Mab Gyfreu Taliessin
gan Taliesin
- Kyfarchaf ym ren
- Y ystyrgaw awen.
- Py dyduc aghen
- Kyn no cherituen.
- Kyssefin ym byt
- A uu eissywyt.
- Meneich aleit
- Pyrnam dyweit.
- Pyr nam eisgyt
- Vn awr nam herlynyt.
- Py datwyreith mwc
- Pyt echenis drwc.
- Py ffynhawn a diwc
- Uch argel tywyllwc.
- Pan yw kalaf cann.
- Pan yw nos lloergan.
- arall ny chanhwyt
- Dyyscwyt allan.
- Pan yw gofaran
- Twrwf tonneu wrth lan.
- Yn dial dylan.
- Dydahaed attan.
- Pan yw mor trwm maen.
- Pan yw mor llym drawen.
- Awdosti pwy gwell
- Ae von al y vlaen.
- Py peris parwyt
- Rwg dyn ac annwyt.
- Pwy gwell y adwyt
- Ae ieuanc ae llwyt.
- A wdostti perth wyt
- Pan wych yn kyscwyt.
- Ae corff ae eneit.
- Ae argel canhwyt.
- Eilewyd keluyd
- Pyr nam dywedyd.
- A wdosti cwd uyd
- Nos yn arhos dyd.
- Pet deilen yssyd.
- Py drychefis mynyd
- Kyn rewinyaw eluyd.
- Py gynheil magwr
- Dayar yn breswyl.
- Eneit pwy gwynawr
- Pwy gwelas ef pwy gwyr.
- Ryfedaf yn llyfreu
- Nas gwdant yn diheu.
- Eneit pwy y hadneu
- Pwy pryt y haelodeu.
- Py parth pan dineu
- ry wynt a ryffreu
- Ryfel anygnawt.
- Pechadur periglawt.
- Ryfedaf ar wawt
- Pan uu y gwadawt.
- Py goreu medd dawt
- O ved a bragawt.
- Py goryw y ffawt
- Amwyn duw trindawt.
- Pyr y traethwn i traythawt.
- Namyn o honaawt.
- Py peris keinhawc
- O aryant rodavt.
- Pan yw mor redegawc.
- Karr mor eithiawc.
- Agheu seilyawc
- Ympop gwlat ys rannawc.
- Agheu uch an pen
- Ys lledan y lenn.
- Vch nef noe nen.
- Hynaf uyd dyn pan anher
- Aieu ieu pop amser.
- Yssit a pryderer
- Or bressent haed.
- Gwedy anreufed
- Pyr yn gwna ni bryhoedled.
- Digawn llawryded
- Kywestwch a bed.
- Ar gwr an gwnaeth
- Or wlat gwerthefin.
- Boet ef an duw an duwch
- Attaw or diwed.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin