Lloffion o'r Mynwentydd/Pregethwyr a Gweinidogion

Cynnwysiad Lloffion o'r Mynwentydd


golygwyd gan Thomas Rowland Roberts (Asaph)
Beirdd a Llenorion


BEDDERGRYFF CYMREIG.


Pregethwyr a Gweinidogion.


Y PARCH. OWEN OWENS, Bethel, Môn.

Owain ydoedd athraw tawel,—a sant,
Yn llenwi swydd angel :
Hiraethir, sonir mewn sel,
Bythoedd, am fugail Bethel.
—Hwfa Môn.




Y PARCH. FRANCIS HILEY, Llanwenarth.

Gŵr i Dduw, a'r goreu'i ddawn,—oedd Hiley
Ddihalog a ffyddlawn;
Gras yr Iôr, trwy'r groes a'r lawn,
Daniodd ei yspryd uniawn.
—Cynddelw.




Y PARCH. DAFYDD DAFIS, Cowarch.
(Yn Mynwent Rydd Dinas Mawddwy.)

 
Un o ddoniol blanwydd anian,—oedd e',
Yn ei ddull ei hunan;
O'i rydd 'wyllys trodd allan
Yn was glew i'r Iesu glân.

Tywyswyd ef at Iesu,—yn foreu,
I'w fawr anrhydeddu;
Ar y gwaith o'i bregethu,
Hyd ei fedd diwyd a fu.

Yn ei fedd gorwedd heb gur,—yn dawel,
'N ol diwedd ei lafur ;
Daw eilwaith heb un dolur,
O'i dŷ llaith yn berffaith bur.
—Morris Davies.




Y PARCH. JOHN EVANS, Maendy.

Dirodres, cynhes, frawd cu—oedd Evans,
Hawdd hefyd ei garu;
A'i iaith bert a'i ddawn ffraeth, bu
Drwy ei oes o du'r Iesu.
—Carnelian.




Y PARCH. WILLIAM GRIFFITH.

Credadyn llawn cariad ydoedd—o reddf,
Gŵr aeddfed i'r nefoedd ;
Athraw od ei weithredoedd,
A gŵr Duw iach ei grêd oedd.
—Cynddelw.




Y PARCH. WILLIAM HUGHES, Saron.

Gweinidog gyda'r Annibynwyr, yr hwn oedd yn hynod am ei ddawn gerddorol; yn Mynwent Llanwnda, Arfon.

Hen bererin berorodd—fawl Iesu
Yn flasus, tra gallodd;
A gweinidog na oedodd,
Weithio i'w Feistr wrth ei fodd.
—Eben Fardd.




Y PARCH. ROWLAND HUGHES
Gweinidog gyda'r Wesleyaid, yn Mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych.

Cofia na chuddia'r ceufedd—athrylith
Rowland Hughes na'i fawredd ;
Er mor chwerw oedd bwrw i'r bedd
Aur enau y gwirionedd.


Y PARCH. RICHARD JONES, o'r Bala.

(Yn Mynwent Llanycil, Meirion.)

'Nol hir a thir leueru—a'i Geidwad
Yn gadarn was'naethu ;
A'i goethaidd ddewr bregethu,
Daeth mewn hedd i'r dyfnfedd du.




Y PARCH. ROBERT MORGAN.

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn Harlech, Meirion.

Dyhidlai od hyawdledd—llefarai
Holl fwriad trugaredd;
Gwel ei uniawn gul anedd,
Diamau fan, dyma ei fedd.
—Ioan Twrog.




Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, Clynnog.

Pregethwr, awdwr ydoedd, —agorwr
Geiriau glân y nefoedd;
Pur hoff yw d'weud—prophwyd oedd
Yn llewyrch ei alluoedd.
}—Eben Fardd.




Y PARCH. RICE JONES, Offeiriad Llanystumdwy.

(Yn Mynwent Llanystumdwy, Arfon.)

Pregethwr, awdwr ydoedd,—hoff urddas,
Hyfforddiant i filoedd;
Athraw odiaeth weithredoedd,
A geiriau mêl angel oedd.




Y PARCH. GRIFFITH SOLOMON, Lleyn.

Gŵr a hoffid oedd Gruffydd;—ei ddawn ffraeth
Oedd yn ffrwd ddihysbydd;

Esponiwr, olrheiniwr rhydd,
Mawr ei swm o resymydd.
—Eben Fardd.




Y PARCH. EVAN RICHARDSON.

(Yn Llanbeblig, Arfon.)

"A'r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai
a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd."—Daniel.

Ond Oh! er chwilio ni chaf
O'r dynion ŵr dianaf;
Drwyddynt y caed er Adda
Ddiffygion mewn dynion da,
Iesu'n unig sy'n anwyl
Dros oes ymhob dyrys hwyl.




Y PARCH. THOMAS JONES, o Ddinbych.

(Yn Mynwent Eglwys Wen.)

I'r du lwch gwelwch mewn gwaeledd,—daethum,
O daith byd a'i anedd ;
Rhodd fy Mhrynwr, haeddwr hedd,
Noswyl i'm o'i hynawsedd.

Heb gur, na dolur, i'm dilyn—arhoaf.
Yr hyfryd ddydd dyfyn;
Cyfodaf, can's caf edyn,
I'r wyl o hedd ar ol hyn.




Y PARCH. JOHN JONES, Talysarn.

Gwres santaidd tanbaid ei enaid doniol
Oedd yn newr fyddin ei Dduw'n rhyfeddol ;
A'i ymadroddion mewn grym hydreiddiol
Yn siglo meirw o'i cysgle marwol;
A bu ei lafur bywiol—dros grefydd
Yn fywyd newydd i fyd annuwiol.
—Ioan Madog.




Y PARCH. LL. SAMUEL, Bethesda.

Mewn daiar yma'n dawel—yr huna'r
Hynaws Barch. Ll. Samuel;
Dyn i'w oes oedd yn dwyn sêl
Yn achos ei Dduw'n uchel.

Gŵr hoffai'r nef o graff farn oedd,—a mawr
Mewn gras a gweithredoedd ;
A'i ddawn yn gyflawn ar g'oedd
Yn felus swynai filoedd.
—Ioan Madog.




Y PARCH. JOHN JONES, Tremadog.

Hir draddodi'r gwir ar g'oedd—yma fu,
Am fawr ras y Nefoedd;
A'i bert ddawn fwyneiddlawn oedd
Yn felus wledd i filoedd.
—Ioan Madog.




Y PARCH. JOHN EVANS, o'r Bala

(Yn Mynwent Llanycil, Meirion.)

Coffadwriaeth am JOHN EVANS, o dref y Bala, yr hwn afu 60 mlynedd yn
bregethwr yn mhlith Ꭹ Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru; ac a fu farw 12fed
o Awst, 1817, yn 96 mlwydd oed. Fel dyn, yr oedd yn meddu ar gyneddfau
cryfion, a deall cyflym. Fel cymydog, yn barchus a chymeradwy, gan fod yn
gyfiawn yn ei fasnach fydol, a diwyd yn ei alwedigaeth. Fel priod, yn ŵr tyner a
charuaidd, ac yn gofalu am ei dŷ. Fel pregethwr, mynegodd yn ffyddlon "holl
gynghor Duw." Fel Cristion, yn "Israeliad yn wir,yn yr hwn nid oedd dwyll." Am
sail ei ffydd, pan ofynwyd iddo yn ei oriau olaf, dywedai, "nid oes genyf i bwyso
 arno ond Iesu o Nazareth.”




Y PARCH. HUGH OWEN, O Fronyclydwr.

Yn Mynwent Llanegryn, Meirion; bu farw y 15fed o Fawrth, 1699.

Y Cymro anwyl, edrych yma
Ar fy medd a dwys ystyria,
Fel yr wyt ti y bum innau,
Fel yr wyf fi y byddi dithau;
Gan nad wyf mwy i bregethu,
O'm bedd mynwn wneuthur hyny;
O! cred yn Nghrist a bydd grefyddol,
Casa bob drwg a bydd fyw'n dduwiol.




Y PARCH. DAVID RICHARDS, (Dewi Silin),

Vicar Llansilin.

Dithau, iach hoyw ymdeithydd,
Rhyw forau fel finau fydd :
Mi gefais bob ymgyfarch
Gan y byd, ac enw o barch;
Ond dim! dim! yw im' yma,
Llwydd, clod, câr, daear, a da:—
Yr hyn fu'm i'r Ior yn fyw
Yw oll sydd yn lles heddyw.
Cofia'r bedd sy'n dy aros,
Ac ymaith i dy daith dôs.
—Alun.




Y PARCH. RICHARD JONES, Trawsfynydd.

(Yn Mynwent Trawsfynydd, Meirion.)

Isod mae'r cymwynasydd—cywiraf,
Ac oracl Trawsfynydd;
Ei hoff fardd, a'i hyfforddydd,
A'i hawddgar hen feddyg rhydd.

Rhisiart gyhoeddai Iesu―yn Geidwad
Gyda sel a gallu;
Fel sant gwir ca'i hir garu,
Ei holl oes faith er lles fu.
— I. M.




Y PARCH. ABRAHAM JONES, Aber-rhaiadr.

(Yn Mynwent Llanfyllin, sir Drefaldwyn)

O'i lafur yn ngwlad anmhuredd,— i lawn
Oleuni diddiwedd;
Galwyd ef i dangnefedd,
Abraham i wobr o hedd.
—Morris Davies.




YR ESGOB DAVIES.

(Yn Mynwent Abergwili.)

Er Coffadwriaeth am y Gwir Barchedig Dad yn Nuw, yr
Esgob RICHARD DAVIES, D.D. Ganwyd ef yn mhlwyf
Gyffin, ger Aber Conwy, yn Ngwynedd; dygwyd ef
i fyny yn New Inn Hall, Rhydychain. Codwyd ef i
Esgobaeth Llanelwy, Ionawr 21ain, 1559; ac i'r Esgobaeth
hon (Ty Dewi) Mai 21ain, 1561. Bu farw
Tach. 7fed, yn y flwyddyn 1581; oddeutu lxxx oed;
ac a gladdwyd yn yr Eglwys hon. Efe a gyfieithodd
Josua, Barnwyr, Ruth, 1 Samuel a'r 2 Samuel, yn y
Bibl Saesneg, pan y diwygiwyd yr hen gyfieithiadau
o dan arolygiad yr ARCHESGOB PARKER, yn y fl. 1568;
Efe hefyd a gyfieithodd 1 Timotheus, yr Hebreaid,
Iago, 1 Pedr a'r 2 Pedr, yn y Testament Newydd
Cymraeg, a gyhoeddwyd, a chan mwyaf a gyfieithwyd,
gan WILLIAM SALISBURY, o'r Plas Isaf, ger
Llanrwst, yn y fl. 1567.


<poem> Esgob oedd ef o ddysg bur,—a duwiol,

A diwyd mewn llafur ;
Gwelir byth, tra'r Ysgrythur,
Ol gwiw o'i ofal a'i gur.




Y PARCH. MOSES PARRY, (M.C.), Dinbych.

(Yn Mynwent yr Eglwys Wen.)

Wedi traddodi'n ddi-dór-a rhydd
Yr holl ddwyfol gynghor;
Troes i fyw at y trysor-
Rhan y saint yn nheyrnas Ior.




BEDDARGRAFF GWEINIDOG YR EFENGYL.

Fe orwedd, ar ol llefaru-oes dros
Drefn fawr y gwaredu;
Bu ddiwyd iawn, ond bedd du
Glodd was yr Arglwydd Iesu.
—Trebor Mai.




AR FEDD WILLIAMS O'R WERN.

Dyn yn ail o dan y nef-i Williams
Ni welir, rhaid addef;
Myrdd wylant mewn mawr ddolef,
Drwy y wlad, ar ei ol ef.

Ni bu'r un mewn neb rhyw iaith-oedd enwog
Dduwinydd mor berffaith;
Dwys och yw, nid oes ychwaith
Ail Williams i'w gael eilwaith.




Y PARCH. EDWARD WATKIN, Llanidloes.

(Yn Mynwent Caergybi, Môn.)

Coffa am EDWARD WATKIN, o Lanidloes, swydd Drefaldwyn,
yr hwn a aned yn y fl. 1744.
Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1768;
a bu lafurus am 47 o flynyddau yn cyhoeddi
Efengyl Iesu, yn y Corph a elwir Methodistiaid Calfinaidd;
ac ar ei daith olaf yn swydd Fon,
gorphenodd ei yrfa, ar y 7fed dydd o fis
Tachwedd, 1815, yn yr 71ain flwydd o'i oed.


Yma gorwedda gwir was—i'r Iesu,
Yn ei rasol deyrnas
Cyhoeddodd, ŵr cu addas,
Athrawiaeth gre' odiaeth gras.




Y PARCH. JOHN JONES, Talysarn.

(Yn Mynwent Eglwys Llanllyfni.)

Clogwyni—coleg anian—wnaeth ryfedd
Athrofa i Ioan;
Ai yn null gwron allan:
Mawr ŵr Duw,—rho'es Gymru ar dân !
—Dewi Arfon.




Y PARCH. ROBERT ROBERTS, Clynnog.

Yn noniau yr eneiniad—rhagorol
Fu'r gŵr a'i ddylanwad;
Seraph o'r nef yn siarad
Oedd ei lun yn ngwŷdd y wlad.
—Eben Fardd.




SIENCYN THOMAS, Penhydd.

(Yn Mynwent Margam, Morganwg.)

Mawr elw im' fu marwolaeth,—fe nodwyd
Im' fynediad helaeth
I fuddiol etifeddiaeth,
Fel y lli, o fêl a llaeth.




Y PARCH. DAVID GRIFFITH, Bethel, Arfon.

Gŵr hoff oedd David Gruffydd:—Paul enwog,
Yn planu eglwysydd;
Un hydr ei ddawn,—Pedr ei ddydd;
Ac Apolos capelydd.




Y PARCH. ROBERT THOMAS, Llidiardau.

Hynotaf blentyn natur:—eithriadol
Bregethwr od, ffraethbur:
Os âi ef i bant ar antur,
Bwrlymai o'r pwll berl mawr, pur!
Dewi Arfon.




Y PARCH. JOHN BOWEN, Llanelli.

Onid byw yw enaid Bowen—er cau'r
Corph dan dywarchen?
Yn efrydfa'r wynfa wen
Duwinydda'r dawn addien.

Coeth ryw pob pwngc o athrawiaeth—genfydd
Yn y gwynfyd odiaeth;
Gwel, nid o bell, ai gwell ai gwaeth
Yw cu elfenau Calfiniaeth.
—Eben Fardd.




AR FEDD GWEINIDOG.

Yn dirion hyd ei arwyl, —a dilesg
Y daliodd ei orchwyl;
Hyd ei fedd yr hedd a'r hwyl—a ddaliai,
Yna dybenai yr undeb anwyl.
—Cynddelw.




BEDDARGRAFF PERIGLOR LLANGAR.

Mewn henaint teg mae'n huno—yn Llangar,
A llen—gel bridd arno;
O allor Grist i'r llawr gro
Gŵr da oedd, gair da iddo.
—Bardd Nantglyn.




Y PARCH. J. ROBERTS, Llansilin.

Roberts ydoedd ŵr hybwyll,—a'i orchwyl
Lewyrchai fel canwyll;
Perchen crefydd, ffydd a phwyll
Credadyn cywir didwyll.

Un ydoedd, fel gweinidog,—a'i ddoniau
Yn ddenawl a gwlithog;
Hedd i'r trist, trwy Grist a'i grog,
O ras, bregethai'n wresog.

Mewn hedd, tan lygredd oer len―yr huna,
A'r enaid yn llawen;
At Iesu'n aeddfed dwysen
Aeth o'r byd, a'i waith ar ben.
—Cynddelw.




Y PARCH. GRIFFITH HUGHES, Groeswen, Morganwg.

Tynerwch—tân ei eiriau,—drwy'i einioes,
Wrth drin athrawiaethau;
A gyraeddodd bob graddau,
Yn ei nerth, heb brin wanhau.

Yr hyawdledd fu'n rhedli'—am hiroes,
Fu'n gwneud mawr ddaioni,
Heibio'r aeth, ni cheiff ddim bri,
Mewn tywyll fedd, mae'n tewi.
—Caledfryn.




Y PARCH. WILLIAM WILLIAMS, Aberteifi.

(Bu farw yn 1858, yn 81 mlwydd oed.)

Ca'dd hir oes, a rho'es hi'n rhwydd—i weini
Yn onest i'w Arglwydd;
A than ei gamp aeth o'n gŵydd
Yn hen dad, mewn hun dedwydd.
—Eben Fardd.




Y PARCH. JOSEPH PRYS.

Gwresawg bregethwr grasol,—a didwyll
Gredadyn bucheddol,
Oedd Joseph Prys, dewisol
Was y nef, er oes yn ol.
—Cynddelw.




MR. ROBERT OWEN, Llanrwst.

(Pregethwr gyda'r Trefnyddion.)

Gŵr i Dduw, gwir weddiwr,—diameu,
Roed yma'n y pentwr;
Llafurus fel llefarwr,
Fu yn ei oes, gyfiawn ŵr.
—Caledfryn.

Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS, o'r Dyffryn.

(Yn Mynwent Capel y M.C., Dyffryn Ardudwy.)

Yma y claddwyd Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS, o'r Dyffryn. Bu farw Chwefror 15fed, 1863, yn 72 ml. oed; wedi gwasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab am 43ain o flynyddau. Yr oedd hynawsedd ei dymher, ei synwyr cryf, a'i arabedd, yn tynu sylw pob gradd ato, ac yn enill iddo gymeradwyaeth gyffredinol fel dyn; ac yr oedd ffyddlondeb a chywirdeb tryloyw ei fywyd gweinidogaethol yn enill iddo y radd o ŵr Duw, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd, yn nghydwybodau pawb a'i hadwaenent. Efe a fu ar hyd ei oes yn fab tangnefedd; a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd; ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi Air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."

Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, Amlwch.

(Yn Mynwent Amlwch, Môn.)

Yma y gorwedd yr hyn sydd farwol o'r PARCH. WILLIAM ROBERTS, Amlwch, yr hwn a fu farw Gorphenaf 19eg, 1864, yn 80 mlwydd oed, ar ol bod yn pregethu yr Efengyl yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd am 56 o flynyddau; a hyny gydag ymroddiad, a nerth, a difrifoldeb ac awdurdod a ymddangosai yn aniflanedig hyd ddiwedd ei oes.

"A ni, gan hyny, yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion."




Y PARCH. JOHN ROBERTS, yn Llandudno.

Isod, dan ofal Iesu,—Ioan fwyn
Yn ei fedd sy'n cysgu;
Haeddog ŵr, hawdd ei garu,
Hynaws, di fost, gonest fu.

Iesu a'i groes i euog rai—'n olud
A selog bregethai;
Ac â chân y cychwynai
O'r hen fyd, ac i'r nef âi.
—I. M.




Y PARCH. J. BREESE, Caerfyrddin.

Enwog weinidog Ion ydoedd,—at Grist
A'i groes dygai filoedd;
Ei Iawn Ef ei destyn oedd,
A'r lle i'w fawr alluoedd.
—Caledfryn.




Y PARCH. EVAN JONES, Cei Newydd,

(Gynt o Langeithio, yr hwn oedd yn enwog
ei ddefnyddioldeb gyda'r Ysgol Sabbothol.)

Wyled, arwisged yr Ysgol—ei du,
Am dad mwyn a doniol;
A'r pwlpud prudd enhuddol,
Mor wag y mae ar ei ol.
—Eben Fardd




Y PARCH. WILLIAM WYNNE, M.A.

Yn Mynwent Llangynhafal, Dyffryn Clwyd; bu farw
Ionawr 22ain, 1760, yn 55 mlwydd oed.

Am William Wynne, syn ysywaeth—wyf fi,
Wrth gofio ei farwolaeth;
Duwinydd a phrydydd ffraeth,—
Caiff dirion coffadwriaeth.

O waith ein llawr aeth yn llon—i blethu
I blith y nefolion;
Mal êos aeg, melus dôn
A'i dannau yno'n dynion.

I wlad byw o waelod bedd—mwy cadarn
Fe'i codir o'r llygredd,
Gorwych lef Dduw'r tangnefedd,
Ethol hwn i fythol hedd.
—R. ab G. Ddu o Eifion.




AR FEDD GWEINIDOG IEUANC.

Yn ei einioes, lân, union,—bu'n ganwyll,
Bu'n gweini'n dra ffyddlon;
Yn fore aeth at feirwon,
Aeth a'i wddf yn ngwaith ei Ion.
—Caledfryn.




Y PARCH. JOHN ELIAS, O Fôn.

(Yn Mynwent Llanfaes, ger Beaumaris.)

Dan urddas a Duw yn arddel,—tystiai
Ar y testyn uchel:
Llefarai, a'r fintai fel
Yn hongian wrth fin angel.
—Eryron Gwyllt Waliar




Efe roddai wefreiddiad—i feddau
Crefyddwyr dideimlad;
Ac, â mawr lwydd, Cymru'i wlad
Ddylenwodd â'i ddylanwad.

Ei wlaw arweiniai luoedd-i weled
Ymylon y nefoedd ;
Nerth fu i'n hareithfäoedd ,
A gloew sant ein heglwys oedd.
—Ceiriog.

Wele'r fan, dywell anedd—y llwm lawr,
Lle maluria mawredd;
O ! oer wir ro'i i orwedd
Angel y byd yn nghlai bedd.
—Anadnabyddus.

Yn ei ddwyster âi'n ddistaw,—a swynai
Bob synwyr i'w wrandaw;
Codiad ei lygad a'i law
Ro'i fil drwy'r dorf i wylaw.
—T. Pierce, Lerpwl.




Y PARCH. THOMAS ELIAS, (Y Bardd Côch.)

Elias oedd was i Dduw Ior,—iddo
Gweinyddodd ei dymor;
Yna gwyntiwyd e'n gantor
I fawl gell y nefol gôr.

Yn nwyfol lys y nef lân—o gyraedd
Goror enbyd Satan,
Y Bardd Côch yn beraidd cân,
A'i enaid yn ei anian.
—Eben Fardd.




AR FEDD GWEINIDOG.

Dylanwadol weinidog—gan addfed
Gynneddfau ardderchog,
Oedd hwn, un rhyfedd enwog,—eto gŵyl
Tyner un anwyl tan yr Eneiniog.
—Cynddelw




WILLIAMS, PANTYCELYN.

Yn ddiwyd trwy'i fywyd e' fu—yn lledu
Mawl llydan trwy Gymru;
Oesoesoedd hen was Iesu,
I'n gwlad ei ganiad fydd gu.
—Iolo Fardd Glas.




Y PARCH. JOHN WILLIAMS, Llecheiddior.

Llecheiddior lluchiai addysg—cywirlym
Fel curwlaw a chenllysg
O'r allor, marwor i'n mysg,
Gemau a thân yn gymysg.
—Eryron Gwyllt Walia.




PARCH. T. JONES, Dinbych.

Rho'es i Iôn hir wasanaeth,—a'i law Ef
A'i cynaliai'n helaeth;
Mae 'n awr, a ni mewn hiraeth,
Yn mro nef—nid marw wnaeth.
—Caledfryn.




WILLIAMS, o'r WERN.

Sain ei ddawn swynai ddynion,—'e ddrylliai,
Toddai rewllyd galon;
Deigr heillt, wedi agor hon,
Ymlifent yn aml afon.
—G. Hiraethog.




Y PARCH . JOHN ELIAS.

Os unwaith i ben Sinai-elai fe,
Tymhestl fawr ddilynai ;
Horeb grwn ei grib grynai ,
Hyd i gryf waelod ei grai.
—G. Hiraethog.

A'i law a'i ddull rhyw luoedd,—a swynai
Nes enill tyrfaoedd ;
Tra o'i flaen tarawai floedd
Trwy eneidiau- taran ydoedd.
—Caledfryn




Y PARCH. MORGAN HOWELL

(A fu farw Mawrth 21ain, 1852)

Gŵr oedd o feddwl gwreiddiol—a doniau
Danient yn rhyfeddol;
Athraw o ddull dyeithrol,—
Un o'i ryw ni cheir o'i ôl.

E' ro'i fywyd mewn tyrfaoedd—dyn Duw
A dynai dân o'r nefoedd;
Ei wedd a'i lais treiddiol oedd,
Yn eu lle crynai lluoedd.

Gyda'i lef pan goda'i law—deneu fach,
Dyna fyrdd yn ddystaw;
Dagrau geir yn llifeiriaw—
Rhedai lif fel ffrwd o wlaw.
—G. Hiraethog.




Y PARCH. JOHN ELLIS, Abermaw.

Dyn oedd â doniau addas,—a manwl,
Mwynaidd ei gymdeithas;
I Dduw Iôn a'i wiw ddinas,
Ymrodd o'i wirfodd yn was.
—Robert Jones




Y PARCH. JOHN HUGHES, Le'rpwl.

Mae ef wedi marw! a gwyn fyd y dynion
Sy'n gallu galaru wrth fedd y fath un:
Fe hunodd, ond p'le ?—ar ben mynydd Seion,
Cymylau y nefoedd guddiasant ei lun.
Mae cofion am dano fel awel odd'yno,
Yn llawn o arogledd yr amaranth byw:
A gwyn fyd y galon sy'n hoffi adgofio
Ei lais gyda dynion ei lin gyda Duw!
—Ceiriog.




Y PARCH. JOHN WYNNE, Llwyner.

(Yn Mynwent Rhydycilwyn, Dyffryn Clwyd.)

Er Coffadwriaeth am y diweddar BARCH. JOHN WYNNE, o'r Llwyner. Bu farw Awst 28ain, 1870, yn 78 ml. oed. Bu yn weinidog yr Efengyl yn Nghyfundeb y Methodistiaid am 49 mlynedd. Meddai gôf cryf, dychymyg fywiog, tymher siriol, a meddwl penderfynol. Bu ddihafal yn ei lafur, a difwlch yn ei ffyddlondeb gydag achos Iesu Grist yn ei holl ranau. Ymdrechodd ymdrech dêg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd. Trwy ei ffyddlondeb sicrhaodd iddo ei hun le mawr yn marn yr Eglwys a'r byd. Cafodd farw mewn tangnefedd, a bydd iddo lawer yn goron yn nydd Crist.



Y PARCH. JOHN ROBERTS, O Langwm.

(Yn Mynwent y Plwyf, Llangwm.)

Y PARCH. JOHN ROBERTS, Cefnane, Llangwm, yr hwn a fu 55 o flynyddoedd yn bregethwr yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw Tachwedd 3ydd, 1834, yn 82 mlwydd oed Ymunodd â'r Gymdeithas Eg lwysig uchod yn 16 oed Arddelodd Grist 66 o flynyddoedd. Fel aelod Eglwysig, yr oedd yn addurn i grefydd. Fel Pregethwr, yr oedd ei athrawiaeth yn iachus, ysgrythyrol a melus. Llafuriodd yn ddiorphwys a diflino yn ngwinllan ei Arglwydd hyd angau. Ymdrechodd ymdrech dêg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd. Diwedd y gŵr hwn yw tangnefedd.



Y PARCH. JOHN GRIFFITHS, Rhydywernen

(Yn Mynwent yr Annibynwyr, Rhydywernen, Meirion.)

PARCH. JOHN GRIFFITH; anwyd Tachwedd 1805; ailanwyd yn 1825. Bu farw Hydref 6ed, 1849. Ei oed 44. Bu ffyddlon hyd angau fel Aelod, Athraw, Diacon, Pregethwr ac Esgob yn y lle hwn. Meddyliwch am eich blaenoriaid."—HEB. xiii. 7.



Y PARCH. HOWELL HARRIES.

(Yn Eglwys Talgarth, Sir Frycheiniog.)

Yn agos i fwrdd yr Allor, y mae yn gorwedd y gweddillion o HOWELL HARRIES, Ysgwier; a anwyd yn Nhrefecca, Ionawr 23ain, 1713—14, O.S. Yma, lle y mae ei gorph yn gorwedd, y cafodd ei argyhoeddi o bechod, ac y cafodd selio ei bardwn, a theimlad o rym gwerthfawr waed Crist yn y Cymun Sanctaidd. Wedi profi gras ei hun, efe a ymroes i ddadgan i eraill yr hyn a wnaethai Duw i'w enaid. Efe oedd y pregethwr teithiol cyntaf a drodd allan heb urddau Eglwysig, yn yr adfywiad diweddar yn Lloegr a Chymru. Pregethodd yr Efengyl dros ysbaid 39ain o flynyddau, hyd oni chymerwyd ef i'w orphwysfa dragwyddol. Efe a dderbyniodd y rhai a geisiasant iachawdwriaeth i'w dŷ; wrth hyny y cododd teulu yn Nhrefecca, i ba rai y darfu iddo ffyddlawn weini hyd ei ddiwedd, fel dyfal weinidog Duw, ac aelod cywir o Eglwys Loegr. Ei ddiwedd oedd ddedwyddach na'i ddechreuad; gan edrych ar Iesu wedi ei groeshoelio, efe a orfoleddodd hyd y diwedd fod angau wedi colli ei golyn; a hunodd yn yr Iesu, yn Nhrefecca, Gorph. 21ain, 1773; ac yn awr gwynfydedig orphwysa oddiwrth ei lafur.



Y PARCH. THOMAS OWEN, Llangefni.

Bu farw Mai 11eg, 1874, yn 86ain mlwydd oed, ar ol bod yn pregethu yr Efengyl yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, gyda llwyddiant nodedig, am 64ain o flynyddau. Claddwyd ef Mai 15fed, yn "Cemetery Llangefni."

"Ow! ddarllenydd, gwel heddyw'r lle huna
Ddiwyd ddifeinydd, hen dad addfwyna':
Dewr was ufudd drwy'i oes i Jehofa,—
Cu lafurwr yn ngwinllan Calfaria;
Ei gul feddrod warchoda—angylion:
I hedd, Duw Iôn o'i fedd a'i dihuna."
—Morwyllt.




THOMAS IEUAN, Pregethwr, Waenfawr.

Ar fyr fe egyr Duw Iago—y pyrth,
Sef parthau tir angho';
Fe gyfyd o gryg y gro
Gorph ei was sy'n gorphwyso.
—Dafydd Ddu Eryri.




Y PARCH. JOSEPH HARRIS, Abertawy.

Harris ddwys gudeg oedd eres ddysgawdwr,
Gwyddai brig ieithoedd, gwiwdda bregethwr;
Eirian i'r eithaf, gywrain areithiwr
Uniawn a gweddus, fedrus iawn fydrwr,
A gwir hawddgar wladgarwr,—odiaethol,
Da ŵr iawn ethol, nid rhyw wenieithwr.
—Isaac Davies, Llanfynydd.




Nodiadau golygu