Llio Plas y Nos/Stori Gŵr y Tŷ
← Y Dieithriaid | Llio Plas y Nos gan R Silyn Roberts |
Plas y Nos → |
2
STORI GŴR Y TŶ
Deffrôdd arswyd amlwg gŵr y tŷ chwilfrydedd Gwynn Morgan ynghylch Plas y Nos, ac eb ef: "Gadwch imi glywed chwaneg am Blas y Nos, Mr Edwards. Hwyrach y bydd yr hanes yn ddiddorol i Mr Bonnard hefyd."
Edrychodd gŵr y tŷ ar Ivor Bonnard, ond ni chymerai hwnnw ddim sylw o'r peth, eithr parhau i syllu'n synfyfyriol i'r tân. Er hynny, dechreuodd Mr Edwards ar ei stori.
"Does neb yn gwybod llawer i sicrwydd am y lle yna; ac mae'n anodd iawn gwybod be sy'n wir, a be sydd ddim. Mae-o wedi'i adael yn llwyr i adfeilio rŵan ers tuag ugain mlynedd, neu well. Yn wir, byth er pan ddaeth Lucas Prys i fyw iddo chafodd-o fawr o edrych ar i ôl, ag mae enw gwaeth o hyd yn mynd i'r lle. Mae-o wedi cael i alw yn Blas y Nos er pan own i'n fachgen, a chyn hynny hefyd, ag mae hynny rŵan dros hanner can mlynedd yn ôl."
"Mae'r lle yn bur hen, felly?" gofynnodd Gwynn. "Bobol annwyl! ydi, maen-nhw'n barnu i fod-o tua thri chant oed, beth bynnag, ag mi glywais-i'r hen Mr Richards, y person, yn deud bod y lle yn siŵr o fod yn bedwar neu bum cant oed, a hen bero go sownd oedd o am wybod hen bethau."
"Maddeuwch imi am fynd ar ych traws-chi, ewch ymlaen," meddai Gwynn.
"Wel, mi glywais ddeud bod y stad yn perthyn erstalwm i Wyniaid Gwydir. Ond dwn-i ddim sut yr aeth-hi o'i dwylo-nhw. Mi glywais 'y nhaid yn deud bod rhyw Mr Ramsden yn byw yno pan oedd i dad o'n fachgen bach, a chreadur ofnadwy oedd hwnnw. Mi roedd-o'n perthyn i ryw glwb yn Llundain, ' Clwb Uffarn Dân' y bydden-nhw'n i alw-fo, ag yn y fan honno y bydda-fo lawer iawn o'i amser. Ond at ddiwedd y flwyddyn mi fyddai'n dwad i Gymru i saethu, a lot ofnadwy o'i gymdeithion annuwiol hefo fo. Roedden-nhw'n swel anarferol, ond 'doedd waeth ganddyn-nhw ladd dyn mwy na saethu petrisen. Feiddiai yr un ferch fynd allan o'r tŷ ar i phen i hun tra bydden-nhw hyd y fan yma. Ond ryw ddiwrnod mi gafwyd yr hen Ramsden wedi'i fwrdro-rhywun wedi rhedeg i gleddau trwy i galon.-o, ag yntau wedi marw ar y parc. Ag erbyn mynd at y tŷ, roedd y lle wedi'i gloi i fyny, a'i adael. Dw-i'n meddwl mai dyma pryd y dechreuodd y lle gael enw drwg. Mi fyddai pobol yn tyngu bod ysbryd Ramsden yn cerdded, ag mi welodd cefnder i dad 'y nhaid yr ysbryd yn sefyll dan gysgod coeden yn ymyl 'giât y parc, a chleddau yn i galon! Ag mi fuo'r lle'n wag am flynyddoedd ar ôl hynny. Wedyn, mi ddoth hen greadur digri iawn yr olwg arno o Lundain yno i fyw, ond mi gafodd i ddychryn gymaint yno cyn pen deufis ar ôl dwad, fel y gleuodd-o-hi yn i ôl gynted gallai-fo, ag mi glywais ddeud na fuo fawr o lewyrch arno-fo byth wedyn, a'i fod-o wedi marw'n fuan iawn. Mi fuo r hen dŷ yn wag wedyn am rai blynyddoedd, ond mi ddoth yno ddyn canol oed i fyw, ag mi fuo yno am rai misoedd i hunan. Wedi hynny, mi gwelwyd-o yn cerdded ar hyd y parc, a dau ddyn bach, melyn, fel Indiaid, yn cerdded ar i ôl-o. A dyna'r olwg olaf gafodd neb arno'n fyw. Mi ddiflannodd i rywle, a'r dynion melyn hefo-fo. Mae rhai'n tyngu hyd heddiw mai cael i fwrdro ddaru-o, ag mae hen wraig o'r enw Nanni Wiliam y Sgubau yn tyngu i bod-hi wedi gweld i ysbryd-o, pan oedd-hi'n eneth ifanc ag wedi mynd ar draws y parc yn y nos i fyrhau'r ffordd adre—mi gwelodd-o, meddai hi, ar i hyd ar lawr yn y gwelltglas, a'r ddau ddyn melyn yn i dynnu oddi wrth i gilydd, ag yntau yn sgrechian yn ofnadwy. Ond stori Nanni Wiliam ydi honna, a dydw i ddim yn i choelio-hi fy hun."
Ond er gwaethaf yr haeriad hwn, yr oedd wyneb Mr Edwards dipyn yn welwach nag arfer, ac ar yr esgus fod siarad cymaint yn sychu ei wddf, estynnodd ei law at lestraid o win; llyncodd ef ar frys, a Gwynn Morgan yn cil-wenu, ac yn tanio myglysen arall wrth ei wylio. "Be fu wedyn?" gofynnodd Morgan.
"Mi fuo'r lle'n wag am amser, a doedd neb yn meddwl yr âi undyn yno i fyw wedyn, ag y gadewid y lle i ddadfeilio. Ond er syndod i bawb, mi ddoth dynion diarth o Loegr i'r ardal i atgyweirio'r hen blas. Ond fuo-nhw ddim yno fwy na phythefnos. Ag wedyn mi ddoth gŵr bynheddig o'r enw Mr Lucas Prys yno i fyw. Roedd hynny tua phum mlynedd ar hugain yn ôl. Dyn hollol ddiarth i bawb oedd y gŵr bynheddig yma, ond roedden-nhw'n deud i fod-o o deulu uchel, ag yn gyfoethog iawn. Roedd ganddo-fo wraig, dynes o un o'r gwledydd tramor; mi glywais mai o Ffrainc yr oedd-hi, a'i bod-hi'n eneth ieuanc dlws anghyffredin, ond welais-i moni-hi fy hun. Mi roedd ganddyn-nhw fachgen bach dwyflwydd ond; mi welais-i hwnnw yn y pentre hefo'i nyrs, ond Ffrancreg oedd honno, a ches-i ddim sgwrs hefo-hi. Roedd llawer iawn o siarad amdanyn-nhw, ond doedd neb yn gwybod fawr i sicrwydd. Dyn canol oed, â golwg drist a phruddglwyfus dros ben arno, oedd Mr Lucas Prys, ag mi roedd-o'n Gymro, ag yn medru siarad Cymraeg â thipyn o lediaith, fel petasai-fo wedi'i fagu yn Lloegr, neu rywle felly. Mi fûm-i'n siarad hefo-fo ar y ffordd am funud neu ddau unwaith, ond ches-i fawr gyno-fo; roedd-o'n brysur eisiau 'ngadael-i. Roedd golwg dyn wedi torri'i galon arno-fo rywsut. Mi roedden-nhw'n deud bod ganddo-fo ddigon o arian, ond dwn-i ddim pam y doth-o i fyw i le fel Plas y Nos."
"Rhyfedd iawn, rhyfedd iawn," meddai Morgan. Eistedd yn ddistaw a breuddwydiol a wnâi Bonnard, fel pe na bai wedi sylwi dim ar stori gŵr y tŷ.
"Dowch, taniwch sigâr arall," ebr Morgan wrth ei westywr, ac estyn y llestr a'u daliai ato.
"Na, diolch ichi, syr," meddai hwnnw, "mae'n well gen i bibell, gyda'ch cenad. Mi fydda i'n licio sigâr yrŵan ag yn y man, ond mae pibell yn well i fyw arni." Yna dechreuodd lenwi ei bibell yn hamddenol a gofalus, ac wedi ci thanio, sugnodd y mwg yn ddistaw am funud neu ddau; edrychai fel pe bai'n sugno i gof yr un pryd, er mwyn galw pob ffaith ymlaen yn glir, rhag gwneud cam â'r hanes. Wedi ysmygu ennyd, tynnodd y bibell o'i enau, a daliodd hi o'i flaen, a bys cyntaf ei law dde yn fodrwy dros ei choes.
"Ond i orffen y stori," meddai, "fu Mr Lucas Prys a'i deulu ddim llawn blwyddyn yn y Plas cyn i bethau rhyfedd ddechrau digwydd. I ddechrau, mi fu Mr Prys i hun farw yn hollol sydyn ag annisgwyliadwy. Dydw-i ddim yn gwybod i fod-o wedi cael cam o fath yn y byd, ond roedden-nhw'n awgrymu pob math o bethau ar y pryd. Ydech-chi'n gweld, roedd y peth mor sydyn; er nad oedd Mr Prys ddim yn ddyn graenus a thew fel y fi, eto roedd-o'n edrych yn hollol iach a chryf. Ond wyddai neb yn iawn beth oedd wedi digwydd. Doedd y wraig na'r morynion ddim yn deall dim Cymraeg, na'r nesa peth i ddim Saesneg, a Ffrangeg fydden nhw'n i siarad yn y tŷ; felly, doedd dim modd cael fawr o'r hanes gan neb oedd yn i wybod-o. Wn-i ddim yn lle claddwyd i gorff-o, ond rydw-i'n tybied mai mynd â fo i ffwrdd yn y nos a wnaethon-nhw."
"Diar mi, rhyfedd iawn," meddai Morgan, ac yr oedd yn amlwg fod ei natur wedi ei chyffwrdd gan stori Plas y Nos. Ond eistedd yn ddistaw a wnâi Bonnard o hyd.
"Ie, wir, roedd rhywbeth rhyfedd yn y cwbwl i gyd," dechreuodd Mr Edwards drachefn; "yn union wedi marw Mr Prys, mi ddoth gŵr bynheddig diarth i'r Plas, na wyddai neb ar wyneb y ddaear pwy oedd-o, na beth oedd-o'n geisio. Y peth nesa glywsom-ni oedd fod y bachgen bach a'r nyrs wedi mynd i ffwrdd i Ffrainc. Reit fuan wedyn, dyma'r stori fod Mrs Prys ar goll. Mi redodd y forwyn i ffwrdd, ag at berson y plwy, ond fedrai hwnnw ddim i deall-hi'n iawn, ond mi gasglodd fod Mrs Prys wedi dengyd ar ôl y bachgen bach, ag nad oedd neb yn y Plas ond y gŵr bynheddig diarth, Mr Crutch, ag nad oedd o ddim ar berwyl da. Ond wrth nad oedd neb yn deall y Ffrancreg, mi aeth i ffwrdd i'w gwlad i hun, a wnaeth neb fawr o ddim am rai dyddiau. Ond pan aeth rhywun at y Plas, mi gafwyd bod y lle wedi'i gloi i fyny, a'i adael. Felly mae-o wedi bod byth er hynny hyd yn awr. Ond mae pob math o bethau wedi bod yn cael i deud, a does neb yn unlle ffordd yma a fentrai yno pe cawsai-fo'r lle am fynd. Mae sôn fod yno arian a phethau gwerthfawr, a llawer o hen ddodrefn derw, ond fentrai neb ar i cyfyl-nhw tasen-nhw'n aur melyn i gyd. Dydw-i ddim yn gwybod pwy biau'r lle yn awr, a chlywais-i ddim ers dros ugain mlynedd fod ar neb eisiau ei rentu-o."
"Oedd'na ryw amheuaeth fod yna gam chwarae wedi bod ynglŷn â Mrs Prys, neu rywbeth felly?" gofynnodd Gwynn Morgan.
Am y tro cyntaf yn ystod yr ymgom, cododd Bonnard ei Ben, a hoeliodd ei lygaid duon, treiddgar, ar ŵr y tŷ, a hwnnw'n ateb:
"Wir, syr, dyna oedd pobol yn i sibrwd; roedden-nhw'n deud mai cael i mwrdro ddaru hi."
"I mwrdro! Gan bwy?" gofynnodd Morgan.
Neidiodd Bonnard ar ei draed, ond suddodd eilwaith i'w gadair heb ddywedyd dim.
"Gan y Mistar Crutch hwnnw, syr," atebodd Edwards, mewn llais isel, hanner ofnus. "Dydw-i ddim yn gwybod yn siŵr, ag mae-hi'n debyg na cha-i byth wybod bellach-ond maen-nhw'n deud bod i hysbryd-hi'n cerdded, a'i fod-o wedi ymddangos, a bod sgrechfeydd dychrynllyd a diarth wedi'i clywed. Chymerwn i mo'r gwesty yma am basio y ffordd yna yn y nos." Ac yr oedd yn amlwg erbyn hyn ar lygaid Edwards nad cysurus ganddo oedd edrych tu ôl i'w gefn..
"Lol botes," meddai Morgan; "mae stori fel yna yn dygymod â hen wrachod i'r dim. Mi a'-i i weld y lle yr un fath yn union. Does arnom ni ddim ofn gweld ysbrydion, a oes, Ivor?"
Cododd Bonnard ei lygaid duon i fyny am eiliad, ac meddai mewn llais dwfn, tawel: "Mi garwn yn fawr gwrdd ag un!"
"Gobeithio y cymerwch-chi ofal mawr, foneddigion," ebr gŵr y tŷ, yn dipyn dewrach erbyn hyn. " Mi glywsom am lofftydd a grisiau cyfan yn dwad i lawr hefo'i gilydd mewn hen dai fel hyn."
"O, mi gymerwn-ni bob gofal, Mr Edwards," ebr Morgan, dan wenu.
Ar hynny, cododd gŵr y tŷ: "Mae-hi agos yn hanner-nos, felly rydw i'n ych gadael-chi, a diolch yn fawr ichi am ych caredigrwydd. Pryd y ca'-i ych galw chi fory, syr?"
"O, does dim angen galw, diolch ichi. Mi fydd Mr Bonnard yn 'y neffro-i ar doriad gwawr, mae'n debyg iawn."
"O'r gorau, syr. Nos dawch, foneddigion."
Eisteddodd y ddau yn ddistaw am ennyd nes gorffen eu myglysenni. Yna awgrymodd Bonnard mai gwell fyddai iddynt hwythau ddilyn esiampl eu gwestywr.
"Dowch, mae-hi'n bur hwyr," meddai; "mi fydd ychydig o gwsg yn gwneud y tro i mi, ond rhaid i chi gael digon."
Cyn pen deng munud, dywedasant "Nos dawch" wrth ei gilydd, ac aeth pob un i'w ystafell, ar feddwl codi'n fore i fynd am daith i Blas y Nos; ac yr oedd Morgan yn falch ei fod wedi cael hyd i anturiaeth mor ffodus wrth ymddiddan â gŵr y tŷ. Meddyliai mai ef oedd yr arweinydd. Beth a feddyliai Ivor Bonnard?