Llyfr Du Caerfyrddin

Casgliad o gerddi yw Llyfr Du caerfyrddin a luniwyd rywbryd cyn y flwyddyn 1250, sy'n golygu mai dyma un o lawysgrifau hynaf Cymraeg i oroesi. Fe'i enwyd oherwydd lliw ei rwymiad a'i gysylltiad tybiedig â Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, Caerfyrddin. Mae'n eithaf sicr mai gwaith un copïydd ydyw. Fe luniwyd y llawysgrif hwn o wyth cydiad o femrwn cryf wedi eu gwnïo at ei gilydd i ffurfio cyfrol o 54 ffolio, cyfanswm o 108 tudalen.

Sgans o Lyfr Du Caerfyrddin

Ceir ychwaneg o wybodaeth am Lyfr Du Caerfyrddin ar Wicipedia.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llyfr Du Caerfyrddin
ar Wicipedia