Llio Plas y Nos/Hafod Unnos
← Gwirio Breuddwyd | Llio Plas y Nos gan R Silyn Roberts |
Ryder Crutch → |
7
HAFOD UNNOS
FEL y rhodiai Ivor Bonnard yn ôl at Gwynn Morgan i'r pentref, ceisiai benderfynu a ddywedai wrth Gwynn ai peidio am antur y noson ym Mhlas y Nos. Cas oedd ganddo gadw dim oddi wrth gyfaill mor bur a rhadlon â Gwynn; eto, teimlai mai ychydig iawn o wir wybodaeth a oedd ganddo, ac mai gwell oedd aros nes i'r stori ddyfod yn fwy cyflawn. Teimlai fod rhesymau eraill pwysig iawn dros iddo gadw'i gyfrinach iddo'i hun ar hynny o bryd. Gwyddai mai prin y gallai distawrwydd beri niwed i neb na dim, ond ni wyddai beth a ddigwyddai, na phwy a glywai, unwaith y dihangai'r gyfrinach dros ei wefus.
Erbyn iddo gyrraedd y pentref, yr oedd rhai o'r pentrefwyr ar eu traed, ac wedi dechrau ar orchwylion y dydd. Wrth weled y dyn ifanc dieithr yn dychwelyd i'r pentref ar yr awr gynnar honno, a llaid taith bell ar ei wisgoedd, a'i lludded i ryw fesur yn ei symudiadau, safai'r pentrefwyr i lygadrythu arno, â chwilfrydedd amlwg ar eu hwynebau.
"Wna hyn mo'r tro o gwbwl," meddyliodd yntau, "fe fydd fy ngwaith yn mynd a dwad yn lladradaidd yn y nos yn siŵr o dynnu sylw at fy symudiadau, a chodi amheuon pobol yn fy nghylch. Ac os dechreuant fy nrwgdybio, y tebyg yw y gwylir fi; a wna-hi mo'r tro ar hyn o bryd i neb feddwl fod a wnelwyf i â Phlas y Nos. Dymunol iawn fyddai cael bwthyn unig yn rhywle allan o gyrraedd llygaid pobl fusneslyd; hwyrach fod lle felly yn bod, ac y gellid cael rhyw wraig i'w lanhau bob yn eilddydd, a'n gadael ni ein hunain yn ystod y nos. Ac os bydd i Gwynn flino ar fywyd felly mewn amser, byddaf yn sicr o ganfod hynny, a gallaf i berswadio i fynd am dro am ychydig ddyddiau i rai o'r trefi. Ar hyn o bryd, beth bynnag, ni fynn sôn am fy ngadael."
Pan gyrhaeddodd y gwesty, yr oedd Morgan yn effro, ac yn gwrando amdano, er nad oedd eto wedi codi; a phan glywodd drwst Bonnard yn y tŷ, galwodd arno i'w ystafell.
'Rhyfeddu a dyfalu yr oeddwn pa bryd y buasech yn dychwelyd," ebr Gwynn yn awchus, fel yr estynnodd ei law iddo. Gafaelodd Bonnard ynddi yn awchus, a'i gwasgu'n wresog.
"Oeddech-chi'n pryderu yn 'y nghylch-i?" gofynnodd, dan wenu, a gwneud lle iddo'i hunan i eistedd ar ymyl y gwely.
Wel oeddwn-a deud y gwir. Ond ddaru-chi lwyddo i fynd i mewn?"
"Do-drwy ffenest. Roedd-o'n waith haws nag roeddwn i wedi feddwl."
"Be? Aethoch-chi i mewn i'r hen blas?" gwaeddodd Gwynn, gan godi'n sydyn ar ei benelin. "Welsoch-chi rywbeth rhyfedd yno?
Newidiodd wyneb hardd Bonnard ar amrantiad. "Do," atebodd, "ond rhaid ichi faddau imi, Gwynn, am gadw 'nghyfrinach i mi fy hun am rŵan, beth bynnag.'
"Peidiwch â sôn am faddau, Ivor; on' ddaru-mi addo peidio â holi? Ond yn wir, rhaid imi gyfadde 'mod-i'n ysu o eisio gwybod, achos rydech-chi'n ymgladdu mewn mwy o ddirgelwch bob dydd. Ond phoena-i monoch-chi, 'rhen gyfaill, mi ellwch fod yn siŵr o hynny."
"Mi gewch wybod y gwir i gyd ryw ddiwrnod, a hynny, hwyrach, yn gynt nag yr ydech-chi'n disgwyl."
Wedi bod yn ddistaw am rai eiliadau, sylwodd Bonnard:
"Wiw imi feddwl aros yn y lle yma—hynny ydi, yn y pentre yma. Mi fydd yn rhaid imi fynd i'r hen blas bob nos, ag os bydda-i'n mynd a dwad yno o'r pentre, rydw-i'n siŵr o dynnu sylw, ag mi fydd pobol yn gofyn i ble rydw-i'n mynd, a hwyrach yr ân'-nhw i 'ngwylio-i. Rhaid imi gael lle unig yn rhywle i aros, fel y medra-i fynd a dwad heb dynnu sylw."
"Y man y mynnoch-chi, Ivor; dydi-o fawr o wahaniaeth gen i."
"Os cawn-ni le unig felly, mae arna-i ofn y bydd hi'n ddwl dros ben i chi yno, Gwynn."
"Twt, lol, dim o'r fath beth!
'Wel, os ewch-chi i deimlo'n unig ag anhapus, fydd dim i'w wneud ond ichi 'ngadael-i. Rhaid inni gael rhyw fath o fwthyn yn sefyll ar i ben i hun; hwyrach y gallwn-ni gael rhywun o'r pentre yma i weithio am ran o'r dydd inni, ac ymadael gyda'r nos; ag felly mi fydda innau'n rhydd. A fydd dim peryg i neb feddwl bod dim a wnelom ni â Phlas y Nos, faint bynnag o siarad fydd yn yn cylch-ni."
O'r gorau. Mi goda i'r munud yma. Ordrwch chitha frecwast ar unwaith, o achos does gen-i ddim lle i feddwl ych bod-chi wedi cael gwledd ym Mhlas y Nos."
Ychydig yn ddiweddarach, yr oedd y ddau uwchben borebryd campus, a difai archwaeth ganddynt bob un. Daeth gwraig y tŷ atynt ar eu cais, ac wedi ei holi cawsant ar ddeall fod bwthyn gwag ryw filltir neu well o'r pentref. Nid oedd fawr o gamp arno, na neb yn byw ynddo ers dros flwyddyn. Barnai'r wreigdda y gwnâi'r tro, efallai, ond tacluso tipyn arno. Ond ofnai na allai boneddigion fod yn hapus iawn mewn lle mor wael. Eiddo Mr Jones, y Siop, ydoedd. Agorodd Mr Jones ei lygaid yn llydan mewn syndod wrth weled dau ŵr ieuanc coeth, trwsiadus, yn holi am Hafod Unnos. Dywedodd Gwynn Morgan wrtho ei fod yn beintiwr, a'i fod yn bwriadu aros beth amser yn y gymdogaeth i beintio ei golygfeydd ardderchog.
"Rydym-ni wedi hen arfer â'i ryffio-hi," meddai, "a chredu rydw i y gwna Hafod Unnos ein tro, os gosodwch-chi-o inni wrth yr wythnos."
Rhoes Mr Jones yr agoriad iddynt i fynd i weled y lle drostynt eu hunain, a dywedodd, os hoffent y lle, y gallent ei gael, a chroeso, am bedwar swllt yr wythnos.
Nid oedd eisiau lle mwy unig i fodloni breuddwydion meudwy. Safai beth pellter o'r ffordd fawr, a rhodfa las drwy brysgwydd yn arwain ato. Y tu ôl iddo yr oedd coedlan o binwydd, ac ni welid un tŷ arall o'i ddrws, ddim mwy nag y gwelid yntau o'r un annedd arall yn y gymdogaeth. Teg a swynol oedd ei olwg oddi allan, a'i do gwellt, a'i furiau wedi eu gorchuddio ag iorwg, a'r ffenestri plwm hen ffasiwn wedi hanner eu cuddio ganddo. Erbyn agor y drws, nid deniadol iawn oedd yr olwg tu mewn. Yr oedd mawr angen am ysgub a dwfr arno, ac nid oedd ei furiau yn edrych yn lân iawn; buasai'r pryf copyn yn brysur am fisoedd yn crogi ei weoedd drostynt. Agorai'r drws yn syth i'r ystafell a wasanaethai fel parlwr a chegin ynddo. Ac o honno agorai dau ddrws i ddwy ystafell gysgu, a dyna holl ystafelloedd yr Hafod Unnos. Llawr pridd a oedd i'r gegin, a llawr coed go arw yn yr ystafelloedd cysgu. Isel oedd y drws, a rhaid oedd i'r ddau ŵr ieuanc blygu eu pennau wrth fynd i mewn. Fel y dywedasai Gwynn wrth Mr Jones, gallai'r ddau ddygymod ag amgylchiadau dipyn yn wasgedig heb ddioddef fawr o anhwylustod. Gwelsant y gwnâi'r bwthyn y tro, ond ei lanhau, a chael ychydig ddodrefn iddo.
Wedi cyrraedd yn ôl i'r pentref, cymerasant y bwthyn, ac anfonwyd gwraig weddw yno ar unwaith i'w lanhau. Prynasant hefyd amryw fân lestri, a phethau eraill, at eu gwasanaeth, a rhoesant gyfarwyddiadau i Mr Jones i anfon ymborth a phethau angenrheidiol eraill iddynt bob dydd. Wedi hynny, aeth Bonnard a Morgan i'r dref nesaf i brynu hynny o ddodrefn rhad a oedd yn angenrheidiol. Llwyddasant i gael y dodrefn yno y prynhawn hwnnw, ac erbyn wyth o'r gloch y nos yr oedd eithaf trefn ar bethau. Gosododd y wraig swper blasus o'u blaenau, ac yna aeth ymaith gan addo bod yn ôl erbyn deg fore drannoeth.
Eisteddodd y ddau i fwyta eu hwyrbryd, ond byr waith a wnaeth Bonnard o'i ran ef ohono. Teimlai nad oedd ganddo amser i'w golli. O'i flaen yr oedd pum milltir o daith, ac yn ei fynwes awydd angerddol am weled Llio, ond nid oedd yn fodlon cyfaddef wrtho'i hun fodolaeth y teimlad hwnnw.
"'Rydw-i'n gweld y lle yma rŵan yn edrych yn eitha cartrefol a chysurus," ebr Gwynn Morgan, gan sythu yn ei gadair, ac edrych o'i gylch. Aeth rhywbeth fel cysgod gwên dros wyneb tywyll Bonnard:
Tybed," eb ef, "y ca'-i gartre rywdro?"
Chwarddodd Gwynn yn llon ac ysgafn ei fryd, ac ebr yntau:
Wrth gwrs y caiff bachgen smart fel y chi gartre- ag un o ferched hardda'r byd yn goron arno."
Cododd Bonnard ar hynny; gyda Llio yr oedd ei feddyliau.
"Rhaid i mi fynd yn awr; au revoir."
"Nos dawch; cymerwch ofal ohonoch ych hun, Ivor, a chofiwch nad oes yn y byd yma ddim gormod o bobol dda."
Cerddodd Bonnard ar hynny allan o'r tŷ; ac yr oedd hi yn nos. Gofynnai iddo ei hun a oedd yn ddyn da; pe gwybuasai Gwynn holl gyfrinach ei galon ef, a fuasai ei natur onest, gariadlon, wedyn yn ei alw yn ddyn da. A fuasai'n meddwl mor uchel o'i gyfaill distaw a thrist?