Llyfr Coch Hergest

Llawysgrif hynafol yn y Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi ogystal sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi.

Llyfr Coch Hergest

Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan ac Ynysdawe ar ddechrau'r 15g. Gwyddys ei fod yn berchen ar Lyfr Coch Hergest gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuallt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn ap Tomas y lluniwyd y llawysgrif enwog. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17g a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen. Ceir ychwaneg o wybodaeth am Lyfr Du Caerfyrddin ar Wicipedia.

Ceir 21 o adrannau gan gynnwys:

  • Brut y Tywysogion
  • Breuddwyd Rhonabwy
  • Detholiad o Drioedd
  • Pedair Cainc y Mabinogi
  • Testunau Meddygon Myddfai
  • Amlyn ac Amig
  • Testun o un o ramadegau'r beirdd
  • Casgliad o ddiharebion Cymraeg
  • Testunau gwaith rhai o Feirdd y Tywysogion
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llyfr Coch Hergest
ar Wicipedia