Llyfr Del/Coeden Olewydd

Nain Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Ysgubau Oho!

COEDEN OLEWYDD

Y MAE coed olewydd trwy holl barthau'r byd o China i Chili, ond yr Eidal yw eu hoff gartref yn Ewrob. Y maent i'w cael yn ein gwlad ni, ond mewn cysgod yn unig. Darllennwn am danynt yn aml yn y Beibl; yr oedd mynydd y gŵyr pob plentyn yng Nghymru am dano yn dda, Mynydd yr Olewydd, ar gyfer Jerusalem. Y mae dros ddeg ar hugain o fathau o goed olewydd. Dywedir mai yn Syria a gwlad Canan yr oedd y pren gyntaf; ond, gan mor ddefnyddiol ydyw, y mae erbyn hyn wedi ei blannu ym mhob gwlad bron, ond yn y gwledydd oeraf i gyd.

Llawer gwaith y bum yn edrych ar y coed olewydd ar ochr Fiesole uwchben Florens yn yr Eidal. Y mae eu dail o wyrdd tywyll, ond odditanynt y maent bron yn wynion. Pan ddoi awel o wynt i godi'r dail, byddai'r wlad werdd fel pe'n troi'n wen i gyd. Blodau gwynion bach ydyw'r blodau. Crwn neu hirgrwn yw'r ffrwyth; weithiau'n wyrdd, weithiau'n laslwyd, weithiau'n wyn.

Y mae'r coed olewydd o bob maint, yn ôl fel bo'r hinsawdd a'r ddaear y tyfant o honni. Dywedir am un yr oedd ei boncyff dros ugain troedfedd o gylchedd; a thybid ei bod yn saith gant o flynyddoedd o oed.

Y mae'r olewydden yn ddefnyddiol iawn. Y mae yr olew geir o'i ffrwyth yn werthfawr ryfeddol; a rhydd ef yn hael iawn. Y mae ei dail a'i rhisgl yn werthfawr fel meddyginiaeth hefyd.