Llyfr Nest/Rhagymadrodd

Llyfr Nest Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Cynhwysiad



RHAGYMADRODD



"Am i chwi unwaith wneud llyfr i fechgyn, a'i alw'n Llyfr Del, rhaid i chwi wneud un arall, cystal ag ef, i enethod, a'i alw'n llyfr Nest." Dyna y gorchymyn a gefais, ac y mae yn rhaid ufuddhau.

Yr wyf wedi dweyd llawer o ystraeon wrth eneth fechan, i'w chadw'n ddiddig weithiau, a thro arall i ddeffro ei meddwl ac i roi edyn i'w dychymyg. Yr un ystori sydd yn apelio at fechgyn bychain a merched bychain, ond eu bod yn gweld ystyr wahanol iddynt ac yn teimlo'n wahanol wrth wrando arnynt.

Y mae un peth yn hanfodol i ystori i enethod. Rhaid iddi fod yn wir. Nid oes yma ddim wedi ei greu, dim wedi ei ddychmygu. Mae pob ystori wedi digwydd. Bu ambell un yn y papurau newyddion. Cefais ereill gan ryw gyfaill neu ryw gydymaith teithio, megis y teithiwr, y dyn unig, a'r genhades.

Ar gyfer min nos gaeaf y cyhoeddir y llyfr. Yr wyf yn gobeithio y gwna les. Ei amcan yw deffro'r tannau tyner, trugarog, mwyn, yn nhelyn cymeriad pob geneth.

AWDWR LLYFR DEL