Llyfr Del/Hen Wr Y Coed

Y Fodrwy Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Tri Chi Bach

HEN WR Y COED

Mae morwr, dyn a'i helpo,
Dan benyd mewn gwlad bell;
Am lawer Cymro, druan,
Ni ddwedir stori well.

Mi welaf fachgen ieuanc
Yn hoffî'r mwg a'r medd,
Mi welaf hwnnw'n henwr
Yn gaethwas hyd ei fedd.


DEUNAW oedd oed Morgan pan adawodd ynys Môn. Yr oedd wedi meddwl er pan yn fychan am fod yn forwr. Bu'n hel cregin ar y traeth lawer gwaith, i gael clywed su y môr ynddynt yn y nos. Bu'n gwylio'r llongau'n pasio pen Caer Gybi aml i dro, ac mor aml a hynny'n dymuno bod ar eu bwrdd. Pan welai'r hwyliau gyntaf yn ymddangos dros y gorwel, torrai i ganu,—

Dacw'r llong a'r hwyliau gwyrddion
Ar y môr yn mynd i'r Werddon,
O! na fuaswn inno ynddi,
Gyda'r morwyr, ddedwydd gwmni."

Ond mynd yn ôl i'w gartref oedd raid i Forgan, er cymaint ei awydd am long a môr. Ai i'r ysgol, a difyrrai ei hun yno drwy dynnu Ilun llong ac ynysoedd na welodd neb hwy, ond meddwl Morgan.

A rhyw ddydd, pan wedi gadael yr ysgol, gwelwyd ef ar fwrdd llong hwyliau yn Lerpwl, yn ffarwelio â'i gyfeillion, pan oedd y morwyr yn codi'r angor. Yr oedd yn fore hafaidd, a chwareuai'r hwyliau yn ysgafn yn awelon Mai. Yr oedd yr awyr yn las a digwmwl, ond fod ambell i gwmwl gwyn, fel blodau'r eira, yma ac acw. Wedi bod yn morio am ddyddiau lawer, mae'r tywydd yn newid, a'r gwynt yn codi. A daeth yn ystorm fawr. Collwyd pob llywodraeth ar y llong, gadawyd hi i drugaredd y gwynt, heb hwyl, heb raff, heb angor. Felly bu am amser, ond yn sydyn tarawodd ar graig. Dacw'r dŵr yn dod i fewn yn genllif. Ceisiwyd gollwng y cychod. ond nid oedd modd, gan anterth yr ystorm. Ofnai Morgan mai boddi a wmai, a thra'n hiraethu am Fôn ac aelwyd gynnes y Tŷ Mawr, tarawodd tonn fawr ef i'r môr. Ond yn ffodus cafodd afael mewn darn o'r hwylbren. a rhwng y pren, y tonnau, a'r gwynt, taflwyd ef i dir.

Ni wyddai pa le'r oedd, ond diolchai am gael daear dan ei draed. Edrychai ar y blodau a'r coed,—ond yr oeddynt oll yn ddieithr iddo, ac yn wahanol i goed a blodau Cymru. Nid oedd dim a adwaenai ond y cymylau a'r haul. Cyn hir crwydrodd yn brudd, wedi colli ei holl gyfeillion, i weld y wlad. Ofnai glywed swn llewod a chreaduriaid gwylltion. Daeth i gwrr coedwig eang, dywell. Wedi teithio'n hir daeth at afon fawr, ac ar ei glan gwelai hen wr tal crymedig, a'i bwys ar ei ffon. Cyfarchodd well iddo. Ond nid oedd y naill yn deall iaith y llall. Cyfeiriodd yr hen wr ei fys at yr afon. Gwelodd Morgan fod arno eisio croesi. Cynhygiodd ei gefn i'r hen wr, rhoddodd ef ar ei ysgwyddau, a'i draed am ei wddf. Pan ar ganol yr afon, ofnai fod ei faich yn rhy drwm ac y byddai'n rhaid ei ollwng i'r afon, ond llwyddodd i gyrraedd yr ochr draw. Yna safodd i'r hen wr ddisgyn, ond nid oedd hwnw'n symud. Ysgydwodd ychydig rhag fod yr hen wr yn cysgu, ond cydiai'n dynnach am ei wddf. A mwyaf yn y byd ysgydwai Morgan, trymiaf yn y byd y gwasgai yntau. Ac y mae Morgan yno byth yn cario'r hen wr. Del bach, paid a chymeryd yr hen wr ar dy ysgwydd, ni ddaw i lawr. Ysmocio, Ymyfed, Tyngu,—dyna rai o enwau'r hen wr.

Mae Morgan dan ei benyd,
Mewn bywyd caeth a phrudd,
Ond tra bo anadl ynddo,
Bydd Del yn fachgen rhydd.