Madam Wen Madam Wen

gan William David Owen

Cynnwys



RHAGAIR


LLED brin ydoedd yr hyn oedd gan draddodiad i'w ddywedyd am yrfa Madam Wen: camarweiniol iawn hefyd. Ac oni bai am ddarganfyddiad a wnaed beth amser yn ôl ni fuasai'n bosibl ysgrifennu'r penodau sy'n dilyn.

I chwilio am gartref Madam Wen rhaid myned i dde-orllewin Môn, i ardal y gellid ei galw yn Ardal y Llynnoedd. Y mae yno dri llyn o faintioli sylweddol, a'r mwyaf o'r tri yw Llyn Traffwll. Lle go anghysbell ydyw ardal y llynnoedd, ac ychydig a ŵyr y byd am ei thawelwch rhamantus? Ac os oes coel i'w roi ar yr hyn a sibrydir yn y fro o berthynas i ymweliadau lledrithiol y foneddiges â hen fangre'r harwriaeth, diau mai boddhad digymysg i'w hysbryd annibynnol hi ydyw gweled yr hen lyn a'i amgylchoedd yn dal i gadw'i ddirgeledd cyntefig yn ddihalog.

O du'r de i'r llyn, ac yn hanner ei amgylchu, ceir parciau Traffwll. Yma, flynyddoedd yn ôl, tyfai'r eithin yn goed uchel a phraff gan ffurfio coedwig dewfrig. Ac yng nghysgodion y goedwig dywyll honno y llechai ogof Madam Wen ar fin y dŵr. Lle digon salw oedd yr ogof—fel y dangosid hi pan oeddym blant—i fod yn gêlfan nac yn guddfan i neb. Nid oedd i'w weled ond darn anferth o graig, dalgref ac onglog, yn sefyll yn sgwâr megis yn y drws, ar gyfer dau wyneb llyfn y graig fwy, o'r hon yr hyrddiwyd y darn ryw dro. Rhwng hwn ag wynebau syth y graig y mae dwy fynedfa gul yn cyfarfod yn y pen draw. Y mynedfeydd hyn a ddangosid am oesoedd fel "Ogof Madam Wen."

Un hwyrddydd haf eisteddai gŵr o'r fro ar bonc yn ymyl yr ogof gan edrych ar wyneb ariannaidd y llyn. Gall i'w fyfyrdodau grwydro'n ôl i dymor bore oes, i'r amser pan fyddai'r sôn am Madam Wen yn peri i ryw hudoliaeth hofran uwchben yr ogof a'i hamgylchoedd. Sut bynnag, daeth rhyw gymhelliad drosto i fynd a chwilio'r ogof. Cofiai am yr adseiniau gweigion—dychrynllyd y pryd hynny—a godai pan gurem ein traed yn y llawr yno, pan oeddym blant, a'i syniad ef yn awr oedd bod rhaid fod yno wagle o ryw fath o dan y llawr. Sŵn gwagle oedd y sŵn.

Dywed mai'n llechwraidd braidd, a chan ofni i neb ei weled, y cymerodd gaib a rhaw ac yr aeth i'r ogof, ac y dechreuodd gloddio yn y pen draw i'r mynedfeydd. Ond nid oedd yn syndod yn y byd iddo pan aeth blaen y gaib drwodd gan ddatguddio'r wir fynedfa i guddfan dan-ddaearol Madam Wen. Wedi dwyawr o weithio caled, gwelodd bod yno astell lefn o graig yn taflu drosodd gan ffurfio math ar gapan i ddrws y fynedfa i waered.

Wedi hynny archwiliwyd yr ogof yn llwyr, ond gan fod disgrifiad ohoni wedi ei roi mewn lle arall, ni raid gwneuthur hynny yma. Digon ydyw dywedyd y bu agos i gyfrinion yr ogof fynd i ebargofiant oherwydd lleithder y lle. Cymerwyd gofal neilltuol o'r hyn a gaed yno, yn enwedig y darn dyddlyfr. Ymddengys hwnnw—ar ddalennau rhydd—fel ffrwyth llawer o oriau hamdden, nid hwyrach oriau prudd pan eisteddai Madam Wen yn unigrwydd ei chell dywyll a chanddi amser i ystyried mor amddifad ydoedd yn y byd. Diau mai'r pryd hynny y dywedai ei chyfrinion wrth y dalennau.

Wedi gweled am yr ysgarmes a fu rhyngddi ag Abel Owen, y môr-leidr, gwnaed ymchwiliad pellach mewn mannau eraill, a chaed bod hanes ei yrfa ystormus ef ar gael a chadw. Diweddodd yr yrfa annheilwng honno o dan fwyall y dienyddiad yn Execution Dock yn Llundain yn y flwyddyn 1711.

Llawer o gloddio a fu yn y parciau o dro i dro mewn ymchwil am drysor cuddiedig Wil Llanfihangel. Odid na fu pob cenhedlaeth o blant y cylch agosaf, byth er hynny, yn cloddio yn eu tro wedi clywed yr hanes. Ond nid oes sôn i neb erioed ddyfod ar draws y llestr pridd.

Y mae yn yr hanes sy'n dilyn lawer o fanylion a gaed o dro i dro gan deuluoedd a'u cafodd drwy draddodiad eu hynafiaid. Ond ni wyddid yn y byd i ba gyfnod y perthynai'r gwahanol ystorïau nes i ddydd—lyfr Madam Wen ddyfod fel dolen gydiol— trwy gyfrwng yr enwau—i wneuthur cyfanwaith ohonynt.

Nodiadau golygu