Llio Plas y Nos/Cariad a Dialedd

Ryder Crutch Llio Plas y Nos

gan R Silyn Roberts

Stori Ivor


9

CARIAD A DIALEDD

WRTH weled y drws yn agor, a chorff tal Bonnard yn ymddangos, neidiodd Llio ar ei thraed. Fe'i taflodd ei hunan hefyd ar ei fynwes, a phlethodd ei breichiau am ei wddf mewn llawenydd gwyllt; daliai yntau hithau cyn dynned â phetasai rhywun ar fedr ei dwyn oddi arno.

"Oeddech-chi'n f'amau-i, Llio?" gofynnodd yn dyner. "Oeddech-chi'n ofni na fuaswn-i ddim yn dwad?"

"Nag oeddwn, wir," ebr hithau, dan wenu; "roeddech-chi wedi addo, a fuasech-chi byth yn torri addewid."

Daliai i syllu ar ei wyneb, a'i llygaid gwylltion, prydferth, yn llawn llawenydd. Diflannodd ei hofnau, ac anghofiodd yr adyn a oedd newydd ei bygwth. Teimlai fod breichiau un amdani a'i hamddiffynnai rhag pob cam, ac a'i cysgodai rhag pob tymestl. Ac ef yn agos, ni allai ei meddwl lai na bod yn dawel.

"Fe ŵyr y nefoedd na wneuthum hynny," meddyliai yntau yn ei galon, "yn enwedig addewid i'm tlws." Yna eisteddodd i lawr, a thynnodd yr eneth i'w hen safle ar y llawr wrth ei liniau, ac eb ef wrthi:

"Mae rhywbeth wedi ych dychrynu-chi, Llio; be ydi-o?"

"Y fo sy wedi fy nychrynu i," ebr hi, ac ymwasgodd yn nes ato.

"Y fo? Pwy ydi-o, Llio?"

"Y nhad," sibrydodd hithau.

"Llio, ydi-o'n greulon wrthych-chi?"

"Nag ydi, O, nag ydi, wir; ond mae-o'n edrych mor hyll a dychrynllyd, ag yn gwneud imi gofio nad oeddwn-i ddim bob amser o ngho."

Awgrymodd hyn i Bonnard fod yn rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng ei thad ac ystâd bresennol ei meddwl. Hwyrach mai bod yn dyst o ryw weithred ysgeler ac erchyll o'r eiddo ef a'i gyrrodd yn wallgof. Rhaid holi chwaneg arni.

"Doeddech-chi ddim yn y fan yma bob amser, Llio, oeddech-chi?"

"Nag oeddwn," atebodd hithau, ond eto heb fod yn sicr iawn o hynny.

"Ydech-chi'n ych cofio'ch hun yn rhywle arall cyn dwad yma?"

"Dwn-i ddim. Mi fydda-i'n cofio gweled afon a choed, a rhywun fyddai'n 'y ngharu-i ag yn 'y nghusanu-i, ag yn 'y nghario i ar i fraich, a minnau'n eneth bach; ond hwyrach mai breuddwydion ydi pethau felly i gyd."

"Welsoch-chi neb oedd yn ych caru-chi ar ôl hynny, Llio? "

Edrychodd yr eneth ym myw ei lygaid, a darllenodd yntau'r cwestiwn yn ei threm: "On' dydech chi yn 'y ngharu-i?" Ac yn ateb i gwestiwn ei threm gwasgodd hi'n nes ato.

Ydw, Llio, rydw i'n ych caru-chi. F'anwylyd i ydech-chi, on'te?"

Daeth gwrid gwan dros ei gruddiau gwynion, ac am eiliad methodd ei llygaid gyfarfod ei lygaid ef. Gwelodd iddo gyffwrdd y reddf fenywaidd a oedd yn huno o'i mewn, ond eto heb ei deffro, a churodd ei galon gan lawenydd newydd wrth weled arwydd o hynny. A oedd rhywbeth yn bod na allai cariad ei harwain drosto i'r goleuni? Gwynfydedig fyddai'r dydd y gwelai hi wedi dysgu ei ofni, a gwylaidd gilio oddi wrtho, a hanner cywilyddio am huodledd ei chariad syml, plentynnaidd. Ond dyna'r dydd y gallai ef ei hawlio fel ei eiddo, a'i derbyn mewn gwirionedd.

Wedi syllu ar y llawr am ychydig amser, cuddiodd ei hwyneb ar ei fynwes, a sibrydodd:

Rydw innau'n ych caru chithau'n fwy na dim."

Plygodd yntau i lawr, a chusanodd ei thalcen can, a gwelodd y gwrid egwan yn mantellu ei grudd eilwaith. Nid y gwrid tanbaid hwnnw mohono a lysg ruddiau rhiain pan ddeffry traserch yn ei natur. Tebycach oedd i wrid loes ar wen rudd lleian sant darluniau anfarwol y Canol Oesoedd. Wedi ei wylio nes cilio ohono, sibrydodd Bonnard yn dyner:

"Rhyw ddiwrnod, Llio, mi ddowch i ffwrdd hefo mi, ag mi arhoswch hefo-mi am byth."

"O gwna, ond nid yrŵan; fedra-i ddim dwad i ffwrdd hefo chi yrŵan."

Ni allai hyd yn oed cariad Bonnard symud dim arni yn hyn o beth. Ail-ddechreuodd yntau gwestiyno:

"Ond rydech-chi wedi bod yma'n hir, Llio? "

"Wn-i ddim; mae-o'n edrych yn hir iawn."

"Hefo'ch tad y daethoch-chi yma?"

"Wn-i ddim"; a chwanegodd ag ochenaid: "Am mod-i o ngho rydw-i'n anghofio pethau fel hyn. Be ydi'ch enw-chi?"

"Bonnard."

"Bonnard? On'd enw Ffrengig ydi-o? Nid Ffrancwr ydech chi?"

"Wel, ie, mewn rhan. Ond tydi hynny ddim yn peri ichi ngharu-i'n llai, ydi-o, nghariad-i?

"O, nag ydi," atebodd hithau. "Dydech-chi ddim yn ofni hynny, ydech-chi? Feder dim wneud imi ych caru-chi'n llai."

"Rydw-i'n gobeithio medru bod bob amser yn deilwng o'r fath ymddiried," ebr y dyn ieuanc yn ddifrifol.

"Ag fe wnewch chitha 'y ngharu innau bob amser," ebr Llio, mewn sicrwydd tawel.

"O, gwna, Llio; feder dim newid 'y nghariad i atoch-chi," ebr Bonnard, a seliodd ei eiriau â chusan ar ei thalcen.

"Ond be ydi'ch enw cynta-chi," gofynnodd Llio; "dydw-i ddim yn licio ych galw-chi'n Mr Bonnard." Ivor," atebodd yntau.

"Wel, dyna enw Cymraeg clws, beth bynnag," ebr Llio. "Mae Ivor yn un o'r enwau clysa gen i. A dydech-chi ddim yn Ffrancwr i gyd? Rydech-chi'n dipyn o Gymro?"

Rydw-i'n fwy o Gymro na dim arall, Llio fach; yn enwedig wedi'ch gweld chi."

Bu distawrwydd wedi hyn am rai munudau.

"Ivor," ebr Llio toc; ac O! felysed llythrennau ei enw ar ei gwefus findlos hi. "Rydw-i am ddeud wrthoch-chi rŵan. Mae'r tylluanod yn gwybod, ag mae'r meirw'n gwybod, ond neb arall."

"Yn gwybod be, 'y mhlentyn-i?" Rhedodd ias oer drosto wrth glywed ei geiriau dieithr; sut y gallai ei bywyd ieuanc, cynnes, hi ddal cymundeb a'r pethau annaearol a gyniweiriai drwy'r lle ofnadwy hwn?

"Yn gwybod i fod-o wedi gwneud drwg mawr—pechod ofnadwy," ebr hi, ac amrantau a chanhwyllau ei llygaid yn lledu gan ofn.

Saethodd syniad erchyll drwy fynwes Bonnard fel ergyd cyllell, a theimlai oerni rhew yng nghraidd ei galon; gwelwodd ei wefusau, a glynodd ei dafod wrth daflod ei safn. Am foment, ni fedrai dorri gair; y foment nesaf, plygodd at wyneb yr eneth, ac meddai, mewn llais crug, annaturiol:

"Be ydi enw ych tad? Atebwch-fi!"

"Wn-i ddim, dydw-i ddim yn cofio," ebr hithau dan grynu. "O, Ivor," ag ochenaid, "peidiwch ag edrych arna-i fel yna, mae arna-i ofn."

Edifarhaodd yntau anghofio ohono ei hun, a gwasgodd hi'n dyner ato.

"Fy Llio deg-i, peidiwch â meddwl mod-i wedi digio wrthoch-chi. Ond, dywedwch i mi, petasech-chi'n clywed i enw-o, fuasech-chi'n i gofio-fo?

Petrusodd yr eneth am ysbaid; yna dywedodd yn araf: "Rydw-i'n meddwl y buaswn-i."

Penderfynodd yntau chwilio a phrofi ei chof yn drwyadl.

"Ai John Williams ydi-o?"

Ysgydwodd Llio ei phen. "Nage," ebr hi.

"Ai Llywelyn Bowen?"

"Nage."

Ai James Carman?"

"Nage . . ."

"Ai Ryder Crutch?"

Wrth glywed yr enw hwn, cyffrôdd drwyddi, a gwasgodd ei thalcen â'i llaw. "Ie, ie," ebr hi yn awchus, "dyna'i enw-o, Ryder Crutch."

Fflachiodd tân dieithr yn llygaid Bonnard; rhuthrodd ei waed fel ton ruddgoch dros ei wyneb; a chiliodd yr un mor sydyn, nes ei adael mor welw â marwolaeth.

"Ryder Crutch! y nefoedd fawr! Mae-o yma, a dyma'i blentyn-o," murmurai rhwng ei ddannedd wrtho'i hun. Gwthiodd yr eneth oddi wrtho, heb wybod yn iawn beth yr oedd yn ei wneud. Cododd ar ei draed, croesodd yr ystafell, ac ymollyngodd i gadair mewn hanner llewyg o nwyd. Yma, yma," llefai, gan grafu'r llawr â'i sawdl, fel petai'n ceisio mathru a llethu rhyw ymlusgiad aflan, "yma, a'i fywyd yn fy llaw? Ond y mae'r gyfrinach ganddo, a fedra-i ddim cael fy nial ar unwaith. Ond, O Dduw, ei blentyn!' A minnau'n ei charu! Mi rwygaf y cariad allan o'm mynwes, pe torrwn fy nghalon wrth wneud; mi a'i rhwygaf allan, ag mi a'i sathraf o dan fy nhraed! Disgynnodd ei lygaid ar Llio; yr oedd hi wedi cilio rhagddo, ac yn sefyll yn erbyn y mur gyferbyn, ei dwylaw'n dynn ar ei mynwes, a'i hwyneb mor welw ag angau. Gwelodd y fath ing a phoen gwyllt yn nyfnder ei llygaid, a thros ei hwyneb, ag a liniarodd nwyd ei galon. Diniwed oedd hi, beth bynnag, ac adfydus iawn. Yr oedd yn ei garu, ac yn ymddiried ynddo. Gwthiasai yntau hi oddi wrtho. Yna estynnodd ei freichiau ati, a dywedodd:

"Llio, f'anwylyd, dowch yma!"

Llamodd yr eneth ato, a'i thaflu ei hunan wrth ei draed. Dododd yntau ei fraich amdani, a thynnodd hi i'w fynwes—i fynwes lawn o deimladau cymysg cariad a phoen, chwerwder atgof am a fu, drysni cydwybod, ac ansicrwydd am lwybr dyletswydd y dyfodol.

"Fy nhlws," sibrydodd, gan gusanu'r dagrau a lanwai ei llygaid, a'r gwefusau a grynai fel yr eiddo yntau, "maddeuwch imi; doeddwn-i ddim yn bwriadu hyn. Rydw i'n ych caru-chi â holl angerddoldeb f'enaid; 'dall dim byd newid y nghariad-i—mae hwnnw mor dragwyddol â dim sydd yno-i."

"Rhaid ichi fod yn garedig wrtha-i, neu mi fydda-i farw," ebr hi, â theimlad mawr.

Felly y cysurwyd Llio ddiniwed, a daliodd ei gafael yn Bonnard â'i hymddiried blaenorol; yn wir, nid amheuodd ei ffyddlondeb o gwbl; tybiodd mai rhyw fai ynddi hi a barasai iddo ei gwthio ymaith.

Anodd oedd meddwl dial ar yr eneth ddiniwed am drosedd ei thad; ac eto, sut y gallai garu ac anwylo am ei oes ferch y dyn a gyflawnasai'r weithred honno, y dyn y tyngasai y byddai iddo dywallt ei waed? Amhosibl peidio â dial; ni allasai, pe mynasai, wneud cam â'r marw. Ond galwai cariad a chyfiawnder arno i adael Llio. Onid y nefoedd ei hun a'i rhoddasai, ac a'i datguddiasai yntau iddi hithau fel ei gwaredydd, a hynny cyn ei ddyfod, ac a'i harweiniasai i gyflawni ei genadwri. Rhaid bod ffordd allan o'r dryswch, heb dreisio coffadwriaeth y marw na chariad y byw. Cafodd yn y meddwl hwn nerth a chysur. Teimlodd sicrwydd y byddai i'r Dynged a'i harweiniodd hyd yn hyn mor ddi-feth ei arwain eto hyd derfyn y llwybr dieithr y teithiasai ar hyd-ddo.

A ddamweiniasai i Llio ddarganfod y peth yr ym- rwymasai Ivor Bonnard i'w chwilio allan? Ai hyn a ddrysodd ei synhwyrau? Trwyddi hi, felly, y gallai yntau ddyfod o hyd i'r gwir. Beth? ceisio dinistr y tad trwy ei blentyn díniwed? Edrychodd Bonnard i lawr â chalon lawn ar yr wyneb ifanc teg a orffwysai mor dawel ar ei fynwes. Yn sydyn a chynhyrfus, gwasgodd Llio yn nes i'w galon. Edrychodd hithau i fyny, a chyfarfu llygaid y ddau. Plygodd yntau'n is, a chusanodd hi yn nwydwyllt.

"Fy Llio annwyl-i!" meddai, "'y nghariad ddigefn ac unig. Doed a ddelo, mi fydda-i'n gywir ichi, a chewch-chi byth ddiodde o f'achos i."

Cadarnhawyd ei ofnau gwaethaf; ond os gallai ymguddio yn y tŷ a gwylio Ryder Crutch, credai y gallai ddyfod o hyd i'r hyn a geisiai. Ofnai hefyd beryglu Llio pan ddeallai ei thad fod ei rheswm yn dyfod yn ôl. Ei hanobaith hi oedd ei obaith ef; a galwai ei ddiogelwch am iddi barhau fel yr oedd, er na allai ei blentyn byth ei fradychu'n fwriadol. Er hynny, nid tebyg oedd y byddai i adyn mor gyfrwys, diegwyddor, a chreulawn ymddiried ei ddiogelwch i ddwylaw merch, na phetruso moment gymryd ei bywyd, os byddai hynny o ryw fantais i'w ddiogelwch ei hun.

Gwelai lawer rhwystr ar ffordd ei gynllun, ond rhaid oedd eu gorchfygu. Os rhaid oedd iddo drigo bron yn gyfan gwbl ym Mhlas y Nos, cyfiawnder â Morgan fyddai dweud y cyfan wrtho, er mwyn i'w gyfaill wybod ei holl berygl. Hwyrach, hefyd, y byddai'n dda iddo wrth help Gwynn Morgan.

Po fwyaf a welai ar Llio, agosaf oll yr ymddangosai dydd ei hadferiad, a chredai'n ddiysgog bob awr yn ei allu i edfryd ei chof iddi; byddai'n ddedwyddach yn agos at Llio, er mwyn gwylio drosti a'i hamddiffyn. Anesmwyth oedd drwy'r dydd, a hiraethai am hanner nos, fel y gallai ddychwelyd at Llio. Ofnai rhag i niwed ei goddiweddyd, ac ef ymaith; yn enwedig pan gofiai debyced oedd bod ymennydd Ryder Crutch hefyd wedi drysu. A phwy ond dyn wedi drysu a fuasai'n byw ym Mhlas y Nos, lle cyflawnodd ei drosedd ysgeler, ac ynghanol y golygfeydd a'i dygai i'w gof yn barhaus? Oblegid, gan na wyddai neb am ei drosedd, gallai rodio lle y mynnai heb gysgod perygl.

Llwydai gorwel y dwyrain ar gyfer toriad gwawr, pan fedrodd Bonnard ddweud ffarwel wrth Llio, ac addaw dychwelyd gyda'r nos.

"Mi wn-i y dewch-chi'n ôl," ebr hi, a chyda'r geiriau yn ei glustiau y gadawodd hi, ac yr ymgollodd yn y coed mawrion, tywyll, a guddiai ei ffordd i Hafod Unnos.