Llyfr Del/Rhagymadrodd

Darlun 1 Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Cynhwysiad

RHAGYMADRODD

ADRODDWYD yr ystraeon bychain sydd yn y llyfr hwn i ddifyrru plentyn. Gwêl y cyfarwydd nad oes ôl creu, na fawr o ôl trefnu, arnynt. Pan elwid am ystori, yr oedd yn rhaid ei dweyd ar unwaith; ni adewid amser i barotoi. Yr oeddwn yn cael mynd i'r cyfeiriad a fynnwn; yr unig amod oedd hwn,—yr oedd yn rhaid i'r stori fod yn wir. Felly dywedwn ryw hen stori ddywedai fy nhad wrthyf finnau,—i'm cadw'n ddiddig tan ddeuai mam adre, neu i dynnu fy sylw oddiwrth rywbeth a'm blinai, i'm suo i gysgu, neu i'm cadw'n effro. Weithiau dywedwn rywbeth oeddwn wedi ei ddarllen; ac felly clywai Cymry bach mynyddig ystori adroddid i blant, ganrifoedd yn ôl, ar fynydd Gilboa neu yn ynysoedd Groeg neu yn hafnau Norway.

Tybiais y byddai'r ystraeon o ryw fudd i blant ereill; oherwydd y mae plant bach yn rhywle o hyd, yn holi ac yn chware. Felly dyma rai ohonynt, yn llyfr. Hwyrach y gwnaiff lyfr darllen ar yr aelwyd gartref ar hwyrnos gaeaf; a hwyrach y caiff fynd at y plant i'r ysgolion dydd. Os rhydd bleser i ryw blentyn, ac os tynn ef i holi, ac os rhydd awydd iddo am wybod, byddaf yn ddedwydd iawn.

OWEN EDWARDS.
Rhydychen,
Mehefin 21, 1906.