Llyfr Haf/Eirth y Mynyddoedd Creigiog

Camel y Mynyddoedd Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Yr Arth Wen

Arth y Mynyddoedd Creigiog

VIII

EIRTH Y MYNYDDOEDD CREIGIOG

LAWENHA plant Cymru wrth weled y gwanwyn a'r haf yn dod. Y mae'n dda ganddynt gael y tywydd cynnes braf, a gweld y gwair ar y dolydd, a'r blodau ar ochrau'r ffyrdd. A hoff ganddynt weld y gwartheg yn y caeau, a chlywed yr adar yn y coed. Ond yr hoffaf peth yw gweld a chlywed hen gyfeillion fu i ffwrdd ymhell o'r wlad yn y gaeaf du. Y pennaf o'r rhai hyn yw y wennol a'r gog. A mawr yw eu croeso, a chroeso yr haf sy'n dod a hwy.

Ond beth pe buasai'r arth yn dod gyda hwy, o ryw goed yn ymyl eich tŷ. Nid arth wen fawr y pegwn yr wyf yn meddwl, ar bysgod y mae hi yn byw, ac y mae yn weddol ddiniwed os gadewch lonydd iddi a chadw o'i llwybr. Ac nid arth lwyd Ewrob yr wyf yn meddwl ychwaith, un a fu yng Nghymru gynt; nid ar gig y mae hithau'n byw, ond ar lysiau, a hoff ganddi fêl a morgrug yn amheuthun.

2. Am arth y Mynyddoedd Creigiog, yn yr Amerig, yr wyf yn sôn. Bydd yr eirth hyn yn cysgu drwy'r gaeaf. Pe byddech yn mynd am dro trwy'r coed, hwyrach bod arth yno, yn cysgu'n drwm, dan ddail sychion, melyn, a chwrlid o eira gwyn.

Ond gyda'r gwanwyn deffry. A bydd yn wancusam fwyd ar ôl ei hympryd hir. Rhuthra o'r coed i chwilio am, rywbeth i dorri ei newyn. Y pethau fydd ar ei llwybr weithiau, a gwae iddynt,—fydd iyrchod, defaid, ŵyn, a phlant.

3. Chwi wyddoch am y Mynyddoedd Creigiog. Cadwyn anferth ydynt, ar hyd Gogledd Amerig, fel asgwrn cefn y wlad. I'r gorllewin y mae llain hir o daleithiau rhwng y mynyddoedd hyn a glannau'r Môr Tawel,—Alasca eirog, Columbia oludog, Oregon ffrwythlawn, Califfornia hyfryd. ac Arisona sech. Yr ochr arall, rhyngddynt ac Iwerydd, y mae toreth taleithiau Canada, yr Unol Daleithiau, a Mecsico. Ni wn yn siwr i ba drefydd y mae'r arth hon yn crwydro. Ond pe elwn tua Donald yn Columbia, Boisé yn Idaho, Dinas y Llyn Halen yn Uta, buaswn yn gofyn i bobl y ffordd haearn a welsant hwy eirth y mynyddoedd. Byddai ar Indiaid Wyoming arswyd wrth feddwl am yr arth, a thalent ryw fath o addoliad iddi; ond bwytaent ei chig mewn gloddest mawr wedi ei lladd.

Y mae hyd yr arth yn naw troedfedd; felly, pan saif ar ei thraed ôl, y mae'n dalach na'r un dyn. Pwysa wyth gan pwys; hawdd iddi, felly, lethu dyn trwy ei wasgu yn erbyn coeden. Gall ladd ych yn pwyso mwy na hi ei hun, a'i lusgo i'w lloches. Ychydig o obaith, yn wir, sydd i'r neb y cydia hon â'i hewinedd nerthol amdano.

Pwy fuasai'n gadael Cymru lân, lle gall plant ganu a chysgu'n dawel; gŵyr pawb na ddaw hon o'i chwsg yn ein gwlad ni.

Nodiadau

golygu