Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 38

Llythyr 37 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 39

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 38.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Super Montem, Jan. 1st, 1755

DEAR SIR,

Mi dderbyniais yr eiddoch o'r 4ydd, ond, Duw a'm cysuro, digon prin y medrwn ei ddarllen gan glafed oeddwn. I Dduw y bo'r diolch, dyma fi ar fy nhraed unwaith etto, ond yn ddigon egwan a llesg, e wyr Duw. Yr oeddwn ar y 10fed wedi myned i Crosby i edrych am f'anwyl gyfaill a'm cydwladwr, a'm cyfenw Mr. Edward Owen, offeiriad y lle, ac yno yr arhosais y noson honno, yn fawr fy nghroesaw yn nhŷ Mr. Malsall, patron fy nghyfaill, ac aethym i'm gwely yn iach lawen gyda Mr. Owen, ond cyn y bore, yr oeddwn yn drymglaf o ffefer, ond tybio'r oeddwn mai'r acsus ydoedd; ac felly, ymaith a mi adref drannoeth, a digon o waith a gefais i drigo ar gefn fy ngheffyl. A dydd Sul fe ddaeth Mr. Owens yma, o hono ei hun, i bregethu drosof, ac a yrrodd yn union i gyrchu'r Dr. Robinson, a Mr. Gerard yr Apothecary ataf, a thrwy help Duw fe ffynnodd ganddynt fedru gwastrodedd ac ymlid y cryd a'r pigyn, ond y mae'r peswch yn glynu yma eto. Mi wylais lawer hidl ddeigryn hallt wrth feddwl am fy Robin fychan sydd yn Môn. Ond beth a dal wylo! gwell cadw fy nagrau i beth angenrheidiach. A body and mind harass'd and worn out with cares and afflictions can't hold out. any long while. Gwnaed Duw a fynno. Ni bum yn glaf Galan ermoed o'r blaen, am hyny, mi wnaethym ryw fath ar Gywydd i hwn, sef y Calan o'r O.S., Ionawr 12fed.[1]

Tân am twymno, onid digrif o gorphyn yw Elisa Gowper. Mae'n sicr genyf ped fuasai'r hychgrug arnaf, yn lle'r cryd poeth, na buasai raid i mi wrth amgen meddyginiaeth nag Englynion Elis. Dyn glew iawn yw Dafydd Sion Dafydd o Drefriw, ond ei fod yn brin o wybodaeth; mi welaf nas gŵyr amcan daiar pa beth yw Toddaid, oblegid ei fod yn galw y Gadwyn hannerog yn ei Englynion yn Doddaid. 'Rwy'n dyall wrth Elisa ei fod wedi canu o'r blaen, ac wedi cael rhyw atteb gan y Côch, neu ryw un arall drosto. Mawr nad ellid cael golwg ar y cyfan. Dyma'r Englynion diniweidiaf a wnaeth Elisa erioed o'r blaen: rhyfedd fedru o hono gymmeryd y fath ortho. 'Roeddwn yn disgwyl gweled rhyw eiriau ceg—ddu, megis "Hen hwr gwthwr gast," fel y byddai'n arfer gyrru at fab clochydd o Landyfrydog. Brwnt a fyddai canu yn hyll i Elis, ag yntau ei hun mor dda ei foes a'i araith. Mae fel y dyfeisiech ryw ffordd ddirgel i yrru hyn o Englynion i Elisa: 'rwy'n tybio mai y ffordd oreu fyddai eu rhoi i ryw faledwr i'w hargraffu, ac yno fe'u cyhoeddid yn y man, heb wybod of ba le y daethant, a gwych a fyddai gan Wil Goch y Sign, neu Evan Elis eu caffael. Bid y Rhagymadrodd fal hyn:—Atteb, annerch, a chyngor y Bardd Coch o Fôn i Elisa Gowper, pastynfardd, Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n ddincerddiawl gymmeradwy, yn ol rheol ac arfer y Gofeirdd godidoccaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau yr holl drecc, cêr, offer, a pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na cheir mo'r fath mewn un Grammadeg a argraphwyd erioed; a'r cwbl wedi ei ddychymmygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan y gwanaf ei ddysg a'i ddeall.[2]

Wela, dyna'r Englynion, byddwch chwithau sicr o'u gyrru iddo, ond ymgroeswch yn gadarn rhag son am fy enw i, oblegid. fe fydd Elis allan o faes merion ei gof, ac mi a'i gwrantaf fe gân yn fustlaidd i rywun, ac yno fe fydd agos i ddigon o ddrwg, ond goreu pe mwyaf o'r fath ddrwg a hwnnw. Os cân Elis i'r Coch, mi safaf wrth gefn fy nghydwladwr (o dan din fal y dywedant) hyd nas blino Elis a Dafydd o Drefriw, a phawb. But I would not be known or seen as an ally, much less a principal yn y fath ffrwgwd. Chwi a gewch yr Awdyl a addewais yn y nesaf.

Mae f'ewythr Robert Owen o Benrhos Llugwy yn dyfod drosodd yn o fuan i fyned i Manchester, ac fe ddaw a'm Robin Owen inau gyd ag ef, a phan elo'n ôl adref mi yrraf y Delyn Ledr gyd ag ef. That will be a safe way. Mi ge's lythyr oddiwrth y Llew yr un diwrnod a'ch un chwithau; yr oedd pawb yn iach yno, ac yntau ar gychwyn i Lundain. Yr oedd yn peri i mi gymmeryd calon (not to be disheartened), ond hawdd yw dywedyd, Dacw'r Wyddfa; etto 'rwyf yn tybio fod fy nghalon i yn ddur neu o ryw ddefnydd rhy wydn a pharhaus i dori. Yr wyf ar bendroni yn disgwyl am lythyr oddiwrth y Mynglwyd, ac yn enwedig oddiwrth y pendefig o'r Gors i atteb Cywydd y Ffrancod. Surely my letter miscarried for want of knowing the Cross Post. I directed to William Vaughan, Esq., Member, &c., at Gors, in Merionethshire, N. Wales. Ai tybed nad oedd hyny yn ddigon? Ond nis gwn i ar fy nghrogi pa le mae'r Post yn croesi i'r fangre anghysbell honno. Mae fel y byddwch gan fwynod ag ymwrando am offeiriadaeth i mi erbyn Calanmai, oblegid mi roddais warning i'm hen feistr er ys mis neu well, drwy ryw yngom a fuasai rhyngof a'r Mynglwyd yn nghylch bod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; a chan nad wyf yn clywed gair oddiwrtho, I mistrust the scheme has miscarried, and almost repent of my lash warning here. My circumstances will not allow me to be idle for one week. Dyma ffrencyn a ge's gan y Du o Allt Falog yn nghylch hwn; nis gwa beth a geir i wisgo am y nesaf oni chlywir o'r Gors. Fy annerch caredig at Mr. Ellis a phawb a garoch. Nid oes genyf ddim ychwaneg i w ddywedyd, ond fy mod ar farw ac ar fygu gan y peswch. Duw a'ch cadwo'n iach. Wyf yr eiddoch yn ddiffuant.

GRONWY DDU.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel tudal 50 Bardd Gor., arg. Lerpwl
  2. Gweler Gwaith Gor. Arg. Llanrwst, tud. 114, Arg. Llundain, eyf. i., tud. 144.