Llyfr Haf/Yr Ehedydd

Yr Hwyaid Eider Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Eleirch Duon

Ehedyddion Ieuainc

XXXIV

YR EHEDYDD

1. BETH, yn holl dlysni'r haf, sydd mor swynol â chodiad yr ehedydd? A welwch chwi ef yn codi o'r cae ŷd, lle bu'n gorffwys tros nos, ac yn cychwyn ar ei daith ryfedd i'r nefoedd? A'r miwsig sy'n arllwys o'i big! A glywsoch chwi erioed ganu a chymaint o ynni angerddol ynddo?

Ceir ehedyddion trwy Ewrop i gyd, ac yn Asia, ac mewn rhannau o Affrig. Nid oes yr un aderyn yr hoffa yr Americaniaid ei weld a'i glywed fel yr ehedydd, ac erbyn hyn y mae llawer o'r adar yn byw yn yr Amerig.

Y mae llawer math o ehedyddion, yr ehedydd byrfys, yr ehedydd du, ehedydd y tywod, ehedydd y diffeithwch, ehedydd y waen, y corr hedydd. ehedydd y traeth, ehedydd y coed, enid, esgudogyll, ehedydd y maes.

Er bod mân wahaniaethau, y maent oll yn debyg i'w gilydd yn eu cryfder, yn eu gallu i ehedeg yn uchel, yn eu hynni bywiog, ac yn swyn gwefriol eu cân. Daw ehedydd y coed i Gymru weithiau, ond ehedydd y maes yw ein ehedydd ni. I Gymro, ef yw yr ehedydd.

Erys rhai ehedyddion yma trwy'r flwyddyn; daw eraill yn ôl o'r cyfandir yn yr hydref. Ond ni chrwydra'r ehedydd ymhell, fel y wennol a'r gog.

Mae ein ehedydd ni o ffurf fwy telaid ac eiddil na'r lleill. Tua saith modfedd yw ei hyd. Mae ei gefn yn llwydfelyn, y fron yn felynwen, ac ymylon rhai o'r plu yn wynion. Mae'r gynffon yn fforchog. Ar y ddaear yr erys y nos, ond yn yr awyr y mae'n byw. Cwyd ar doriad y wawr, ac i fyny ag ef ar ei union, tan ganu. Ei fwyd yw chwilod, gloywod byw, sioncod y gwair, a phryfed copyn; ond, wrth ddifa y rhai hyn, rhaid iddo gael ambell flaguryn o'r yd neu'r gwenith sy'n tyfu o'u cwmpas. Ar lawr cae y gwneir y nyth. Nid yw ond twll yn y ddaear. Y gamp yw ei wneud yn debyg i'r cae o'i gwmpas, fel na wêl llygad barcud ef. Prif elynion yr ehedydd yw nadroedd, hebogau, a phlant drwg. Glaswellt sych, dail gwyw, a rhawn, yw prif ddefnydd y nyth. Yn nechrau Mai y gwneir y nyth, a'r ŷd ieuanc glas yn codi o'r ddaear o'i amgylch. Bydd yno bump neu chwech o wyau melynwyrdd neu gochwynion. Yn fuan iawn wedi eu deor, ehed y rhai bach i'r ŷd, a bydd brodyr bach yn eu dilyn o'r nyth wedyn cyn diwedd yr haf.

A welsoch chwi'r ehedydd yn cerdded? cherdded y mae, nid rhoi naid ac ysbone; a rhyfedd, rhyfedd, mor fuan y mae ei draed yn mynd.

Ond ar ei adain y mae orau. Cwyd i'r awyr, weithiau mewn cylchdro troellog, weithiau gan ymsaethu'n syth i fyny. Â'n llai, llai, ac o'r diwedd gwelir ef fel ysmotyn bychan du yn entrych yr awyr ddisglair. Cyn hir, cychwyn i lawr; a chyn cyrraedd y ddaear wele ef yn cau ei adenydd, yn rhoi ei ben ymlaen, ac yn disgyn i'r ddaear megis plwm. Er i chwi golli golwg arno, y mae mor ddiogel yn y gwellt ag oedd ar fron y ewmwl. A'i gân Mor fyw ydyw,—y mae'n gyrru trydan drwoch. Cân wrth godi; ar ôl pob esgyniad arllwysa gân ar y ddaear fel cawod o lwch aur ac arian. Ac fel yr â i fyny, â'r gân yn felysach a thynerach.

Wrth i chwi ei wrando, gofynnwch,—"Ai o lawnder ei galon y mae'n canu? Ynteu a ydyw yn fy ngweld i 'n gwrando?"

Pe chwiliech yn fanwl, caech fod iddo edmygwyr heblaw chwi. Y mae ei blant, y rhai mwyaf a'r rhai lleiaf, yn edrych yn edmygol arno'n codi, ac yn hoffi ei gân. Dilynant ei siwrne, a thoc croesawant ef yn ôl.

Pa ryfedd fod y beirdd wedi canu clod yr ehedydd?

Nodiadau

golygu