Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 28
← Llythyr 27 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 29 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 28.
At WILLIAM MORRIS.
DYMA hi'n well na phum wythnos er pan yrrais i Gaer Gybi; ond etto heb glywed na siw na miw oddi yna; pa beth a allai fod yr achos? yr wyf yn llwyr ofni y gorfydd arnaf roi yn y papur newydd eich bod wedi marw er ys mis o'r lleiaf; ac yno ddarparu naill ai awdl neu gywydd marwnad o goffadwriaeth barchus i'ch enw. Dacw hefyd ddau lythyr wedi myned rhyngddynt a Gallt Fadog, er ys ennyd o amser; ond (am a welaf) ni fuasai waeth gyrru Brân i geisio tir. Ai tybied ddarfod i'r tri brawd gydsynio â'u gilydd i farw bob y pen ar unwaith, o wirwaith goddef i dorri asgwrn cefn un Awen dinlesgethan, a hithau yn ddigon llibyn eisus o wrantu? Och fi, wrth sôn am yr Awen, y mae hithau wedi marw hefyd, neu o'r lleiaf ar ei marw-ysgafn, ac ni's bydd byw chwaith yn hir.—Hi a'm cywilyddiodd dros byth, gan fethu ohoni wneuthur Cywydd nag Awdl i'r Tywysog, Wyl Ddewi ddiweddaf; ond paham i mi ar yr Awen? oerfel yr hin, a noethni y wlad oerllom yma oedd ar y bai: dyna'r pethau a fagasant, a'r peswch oedd mam y pigin, a'r ddau hynny rhyngddynt a'm lladdasent yn ddifeth, oni bai borth Duw, a chyfferiau meddygon. Y mae yma farwolaeth fawr ym mysg pobl o bob oedran; tybio yr wyf o fewn y ddeufis aeth heibio na chleddais ddim llai na deugain corph; nid oes nemawr o ddiwyrnod na chleddwyf un, ac weithiau ddau, weithiau tri yn y dydd a'r cleiflon mor aml nad wyf yn cael gorphwys namyn eu gofwyaw; ac ni ddichon dyn fyth fod yn rhy ddiwyd a gofalus yn ei swydd yn y wlad yma; o herwydd fod yr offerynwyr Pabaidd yn rhy barod i ymwthio i fewn ar bob achlysur. Yr oeddwn wedi dechreu Awdl i'r Tywysog ar fesur Gwawdodyn hir, ond ni orphenais oddiar 3 neu 4 o benillion o hono, ac yn anorphen y caiff fod byth bellach. Ac felly ymlaen yr aethai, hyd ddeuddeg neu ddeunaw pennill, pe cawswn hawnt a hamdden; ond, Och fi ni chefais; am hynny hi a fethodd. Oni chaf glywed oddi wrthych yn o fuan, ni wiw i chwi ddisgwyl llythyr arall oddi yma o hyn i Galanmai; oblegyd nid oes gennyf un ffrencyn ond hwn a darewais wrtho ar ddamwain: ni's gwyddwn fod mo hono gennyf y'mysg papurau, onidê mi a'i gyrraswn yna, neu i Lundain y'mhell cyn hyn. Yr wyf yn disgwyl gweled Mr. Fychan yn Nerpwl o hyn i ddiwedd y mis yma; ac os digwydd i hynny fod, nid wyf yn ammeu na rydd i mi ddwsin neu ddau, fal y tro o'r blaen, ond eu gofyn mewn rhigwm. Gwaethaf peth yw, nad ellir ymddiried i gymmeryd llawer o ffrancod neb, hyd onid el y Lecsiwn heibio; Beth, mor ddisymwth y bu farw Mr. Owen, o Bresaddfed? Yr oedd gennyf dri neu bedwar o'i ffrancod ef yn fy ymyl pan glywais y newydd o'i farw. Pa beth a ddaeth o Ned Foulkes, Person Llan Sadwrn, oblegid mi glywaf fod ei le fo yn wag? Er mwyn dyn, gadewch gael benthyg y copi os oes modd yn y byd. Rhowch fy annerch yn garedig at Mr. Ellis, a gadewch wybod pa sut y mae'n cael ei iechyd. Mi dderbyniais yn ddiweddar Destament Arabaeg, o Allt Fadog, a yrrasai Mr. R. Morris i mi er ys gwell na blwyddyn; ac er na's meddwn gymmaint a'r egwyddor yn yr iaith honno, mi ddysgais ei ddarllen mewn byr amser; ac yn wir nid anhawdd ei ddeall am ei bod yn swrn debyg i'r Hebraeg. Gwyn ei fyd a feddai Ramadeg neu Eirlyfr o'r Arabaeg, fal y mae gennyf o'r Hebraeg; yna mi drinwn y naill gystal a'r llall; ond beth a dal i mi sôn am ddysgu dim? nid oes gennyf mo'r amser nac i ddysgu nac i brydyddu, nac i ddim arall; dyma'r holl drysor o hen bregethau Sir y Mwythig agos a darfod; rhaid taro atti hi yn fywiog i weithio rhai newyddion, a phrin y down i ben a chael dwy bob Sul trwy'r flwyddyn, er gwneuthur fy ngorau. Nid oes yma le i segura; pan gaffo amser i edrych o'i ddeutu, mae Mr. Lewis Morris yn bygwth gyrru i mi ryw lyfrau, ond ni ddywed pa lyfrau; gobeithio mae Cymraeg loyw a fyddant, o ysgrifeniadau rhyw hen gorph sydd wedi pydru er ys tri chan mlynedd. Yr wyf yn ceisio clytio rhyw fath ar nodau ar Gywydd Bonedd yr Awen; a thrwsio rhyw fân wallau ynddo, fel y gellir ei gael yn barod erbyn dechreu'r hâf. Nid oes yma rith o newydd, ond fod yr Alderman yn dwrdio dyfod i Fôn cyn bo hir; nis gwn a ddaw i Gybi ai peidio. Mae'r teulu yno ac yma i gyd yn iach, ac i'ch annerch. Byddwch wych. Ydwyf eich ufudd wasanaethwr,