Llyfr Haf/Yr Oposum
← Y Tsimpansî | Llyfr Haf gan Owen Morgan Edwards |
Yr Ysbrydion → |
Yr Oposum
XI
YR OPOSUM
1. A WELWCH chwi mor ddefnyddiol yw cynffon gref ddi-flew yr Oposum? Gyda hi medrant ddringo coed a disgyn i lawr o'r canghennau. A chyda hi y medrant gario eu rhai bach ar eu cefn. Medr y rhai bach, hefyd, ddefnyddio eu cynffonnau o'u mebyd.
2. Tebyg i gath of ran maint yw'r Oposum. Y mae'n llawn egni, ac yn bur ddeallus. Cymer arno fod wedi marw pan ddelir ef; ond toc, i ffwrdd ag ef. Yn un peth, y mae'n debyg iawn i fachgen drwg, â ag wyau o nyth aderyn. Sugna waed adar, hefyd. Paham, tybed, y mae ei glustiau'n dduon? Yn rhannau deheuol Gogledd America y ceir ef, yn enwedig ym Mecsico.