Llyfr Del/Beibl Coll
← Cymhwynas | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Geirfa → |
BEIBL COLL
YCHYDIG ddyddiau'n ôl yr oedd geneth felyn—wallt, dlodaidd yr olwg arni, yn sefyll fel tyst yn un o lysoedd Lerpwl, ac ni wyddai neb ar wyneb y ddaear beth oedd yn ddweyd, gan ddieithried ei hiaith. Yr oeddwn newydd daro ar hen gyfaill i mi, un o ysgolheigion Slafonaidd goreu'r oes, a daethom i'r llys pan oedd yr eneth yn sefyll yn fud o flaen ei chroes—holwr. Wedi gadael y tystle daliai'r eneth i wylo ac i ocheneidio, gan ruddfan ambell i air dieithr, hyd nes y dechreuodd fy nghydymaith siarad â hi, gan ei chysuro yn ei hiaith ei hun. Lithuaneg oedd yn siarad, ac yr oedd yn un o gwmni mawr o ymfudwyr i'r Amerig. Yr oedd wedi colli ei chyfeillion yn Lerpwl, ni wyddai ddim am ei llong, a rhywfodd neu gilydd yr oedd wedi ei dwyn i lys cyfraith fel tyst.
Wedi gwneyd yr hyn a fedrem dros yr eneth, dechreuodd fy nghyfaill a minne ysgwrsio am anawsterau’r teithiwr uniaith. Meddem brofiad ein dau,—yr oeddym yn gwybod beth oedd methu esbonio pan mewn cyfyngder ac mewn perygl am ein bywyd, er y buasai un frawddeg yn dofi llid ein gwrthwynebwyr, pe medrasem ei dweyd. "Bum mewn carchar ym mhellteroedd Siberia unwaith," ebe'm cyfaill, "wedi methu dweyd yn iaith y llywodraethwr beth oeddwn. Mi freuddwydiais yn y carchar hwnnw fy mod yn perthyn i genedl heb Feibl, a'm bod yn sefyll o flaen gorseddfainc Duw heb ddeall iaith y llys."
Cenedl heb Feibl! Ehedai'm meddwl at Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg, pan ddywedai rhai na chai'r Cymry siarad â Duw hyd nes y dysgent Saesneg, a phan erfyniai William Salisbury ar Frenhines Lloegr adael i bob tafod glodfori Duw. Wedi hynny, bu Cymry'n cyfieithu'r Beibl i drigolion bryniau'r India a thraethellau Madagascar, fel y clodforai pob tafod Dduw.
"Bu'm gwlad i," ebe fi wrth yr ysgolhaig Slafonaidd hwnnw, " heb ddeall ei Beibl am gant a hanner o flynyddoedd wedi ei gael, a hawdd y gallasai Beibl prydferth yr Esgob Morgan fynd ar goll." "Felly yr aeth Beibl yr eneth wylofus acw," atebai'r gŵr dysgedig, " yr wyf newydd ddarganfod fod Beibl Lithuanaidd mewn bod yn 1660, ond erbyn heddyw, hyd y gwyddis, nid oes gopi o honno ar wyneb y ddaear. "Y mae'r erlidiwr wedi gorffen ei waith."
Felly y bu gyda Beibl un genedl arall. Ar lethrau'r Pyrenees y mae cenedl y Basques yn byw, ac ni ŵyr ieithyddwyr pwy oedd eu brodyr a'u cefndryd, os nad cyn—drigolion mynyddoedd Prydain, sydd wedi gadael ambell enw, a hynny'n unig, ar ambell afon neu garreg neu fryn. Yr oedd Margaret o Yalois, brenhines Xavarre,—Ann Griffiths y Diwygiad Ffrengig,— wedi rhoddi iddynt Feibl yn eu hiaith eu hunain yn amser y Diwygiad Protestanaidd. Ond yn ystod erledigaethau ofnadwy'r ail ganrif ar bymtheg, canrif adfywiad Eglwys Rufain, collwyd y Beibl o'r mynyddoedd hynny'n llwyr; un copi'n unig oedd ar gael pan ail gyfieithwyd y Beibl i'r iaith ddieithr honno gan Gymdeithas y Beiblau, ac yn Llundain yr oedd hwnnw.
Dyna ddwy esiampl o genedl wedi colli ei Beibl : a wyddis am Feibl wedi colli'r genedl a'i darllenai? Y mae llawer Beibl coll, ond a oes yn rhywle Feibl mud? Breuddwydiais, y noson wedi llenwi papur Cyfrifiad 1891, fod cyfrifiad wedi dod pan nad oedd neb yn medru deall y Beibl Cymraeg. Yr oedd Duw'n siarad â'n horwyrion mewn iaith ddieithr. Yr oedd Beibl Cymru'n fud.
Nid oes dim rydd gymaint o gryfder i fywyd cenedl a chael Beibl yn ei hiaith ei hun. Buasai'r iaith Gymraeg wedi darfod oddiar wyneb y ddaear ymhell cyn hyn oni buasai am y Beibl. Y Beibl ydyw r peth Cymraeg olaf i Gymro golli ei afael ynddo. Ar lan rhyw afon bellennig neu yn nwndwr rhyw dref fawr y mae gwraig llawer Cymro'n Saesnes, ei blant yn Saeson, ei gymdogion yn Saeson, ond, hyd y diwedd, y mae ei Feibl yn Feibl Cymraeg. Proffwyda rhai y bydd y Beibl Cymraeg rywbryd,—fel y parot glywodd Humboldt yn siarad iaith llwyth oedd wedi ei difodi,— heb neb i'w ddeall. Nid aiff Beibl Cymru byth yn Feibl coll, nad eled ychwaith yn Feibl mud.