Llythyrau Goronwy Owen/Rhagymadrodd

Llythyrau Goronwy Owen Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 1

RHAGYMADRODD.


GYDA'R amcan o ddwyn rhyddiaith awdwr a gydnabyddir yn gyffredinol yn mysg yr ysgrifenwyr Cymraeg goreu, cyhoeddir y Llythyrau hyn am bris a'u rhydd yn nghyrhaedd y sawl allant eu mwynhau. Cymerwyd 19 o'r Llythyrau o Ysgriflyfr, hyned ag amser Goronwy, a'r llawysgrif yn ddigon tebyg i'w waith ef. Efallai, ond nid ydym yn sicrhau, mai yn y llyfr hwn y cadwai gopi o'i lythyrau; ac o gydmaru y rhai sydd yma â'r argraffiadau blaenorol ohonynt, nid yw'r gwahaniaeth yn y darlleniad ond a allesid ddisgwyl pan fo dyn yn ad-ysgrifenu ei waith. Barna y Proff. J. M. JONES fod y darlleniad yn yr Ysgriflyfr yn debycach i waith Goronwy nag fel yr oedd yr un Llythyrau genym o'r blaen. Y Llythyrau a ganlyn a gymerwyd o'r Ysgriflyfr:—4, 5, 8, 9, 15, 17, 20, 22, 24, 25, 29, 30, 35, 36, 39, 42, 44, 45, 49. Daeth yr Ysgriflyfr crybwylledig i feddiant cyhoeddwr y llyfr hwn yn yr arwerthiant a fu ar Lyfrgell y diweddar Canon Wynne Edwards, ficer Llanrhaiadr-yn-Cimmeirch.

LERPWL, Mehefin, 1895.



AMSERONI.
Ganwyd. Bu Farw.
GORONWY OWEN Ionawr 1, 1722 Tua 1770.
LEWIS MORYS Mawrth 12, 1702 Ebrill 11, 1765
RICHARD MORYS Tua 1705 1779.
WILLIAM MORYS 1764.
IEUAN BRYDYDD HIR 1730 Awst, 1789
WM. WYNN, Llanganhafal 1704 Ionawr 22, 1760.

Nodiadau

golygu