Llyfr Del/Y Cynhaeaf
← Wil Ddrwg | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Coligni → |
Y CYNHAEAF
DYDDIAU hyfryd iawn yw dyddiau'r cynhaeaf ŷd a gwenith, a bydd y plant yn hoffi dilyn y wedd i'r cae, neu edrych ar daflu'r ysgubau i'r ydlan. Mae'r hin yn dyner, ac awel falmaidd yn chwythu'n
ysgafn, ac y mae tawelwch dwfn dros y wlad gyfoethog ac addfed. Ac mor euraidd yw'r caeau gwenith! Mor hardd yw'r haidd a'r ceirch, a bordor o adlodd gwyrdd o'i amgylch! Un o'r rhai balchaf ar y cae, mae'n debyg, yw'r hogyn twyso. Efe sy'n cydio ymhen y ceffyl blaen, tra'n sefyll i Iwytho ar y cae, ac efe sy'n ei dywys tua'r gadles. Bydd ei fraich a'i goesau wedi blino llawer cyn y nos, ond dywed ei fam wrtho y daw'n ddigon cryf i lwytho cyn hir, neu i godi i ben y llwyth.
Cyn hir dyrnir yr ŷd, â pheiriant neu â ffust. Yna anfonir y grawn i'r odyn, i'w grasu. Oddiyno cludir ef i'r felin, a melir ef yn flawd neu beilliaid,—ac o hwn gwneir bara i ni i'w fwyta.
Ond cedwir peth o'r grawn heb ei grasu na'i falu. Had y flwyddyn nesaf yw hwn, a hauir ef pan ddaw'r gwanwyn.