i'r meddwon. Argyhoeddwyd lliaws mawr trwyddo. Dygodd ei blant i fyny yn anrhydeddus, ac y mae un o honynt yn fyw yn awr, ac yn Ddirwestwr rhagorol. Bu farw yn llawn o ddyddiau, cyfoeth, dedwyddwch, ac anrhydedd; a phan gladdwyd ef, fe welwyd cannoedd yn gwlychu ei fedd a'u dagrau, ac yn bendithio enw y MEDDWYN DIWYGIEDIG.


MERTHYR ARGRAFFWYD GAN REES LEWIS.



Nodiadau

golygu
  1. Gwallau wedi eu cywiro yn y trawsgrifiad
  2. cywiriad gweler "gwelliant gwallau" tud. xvi
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.