Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 45

Llythyr 44 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 46

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 45.

At RICHARD MORRIS.


NORTHOLT, Mai 20, 1756.

YR ANWYL DAD,

MI a dderbyniais eich Epistol torrog, ac ni's gwn yn iawn pa un fwyaf ei gymeriad yma, a'i'r Cyw, a'i'r Fam. Da oedd gweled pob un, ac amheuthun iawn oedd cael un o Gybi. Digrif o'i gof yw'r hen Fardd Coch; mae Gwilym Cybi'n taeru ei fod gwedi hurtiaw, ond yn wir glew iawn y tybiwn i yr hen Gorphyn, ne ystyried y cwbl, sef, nad oes gantho neb yn Ghymru i hogi ei hen Awen rydlyd, na neb i ddarllen a brydo, nag i'w ganmol, na'i oganu; ac o chaiff, o ddamwain, a'i darllenno, odid gael ai deallo, ac a farno yn gywir ac yn gelfydd arno. Dyna fy ngyflwr fy hun gynt, a gwir yw'r hên chwedl "Gwraig a ŵyr orau gyflwr Gwraig." Ond siccr yw genyf mai dyma'r Cywydd gorau a welais i erioed o waith y Côch, (ac, fe fu agos i'm a dywedyd o waith neb sy'n fyw heddyw, ond da'r atteliais) ac fe gaiff atteb ryw bryd, fal yr haeddai. Nid am ei fod yn Arwyrain i mi yr wyf yn canmol y Cywydd (oblegid mi gefais fwy o ryw fudr-glod gan yr un Awdwr dro arall, er na feddyliais. y talai i'w atteb) ond am fod ynddo fwy o Synwyr, llai o eiriau segur, ac ymadrodd anghyfiaith, gwagsaw, amhriod, a gwell Cymraeg. Ei Gynghanedd y tro o'r blaen oedd Croes rwyiog ddychweledig, i'w chanu wyneb a gwrthwyneb, na bond ei grybwyll! Ond heth a dâl Cynghanedd heb synwyr cymmesurdeb a phriodoledd? Ai è tybio a wnaech fy mod yn glâf, neu'n torri fy nghalon ar ol y Blwch Tybacco? Nid ych chwi Ddewin yn y Byd, mi welaf, er eich bod yn Benneth ar holl Dderwyddon, a Doethion, a Dewinion Prydain Fawr. Beth meddech am wers ddiogi, &c. &c. a llawer o fan ddamweiniau eraill a all ddigwydd i Ddŷn? Ond un peth (os rhaid cyfaddef) sydd i'm digalonni'n gethin, sef na chlywais o Allt Fadawg oddiwrth y Llew na'i Nai. Rhyfedd. na chlywid oddiwrth Ieuan Owain fwynwr, o's yw'n fyw; am y Llew, 'rwyf agos a chanu'n iach iddo oblegid fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen, y llythyr diwaethaf byth a welais oddiwrtho. Y matter sy fel hyn, (a matter garw yw hefyd). Digwydd a wnaeth y Llew ddal sulw arnaf yn ysmoccio fy nghettyn ynghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled Bardd (fal Iar mewn mŵg), a'r niwl gwynn yn droellau o amgylch ei ben ("like Glory in a Picture"). Dyna'i air ond am Foulkes, &c. nid oedd ryfedd gantho. Yr oedd yn taeru'r un amser, fy mod wedi hanner crapio; ac yn wir mae'n atgof genyf yfed o honof ran o phiolaid o Bwins yn nhŷ y Car II. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hyny fod: nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf, (a goreu fyth po'r. anamlaf) a diau yw fod maddeuant i fwy troseddau nå hyny, er ei gymaint. Senn iachus, er fy llès i, oedd y senn, a diolchgar ydwyf am dani; ond etto nid arwydd då ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio, a bid mor dynn. Mae genyf yma'n f'ymyl brophwyd- oliaeth, a 'sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy'n dywedyd: "Mai o's fi (pan ddown yna) a fethwn, yn yr hyn lleiaf, ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnâi ond fy nirmygu, a'm cablu, a'm coegi, ar air a gweithred tros byth, heb obaith, na chymmod, na hawddgarwch, na mwynder, yn oes oesoedd, Amen." Nid hawdd genyf i goelio'r gwaethaf am neb, yn enwedig am un yr oedd imi le i dybio'n well o honaw; a phe gwyddwn pa le y mae, mi yrrwn atto unwaith etto i edrych beth a ddywedai. Dygaswn eich bod yn ei ddisgwyl yna cyn hyn, ond ni chlywaf monoch yn sôn gair ei ddyfod. Drwg clywed ei fod yn y Drain pa le bynnag y mae; Duw a'i rhyddhao o honynt Amen.—Am Gân Arwyrein y Cyw Arglwydd i.e. (Lord Powis) ni thybiais fod neb yn absen y Llew a'i cyflawnai i wneuthur dim lles â hi, oblegid fod y Llew wedi bod o'r blaen yn sôn am danaf wrth yr Iarll, yr hyn na bu neb arall, ar a wyddwn i, ac odid y cofiai'r Iarll mai fi y grybwyllasai'r Llew wrtho, oni bai iddo fo ei hun ei chyflwyno, a dwyn ar gôf i'r Iarll yr ymgom a fuasai yn fy nghylch. Mae hi etto heb ei llawn orphen. yn Gymraeg; ond bellach atti hi yn nerth braich ac ysgwydd Ond yn y cyfamser, dyma i chwi ryw Erthyl o Gywydd i'r Diawl tra boch yn aros am dani hi.—

A glywch chwithau'r Gŵr bonheddig yr ŷch yn cwyno i'ch Peswch, ac yn dwrdio myn'd i ryw le i'r Wlad i roi tro, pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall ? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas; chwi gaech wely rhwydd esmwyth, a dillad glân, tymhoraidd (ond heb ddim Curtains), ac chwi allech wneud eich Ystafell cyn dywylled a'r fagddu os mynnech. Chwi gaech ambell foliad o Bastai G'lomennod ar droeau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelech yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch. Ple mae Mr. Parry o'r Fint? ond oedd y gwr da hwnnw wedi addaw bod yma cyn hyn? Beth sy'n ei ddal yna? Mi fuaswn i (yn wirionedd) wedi gyrru yna ymhell cyn hyn o amser, ond fy mod yn ei ddisgwyl beunydd tra fu wiw. Cofiwch fi atto, ac yn rhodd gofynnwch iddo, i ba beth. y mae'n chwareu priesien, yn addo dyfod ac etto'n naghau; ac os cewch y gwr talog yn gloff yn ei esgus, mae fel y rhowch iddo wers, a dau dro a hanner ar ei arddwrn, neu wasgu'r fegg arno mal y gwelo 'ch doethineb yn oreu, a'i yrru unwaith o fwg y Dref hyd yn y 'Pren dioddef ac odid na ddaw yma. Ond yn ddigellwair mae'n rhyfedd genyf beth sy'n ei lestair. Os medr ddygymmod a'r fywoliaeth sy yma, e fydd iddo gymaint croesaw a phed faai Dywysog Cymru; a hynny a ddywedais wrtho lawer gwaith, ac nis dywedwn yn fy myw ddim ychwaneg. Dyma'r Llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Ai'n llythyr dwbl y darfu iddynt ei gyfrif? nid yw ond sengl, ac nid oes nemor o dda ynddo chwaith. Mae'n dyfod oddiwrth Rhobert Owen, Gŵr fy modryb Agnes Gronw, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Proctorion Llanfair a f'Ewythr Rhobert Gronw, ynghylch yr hên Dŷ, lle ganed fy Nhâd, a'm Taid, a'm Hêndaid, a'm Gorhendaid, &c. &c., a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau'r Ty, a'r Gerddi, ac oll sy'n perthyn iddo, er na waeth gennyf mo'r llawer pe caai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai genyf i rai o'm gwaed ei gael nâg estron genedl yn enwedig y Deiniols ffeilsion. Onid yw'n ddigon i'r Bannington's fod wedi llygru'n Cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob caingc (agos) o honi? a fynnent fwrw'r unig Gyw digymysg diledryw tros y Nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cutt mochyn. Nid rhaid ond rhoi'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir atteb yn rhad o'r Deml gan Wŷr a ŵyr bob cryglyn o'r Gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser Tad na Thaid, na neb sy'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano onid 4s 6d i Eglwys Lanfair bob blwyddyn; ac fe dal y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd ym Môn. Pwy piau bob Commons ym Môn? nid yr Eglwys mae'n debyg—Wele hai Dyma lythyr oddiwrth y Brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy Mam ynghyfraith; mi gaf y grasbil yn dyhuddo'r Wraig Elin am ei Mam. Bellach fe gair gweled a gywirodd fy hen Chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid rhyw wmbreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd, y pryd hyny, farw byth. Mae ystâd y Brithdir yn Glyn Ceiriog, a addawodd i Robin? Dyna i chwi gymaint o newydd a marw Gwrach; ond nid wyf i'n disgwyl cymaint a Grôt oddiwrthi. Etto mi ddisgwyliaf lythyr cyn bo hir oddiwrth y Brawd John Hughes, ac yno fe gair gwybod pa sutt a fu. Er mwyn Dŷn a oes modd yn y byd i gael dwsin o Frainge; ni buont erioed brinnach yma, na mwy angen am danynt. Ni feddaf gymaint ag un i'w yrru i Gybi; felly, pa beth a wneir, meddwch chwi?—Mi wnaethym Fablyfr o Lyfryn y Penllywydd er ys talm mawr o amser, ac ai dygaf yna pan ddelwyf; ond Heb y Gronwy Ddů, pa bryd a fydd hynny? Nid y cyfarfod nesaf, oblegid yr wyf yn ofni nad allaf pe'm direddyd. Dyma Gornelius ap Adda wedi dyfod i'm hedrych, ac yn eich annerch yn fawr. Mae'n dywedyd i mi fod yn beth cywilyddus i'r Tew o Gybi ddisgwyl dim ychwaneg o Lythyrau oddiwrtho fo, nes atteb y rhai a gafodd; a bod yno bedwar eisus yn crio yn ei wyneb ddydd a nos am attebion. Gwae fi na wyddwn pa le mae Miltwn o Gastell y Waun yn byw yn y Dref yna, i edrych a geid rhyw fesur o ffraingc gantho. Ni naghasai monof ddydd a fu, eithr cywilydd yw crugo Pobl foneddigion am ryw oferedd; ond myn Derfel mae arnaf gymaint angen ffraingc, nas gwn beth yw wneuthur. Dyma'r diwaethaf yn dyfod yna attoch. Peidiwch ag esgeuluso gyrru yr Parry yma da chithau; dywedwch wrtho am ddyfod yma ddydd Sadwrn nesaf gyda'i Gerbyd; ac mi a'i cyfarfyddaf yn Chevy Chace, rhwng Hanwell a Southall, canys dyna'r torriad nesaf o'r ffordd i Northolt. Mi fynwn iddo ddyfod y Sadwrn, o achos fod genym Ffair yma Ddydd Llûn, a phob. digrifwch ynddi, megis rhedeg, neidiaw, ymbastynu, neu dorri Cloliau & Llawffyn; a phob math arall o ddifyrrwch gwladaidd, megis y peth a welsom y llynedd ym Mheckam Rye, pan ennillws y Gymraes y Crys meinllin. Rhyw Wylmabsant, mi debygwn, yw'r peth, o herwydd na chedwir mono ond unwaith yn y flwyddyn; ac er eu bod yma yn ei alw 'n ffair, ni bydd ddim ar werth yno ond teis- ennau, bara melys, a theganau, a Chwrw, &c. &c. Beth a fyddai i chwi biccio hyd yma gyda Pharry? Nid rhaid ichwi ddim ofn prinder o fwyd a Diod, na lle i orwedd. Onid ellir eich cynwys yn ein gwelyau ni, fe ellir cael eu gwell mewn Tŷ private wrth y Fonwent, lle bu lawer un a ddeuai i'm gweled. yn cysgu cyn bod genyf le fy hun i'w croesawu. Gwir yw mi fyddwn yn talu i Mrs. Hart am y gwely, ond beth a brisiwn yn hyny? yn enwedig gan fod y lle mor gyfleus, yn union wrth fy nrws. Felly goreu ichwi gipio'ch cippyn a'ch cappan a dyfod, ac oni bydd modd i chwi aros dim hwy, chwi ellwch aros o'r Sadwrn hyd y bore ddydd Mawrth; ond am y Parry, fe eill aros mis neu ddau er dim sydd gantho i'w wneud gartref. Cymerwch fy nghyngor, am hyn o dro, a dowch yma; ac oni ddowch, gadewch gael gweled bropred esgus a geir genych; ond na chynygiwch wynebu monof heb bentwr mawr o ffraingc yn eich coden. A chofiwch y Blwch Tybacco er dim fo, oblegid fod yr Argraph sydd arno'n sefyll yn lle Cronicl o ryw beth go hynod a ddigwyddws yn amser Gronwy Ddû. Rhowch fy annerch yn garedig at Wilym o'r Twr gwyn, y Person ap Wmphre, a phawb oll a'm caro, neu a garwy (os gwyddoch pwy ydynt); a chredwch fy môd, o galon ddiffuant, i'ch caru a'ch parchu, fal y gweddai, Ich Gwasanaethwr gostyngedigeiddiaf,

GRONWY DDU GYNT O FON.

O.S.-Pan yrroch i Fon, cofiwch fi at eich Tad, a'r Athraw Ysgol Rhisiart ap Harri o Lannerch y Meddwon.

Nodiadau

golygu