Llyfr Owen/Y Fôr-forwyn Fach

Y Môr forynion Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Y Pysgotwr a'r Môrwas

XVII

Y FÔR-FORWYN FACH

1. TYNNAIS ysgwrs unwaith â nifer o fechgyn nwyfus. Yr oeddynt yn chwarae yn brysur, ond medrais dyn eu sylw, a dechreuais siarad â hwy fel hyn:

"Yr ydych yn hoff iawn o chwarae ar fin nos?"

"Ydym, y mae'n well gennym chwarae na dim."

"Ond rhaid i chwi fod y rhan fwyaf o'ch amser. yn yr ysgol?"

"Rhaid, ni wiw i ni beido i mynd yno."

Ac ni byddwch yn blant da bob amser?"

"Ni fyddwn, a chiawn ein cosbi'n aml."

Ac ni byddwch fyw byth. Y mae rhai plant yn byw i fod yn gant oed, a rhai yn drigain, a rhai yn hanner cant; on y mae rhai yn marw'n blant fel chwi?"

"Oes," ebr y plant yn dwys i distaw.

"Wel, y mae gennyf gynnig i'w ni chwi,—ar un amod. Cewch chwarae o olau i olau. Ni raid i chwi fynd i'r ysgol. Cewch wneud y drwg a fynnoch, ac ni chaiff neb eich cosbi. Cewch chwarae. ar y ddaear neu ar waelod y môr, ac y mae pethau rhyfedd a phrydferth iawn yno. A chewch fyw am dri chan mlynedd."

"Beth yw'r amod?"

"Eich bod yn marw wedyn am byth yn darford fel ewyn a yrrir oddiar y dŵr gan y gwynt, Ni bydd dioddef na chosb wedyn, na chof am danoch gan neb. A ydych chwi'n foddlon i'r amod? " Edrychodd y bechgyn i gyd i lawr yn brudd a meddylgar. O'r diwedd gofynnais :

"A ydych yn foddlon i gael chwarae a gwneud y peth a fynnoch am dri chan mlynedd heb eich galw i gyfrif, yn lle bod mewn gwaith a phoen am ryw ugain neu ddeugain mlynedd, ac yna marw am byth? "

Ac atebodd y bechgyn i gyd gyda 'i gilydd, yn ddwys a phendant, er nad oedd eu gwefusau ond prin symud: " Nac ydym."

2. Yr oedd môr-forwyn fach unwaith yn byw ac yn chwarae'n hapus yng ngwaelod y môr. Y mae'r môr-forynion yn brydferth ryfeddol, ac yn hynaws a charedig bob un. Ond y maent yn annhebyg i'r plant bach tlysaf mewn un peth. Nid oes ganddynt enaid. Cânt nofio'n hapus trwy'r moroedd am dri chan mlynedd, ac yna y mae pob un yn marw, fel bwrlwm ar y dŵr.

Ond yr oedd un fôr-forwyn fach wedi clywed am blant y ddaear, ac wedi gweled rhai ohonynt yn chwarae ar y tywod pan gododd ei phen i edrych o grib y don. A chlywodd hwy'n sôn am enaid, ac am fyw byth.

A daeth rhyw awydd angerddol am gael enaid ar y fôr-forwyn fach. Aeth at y fôr-forwyn hynaf, oedd bron â byw dri chan mlynedd, a gofynnodd iddi a gâi fynd i'r ddaear, i chwarae gyda'r plant, a chael enaid fel hwythau. "Y fach wirion," ebr yr hen fôr-forwyn, " ni wyddost beth yr wyt yn ei ofyn. Y mae bechgyn ar y ddaear, ac y maent yn greulon iawn wrth enethod bach."

Ond yr oedd yr eneth yn daer iawn am gael ei chais, ac o'r diwedd dywedodd yr hen fôr-forwyn :

"Os rhaid, mae ffordd i ti fynd at blant y ddaear. Ac y mae ffordd i ti gael enaid. Ond gad i mi dy gynghori'n ddwys unwaith eto cyn yr â'n rhy ddiweddar,—paid â cheisio un. Ni ddaw â dim ond poen a gwae i ti."

Ond cynyddu a wnâi taerni'r fechan wedi dywed bod modd iddi gael enaid, ac o'r diwedd cafodd yr hanes hwn :

"Os ei di i'r ddaear, rhaid iti ddioddef llawer iawn. Annhebyg y cei enaid byth. Oherwydd rhaid i ti weld tywysog da a hardd un o wŷr gorau'r ddaear, a'i briodi. A pha dywysog a hoffai ac a briodai beth fach ddistadl fel tydi? A beth pe gwyddai mai môr-forwyn wyt? A pheth arall hefyd. Oni chei dywysog felly yn ŵr i ti, a thithau wedi ei hoffi, byddi farw noson ei briodas cyn toriad gwawr; ac ni chei ddod yn ôl i'r môr. Nid tri chan mlynedd fydd dy oes di felly, ond rhyw un ar hugain. Felly, anghofia dy ddymuniad ffôl.

3. Ond mynd a fynnai hi, yr oedd rhyw swyn mewn enaid iddi. Erbyn iddi ei chael ei hun ar y tir sych, yr oedd pawb yn synnu at ei thlysni deniadol. A bu yn ffodus iawn hefyd. Yr oedd tywysog hardd a da yn yr ardal y daeth iddi, a hofiodd hi ef er pan welodd ef gyntaf. A rhyw ddydd hi welai'r tywysog mewn enbydrwydd am ei fywyd, bron â boddi yn y môr. Ymsaethodd ato, gan nofio'n ysgafn, a daliodd ei ben uwchlaw'r tonnau nes y daeth llong i'w waredu. Gwelodd y tywysog wyneb hawddgar pur yr enethig, ac fel diolch iddi am achub ei fywyd, rhoddodd le iddi fel morwyn yn llys y brenin. Ac yno y bu am flynyddoedd, a phawb yn sylwi ar ei phrydferthwch hawddgar. A llawer gair mwyn a ddywedodd y tywysog wrth yr eneth ddiwyd a da, gan ddangos ei barch iddi beunydd.

O flwyddyn i flwyddyn aeth yr amser heibio. A bron heb iddi feddwl, yr oedd y fôr-forwyn ar fin ei hun ar hugain oed. A rhyw fore, a hi gyda'r morynion eraill yng nghegin fawr y llys, daeth gorchymyn i baratoi gwledd fawr. Oherwydd yr oedd y tywysog yn priodi tywysoges o wlad gyfagos, ac yn dod â'i ddyweddi adref. A phan glywodd y fôr-forwyn hynny, cofiodd ei thynged. Ni allai briodi tywysog byth, a nos priodas hwn—tywysog oedd ymhell o'i chyrraedd—oedd nos ei hugeinfed flwydd ar hugain. Ni chai enaid, a byddai farw am byth, fel ewyn yn disgyn i'r dŵr.

4. Er ei bod wedi ei gadael i chwilio am enaid anfarwol, yr oedd cof am dani ymysg y môr-forynion ar waelod y môr. Oherwydd hi oedd y fôr-forwyn dlysaf a welwyd erioed. A bu holi mawr ymysg y rhai hynaf a oedd rhyw ffordd i osgoi ei thynged, druan. Oedd, yr oedd ffordd. Noson y briodas daeth dwy fôr-forwyn mewn dillad duon i chwilio am eu chwaer, a dywedasant wrthi: " Rhaid i ti farw bore yfory fel rhai sydd yn perchen enaid. Ni chei di dri chan mlynedd hapus dan donnau'r môr fel ni. Pan dorro'r wawr, ei yn ychydig niwl, ac ni byddi mwy. Ond y mae un ffordd i ti ddianc yn ôl i hen fywyd hapus y môr. Dyma i ti gyllell. Gwêl mor finiog a blaenfain ydyw. Pan fydd pelydr cyntaf y bore'n torri, dos at wely'r tywysog a phlanna hon yn ei galon. Yna dianc atom ni i lawenydd y môr."

Cymerodd y fôr-forwyn y gylleth, a chuddiodd hi yn ei mynwes. A phan oedd y bore'n torri, aeth i ystafell y tywysog a'r gyllell yn ei llaw. Clywai ei anadl esmwyth, teimlai'n ysgafn lle'r oedd ei galon yn curo. Yna cofiodd mor garedig oedd, ac na wnaeth ddrwg iddi erioed. Yr oedd gwên ruddgoch gyntaf y bore'n edrych arni tros y môr. A'i chalon fach, garedig, yn curo, wedi dewis marw ei hun yn hytrach na drygu arall, gollyngodd y gylleth o'i llaw. Teimlai ei hun yn mynd yn ddim am ennyd. Yna teimlai freichiau tragwyddol o dani, a llais tyner Tywysog Tangnefedd yn sibrwd wrthi :

"Bydd fyw byth, rhoddais enaid i ti pan aberthaist dy hun."

Gofynnais i'r bechgyn a oeddynt yn credu'r stori. Edrychent arnaf yn swil, ond ni ddywedent air.