Llwyn Onn
Yn Nyffryn Llwyn Onn draw mi welais hardd feinwen
A minnau'n hamddena 'rol byw ar y dôn;
Gwyn ewyn y lli oedd ei gwisg, a disgleirwen
A'r glasfor oedd llygaid Gwen harddaf Llwyn Onn.
A ninnau'n rhodiana drwy'r lonydd i'r banna,
Sibrydem i'n gilydd gyfrinach byd serch;
A phan ddaeth hi'n adeg farwelio a'r wiwdeg,
Roedd tannau fy nghalon yng ngofal y ferch.
Cyn dychwel i borthladd wynebwn y tonnau,
Ond hyfryd yw'r hafan 'rol dicter y dôn;
Bydd melys anghofio her greulon y creigiau-
Un felly o'wn innau 'rol cyrraedd Llwyn Onn.
A thawel mordwyo wnaf mwyach a Gwenno
Yn llong fach ein bwthyn a hi wrth y llyw;
A hon fydd yr hafan ddiogel a chryno
I'r morwr a'i Wennol tra byddwn ni'n byw.