HELO! holl blant y wlad, dowch yma i'm gweled i
Yn mynd i ddal y pysgod sy'n nofio yn y lli;
Mae'r enwar ar fy ysgwydd, a'r llinyn wrthi'n siŵr,
A dŵr o fewn y llestr hwn, ac abwyd yn y dŵr.
"Mae gennyf fwyd ddigonedd o fewn y bwndel hwn,
Waith treuliaf wrth yr afon y dydd i gyd yn grwn;
Er cymaint ydyw'r Hafren, er amled ei physg hi,
Heno os bydd un ar ôl mae'n rhyfedd iawn gen i.
"Dof heibio wrth fynd adre a'm pysgod yn fy llaw
Os medraf gario'r oll a ddaliaf yn yr afon draw;
A byddwch chwithau'n dwedyd wrth weld fy nghawell llawn,—
'Wel, dyma ŵr bonheddig sydd yn bysgotwr iawn!' "
Ar derfyn y dydd hwnnw eis heibio bwthyn hen,
Ac i'r hen ŵr ar ben y drws gofynnais gyda gwên,—
"Fy ewythr Edward William, a welsoch chwi fonheddwr iawn,
Yn mynd adre oddiwrth yr afon, a'i gawell pysgod yn llawn?"
"Hm! " meddai'r henwr sychlyd, " mi welais yn fy nydd,
Do, lawer golwg ddigri, a llawer golwg brudd;
Ond pasiodd creadur heibio ryw hanner awr yn ôl
Wnaeth i mi chwerthin, fachgen, nes tybiet 'mod i'n ffôl.
MYND
DOD ADRE
"'Roedd bachgen Wil y teiliwr, un balch a drwg yw'r cna',
Yn mynd adre o bysgota. A be gwelset ti o? Ha! Ha! Ha!
Wrth edrych ar ei gyflwr, tybiaset ti yn siŵr
Fod y pysgod wedi ei ddal o, a'i dynnu o hyd y dŵr."