Llyfr Del/Y Ddwy Ynys
← Bedd Y Cenhadwr | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Dialedd Ifan → |
Y DDWY YNYS
YR oedd y rabbi Hillel yn sefyll ar lan llyn Galilea gyda'i hoff ddisgybl Ben Ami. Yn y gwanwyn oedd hynny, ac yr oedd awel bêr yn anadlu dros ddyffryn Jezreel, ac arogl mil o flodau ar ei hadenydd. Yr oedd cwch pysgota'n sefyll ger y lan, a'i hwyliau gwynion yn eglur, oherwydd fod y dwfr o las tyner tu ôl iddo, a lliw gwyrdd gwan hyfryd ar fynyddoedd Decapolis yr ochr draw.
"Fy mab," ebe rabbi Hillel, wrth weld Ben Ami'n edrych yn synllyd ar y dwfr, "beth sydd yn dy feddwl? A wyt ti'n myfyrio ar y gyfraith?" "Meddwl yr oeddwn, fy athraw," ebe yntau, "am ryw long a dwy ynys y clywais ystori am danynt. Daeth y llong acw a'r dwfr â hwy i'm meddwl." "Pa ystori yw honno?"
"Fel hyn yr adroddwyd hi i mi gan hen Lefiad. Ryw dro yr oedd hen fasnachwr cyfoethog yn byw ar fin y môr. Yr oedd ganddo gaethwas hynod am ei ffyddlondeb; ond ni chai roddi ei ryddid iddo, yn ôl cyfraith y wlad honno. A thybiodd, pan fyddai efe farw, y gwerthid ef yn y farchnad i ryw feistr creulawn uchaf ei geiniog. Dywedodd wrth y gwas,—
"Nid oes gennyf fawr o amser i fyw eto. Rhaid i ti ymadael o'r wlad hon. Mi rof long i ti, a'i llond o nwyddau marsiandiaeth. Dos dithau yn y llong o wlad i wlad gwerth yr eiddo lle bo ddrutaf, a chasgl gyfoeth.'
"Aeth y gwas i'r llong, a hwyliodd ymaith i'r môr mawr. Wedi hwylio llawer o ddyddiau ar dywydd braf, daeth ystorm fawr. Gyrrwyd y llong atAR FÔR GALILEA
drugaredd y gwynt, ac ni wyddai y llywydd ym mha le yr oeddynt. A rhyw noson tarawodd y llong ar graig, ac aeth yn ddrylliau. Llyncodd y môr y nwyddau gwerthfawr, a'r bywydau hefyd. Y gwas yn unig adawyd; medrodd ef nofio, yn noeth ac yn glwyfedig, i ynys oedd gerllaw. Yr oedd yn brudd iawn, ac yn isel ei ysbryd, wedi colli popeth feddai yn y byd. Cerddodd ar hyd yr ynys, gan ofni na chai ddigon o ymborth, rhagor rhyddid a golud. Ryw ddiwmod cafodd ei hun yn dynesu at ddinas fawr. Yr oedd yn flin ac iselfryd, a dim ond ychydig garpiau am dano. Ond gwelai dyrfa yn rhedeg i'w gyfarfod, ac yn gwaeddi,—'Croesaw iti, ein brenin; teymasa amom byth!' Llusgasant gerbyd gorwych i borth y ddinas i'w gyfarfod, a rhoddasant ef i eistedd ynddo ar sidanau esmwyth. Aethant âg ef i blas ardderchog, rhoddasant wisg borffor frenhinol am dano, a dywedasant,—'O frenin, bydd fyw byth.'
"Yr oedd y gwas wedi synnu, ac yn methu deall hyn oll. Ymysg y dyrfa oedd yn plygu glin iddo, gwelai hen wr â doethineb ar ei wedd. Galwodd ef ato, a dywedodd,—'Yr wyf yn methu deall beth ydych yn wneyd. Nid wyf fi ond caethwas o wlad bell, wedi'm taflu yn unig ac yn dlawd ar eich goror. Paham yr ydych yn rhoi coron ar fy mhen? Paham yr ydych yn rhoi esgidiau brenhiniaeth am fy nhraed? Paham yr ydych chwi, a chwithau'n wŷr rhyddion, yn plygu elin i gaethwas na fedd ddim ar ei elw?
"'Frenin,' ebe yntau, 'ysbrydion ydym ni. Llawer blwyddyn yn ôl, cyn fy ngeni, gweddiodd ein tadau ar Dduw anfon un o feibion dynion yn frenin arnom ni. Atebodd yntau eu gweddi. Ond nid oes yr un brenin i deyrnasu am fwy na blwyddyn. Bob blwyddyn daw un o feibion dynion yma o'r môr. Gydag iddo ddod, rhoddir ef ar yr orsedd, ac y mae holl olud a phleser yr ynys at ei alwad. Ond ar ddydd olaf y flwyddyn, tynnir ef i lawr oddiar yr orsedd, diosgir ei wisg frenhinol oddiam dano, a chludir ef i ynys fawr anial. Yno gadewir ef i ymdaro drosto ei hun.'
"'Beth ddaw o hono yno?"
"'Hyd yn hyn y mae ein brenhinoedd oll wedi ymddwyn yr un fath. Treuliasant eu blwyddyn mewn gloddest a phleser, heb feddwl am eu diwedd. A phan ddeuai dydd olaf y flwyddyn, anfonid pob un i ynys lle nad oedd dim wedi ei barotoi ar ei gyfer. Yno byddai farw'n druenus o newyn."
"'Beth yw dy enw?'"
"'Ysbryd Doethineb."'
"'Da. Pa gyngor roddi i mi?'"
"'Fel y deuaist i'r ynys hon, felly y bydd raid i ti fynd i'r ynys anghyfannedd. Noeth y deuaist yma: noeth yr ai oddi yma. Bydd ddoeth, a gwrando arnaf fi. Yr wyt i fod yn frenin am flwyddyn. Paid a threulio'r amser fel ereill i ymblesera'n ofer. Parotoa ar gyfer diwedd y flwyddyn. Anfon weithwyr i'r ddinas anghyfannedd. Gwna iddynt drin y tir yno, a hau gwenith a phlannu coed, a chloddio pydewau, a thrin y tir, a chodi tai. Yna cei fyw dy oes yn ddedwydd yno, heb farw o newyn. Berr yw blwyddyn, mawr yw'r gwaith, ymroa i'r gwaith.'
"Gwnaeth yntau felly. Daeth diweddy flwyddyn; ond nid oedd ef yn anobeithio fel ereill, nac yn ceisio boddi ei ofnau mewn oferedd. Tynnwyd ef oddiar yr orsedd rhoddwyd ef yn noeth mewn llong, ac anfonwyd ef i'r ynys anghyfannedd.
"Ond yr oedd ei gwedd wedi newid. Yr oedd yn llawn o ymborth a chyfoeth, ac yr oedd tyrfa yno yn disgwyl am y gwas doeth. Gwnawd ef yn frenin yno, a bu fyw yn hapus, am ei fod wedi gwrando ar Ysbryd Doethineb."
Dyna fel yr adroddodd Ben Ami yr hanes wrth rabbi Hillel, ei athraw. Yr oedd yr athraw'n fud am ennyd, a chlywid y tonnau bach yn curo ar y lan. Yna llefarodd rabbi HiIIel,—
"Fy mab, y mae gwers i ti yn yr hanesyn. Tydi dy hun yw'r gwas, Duw yw'r meistr trugarog roddodd ryddid a golud fwy na llond llong iti. Y byd hwn ydyw ynys yr ysbrydion. Y byd tragwyddol yw'r ynys anghyfannedd. Gwrando dithau hefyd ar Ysbryd Doethineb."