Llynoedd S4C

gan Robin Llwyd ab Owain

Iwerddon
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Mawrth 1994. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. Nid oedd y bardd, fel rheol, yn dyblu'r 'n' nac yn defnyddio acen grom. Gweler hefyd: 'Amser' gan Owain Owain.

Cerdd 1 golygu


Mwclis o ddagrau yw adegau dyn
a phob un yn berl ar edau ein bod.

Yn esblygiad yr eiliadau
y mae'r adegau dyfnion
pan fo dwr diaros yr afon yn arafu:
ac yn yr ysbeidiau hynny
cyhyd a'r ennyd yw'r einioes
ac amorffig
yw hyd munudau ein hoes:
mwclis o lynnoedd rhwng blynyddoedd blin.

Ninnau, ein dau, nid ym
ond dotiau diatal
mewn cawod eira
wedi ein cenhedlu
i sbeiralu yn nuwch nos.

Cerdd 2 golygu

Araf y llifa'r afon pan fo dyfnder i'r dwr:
mae ambell ennyd cyhyd a'n cof.

Dacw lun ohonof yn ymdrochi ac yn ymdoddi i'r dwr
yn Llyn Cob ac yn gnewyllyn gobaith:
un ennyd euraid o atgof a welaf a'i hyd fel oes,
un ysbaid oesol o'm gorffennol heb ei sgriffinio
yn ogleisiol o glir.
Ac yno yn fy mebyd a'i ennyd hir o haf,
synhwyraf berson arall
a'i dymer, a'i wen, a'i bryd morwynol
yn meirioli'r heulwen.

Hwn o'r un enw a minnau a wybum, unwaith;
hwn, mor uniaith ac mor wahanol i mi!

Ai fi yw hwn? Ai hwn yw fi?
Rhyngddo a mi y mae gwacter a phellter a pherl
ein hieuenctid ffol.
Ei ddiniweidrwydd a'i onestrwydd i mi sy'n estron,
darfu pob cell ohono wrth heneiddio'r blynyddoedd
ac mae mwy na dyffrynoedd, bellach,
rhyngom ni ein dau.

Pa ran o'r egwan hwn sydd ynof fi?
Pa ran ohono a lifodd
o'r gorffenol i 'mhresenol swrth
fel edau o olau seren nad yw?
Nid oes dim yn gyffredin rhyngom,
dim ond diferion gwallgof
o atgofion
wedi croni.

Cerdd 3 golygu

Yn Aber yr Amseroedd
a'i raeadrau o eiliadau a'i lif
yr esblygodd y gastropod yn bysgodyn
a'r pysgodyn yn ddyn a dyn yn dduw -
i ni fod yma, fy merch,
yn nhreiglad yr eiliadau hyn.

Dacw blentyn y newyn yn ciniawa
ar ei wala o wynt ac yn gloddesta ar y gwlith
i mi fwynhau cynhaeaf
yr eiliadau hyn.

Treiglodd iaith
o fileniwm i fileniwm
i mi ei chyflwyno
yn yr eiliadau hyn.

Llofruddiwyd Llywelyn
a phydrodd corff Glyn Dwr,
a'r hen bladurwr a ddychwelodd i dorri
Ghandi a Kennedy a King
er mwyn parhad yr eiliadau hyn.

Rwy'n ffrwyth y ddaear
ac rwyf iddi'n garcharor,
rwyf yn rhan o'r cyfan,
yn dalp o'r cyfanwaith -
ac mae hithau ynof,
yn fy ngwythiennau
er mwyn i mi fod yma gyda thi
yn yr eiliadau hyn.
Ac i rywun ganfod gwaddod y gerdd
wedi'r eiliadau hyn.


Cerdd 4 golygu

Yn y llif fe welaf oleuni a graffiti'r ffair
a dacw delynor wrth y glannau ar derfyn dydd:
hwn yw baledwr y byw eiliadau
a drych i'n bywydau, bob un.

Clywch adlais a thincial chwedlau ei eiriau
yn herio alaw marwolaeth.

Clywch adlais hen nodau diflanedig
o liwiau'r oesoedd
drwy ei ganeuon yn fflworesant:
nodau gwerinol a dagrau hanes
yn hwrli-bwrli o berlau'n hollti'r awel
ar yr heltar-sgeltar.

Hyrdi-gyrdi o gordiau trydanol
heb gadwynau i'w dal yn sbeiralu,
igam-ogm wamalu
ac yn gwahanu'r gwynt.

'Dyw darfod ddim yn bod ar gerbydau'r ffair
a di-angau yw'r daith;
clywch swn iaith yn ymwthio o'r bedd
yn eiriau byw.
Diddiwedd yw'r heddiw
nad yw'n heneiddio nac yn gwywo;
y mae'n dragywydd.

Can, y rebel, can!
A daw llygedyn o haul diog
drwy benglogau'r nos,
a byd o liw lle bu sgerbwd o loer.

Can yn nrych y lli a bydd graffiti'r ffair
yn dal i sgrechian drwy sgrin y cof
a bydd heddiw'n dragwyddol.


Cerdd 5 golygu

Pwy bia'r cyfnod pan fo'r tonnau'n gryndodau ar y dwr?
Pwy biau can y dyfroedd a fy llynoedd llaith?
Bellach, fy mab, fy amser yw dy amser di
a thithau biau bywyd ein munudau maith.

Gadawaf i ti'r gweddiau drodd ein genynnau'n gnawd
ac a asiodd dau fydysawd, rhof i ti
ein tiroedd materol: cei fy llestri lliw a'u llwch,
yr hen gloc-taid a hyd fy munudau i.

Dy eiddo di yw heddiw, dydd ein dyddiau!
A'th eiddo yw fy hafau a'm gaeafau i gyd
a chan mai ti, hefyd, yw etifedd fy heddiw,
fy eiddo fydd maldodi dy ddyfodol mud.

Gadawaf i ti 'nghaniadau, hen leidr fy nghan,
rho dithau dragwyddoldeb i'r munudau man.


Cerdd 6 golygu

Oherwydd Fory
y diflannodd, rhywfodd, yr haf
i lawr afon y canrifoedd.

Llifodd fel hunllefau gwallgof
drwy ein bywydau beilch
gan ein bodio a'n treulio. Hyn yw trais amser!
Ein rhydu fel hen geriach a chrebachu'n byd,
fel hen dy ar lan y dwr lle bu'r gwynt
yn plicio'r plastar
ac yn pilio'r paent.

Af innau nawr i iro cleisiau'r hydref
a thacluso'r dail.

Ac i hyn y'n ganed! -
I lenwi'r craciau
yn fframiau'r ffenestri ffrynt
er mwyn y forwyn ddigyffwrdd
a elwir 'Fory'.


Cerdd 7 golygu

Fe rewodd Llyn Petrual - a ni'n tri! -
ac ni fu rioed 'run awr mor hir, mor frau;
proffwydol o ysgytwol oedd y gwynt i ni
yn sipian cwpan amser a'i wacau.

Daeth Fory yn llechwraidd dros y llyn
i chwarae'i driciau ffiaidd gyda choed yr allt:
bu'n hollti'r ywen a dinoethi'r ynn,
parlysu'r rhuddin byw a gwynnu'n gwallt.

Gadawsom cyn i'r foment droi yn faich
gan adael gwrid ieuenctid ar ein hol,
ond Fory ddaeth i'n rhwystro gyda'r fro'n ei fraich
a llinell o geir llonydd yn ei gol;

a gwyddom pan gyrhaeddom hyn o griw
fod y cyfan, a mwy na'r cyfan, yn y ciw.


Cerdd 8 golygu

Rwy'n fab, yn wr, yn dad, yn deulu
ac yn Gymru i gyd!
Yn rhan o fyd estronol y dyfodol,
byd y diolau a'r dall
sy'n newid mor ddi-hid o'i ddoe,
ac nid oes dim yn gyffredin rhyngom
namyn gobeithion bythol.

Un ysbaid di-baid yw ein byw
a thad amherffaith ydyw.

Minnau a anweddaf yn ol i'r mynyddoedd
yn foleciwl o niwl yn y nos.