Llyfr Nest/Ystraeon yr Hen Forwr

Cynhwysiad Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Ystraeon y Dyn Unig

LLYFR NEST

—————————————

Ystraeon yr Hen Forwr

—————

I—Y MORWYR

BETH amser yn ol, yr oedd tad Nest yn wael. Dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael ei waith am fisoedd, a mynd i'r môr. Yr oedd i fynd mewn llong i Ynysoedd Canary, ac oddi yno i Ddeheudir Affrig, a gobeithiai y byddai awelon balmaidd y de, a gwynt iach, pur, y môr, yn dod a'i iechyd yn ol.

Nis gallai adael ei eneth fach, amddifad, gartref; gwyddai y buasai'n torri ei galon o hiraeth ar ei hol. A chychwynnodd y ddau. Ryw fore, pan ddeffrôdd Nest, teimlai'r gwely'n ysgwyd dani. chofiodd ei bod ar y môr.

Yr oedd y dyddiau'n hirion a hyfryd. Yr oedd digon o anser i edrych ar y môr. Wedi blino ar hynny, hyfryd oedd edrych ar y morwyr a'r teithwyr. Y morwyr dynnodd sylw Nest gyntaf. Synnai mor ddeheuig oeddynt yn gwneud pob peth. Arnynt hwy yr oedd bywyd y teithwyr yn dibynnu. Yr oedd rhai yn hen, wedi gweld llawer o beryglon; a rhai'n ieuanc, ar eu mordaith gyntaf.

Ar brynhawn têg, byddai rhai o'r morwyr yn hel o gwmpas yr eneth fach, as yn dweyd ystraeon y môr wrtħi. Cymerai hen forwr tadol hi ar ei lin, a dywedai ystraeon rhyfedd; a rhoddai'r lleill, Morgan Foel, Jac Sur, neu Wil y Goes,—ambell air i mewn.

Yn y darlun acw y mae'r llong wedi gadael y Bay of Biscay tymhestlog a pherygl; er ei bod yn aeaf, y mae'n hyfryd braf ar fwrdd y llong,—oherwydd y mae'n morio ar dueddau Affrig, a'r anialwch tywodlyd poeth weithiau yn y golwg.

II.—YN UNIG YN Y LLONG.

"MAE eisio llawer iawn o honoch i yrru'r llong yn ei blaen," ebe Nest ryw nawn hafaidd, pan nad oedd dim yn y golwg ond y môr, er eu bod yn disgwyl gweld pen Pigyn Teneriffe o hyd.

"Oes, fy ngeneth i," ebe'r hen forwr, “ond mi fum i unwaith heb ddim ond fy hun mewn llong gymaint a hon, a hynny ynghanol y môr mawr.' "Mi wn i fod gennych hanes," ebe Nest, dywedwch ef."

Wel, y mae'n hanes pur ddychrynllyd, ac mi obeithiaf y medr Nest fach gysgu heb freuddwydio ar ol ei glywed. Mynd o Jamaica i Gaerefrog Newydd yr oeddym, a chawsom hin weddol braf nes oeddym wedi pasio penrhyn Florida. Yna, daeth rhyw waeledd ataf fi, a rhoddwyd fi yn fy ngwely i lawr yn y caban. Ryw noson, daeth tymhestl arswydus dros y môr, a chauodd y morwyr yr hatches rhag i'r dwfr lifo i'r caban. Ond, pan oedd y storm ar dawelu, tybiasant fod y llong yn mynd i suddo. Gollyngasant y cychod i lawr, neidiasant iddynt, a gadawsant y llong i'w thynged. Ond anghofiodd pawb am danaf fi.

Yr oedd y llong yn crwydro ar ol y dymhestl hyd y môr, a neb wrth ei llyw nac yn ei hwyliau ; a minnau'n gorwedd yn y caban, yn meddwl am gartref, ac heb wybod dim fod y llong ar fynd i lawr. Ond daliodd y llong i nofio wedi'r cwbl.

"Ond beth feddyliwch chwi oedd fy nheimladau, Nost fach, pan welwn yr amser yn hir, a neb yn dod yn agos ataf?

Codais o'm gwely, ceisiais godi yr hatches, ond ni fedrwn. Chwiliais am fwyd,—cefais ychydig gacenau celyd a dwfr. Darfyddodd y dwfr a'r bwyd yn fuan iawn. A dyna lle'r oeddwn yn y llong wâg, yn clywed dim ond rhu'r dyfroedd, ac heb wybod pa funud y suddwn i'r gwaelod. Yr oeddwn fel pe mewn bedd yn fyw; a gwelwn mai marw o newyn fyddai fy nhynged os nad ai y llong i lawr.

"Yn y tywyllwch, gwelwn lygaid tanllyd llygod anferth, a chlywais dannedd un ohonynt yn cydio yn fy nhrood. Yr oedd gennyf ddigon o nerth i luchio rhywbeth atynt, i ddangos iddynt fy mod yn fyw. Nid oedd gennyf nerth i ddim arall ond i weddio ar Dduw fy arbed, er mwyn fy nau blentyn bach ac er mwyn Iesu Grist.

"Cefais fyw i ddweyd yr hanes wrth fy nau blentyn wedi hynny. Y mae'r ddau'n forwyr yn awr, ac ar y môr.

"Ryw fore, clywais lais dyn. Llais garw pysgotwr oedd, ond ni chlywais lais pereiddiach erioed. Cyn hir, clywais sŵn troed ar ddec y llong. Curais a'm holl egni; ond, gwae fi! clywn hwy'n mynd i ffwrdd. Curais wedyn. Clywais lais yn dywedyd,—

"Beth sydd odditanom?'

Llygod, ebe llais arall, 'gad inni fynd oddiyma, rhag i'r llong suddo.

"Curais a'm holl egni wedyn. Ac O lawenydd, clywn hwy'n codi'r drws. Cariasant fi i'r cwch, yr oeddwn mewn llewyg erbyn hyn, ac aethant a fi i'r lan i Boston."

"Hwre!" ebe Wil Goeshir,"dacw'r Pigyn!" A rhedodd pawb i'w weld.

III.—YMLADDFA A MORFILOD

"A WELSOCH chwi forfil erioed?" ebe Nest wrth yr hen forwr ryw nawn, pan oeddynt wedi ymgasglu fel arferol ar y dec, a'r llong yn rhedeg yn rhwydd ac esmwyth tua'r de.

"Gweld morfil? Do, ac ni anghofiaf mohonynt byth. Pan oeddwn i yn yr hen long Medusa, fe fu morfilod yn ymladd â'r llong."


Ar hyn, gan dybied fod yr hen forwr yn tynnu ar ei ddychymyg, cododd Wil y Goes ei ben i fyny, a chwarddodd chwarddiad uchel, cras, i ddangos ei anghrediniaeth.

Wil, fy ngwas i," ebe'r hen forwr, "ni welaist ti gymaint a fi. Dim ond y gwir wyf fi'n ddweyd." Siglodd Wil ei hun yn ol, dan chwerthin mwy nag erioed, nes oedd ei draed yn codi oddiar y dec, a'i gap bron syrthio oddiar ei ben; ac ebai ef yn wawdus,—

"Morfil yn ymosod ar long! Ha ha!”

"Taw, bellach," ebe'r hen forwr, "nid morfil ddywedais i, ond morfilod. A chofia fod pob un o'r rhai hynny dros gan troedfedd o hyd."

"Dowch a'r hanes," ebe Nest, "waeth heb wrando ar William y Goes: fedr ef wneud dim ond gwaeddi neu chwerthin."

"Na fedr, fy ngeneth i, a 'does dim synwyr yn ei waeddi na'i chwerthin ychwaith. Yr oedd yr hon Fedusa ar ei ffordd o Gaerefrog Newydd i Jacksonville, yn Florida. Yn union wedi i ni basio Sandy Hook, rhedodd y llong i ganol twrr o forfilod mawr. Clywais y llong yn taro yn erbyn un ohonynt, ac yn llithro megis drosto, ac yntau'n suddo. Cyn hir, daeth i'r golwg drachefn, ac yr oedd yn chwythu gwaed i fyny i'r awyr, a gwelsom fod asgwrn ei gefn wedi ei dorri." "Mi gredaf fi hynny," ebe Morgan Foel, "mi ges i beth tebyg. Yr oeddwn i ar agerlong Syr John Bull, yn mynd i fyny'r Neil ryw dair blynedd yn ol. Gwelsom afon farch (hippopotamus) enfawr yn dod i'n herbyn, ac nid oedd bosibl i ni ollwng cwch i lawr tra'r oedd o'n cwmpas. Ai o'n blaen o hyd, gan ddangos ei hen gefn mawr, gwlyb, budr, ambell i dro. Yr oedd Syr John Bull wedi colli ei amynedd yn lan, rhoddodd holl nerth yr ager ar y llong, a dyna lle'r oedd y creadur mawr yn mynd ei oreu o'n blaenau. O'r diwedd, daeth y llong hyd iddo, a chododd bron o'r dwfr wrth lithro dros ei gefn. Ni welsom ef mwy; rhaid ei fod wedi ei ladd."

"Ie," ebe'r hen forwr, "ond nid oeddwn i wedi gorffen f'ystori. Yr oedd chwech o'r morfilod ger Sandy Hook. A phan welodd y pump arall waed y chweched, aethant ymaith ar ffrwst. Ond dyma hwy'n dod yn eu holau, gan ruthro a'u holl gyflymdra trwy'r tonnau, a thaflu eu hunain yn erbyn y llong a'n holl nerth. Crynnodd a siglodd y llong drwyddi, taflwyd y teithwyr oddiar eu traed gan y tarawiad, ac yr oeddym ninnau wedi dychrynu. Yr oeddym yn mynd ein gorau, ond drachefn a thrachefn hyrddiodd y morfilod gwallgof eu hunain yn erbyn y llong. Yr oedd y merched yn gwaeddi, a rhai ohonynt mewn llewyg, a ninnau'n gyrru'r llong ymlaen dan bob hwyl oedd ganddi. Ond yr oedd yr ymosodiad yn mynd yn fwy egwan o hyd. Yr oedd rhai o'r morfilod wedi anafu eu hunain yn fawr, ac yn dod yn llawer mwy araf na chynt. Ond yr oedd yn dda iawn gen i eu gweld yn syrthio'n ôl yn y pellder, a ninnau'n cyflymu o'u cyrraedd."

"A welsoch chwi hwy wedyn?" ebe Nest.

"Naddo, fy ngeneth i. Yr oedd arnaf ofn mynd y ffordd honno wedyn, rhag ofn iddynt fy adnabod. Yr oedd gennyf barch iddynt hefyd; y mae pethau mawr felly, fel rhyw fodau llai, yn teimlo dros eu gilydd."

Yr oedd Morgan Foel ar gychwyn dweyd ystori arall; ond ar hynny, dyma dad Nest yn galw arni, i esbonio iddi beth oedd croesi'r cyhydedd. Yr oedd y cyhydedd yn ymyl. Yno y mae'r haul boethaf, ac yno y mae'r dydd a'r nos o'r un hyd.

IV.—YR ALBATROSS.

YR oedd y llong, erbyn hyn, wedi gadael y cyhydedd ymhell o'i hol, ac yn morio rhwng Penrhyn Gobaith Da ac Awstralia. Dywedodd yr hen forwr lawer ystori wrth Nest. Nid oedd hi yn blino gwrando; ac yr oedd Morgan Foel, a Jac Sur, a Wil y Goes, yn gwrando ar bob un.

Ryw nawn, pan oedd yr hen forwr ar ganol rhyw ystori, clywent sŵn—rhyw hanner gwaedd, hanner ysgrech,—yn yr awyr uwchben. Edrychasant i fyny, a gwelent, rhwng hwyliau'r llong, aderyn anferthol ei faint. Yr oedd ei gorff yn wyn, a'i adenydd yn dduon.

"Edrychwch, Nest," ebe'r hen forwr, "dacw'r albatros.

"A wna hi rywbeth inni?" ebe Nest, wedi brawychu tipyn wrth weld yr aderyn mawr.

"Na wnaiff, fy ngeneth. Dacw gyfaill gorau'r morwr; mae lwc yn dod gyda hi bob amser. Oni bai am dani hi, buasai fy esgyrn i'n gwynnu ar graig, filoedd o filltiroedd oddiyma, lle na welai neb byth mohonynt."

"Sut y bu hynny?"

"Wel, arhoswch chwi, y mae pymtheg mlynedd ar hugain er hynny. Yr oeddwn i yn y llong Anna, yn mynd o Lerpwl i New Zealand. Pan oeddym ynghanol Môr yr India, daeth ystorm arswydus a gyrrodd ni i'r de. Buom yn rhedeg felly am ddyddiau lawer; aethom heibio ynysoedd Amsterdam a St. Paul; collasom bob meistrolaeth ar y llong, ac aethom fil o filltiroedd beth bynnag ymhellach na llwybr yr un llong. A rhyw fore, tarawodd y llong ar graig oedd yn codi o'r dwfr. Suddodd ymhen yr hanner awr, ond achubwyd ni i gyd,—pymtheg ohonom,—a medrasom fynd a llond casgen o ddwfr a pheth ymborth i'r graig. Cawsom rai pethau o'r llongddrylliad wedyn hefyd, ond fod dwfr y môr wedi eu hamharu."

"Mae o'n amharu pob peth," ebe Jac Sur.

"Ond beth oedd hynny i bymtheg o ddynion ar y graig? A beth oedd o'n blaenau ond marw o newyn? Ond, yn rhyfedd iawn, ryw ddiwrnod, daeth albatros atom, mae'n rhaid eu bod yn fwy dof yno,—a medrodd un ohonom ei dal. Yr oedd rhai am ei lladd, a'i bwyta. Ond yr ydym ni'r morwyr yn meddwl na ddaw lwc i neb o ladd yr albatros. A beth a wnaethom ond ysgrifennu ar ddarn o grys gydag indian ink oedd ym mhoced un ohonom, i ddweyd lle yr oeddym, a rhoddasom hwnnw am goes yr albatros, a gollyngasom hi. Ehedodd ar ei hunion i'r gogledd; a gobeithiem yn erbyn gobaith y gwelai rhywun y darn llian oedd am ei throed.

"O'r oeddych chwi'n unig, ar graig ynghanol y môr mawr felly," ebe Nest, a dagrau yn ei llygaid. "Oeddym, ac yr oeddym yn teimlo'n fwy unig nag erioed wrth weld yr aderyn yn diflannu yn y pellder. Yr oedd dau fachgen ieuanc gyda ni,—dau frawd, ac yr oeddynt yn hoff iawn o'u gilydd. Yr oeddym ni'n credu mai'n ateb i'w gweddi hwy y daeth yr albatross. Yr oedd arnaf ofn mai hwy fyddai'r cyntaf i farw o ludded a newyn ac oerfel. Ond, er rhyfeddod i ni i gyd, cadwyd eu bywyd hwy i'r diwedd. O'r pymtheg, syrthiodd saith ohonom y naill ar ôl y llall i'r môr. Yr oedd yn oer iawn, ychydig o ddwfr oedd yn aros, a thrwy fwyta ambell i bysgodyn marw deflid ar y graig y cawsom fyw. Yr oedd y tir bron iawn a darfod; yr oedd gobaith byw wedi diflannu'n lân; ond yr oedd y ddau fachgen rheini'n dal i weddïo o hyd."

"Wel ie," ebe Nest, "yr oedd Duw yn eich gweld yn y fan honno" Oedd. Ymhen y mis wedi i ni golli'n llong, ar ryw fore, dyma un o'r brodyr yn gwaeddi. Dacw long. Ac yn siŵr, yr oedd yno long. Codasom ddilledyn gwyn ar ben polyn; a gallwch feddwl mor falch oeddym o weld y llong yn dod ar ei hunion atom, a gobaith bywyd gyda hi."

"Ai ar ddamwain y daeth?" gofynnai Wil y Goes.

"Nage, llong wedi ei gyrru o Adelaide i'n hachub oedd. Cafwyd yr albatross ar y lan yn farw, a'r darn llian am ei throed, fel pe buasai wedi ehedeg dros fil filltiroedd bwrpas i'n hachub. Anfonodd y Llywodraeth long ar unwaith i chwilio am danom, gwyddent hwy am y creigiau, ac felly achubwyd y gweddill oedd yn fyw ohonom. "Ffrynd y morwr oedd yr albatross honno beth bynnag," ebe Nest. "A 'does arnaf fi ddim ofn honacw'n awr."

V—CYD-FORWR PERYGL

"A WELSOCH chwi shark, yr hen forwr ?" ebe Nest.

"Morgi? Do 'n siwr."

"Ble gwelsoch chwi o?"

"Ar fwrdd llong."

Chwarddodd Jac Sur yn uchel iawn ar hyn. "Jac," ebe'r hen forwr, "paid ti a meddwl dy fod di wedi gweld pob peth. Mi welais i forgi ar fwrdd llong."

"Ie, wedi ei ladd."

"Nage, yn fyw."

"Dowch a'r stori, y stori," ebe Nest.

"Wel, yr oeddwn i yn y llong Gwylan, ac yr oeddym ar ein ffordd o Java i Lerpwl. Pan ym Môr yr India, daeth tymestl o wynt ofnadwy i'n cyfarfod. Ti wyddost, Morgan, am wynt y dwyrain yno."

"Gwn, 'n dyn i."

"Wel, mi sgubodd y môr dros y llong. Wedi iddi godi, mi glywem y sŵn fflapio mwyaf glywodd neb erioed. Tybiodd y capten fod hwyl yn rhydd, a gwaeddodd arnom chwilio ar unwaith. Ond beth oedd yno ond morgi anferth, dros saith troedfedd o hyd, yn ymlafnio'n gynddeiriog hyd fwrdd y llong. Beth pe gwelsit ti'r safn a'r dannedd! Ond, trwy drugaredd, yr oedd yn haws delio a fo ar y llong na phe buasem gydag ef yn y dŵr. Ond ni choeliet ti byth gymaint o guro fu ar ei ben cyn iddo lonyddu. Ond llonyddu fu raid iddo."


VI.—Y DERELICT

"YR hen forwr, beth yw derelict ?" ebe Nest un tro.

"Llong wedi ei gadael ynghanol y môr, yn nofio o fewn ychydig i'r wyneb, heb neb i'w llywio, yw derelict. Ysgerbwd du nofiadwy'r derelict yw prif ddychryn y morwr."

"Welsoch chwi un ?"

"Do, y gaeaf diweddaf un. Yr oeddwn mewn llong teithwyr fawr, y Veenden, yn rhedeg rhwng Rotterdam a Chaerefrog Newydd. Yr oedd ynddi 127 o deithwyr, a chriw o 85. Ar ganol nos, pan dybiem ni fod y môr yn rhydd o'n blaen, tarawodd y Veendem yn erbyn derelict. Torrodd y llong asgwrn ei chefn, a dyma'r dŵr yn rhuthro i mewn. Rhedasom at y pympiau, ond gwelsom na fedrem wneud dim. Dechreuodd y llong suddo'n araf araf, ond sicr.

"Yn ein cyfyngder, gwelem long fawr, y St. Louis, llong Ffrengig gwelodd hon ein harwyddion cyfyngder. Daeth atom, a gollyngodd gychod i lawr. Yr oedd yn loergan lleuad lawn, a medrem weld pob peth. Baban ollyngwyd i'r cwch i ddechrau, yna ei fam. Yna awd a'r teithwyr i'r St. Louis o un i un; yna'r criw; a'r capten, wrth gwrs, oedd yr olaf i adael y llong. Prin yr oeddym wedi cyrraedd y bwrdd na welem yr hen Veendem yn mynd i lawr o'r golwg am byth. Moriodd y St. Louis yn araf rhag ofn iddi hithau daro yn erbyn y derelict. Clywais fod Bwrdd Masnach Prydain wedi anfon llong i chwilio am y derelict, i geisio ei chwythu'n dipiau, neu ei gyrru i'r gwaelod."

Dywedodd Nest yr hanes wrth ei thad, ac yr oedd mewn ofn mawr rhag i'r llong daro wrth dderelict. A dywedodd ei thad fod ambell ddyn a dynes yn dderelict yn y byd, wedi colli eu cymeriad, ac yn berygl i rai'n meddwl cael mordaith deg trwy fywyd.